Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

S, TWRCI A'L CEIREFYDD. ii-

News
Cite
Share

S, TWRCI A'L CEIREFYDD. ii- Erbyn hyn y mae y prophwyd wedi myned yn frenin, a'r pen crefyddol yn ben gwladol. Y tnae y perswadio wedi myned yn orfodi, a'r auog yn ddirgymhell. Nid oes yr un rheswm i fod mwyach ond rheswm y cledd, nac un dewis- lad ond naill ai dyfoi yn Fahometan neu farw. Y mae Duw y cariad wedi myned yn ormeadeyrn noeth, a'r Tad tosturiol yn llywydd didrugar- edd. Bellach, rhaid cael y bobl i'r ffydd, bodd neu anfodd. A'r fath rad a ddilynodd ei achoa fel yr oedd Arabia oil cyn pen ychydig amser yn el gydnabod fel gweinidog Duw ar y ddaear. Wedi cael eyflawn foddlonrwydd fel hyn o Iwyddiant ei weinidogaeth, bu y dyn hwn farw, yn driugain a thair oed, yn brawf diymwad o'r eithafion i ba rai, yn ddifeddwl, y gall dyn gael ei arwain gan orawyddfryd a hunandwyll. Ac fel y gellir wrth dynu yn y bwa ar amcan, hitio cysylltiad y llurig hwnw yn nghymeriad y byd, fel ag i'w daflu i bangfeydd dirdynol am oesau. Nid oedd gan Mahommed y drychfeddwl lleiaf yn y dechreu am y canlyniadau aruthrol yr oedd Yr yrfa ag yr oedd efe yn redeg yn sicr o'u hachosi. 0 ganlyniad, nid oedd wedi gwneud un ddarpar- iaeth yn ei gyfreithiau ar gyfer hyny. Ei reol oedd gwneud deddf fel y byddai achosion yn galw, a hyny yn hollol i gyfarfod &'r amgylch- iadau, a dyma y rheswm am yr anghysonderau arswydus sydd ya nghymeriad Duw, fel y dang- osir ef yn yr Alcoran. Yn y dechreu, pan oedd y prophwyd yn dysgu yn nheml Caba, yr oedd ei holl iau yn esmwyth, a'i holl faich yn ysgafn; anadlai yr iaith fwyaf esmwyth a thyner a ddyferodd dros wefuaau unsant; yr oedd cariad, a hirymaroa, ac addfwynder, a heddwch, a rhyddid, y gemau gwerthfawrocaf yn ei goffr, air unig rai ag yr oedd ganddo le iddynt ynddo. Ond yr oedd efe ar y pryd hwn yn unig a di- amddiffyn, ac o'r cyfryw ddysgeidiaeth yn hollol y dyssjwyliai am gymhorth yn nydd ei gyfyng- der. Ond mor gynted ag y cafodd ef ei hun yn ddyn dan awdurdod yn Medina, a chanddo fil- wyr dano, yr oedd yr oen wedi myned yn llew, a'r dyn isel, gostyngedig, ag oedd gynau yn nheml Caba yn apelio a rheswm at galon a theimlad ei wrandawyr, yn awr yn benadur anhyblyg yn apelio Air cleddyf at eu rhyddid a'u\ bywyd. Yr oedd gweinidogaeth y goddef wedi myned heibio i roddi lie i weinidogaeth y trais; ond er hyn oil, yr oedd prydweddion prydferth yn ei gymeriad, ac edrych arno fel tad a chyfaill, a hyny ar wahan oddiwrtho fel prophwyd. Bu Mahommed farw. Ond nid felly ei achoa. Disgynodd deuparth o'i ysbryd ar ei olynwyr, y rhai yn mhenboethder eu ael, yn credu tynghed- fen yma, a pharadwya ar ol myned oddiyma, a anturient yn ddibria i wyneb pob perygl, gan ysgubo fel corwynt bob anhawsder o'u blaen. Cyfodai ymrafaelion yn ami yn eu plith yn nghylch pa un a fyddai fwyaf, a phenderfyn- id y ddadl yn fynych trwy fin y cledd; ond buan yr ymunai y rhanau gwahanedig drachefn, ac y gwneid un achos cyffredin o'u crefydd, i ddaros- twng y byd dan ei hawdurdod. Ar ol marwol- aeth y prophwyd, diagynodd ei fantell ar ewythr iddo, pa un oedd wedi bod iddo yn gydymaith yn nydd ei ddarostyngiad yn Mecca, a'i ffoad am ei fywyd i Medina, ac yn etholiad yr hwn y cauwyd allan ddau ymgeisydd a fuasent yn sicr o roi pen ar yr achoa oedd newydd ddechreu Air fath arwyddion o lwyddiant mor anarferol. Orybwyllasom o'r blaen fod holl Arabia wedi ei darostwng i'r ffydd cyn i Mahommed ei hun farw. Yn awr, trowyd tua Syria, yr hon oedd yn un o'r taleithiau cyfoethocaf perthynol i'r Ymerodraeth ddwyreiniol, prifddinas hon oedd Caercystenyn; ond aid oedd yr ymerodraeth hon yn awr ond delw o'r hyn ydoedd wedi bod gynt, ar yagariaeth yr ymerodraeth orllewinol a hithau &'u gilydd. Yr oedd yr hen ysbryd Rhufeinig Wedi ei gadael, a diogi, a llwfrdra, ac ysbryd Werchedaidd wedi dyfod yn ei le. i Saracen- iaid o'r tu arall oeddynt yn llawn t&n ac yabryd Penderfynol,a gwrid eu buddugoliaethau diwedd- ar heb ymadael o'u hwynebau. Ond yr oedd lluosowgrwydd byddinoedd yr ymerodraetb, ac amlder ei hamddiffynfeydd y fath, fel na buasai y fath ysbryd yn tycio dim yn eu herbyn, pe buasai dim o waed eu hynafiaid yn eu gwyth- ienaa. Ond nid oedd y oyfryw ymerodraeth bwdr yn werth ei hamdiffyn, nac i golli deigryn wrth ei phen. Gorchfygodd dilynwyr y prophwyd bob byddin a ddanfonwyd yn eu herbyn, a chy- merasant feddiant o bob tref oedd ar eu ffordd Dea dyfod at Damascus, prif dref y dalaeth, yn nghwymp yr hon y syrthiodd holl Syria yn holl- ol i'w dwylaw; ac yn mhen tair blynedd drach- efn, yr oedd Jerusalem a holl wlad Canaan wedi cyfarfod a'r un dynged. Ac fel y mae ryfeddaf i'w ddywedyd, pan oedd un fyddin yn cael ei hanfon i ddarostwng Syria, yr oedd byddin arall yn cael ei hanfon ganddynt ar yr un pryd i ddarostwng Persia; ac yn mhen ychydig tiyn- yddoedd o fynediad y fyddin yno, yr oedd y frenhiniaeth hbno hefyd wedi ei dymchwelyd, a Mahommetaniaeth wedi ei gosod i fyny a min y cleddyf yn unig grefydd i'r holl ddeiliaid! A thra yr oedd y rhan hon o'r fyddin yn estyn terfynau ymerodraeth eu prophwyd hyd lknau y Mor Caspian, yr oedd y rhan arall wedi cych- wyn o Syria i ddarostwng yr Aifft. Ac ar yr un amser yr oedd y naill fyddin yn gorfoleddu am ddaroatwng Persia iddynt, yr oedd y llall yn gorfoleddu am ddaroatwng yr Aifft iddynt, a'r ddwy ar y pryd yn hollol anhysbys o'u gilydd. Ond yr un yw y natur ddynol dan bob llyw- odraeth a gweinidogaeth fel eu gilydd, lie nad yw ei hiawnderau yn cael talu sylw iddynt. Gellir ei byddaru am dro a. awn, a'i dallu a niwl a chymylau; ond wedi y dechreuo y naill a'r llall ddiflanu ymaith, ceir gweled yr un ffurf a phrydweddion yn dyfod i'r golwg yn union fel o'r blaen. Y mae ganddi elfenau sydd yn perthyn i ddyn fel dyn, yn annibynol hollol ar ei grefydd. Ni waeth pa un ai Cristion, Pagan, ai Mahometan, a fydd efe, nid yw hyny o un gwahaniaeth, y maent yr un mor agos ato, dan bob enw fel e* gilydd. Nid oes un dyn fedr fyw dan drefniant o drais, yr hwn ni chydneb- ydd mo hono ond fel nwydd. Gall y bydd i sel benboeth ei feddwi am dro, fel ag i'w wneud yn ddiystyr hollol o hono ei hun; ond aroswch ychydig i'r cynhyriiad lonyddu, a'r t&n oeri, a chewch weled fod y dyn fel gronyn o aur mewn pwys o haiarn, yn aros heb ei ddifodi trwy'r cyfan. Yr oedd Mahometaniaeth ar ei thoriad cyntaf allan wedi dwyn meddyliau y bobl;) maith ynllwyr. Y prophwyd, a choncwst, a pharadwys, oedd pob peth! Ond wedi diflanu o'r swyn, a'r meddwl droi ato ei hun, yr oedd y baich oedd ar eu hysgwyddau yn rhy drwm, a'r parch goruwchnaturiol oedd yn gysylltiedig ag enw cynrychiolydd y prophwyd yn rhy blent- ynaidd. Yr oedd yn hollol annaturiol, ac yn cynwys ynddo ormod o elfenau trais. Yn mhen deng mlynedd wedi cymeryd Syria, dechreuodd diffygion Mahometaniaeth ddangoa eu hunain yn gyhoeddus yn nirgel lofruddiad y penaeth Omar, yr hon dynged a gyfarfu a lluaws o'i frodyr ar ei ol. Yr ydym yn ystyried hyn yn gynyrch naturiol y trefniant. Nid coed na meini ydyw dynion, ac nid oea un gallu drwy'r nef na'r ddaear a fedr gael ganddynt ddyoddef felly. Angenrhaid a roed amynt i wrthdystio yn erbyn pob gormes ar eu hiawnderau, trwy ryw ffyrdd neu gilydd, pa mor ddrud bynag y dichon y cyfryw dystiolaeth fod iddynt. Ac y mae yn ffaith i'w chofio mai yn y cyfryw wlad lie mae safnau y bobl wedi eu cloi, y mae y ddagr a'r gwenwyn bob amser yn siarad. Dyn yw dyn, bydded ef wyllt neu war, a rhaid ei gydnabod felly gan bob lly wodraeth cyn y bydd unrhyw gadernid yn ei mynydd. Ni waeth pa faint o heddwch ymddangosiadol a fyddo mewn unrhyw wlad, na faint o ofergoeledd a chryfder milwrol a fydd yn ei gynal, os ua ellir cyhoeddi uwch ei phen, CYFIA WNDER A HEDDWOH A YMGUSANANT, mae y dydd i'w damnio & dymchweliad wedi ei osod, rhag yr hwn ni ddiano hi ddim byth. Yr oedd yr egwyddor hon o fywyd yn eisieu yn y eyfansoddiad Mahometanaidd, o ganlyniad, y mae yn cario elfenau dinystr ynddo ei hun, gan nad i ba wlad bynag y gall fyned, a than ba tfurf bynag y gall ymddangos. Y mae fel caner yn y cyfansodd- iad; gall y plentyn dyfu a myned rhagddo, ond y mae y oaucr yn tyfu ac yn myned rhagddo hefyd, ac y mae yn hollol siwr o'i ysglyfaeth yn fuan neu yn hwyr. Yr ydym eisoes wedi gweled effeithiau hyn- yma yn dechreu cymeryd lie yn dra chynar yn mhlith dilynwyr v prophwyd, yr hyn sydd yn ernes sier o hollol ddymeh weliad y ddysg newydd hon ryw ddydd a ddaw, at yr hwn yr ydym yn meddwl cyrhaedd cyn gorphen o honom &'r teatun dan sylw. Ond er y cwbl, yr oedd y rhad oedd ar eu harfau yn anhygoel, a nawddy nef, mewn modd arbenig, fel yn ymddangos ar eu holl ymdeithiau. Yr oedd yr awelon fel yn cludo buddugoliaethau iddynt heb eu ceiaio, a. rhagluniaeth yn palmantu y ffordd o'u blaen; a phan y byddai anffawd neu ddwy yn eu cyfarfod o ddamwain, byddai y tro yn sicr o fod yn ymyl i ad-dalu iddynt am y cyfan. A chyn pedwar ugain mlynedd wedi marwolaeth Mohammed, yr oedd eu banerau yn cael eu dyrchafu mewn buddugoliaeth ar dueddau Ffrainc yn Ewrop, ac ar dueddau China yn Asia ar yr un pryd. Yr oedd yr Alcoran wedi ei roddi yn gyfraith yn Neheudir Ffrainc, Spaen, Affrica, Syria, Canaan, Mesopotamia, Persia, Arabia, Tartary, China, ac amrywiol o leoedd eraill. Ond y mae elfenau ei dinystr ynddi ei hun, ac nid y tu allan. Y mae yr egwyddor fawr o ymddadblyg- iad ag sydd yn nghyfansoddiad y byd, yn sicr o'i llethu i farwolaeth. Nid oes ond crefydd y Beibl, a hi yn unig, fedr ddal y prawf, a goddef dydd ei dyfodiad oddiamgylch. Ond er fod y buddugoliaethau mor ami yn coroni arfau y Saraceniaid, ac ymerodraethau yn cael eu syl- faenu gyda chyflymder ag oedd o'r bron yn ym- ddangos yn wyrthiol, eto i gyd, nid oedd gan- ddynt wreiddyn ynddynt eu hunain. Gyda bod un wedi ei goaod i lawr, ac ymddyrehafu mewn mawrhydri, byddai y llall ya codi yn ddystaw bach yn ei hymyl, ac YI1 dymchwelyd ei holl uc- heldrem i'r llwch; ond ni byddai hithau drachefn yn cyfodi ond i gyfarfod &'r un dynged a hono oedd o'i blaen, yr hyn oedd yn dangos yn eglur fod Mahometaniaeth yn hollol annigonol i gyf- arfod A sefyllfa eymdeithas a meddwl dyn, ond dros ychydig iawn o amser. Y creadur ag dedd wedi bod yn cydocheneidio o herwydd ei aml- dduwiaeth yn yr adeg y daeth Mahometaniaeth i estyn iddo ymwared, oedd yn awr yn cyd- ocheneidio o herwytld ei Fahometaniaeth, dan weinidogaeth yr hon y bu yr holl amser ym chwilio am orphwyadra, ac heb ei gael. Wedi bod o'r byd Saracenaidd yn y cyflwe ansefydlog hwn am 800 o flynyddoedd, daeth y dydd o'r diwedd i osod i fyny y llywodraeth Ottomanaidd, yr hon sydd wedi bod yn gymaint o destun siarad a phrophwydo i'r byd yn ddi- weddar, ac mewn cysylltiad a'r hon y mae Mahometaniaeth bron wedi gweithio ei hun allan. Ychydig o flynyddau eto i'r byd i fyned rhagddo at berffeithrwydd, a'r meddwl dynol i ymddadblygu, a bydd Mahometaniaeth fel egwyddor lywodraethol wedi trengu. Nid prophwydo yr ydym, ond dyfalu; ac yn sylfaen i'n caagliad y mae cysondeb yr hyn sydd wedi cymeryd lie er's blynyddau lawer yn ddigonol,

PEDWAR CANT AR DDEG 0 CHINEAID…

1853 AC 1878.