Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

Y DEHEUDIR. Yr wythnos ddiweddaf, dirwywyd dynes o'r enw Ann Dowers i Ip. a'r costau, am frathu'ysgolfeistr Tonypandy yn ei glust. Y mddengys iddi fyned i fewn i'r ysgoldy i gwyno fod y "pupil teacher" wedi curo ei phlentyn; a chan ei bod yn y fath nwydau, gorfu i'r ysgolfeistr ddangos y drws iddi, ac yn lie myned allan, cydiodd am ei wddf &'i breichiau, ac jra ci glust a'i danedd. CynaIM4 ulodau Temlau y Plant eu gwyl fiyaydtfol yn Haverfordwest, yr wyth- nos ddiwodia; trwy fwynhau gwledd ode a bara brith ymprydnawn, a gwiedd o ganu, adrodd, ac areifchio, ya yr hwyr, dan lywydd- iaeth Mr. Williams, Superintendent of Police." Un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, gwel. wyd hen wraig yn sefyll ar gyfer ffenestr masnachdy, yn Heol y Felin, Pontypridd. Yr oedd yn hollol ddyeithr i'r ardal. Gofynai i rhwun wrthtbaBio lie yr oedd hwn a hwn yn byw. Dywedwyd mai ar gyfer y fan lie safal. Cyrhaeddodd y drws, a'r cyntaf a ddaeth i'w agor ydoedd ei merch, yr hon sydd hefyd mewn cwrs o oedran. Wedi myned i fewn, gofynai, "A oes genych chwi fara yn y ty;" a chan dynu ei Haw o'i llogell, dywedai, "Dyma i chwi 5s. wyf wedi eu cadw i chwi." Ymddengys fod yr hen wraig, yr hon sydd wedi cyrhaedd yr oedran teg o 90 mlwydd, yn un o eluteDdai Bristol; ac wedi clywed am y cyfyngderau oedd yn y De, penderfynodd ddyfod i gael gweled ei hunan yn mha sefyllfa yr oedd ei merch. Go dda, onidaf Hysbysir fod masnach wedi gwella yn fawr iawn yn Cwm Rhondda yr wythnos ddiweddaf, a bod sicrwydd am gyffroad yn y fasnach lo. Mae glowyr, yn nghymydogaeth Rhymni a Pontlottyn, wedi llwyddo i gael gwaith mown gwahanol fanau, ond nid ydyw y gweithwyr haiarn wedi bod mor llwyddianus. Mae tylodi mawr yn mhlith y dosbarth hwn. Yr wythnos ddiweddaf, anfonwyd llanc 10 oed, o'r enw Joseph Griffiths, i garchar Usk am dair wythnos, ac ar ol hyny i dreulio pedair blynedd yny "Reformatory" yn Nantyderry, am ladrata pwrs yn cynwys 15s., eiddo William Prober t, Abergavenny. Dywedir fod Arglwydd Beaconsfield wedi gweled yn dda i orchymyn fod y swm o X200 i gael ei roddi allan o drysorfa "Royal Bounty" ei Mawrhydi, at gynorthwyo gweddw ac amddifaid y diweddar Thomas Humphreys, yr hwn gollodd ei fywyd ei hun wrth arbed bywyd y foneddiges hono yn Ferry Side. Dywedir fod Ann Morgan, Bortb, sir Aberteifi, yn dymuno i'r cyhoedd gredu ei bod wedi byw 100 o ddyddiau heb fwyta yr un tamaid, nac yfed yr un dafn. Symudwyd hi y dydd o'r blaen i Glafdy Aberystwyth, lie na fydd yr arfeir gwyliadwriaeth dim twyll yn cael ei wneud yn y mater. Traddodwyd dau filwr cyffredin, perthynol i'r L4lst. Regiment, Caerdydd, i sefyll eu prawf yn y Brawdlys nesaf, am ladrata yn geiddgar, bwra yn cynwys 33 o sylltau, oddiar hen wr o'r enw Limbrick.

Y GOGLEDD.

[No title]

TOWYN.

BETHEL, PARKYRHOS.

LE'RPWL.