Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
X? AT DYFED GWAWDRYDD.
News
Cite
Share
X? AT DYFED GWAWDRYDD. AITWYL GYFAILL,— Gwelais a darllenais eich ail lythyr mewn perthynas a Chalfiniaeth ya y DYDD diweddaf, cynwyø pa un ydyw eich datganiad yn ceisio dweyd nas gallaf brofi fod mwy yn proffesu etholedigaeth dragwyddol a diamodol nag sydd yn ei chredu. Wel, gyfaill, mentraf ddweyd eto yr un peth y waith hon, ac 08 methaf brofi fy haeriad er boddlon- rwydd i chwi, dichon er ,hyny n boddlonir rhywrai llai cyndyn i gredu yr hyn sydd mor amlwg ac eglur y dyddiau byn, yn neitlduol felly i'r sylwgar. Fel y dywedais yn fy llythyr cyntaf, yr hyn a ieddylir wrth Galfiniaeth, ydyw y gyfundraeth hdno sydd yn dal allan fod rhan o'r ddynoliaeth wedi eu tiagwyddol ethol a'u hoideinio, heb un golwg ar eu gweithredoeddj a'u hymddygiadau, i fywyd tragwyddol. Yn awr, onid y gyfundraeth yma a arddelir ac a broffesir gan gorif cryf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru yn gyffred- inol? ie, mae yn rhaid ateb yn gadarnhaol. Yn awr, pa fodd y gellir profi nad ydyw proffeswyr y gyfundraeth yna yn credu yr hyn a broffesaot? Wel, ceisiwn ddangos tipyn fel hyn,-dadleuant â'lI tafod, a phroffesant &'u gwefusau, fod y eadwedig- ion oU wedi eu rhoddi i'r Mab mewn etholedigaeth dragwyddol a diamodol, yn annibynol ar ddim o'u gweithredoedd hwy eu hunain. Diolchant am ethol- edigaeth fel hon, sef un ddiamodol am iddi sicrhau iddynt mor ddidrafferth eu cadwedigaeth. Ond gresynant yn dosturiol wrth y colledigion diobaith, a chynghorant hwy ar yr un gwynt i adael eu ffyrdd drygionus, a phregethaut mai aroynt hwy y bydd y bai os yn golledig y byddant. Fel hyn, cymhellir ar iddynt gredu yr hya y maent hwv mewn proffes yn ei wadu a'i wrthod, sef y posibl- rwydd i bob pechadur fod yn gadwedig, yr hyn y maent mewn gwirionedd yn ei gredu eu hunain. Mae gwaith Mr. Dale, un o brif bregethwyr Lloegr, yn cyhoeddi nad oebneb yn awr yn pregethu Calfin- iaeth heb alw ei eiriau yn ol, yn myned yn mhell i broft fod mwy yn proffesu yr athrawiaeth o ethol- edigaeth ddiamodol nag sydd yn ei chredu. Nid wyf o'r un farn a chwi pan y dywedwch fod doabarth helaeth iawn yn credu yr athrawiaeth o etholedigaetb heb fod yo proffesu gydag un enwad: j gallai fod yehydig o rai fel yna yn proffesu eu bod yn credu, ond maent hwythau iel y mwyafrif o'u cydbroffeswyr yn anghredinwyr trwyadl. Yn olaf, mae yn dda genyf gael y cyfleusdra hwn eto i'ch sicrhau mai mewn etholedigaeth amodol [yr wyf yn credu, a brysied v byd oil i ddyfod i gredu yn yr unrhyw etholedigaeth. Mewn perthynas & phwy oedd, neu pe gofynaaech yn iawn, pwy ydynt y pleidiau yn yr amodau? dywedaf y- chwi a minau, pwy bynag ydycb, yr ydym oil yn ddeiliaid i'r efengyl, gan hyny ufuddbawn i'w galwadau, cyd- ayoiwn A'i bamodau; bydded i ni :oll hyd y mae, » ynom, ymdrechu cael y byd yn gyfan at y Gwaredwr, a dyweded Dyfed Gwawdrydd, Amen. rj iI eiddoch, LLAFURFAB.
J -------------——-————————…
News
Cite
Share
J -——-———————— DOWLAIS. GWEitHKED DEILWNG 0 EFELYCHIAD. MB. GOL.,— Caoiatewch i mi ddweyd gair neu ddau am y » TM3lth">d uchod yn eich colofnau. No* Sadwrn, » Mawrth 2il, cynaliwyd cyfarfod i adrodd, canu, ac areithio yn nghapel Penywern, Dowlais. Wedi I'r »- cadeirydd, y parch. w> j Kichardg) ddweyd ychydig einau ar^amcan y cyfarfod, dechreuwyd ar 7 gwaith, adroddwyd amryw ddarn<»u chwaethua gan rai o blant yr Ysgol Sul, a chanwyd amryw o solos tlws gan wahanol rai, a chanodd parti o'r c6r, dan arweiniad Mr. W. Hughes, amryw o glees r rhagorol; ond tuft chanol y cyfarfod yr oedd y peth ( mwyaf pwysig ac interesting yo cymeryd lie, sef cyflwyniad anrheg oddiwrth gor y capel i Mr. W. Hughes yr arweinydd, am ei ddiwydrwydd" a'i ffyddlondeh gyda'r c6r, sef metronome, gwerth £ 2 2s Cynwynwyd yr anrheg i'r arweinydd ieuanc, yr 7CTN T I ET0 YN U«AIN OE<J> SAN ^R' J- WILLIAM A (Kos Llywel), hen arweinydd y cor, a] gwnaeth rai sylwadau pwrpasol ar: ddefnyddioldeb y metronome i arweinyddiorl canu, a diweddodd Mr. W. Williams gyda dymuno hir oes i Mr. W. Hughes i wasanaethu y cdr a'r eglwys. Yr ydwyf yn galw y weithfed uchod o eiddo c6r Penywern yn weithred deilwng o efelychiad, am fod yr efferyn uchod yn un o'r offerynau mwyaf defnyddiol y gall arweinwyr canu J fod yn feddianol arno er eu galluogi i gadw yr amser yn briodol, ac yn neiilduol felly pan yn myned i gystadlu ar ddarnau caled ac anhawdd. A gobeithio y bydd i'r weithred uchod greu stir mewn corau eraill i anrhegu eu harweiawyr 4'r cyffelyb offeryn, Gair eto am
FASNACK Y LLE.
News
Cite
Share
FASNACK Y LLE. Da genym allu dweyd, Mr. Gol., fod masnach y lie lawer yn well nag ydoedd y misoedd a aethant heibio. Mae y fasnach lo wedi adfywio yn anghyffredin yr wythnosau diweddaf. Dywedir wrthym gan rai Bydd yn gwybod, na fa dim mwy o lo yn myned i'r farchnad erioed o Dowlais nag sydd yr wythoosau hyn; ond er hyny nid yw yr enillion yn fawr, am fod y gwaith mor llawn; ond y mae'r eniliioa yn well nag y gwelwyd hwynt y nuaoedd a baaiodd. Maey faanaeh haiarn yn dal yn bur farwaidd o hyd, ond y mae cryn alw am y dur, ac y mae gwaith dur Dowlais yn cerdded yn dda, a'r gweithwyr hyny yu enill cyflogau go dda. Gobeitbiwn fod gwawr ar dori ar y fasnach haiarn eto, a hyny yn fuao.
TLODI Y LLE.
News
Cite
Share
TLODI Y LLE. Mae yn hyfryd genyf allu eich hysbysu, Mr. Gol., a holl ddarllenwyr y DrDD, fod y dyoddef mawr fu yma fel mewn; Uawer o fanau eraill, wedi lleddfu a lleihau llawer rhag yr oedd; ond nis gallaf ddweyd ei bod wedi bod cynddrwg yn Dowlais ag y bu mewn Ilawer o ardaloeda cylchynol; ond y mae yn Dowlais rai canoedd o blant a dynion mewn oed wedi cael eu dilladu yn ystod y ddau fis diweddaf, fel y mae golwg glyd arnynt heddyw rhagor oedd tua diwedd y flwyddyn. Mae yn Dowlais yn bres- enol tua chwe' chant o blant dan dair ar ddeg oed yn derbyn soup yn ddyddiol, ac y mae yn dda iawn i lawer o honynt wrtho. Credaf fod llawer o bonynt yn gorfod byw bob dydd ar y ciniaw maent yn gael gan y Relief Committee, dan yr Odd Fellows' Hall, bob dydd trwy yr wythoos. A gobeithio y bydd i'r plant hyn ddysgu gwers yn yr amgylchiadau cyfyng presenol, os cant fywyd ac iechyd i ddyfod i enill cyflogau da, y gwnant yn fawr o honynt, a darparu mewn llawnder erbyn prinder; oblegid mae ynrhaidini ddweyd, pe bmeai rhieni llawer o'r plant hyn wedi gofalu yn briodol am eu henillion yr amser da a welwyd yn y gweitbfeydd yma rai blynyddau yn ol, na ftiaaai dim baner y cyfyngder a'r dyoddef hyn yn bod. Yr oeddwn wedi meddwl dweyd gair hefyd am
IECHYD Y LLE.
News
Cite
Share
IECHYD Y LLE. Drwg genyf ddweyd nad yw cystal ag y bu y misoedd diweddaf. Mae y Typhuslfever yn y lie, ac amryw yn gorwedd dani, yr oedd yr wythnos olaf yn Chwefror 75 cases yn y fever uchod; mae amryw wedi marw o honi, ond yr wyf yn meddwl mai gwella y mae y rhan fwyaf. Nid oes genym ond ymddiried yn yr Hwn sydd yn trefnu ac yn gor- uwchlywodraethu pob peth, gan obeithio y bydd iddo ysgafnhau ei law ar ein tref, er ein bod yn haeddu iddi fodilawer yn wacth arnom, ond fel y dywed y Salmydd, 'Nid yn ol ein pechodau y gwnaeth efe â. ni, ac nid yn ol ein hanwireddau y talodd efe i ni; canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei arugaredd ef ar ein haeddiant Li.' GOHEBTDD.
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
FFESTINIOG. NODION 0 BEN T OBAIO DOLOARRODDU. MR. GOL.,— Mae llawer o ysgrifenu y dyddiau hyn o bob rhan o'r belen ddaearol, ac felly nid ydym ninau am fod yn ol yn y peth hwn, er ein bod yn byw o'r bron ar gopa'r graig. Ac edrych dros ysgwyddau'r man, a chlywed a gweled pob diffyg ar byd a lied y gymydogaeth, yr ydymyn canfod drwy ein hyspien- ddrych fod yr ardal hon wedi ei phoblogi i ra,idau helaeth, rhifa y trigolion oddeutu 12,000; ond y gwyn gyffredinol a glywaf [ydyw, nad oes yn y gymydogaeth ddigon o anedd-dai, fel ag y gwelir y trigolion mewn sefyllfa gysurlawn a'r rhai hyny sydd yn lletya yn eu tai. Nid oes ganddynt ddigon o le iddynt i ddyfod yn agos i'r tan ar nosweithiau llaith ac oerion, pan y byddo coryn y Moel wyn wedi ymguddio mewn eira. Dywedir gan luaws fod y dynion a'r becbgyn hyny yn myned allan i'r heol- ydd, ae oddiyno i'r tafarndai, ac yn y sefyllfft yna wedi dyfod yn feddianol ar y cymeriadau o ddynion meddwon; ond da genym feddwl fod y dosbarth yna yn y lleiafrif, gwelwn amryw o deuluoedd yn byw mewn eobrwydd, heb dderbyn feallai gymaint o awyr i mewn, a phelydrau'r heulwen ar eu preswyl- feydd ag a fuasai yn ddymunol. Lluaws eraill yn byw mewn tai da a digon o awyr, a hefyd cawr y dydd yn gwenu; ac wrth y drysau yn yr haf y bydd blodau m&a yn ymagor i groesawu gwen dyner yr haul, ac arogl esmwyth yn arogh ell hystafellau. Onid ydyw pethau o'r n&tur ya»a y lleaol i'r rhai hyny a fydd weii bod yn gweithio j galed o chwech yn y boreu hyd chwech yr hvryl mewn awyr afiach, mewn cell allan o oleu ddyd. Peth arall a glywais, fod yr Annibynwyr ^e<|* cynyd<iu y flwyddyu ddiweddaf yn Bethania, nes y mae addoldy eang Bethania myned yu rhy fychan i'r gwrandawyr i gael 11e 11 eistedd ar adegau yn gysurlawn; ac y mae yt eglwyø yn unfrydol wedi penderfynu adeiladu capel yn rhanbarth Conglywal, pa un sydd yn myned Of gynydd y blynyddau hyn mewn adeiladu. Bydd 1 rhan hono o'r gymydogaeth yn lied fuan yn bdt boblogaidd. Teimladau da rhwng meistriaid a gweithwy* Chwarel Maen Offeren. Arferai cwmni y chwarel uchod anrhegu eu gweithwyr unwaith bob blwyddyØ i chiniaw, ond darfu iddynt eleni gymeryd cynillao gwahanol, sef cyflwyno y swm o JE25 i gymleith$O y gwaith, i gynorthwyo y rhai hyny a fydd wedi cyfarfod i.% afiechyd a damwain. Damioain yn Chwarel Lord.—Ar y 28 |o'r diweddaf, darfu i fachgen 16 oed, o'r enw Richard Jones, Trawsfynydi, anafu ei droed, trwy adaej ildo lithro rhwng pen y bwrdd a'r Hi, nea fll amddifadu o ran o'i droed. Mae Undeb Llenyddol yr Annibynwyr yO bwriadu cael eisteddfod at ddydd Nadolig eto. IKJLO y Pwyllgor wedi eistedd ddydd Sadwrn diweddaf 1 dynu allan restr o destynau at eu chwaeth. Arter- iad y pwyllgor bob blwyddyn fydd ymgystadlu. dywed rhai fod gan y pwyllgor fantais ar y eyfryw a fydd yn ymgystadlu tu allan i'r pwyligor, Ond barned y darllenydd; ond cael y testynau allan of wasg eleni yo gynt a fydd yn foddhad i luaws. Y Bwrdd Iechyd.-Anfonodd aelodau y bwrdd gais at y llywodraeth am.48,000, a darfu iddi gyd- synio l'u caig, at wneud y gwaith mawr o gael dwft o Lyn y Morwynion i'r gymydogaeth. Ymgeifliodd lluaws am y swydd o ysgrifenydd y bwrdd, aC etholwyd G. H. Ellis, Cyfreithiwr, FourcrosseB. Ffestiniog, a bydd yn gwasanaethu hefyd fel cyfreithiwr i'r symudiad da hwn o edrych i mewo 1 gyfansoddiad y bwrdd. Ymwelodd Llew Cynfal a'r gymydogaeth Yr wythnoa o'r blaen, a chlywsom ei fod ef wedi caoO nes i adar y Foelgron ddystevii i ymwrando, » hefyd cafwyd 'Hen ffon fy nain' ganddo ar el ymadawiad oddiwrth y bwrdd ar yr awr de yo nghymydogaeth Bethatia. Nid oes dim sicrwydd fod Llew Bywydd yn cyfansoddi too ar y geiria0 hyny, 'Mi a gollais fy nghariad.' Yr eiddoch, &c., BARCUT. I
AT YMNEILLDUWYR PLWYF LLANUWCH"…
News
Cite
Share
AT YMNEILLDUWYR PLWYF LLANUWCH" LLYN. AT T GOLTGTDD. SYR,- Hyderwyf y bydd i gariad at yr hyn sydd gyfiawn a theg, eich cymhell i ganiatau gofod yn eich papur, er mwyn ateb ysgrif eich gohebydd 'Carwr Rhyddid* ar y penawd uchod. Yr wyf yo methu yn lan a dirnad pa amcan oedd gan y gohebvdd hwn wrth son am Donaeth yn nechreu ei ysgrif, na pha beth sydd gan Doriaeth i'r pwnc dan sylw. Gyda golwg ar y ffaith fod Ymneillduaeth yn gryf yn y plwyf hwn, cydunaf ag ef i raddau. Ond atolwg, at ba anfanteision y mae yn cyfeirio? Nid wyf ya gwybod am unrhyw anfanteision sydd wedi bod yo rhwyatr i'r Ymneillduwyr gynyddu a llewyrcbu. Y maent wedi ao yn cael pob rhyddid i lafurio fel y gwelont oreu, heb neb i wgu arnynt mewn ffordd yn y byd. Yr wyf yn sicr na wnaeth un tir-fedd- iaowr na goruchwyliwr gam & neb, na gorfodi yr un Ymneillduwr i fyned i'r eglwys yn groes i'w ewyllys na'i ddymuniad. Os oes y fath beth wedi bod. deued eich gohebydd neu rywun arall a'r ffeithiau i'r amlwg, a dodant eu henwau priodol wrth eu cyhuddiadau, neu ynte peidient a lluchio y fath awgrymiadau haerllug. Yn lie dweyd fod anfanteision o du Ymneillduaeth, dylasai ddweyd eu bod i gyd o du Eglwysyddiaeth, er nad oedd neb i'w fcio am hyn ond yr eglwys ei hun. Cofia ugeiniau o'r plwyfolion nad oedd iynyddau yn ol ond un gwasanaeth yn eglwys y plwyf, a hwnw ar yr awr fwyat anfanteisiol, sef tua deuddeg o'r gloch (fel y mae mwyaf cywilydd dweyd), ac eid trwy y cyfan mewn brys ac annhrefn mawr, yr hyn oedd yn peri difrawder ac oerfelgarwch. Ond yn ystod yr holl amser yma, yr oedd yr Ymneillduwyr yn effro ac yn weithgar (clod iddynt am hyny). Tra mai anaml y gwelid y person, yr oedd gweinidogion Ymneillduol y lie yn gweithto yn mhlith eu praidd. Pan ystyriom hyn, rhyfedd fuasai gweled Ymneill- duaeth yn wahanol i'r hyn ydyw, o herwydd i 'bob