Hide Articles List

4 articles on this Page

/ - TREFRIW. , , .;

i i LLANBEDR, GER CONWY.

..HOLIAD AT FEIRDD LLANRWST.

LE'RPWL.

News
Cite
Share

Eglwys Annibynol Gymreig yn y dref: ac yr oedd J»fle y capel yn hynod o fanteisiol i'r drefedigaeth Cymreig gyntaf a sefydlodd yma, yr hon yn benaf oedd yrf nghymydogaeth St. Paul's Square. Erbyn yr adeg grybwylledig, yHoedd poblogaeth y dref wedi ymestyn tua'r pen deheuol, er naioedd tu draw i Eglwys St. Jame3 fawr heblaw palasdai boneddigioa; ond rhwng yr eglwys hoaoa'rafon, yr oedd nifer o heolydd a breswylid gan y dosbaith gweitbiol, yn mysg y rhai yr oedd bagad o Gymry. Parotoisid eisoes un capel Cymreig ar eu cyfer yn yn Beaufort Street, gan y Methodistiaid Calfinaidd, er ys peth amser; ond meddyliai ychydig o'r cyfeill- Jon yn y Tabernacl fod drws agored iddynt hwy thau Gyda chydsynial yr eglwys a Mr. Breese, cywerwyd ystafell uwchben stabl yn Watkinsop street, ac ymrwymodd 16 o'r aelodau i ofalu am y lie. C&dwent 100 Ysgol Sabbathol a moddion crefyddol ar y Sabbath, a phregethai Mr. Breese yoo bob nos Fawrth yn gyson am yn agos i ddeunaw mis. Trwy eu diwydrwydd a'u hymroad, llwyddodd y cyfeillion hyn erbyn diwedd 1828 i gasglu cynulleidfa o tua 40, yr hon a lanwai yr ystafell. Gorfu yn awr iddynt edrych allan am le rowy cyfleus, a chawsant yard yn Greenland Street, lie y codasant gapel bycban am JE300, gyda ground rent blynyddol o tl8. Agorwyd ef ddydd Nadolig, 1828. Bellach, teimlent eu hunain yn adigon calonog i ymgorffoli yn Eglwys Annibynol, a dewiswyd Jones a George Owens yn ddiaconiaid. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 17. Yn mis Hydref, 1829, anturiasant i rod ii galwad i Mr. John Jones, myfyr- iwr yn Athrofa Hackney. Un fl wyddyn yr arosodd ef, a symudodd i Runcorn at y Saeson. Yn Ionawr, 1832, arweiniwyd yr eglwys i feddwl am Mr. Thomas Pierce, aelod cyfrifol a phregethwr cy- northwyul yn Eglwys Dinbych. Bu yn llafurio yn eu mysg am yn agos i flwyddyn; ac yn Rhagfyr, 1832, ordeiniwyd ef yn weinidog iddynt. Mae Cyfiawnder a'i goffidwriaeth yn ein rhwymo i dystiolaethu ei fod wedi aberthu by wioliaeth gysur- u. yn Ninbych i gymeryd gofal eglwys fechan o 38 o aelodau, Llafuriodd yr eglwys a'r gweiaidog yn ddiwyd am y pum' mlynedd nesaf; a bendithiwyd eu llafar fel ag y cynyddodd rhifedi yr eglwys o 38 i 94, a'r cyfraniadau blynyddol o £45 i £ 241. Yu ngwyneb y llwyddiant hwn, aethant yn adigon eofn i feddwl am gapel mwy; a chawsant yn Beaufort Street, lie y codwyd capel gwerth <2,200. Agorwyd ef Mai 6, 1838. Rhifedi yr aeladau erbyn hyn oedd 121, o'r rhai-yn mhen 40 ralynedd, y mae pump yn awr yn aelodau yn ein Pjith, sef Richard Hughes, Chester Street; Thomas Wynne; Edward Jones, Mill Street} Mrs. Roberts, -Eagle Terraee; a Mrs. Emma Owens. Y ddiweddaf yw yr unig un sydd yn aroft o'r 16 a symudodd o'r Tabernacl yn 1827 i ddechreu yr achos yn Watkin- SOn Street. Yr oedd Robert Jones, un o'r diaconiaid, *edi dychwelyd i'r Tabernacl yn 1835, a dewiswyd Daniel Owens yn ei le. » Yn 1840, ymwelodd y Parchn. B. Chidlaw o'r America, a WlllialDl o Landilo Fawr, A'r dief; a chydag arddeliad neilldaol, buont yn offerynau i RYffroi meddyliau canoedd o'r Cymry. Ychwaneg- wyd y flwyddyn bono at yr eglwys 86 o aelodau; o'r *hai y mae William Jones, Beloe Street, yn aros hyd I heddyw. Yn y flwyddyn hon, neillduwyd David Varies a Rees Rees at y ddau ddiacon oedd eisoes Inewn ssydd. Parhaodd yr eglwys i weitbio yn ddiwyd yn y I Wynyddoedd dilynol, heb fawr o lwyddiant ym- ddangosiadol. Fel yr oedd yn naturiol i ddysgwyl, ar ol y llanw mawr yn 1840, daeth tymor o dawel- "'ch a thrai graddol; ac erbyn 1848, yr eedd y thifedi wedi lleihau o 240 i 204, a'r cyfraniadau o i £ 261. Ao yn y flwyddyn hon, er eu gofid, ^Reth dyryswch anghyffredin ar fasnach y dref, ac 'eth lluaws o'r Cymry ar ddisperod. Collodd yr Oglwys 40 o'i haelodau, ac erbyn diwedd y flwyddyn jiid oedd yn rhifo ond 164. Ond ni phallodd ffydd- *°odeb y gweddill, canys y mae y cyfrifon yn "angos fod yn agos i £ 100 yn fwy wedi eu cyfranu y flwyddyn ddilynol nag yn y flwyddyn cyn y l*aihad. Am y tair blynedd nesaf, parhaodd yr i deimlo effeithiau annymunol 'blwyddyn y Jj'hwildroadau.' Yr oedd nifer yr aelodau yn dal yn ^digynydd, a baich amgylchiadau yr achos yn P^yso yn drwm ar yr ychydig oedd yn alluog i'w fcynal. Teimlai eglwysi eraill y dref gyffelyb "endid, a phenderfyowyd dal ar y flwyddyn 1852— ?ef yr haner canfad er dochreuad yr achos Anni- Cymreig yn y dref yn 1802— i wneud ymdrech Sjta'iol i esmwythau beichiau y dyledion ar y capeli. t oedd flwm y dyledion oil yn agos i £ 5,000; ac f^yr. diwedd 1852, yr oeddynt wedi cyfranu a ?*}asglu £ 2,064. Eglwys Bethel a ragorodd, canys a gyfranodd ei hunaa £ 360, er nad oedd rhifedi 61 haelodau ond 174. a y flwyddyn 1851, symudodd Mr. Davies i a neillduwyd Mri. David Jones, Robert ac Edward Jones yn ddiaconiaid, gyda'r tri eiaoea mewo swydd, Yn ganlynol i'r cyffroad mawr yn 1852, cafwyd tymor o lwyddiant cymharol, ond nid oedd eu cysur yn ddigymysg. Bu ymdrechion Mr. Pierce yn Nghymru, i gasglu at y Jubili, yn brawf rhy lym ar ei gyfansoddiad: o hyn allan, yr oedd ya dihoeni yn raddol, a gwelai pawb fod ei nerth yn pallu, a'i fod yn analluog i gyflawni ei weinidogaeth gyda'r egni a'r ffyddlondeb a ddangoswyd ganddo am ya agos i chwarter canrif. Yn 1856, wedi hir ymdrech yn ngwyneb ei wendid, cyflwynodd ei ofal gweioid- ogaethol yn ol i ddwylaw yr eglwys; ac yn mis Mai, 1857, efe a fu farw. Yn hanes yr eglwys hon, y mae gweinidogaeth Mr. Pierce yn cymeryd i fewn haoer y tymor, ac yn teilyngu mwy o sylw nag a ellir ei roddi iddo yn yr adroddiad hwn. Bychan ac eiddil oedd yr eglwys pan y daeth ef ati, ac analluog o honi ei hUll, heb gymhorth y fam-eglwys yn y Tabernacl, i gyflawni yr yebydig oedd ef yn ei gael at ei gynal- iaetb; ond yo fuan daeth yn hunan-gynaliol, a thrwy ei wasanaeth ef i'r Tabernacl yn y tri thymor yn ystod ei weinidogaeth ef y bu hi yn amddifad o fugail, addalwyd y cymlierth a dderbyn- iwyd yn y dechreu. Fel progcthwr, dnwioydd, a bardd, yr oedd Mr. Pierce yn dra adnabyddus i'r genedlaeth ddiweddaf; ac fel gweinidog, y mae ei goffadwriaeth yn arogl peraidd nad ymedy &'r eglwys hon tra byddo yr ychydig sydd ya ngwedd- ill, o'r rhai a fagwyd wrth ei draed, yn aros mewn eysylltiad A, hi. Yn mis Mai, 1858—20 mlynedd i'r mis yr agor- wyd y capel, y cynaliwyd Cyfaifod Jubili, acy canwyd anthem 'Taliad y Ddyle J,a Illawen- asant â. llawenydd mawr dros ben.' Ond er mor ddymunol yr amgylchiadau, yr oedd y bwlch yn y weinidogaeth yn peri pryder; eithr trwy diriondeb Pen yr Eglwys, arweiniwyd hwynt i gyfarfyddiad a'r Parch. N. Stephen, Sirhowy; a Mehefin, 1859, sefydlwyd ef yn eu plith. Yr oedd yr eglwys yn awr yn rhifo 259-ei rhif uwchaf hyd yn hyn, y capel yn ddiddyled. a'r dyfodol yn obeithiol. Llafuriodd Mr. Stephens yn egaiol am flynyddau; ond o herwydd fod ansawdd y gymydogaeth yn newid, a'r Cymry yn symud yn uwch i fyny, dechreuwyd teimlo nad oedd y capel bellach mewn lie ffafriol i gynydd yr eglwys; ac yn niwedd 1867, nid oedd y rhifedi ond 263. Yn y flwyddyn hou, cafwyd tor yn Park Road, ar gongl Northumberland Street, a chodwyd capel arno sydd wedi costio £ 6,258. Yma y treuliodd Mr. Stephen a'r eglwys chwe' blynedd dedwydd iawn, hyd Ebrill, 1874, pryd y bu efe farw, yn 50 mlwydd oed. Cynydd- odd yr eglwys i 305 o rifedi; ac er fod baich y ddylei newydd yn drwm, gweithiwyd o ddifrif, a thynwyd hi i hwr i £ 3,475. Collodd yr eglwys fugail doeth a gofalus, a phregethwr call ac addysg- iadol, ac am y drydedd waith cafodd ei hun mewn cyflwr amddifad. Yn y cyfamser hefyd, cafodd yr eglwys deimlo oddiwrth golli yr ben ffyddloniaid, uo ar ol arall, 'fel yegafn o yd yn addfedu i'r crymao.' Yn 1871, bu farw Mr. Robert Price, y tryaorydd; ac yn 1873, bu farw Mr. Gsorge Owens, yr ysgrifeoydd; ac eraill nad oeddynt efallai mor gyhoeddus yn eu cyiohoedd, ond yn anwyl iawn gan yr eglwya. Llanwyd y byichau yn y ddiaconiaeth trwy neill- duad Mri. Davi l Davies, E. Roberts, W. Parry, a B. J. Owen, at y tri oedd eisoes mewn swydd. Yn mis Hydref, 1876, sefydlwyd y Parch. D. M. Jenkins yn eu plith, ac y mae pob argoalion fod a fyno Pen yr Eglwys a'r dewisiad. Teimlai yr eglwys, gan ei fod ef mor gyfarwydd yn y Saesnaeg ag yn y Gymraeg, ei fod yn gymhwys neillduol i gyfarfod ig anghenion Eglwys Gymreig mewn tref 1 Seisnig; ac y mae y llwyddiant nodedig a ddilynodd ei sefydliad yma yn cyfiawnhau y dysgwyliad a ffurfiwyd ganddo ef a'r eglwys. Y mae yr eglwys yn awr (Ionawr 1878) yn rhifo 406; y gynulleidfa ar nos Sabbath yn llon'd y capel; a'r Ysgol Sabbath- ol yn fwy llewyrchus nag y bu am amser. Yn y flwyddyn ddiweddaf, lleihawyd y ddyled i £ 2,855; ac yn ychwanegol, casglwyd Y,450 i dalu am yr Organ beraidd a hardd. Yr ydym yn awr wedi olrhain Hanes yr Eglwys am haner can' mlyneld; ac mewn cydnabyddiaeth ddiolcbgar am y nodded a'r amddiffyn dwyfol sydd wedi bod fel mur o'n hamgylch-yr arweiniad a fu fel 'cwmwl a niwl y dydd a llewyrch tin I fflamllyd y nos;' a'r arddeliad neillduol a galonogodd y ffyddloniaid yn eu gwaith o lafurus gariad at hyd y blynyddau; yr ydym yn gostyugedig obeithio am I wenau yr Arglwydd yn y dyfodol. Disgyned deuparth o ysbryd y tadau ar eu plant a'u holyn- wyr. ]