Hide Articles List

2 articles on this Page

^ SENEIRTR Vmetobtol.I

News
Cite
Share

SENEIRTR Vmetobtol. I DYDD MAWRTH. Ty yr Arglwyddi.— Due Richmond a gynygia ailddarlleniad Mesur "Clefydau heintus yr anifeiliaid." Arglwydd Ripon a gynygiai fod iddo gael ei gyflwyno t sylw pwyllgor arbenig; cefnogwyd hyn gan yr Arglwyddi Dunning, Emly, a Granville. Wedi cryn ddadlen, darllenwyd y Mesur yr ail waitb. Ty y Cyffredin.—Syr Frederick Perkins a geisiai gael ychwaneg o wybodaeth mewn perthynas i'r adroddiad a wnaed o lofruddiad amryw o feddygon Polaidd, a gyflawnwyd gan y Rwssiaid yn Sofia. Mr. Bourke a ddy- wedai nas gallai ychwanegu dim at yr atebiad oedd wedi ei roddi yn barod. Yr oedd y si wedi cyrhaedd y Llywodraeth yma, ond nid oedd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gwneuthur adroddiad ar y mater. Yn mhlith y rhybuddion oedd i'w dwyn gerbron y Ty, dywedodd Dr. Kenealy y byddai iddo, dydd lau, ofyn i Ganghellydd y Trysorlys a oedd gwirionedd yn yr adroddiad na fyddai i Fesur y "Bar Descipline" gael ei ddwyn yn mlaen v tymhor hwn. Phoddwyd adroddiad gan Mr. Sclater-Booth o farwolaethaa a gymerodd le yn Lloegr a Chymru yn 1876 mewn can- lyniad ir frech wen, yr hyn oedd 2,418; ac yn 1877, 4280; y cynydd i'w briodoli i'r achosion a gymerodd le yn y Brifddinas. Mr. Bright, wedi galw sylw y Ty at gyn- Ilun yr "Endowed School Commission," er rheolaeth ysgol Brenin Edward vi. yn Birmingham, a gynygiai fod anerchiad i gael ei chyflwyno at y Goron, i ofyn i'w Mawrhydi beidio cefnogi y cynllun presenol. Gwrth- wynebwyd y cynygiad gan 129; o'i blaid 70. Cynygiodd Mr. Norwood ail ddarlleniad Mesur y "County Court," pryd y ibanwyd y Ty am chwarter wedi wyth. DYDD MEROHER. Ty y Cyffredin.—Cy- nygiodd Major O'Gorman ail ddarlleniad Mesur y "Rhyddfraint Bwrdeisiol," (Iwerdd- on). Eglurai y Major mae ei amcan e ydoedd'iebyga y rhyddfoeintiau yn Iwerddon i'r hyn ydyw yn Lloegr. Mr. Kavanagh a gynygiai fod y Mesur i gael ei wrthod, ond gwrthwynebwyd ef ar y tir tod y mater wedi cael ei gyflwyno i sylw Pwyllgor arbenig, ond fod yr adroddiad heb ei gael. Yn rhaniad y Ty, cafwyd fod dros ail ddarlleniad 160, yn erbyn 165. Mr. Mundella a gynygiai ail ddarlleniad Mesurau y Cynghor Trefol, a Byrddau Lleol. Gohiriwyd y mater. Yn ol yr adrodditd a gyhoeddwyd heddyw, ymddengye mai nifer yr etholwyr yn y Deyrnas hon y flwyddyn ddiweddaf ydoedd 2,909,677, ar gyfer 2,453,490, yn 1868. Yn Nghymru a Lloegr, y nifer ydoedd y flwydd- yn ddiweddaf, 2,377,822, ar gyfer 1,931,980, yn 1868. Yn Scotland, 303, J83, ar gyfer 239,856. Yn IwerddoD, 227,872, ar gyfer 222,454. Swm yr elw a'r cynyrch a dreth- wyd at yr Incwm Tax am y flwyddyn yn diweddu Ebrill 5ed, 1876, ydoedd:—Cymru a Lloegr, £ 449,130,058; Scotland, £ 53,926,912; Iwerddon, £ 34,475,356: y cyfanswm vn £ 537,532,346.. 7 DYDD IAU. Ty yr Arglwyddi.—Oyn i'r Arglwyddi fyned yn bwyllgor ar Fesur "Clef- ydau heintus yr Anifeiliaid," rhoddodd Due Richmond atebiad i r brif wrthwynebiadau a ddygwyd yn mlaen yn erbyn fy Mesur gan Ardalydd Ripon. Y Ty wedi myned yn bwyllgor "pro forma," a gwelliantau wedi eu rhoddi i mewn, gorchymynwyd fod y Mesur i gael ei ail draddodi dydd Mawrtli. Due Argyll alwai sylw at sefyllfa yr Ynaer- odraeth Ottomanaidd mewn perthynas a treaties 1856. Wedi i amryw o'r Arglwyddi siarad, Arglwydd Derby a ddywedai, pa un bynag a oeddid yn dal fod y treaties hyn wedi eu diddymu gan y rhyfel neu beidio, fod sefyllfa pethau a amcanwyd gan y rhai hyn yn 1856 a 1871 wedi peldio a bod, Ac mewn perthynas i ymddygiad Lloegr yn y Gynadledd, gallai ef ddyweyd y byddai i'r Llywodraeth wneud yr hyn a allai tuag at ddwyn oddiamgylch setliad boddhaol. Wedi cael yehydig eiriau oddiwrth yr Arglwyddi Donraven a Stratheden, rhanwyd y Ty. Ty y Cyffredin.-Canghellydd y Trysorlys, mewn atebiad i Syr C. Diljce, a ddywedai nad oedd un hysbys'ad wedi ei dderbyn mewn perthynas i'r telerau heddweh, ac nad oedd efe yn barod i wneud un adroddiad. Mewn canlyniad, aeth y Ty yn bwyllgor ar Fesur y "Workshops a'r Factories." Wedi cytuno ar n;fer o ychwanegiadau, cyfarwyddwyd y cadeirydd i ysbysu fod y Mesur wedi ei ad- newyddu. Ar ol hyn, cafwyd dadl frwd ar gynygiad Mr. Rylands, fod y Ty i fyned yn bwyllgor ar Fesur y "County Government" chwe' mis i'r dydd hwn. DYDD GWENER. Ty yr Arglwyddi.— Arglwydd Derby a ddywedai, mewn atebiad i ofyniadau a roddwyd iddo, na wyddai yn iawn pa bryd y gallai osod ger eu bron deler- y cytundeb heddweh. Mae y cynygiad o gynal y Gynadledd yn Baden-Baden yn cael ei newid. Mae gwahoddiad wedi ei roi am gael cyfarfod yn Berlin, ac nid ydyw Llyw- odraeth ei Mawrhydi wedi gwneud un gwrthwynebiad i'r cwrs hwn. Nis gallai efe fynegu gyda sicrwydd pa bryd y byddai i'r Gynadledd gael ei hagor. Gyda golwg ar y sail ar ba an y byddai i'r Gynadledd neu Cynghor gael ei dwyn yn mlaen, mae y Llywodraeth mewn gohebiaeth a'r Galluoedd eraill ar y mater, yn benaf gydag Awstria, y rhai mewn brysneges sydd wedi ei osod yn barod ar y bwrdd, a dywedant nad ydynt yn barod i gydnabod cyfnewidiadau y trefniad a wnaed gan y treaties Ewropaidd, neu trwy y cytundeb rhwng Twrci a Rwssia, hyd nes y bvddai iddynt gael yetyriaeth y Conference. Ychwanegai yr Arglwydd anrhydeddus nad oedd dim gwirionedd yn y dywediad fod Rwsaia, trwy newid tiriogaeth a Persia, wedi meddianu rhandir ar y Caspian Coaso, ac na wyddai am un amean o roddi i Persia un- rhyw ran o Bayazid. Wedi pasio Mesur y Territorial Water, trwy Bwyllgor, Archesgob York a gynygiai gael Dirprwyaeth Freninol i chwilio i mewn i'r gyfraith a'r arferiad presenol o werthu a newid bywiol- acthau eglwysig. Arglwydd Houghton a wrthwynebai y cynygiad ar y tir na fyddai penodiad y Ddirprwyaeth hono, ddim ond ycbwanegiad effeithiol at y camarferiadau ag sydd ynddynt eu hunain yn gymharol ddibwys. Ar ran y Llywodraeth, cydolygai Due Richmond dros gael y Ddirprwyaeth; ac ar ol cryn ddadleu, cytunwyd ar y cynygiad heb raniad. Gadawyd y Ty am chwarter i wytb. Ty y\Cyfredin.—Syr U. Kay Shuttleworth a sicrhaodd ddydd'Gwener, Ebrill 5, i ddwyn gerbron ei benderfyniad ar bwnc y "local government" yn Llundain. Rhoddwydamryw k ofyniadau gan Ardalydd Hartington, yn ngbylch y Gynadledd, atebwyd hwy gan Ganghellydd y Trysorlys, yn debyg o ran sylwedd i'r atebion a roddwyd gan Arglwydd Derby yn Nhy yr Arglwyddi. Chwanegai ei fawrhydi fod Arglwydd Lyons wedi ei benodi i fyned i'r Gynadledd pan y bwriad- wyd ei ch)nal yn Baden-Baden, a thybiai ef y byddai i'r penodiad hwnw wneud y tro ar gyfer ei chynaliad yn Berlin. Ar gynygiad Syr. W. Dyke, rhoddwyd allan writ dros Mid Somerset yn lie Mr. Neville Grenville, a thros ddinasj Hereford, yn lIe. Mr. ( Pateshall, y ddau yn ymneillduo o'u swyddi. Gan nad ydoedd ond 26 o'r aelodau yn y Ty, torwyd 1 fyny. DYDD LLUN. Ty yr A rglwyddi.—Dy wed- a1 Arglwydd Derby mewn atebiad i larll Granville, ei fod yn eithaf gwir fod Llywodr- aeth ei Mawrhydi wedi cynyg i'r Galluoedd eraill fod Groeg i gael ei chynrychioli yn y Gynadledd. Cynygiai Iarll Camperdown ail ddarlleniad Mesur etholiad aelodau y Metropolitan Board of works, amean pa un ydyw darparu ar gyfer etboliad yr aelodau yn uniongyrchol trwy y trethdalwyr,. yn lIe yn ol y dull presenol trwy vestries. Viscount Midleton .a gynygiai wrthod y Mesur ar y tir ei fod o nodwedd wrthryfelgar. Cy- merwyd rhan yn y ddadl, yn erbyn y Mesur gan Iarll Beauchamp, dros y Mesur gan yr Arglwyddi Aberdare a Del a war. Rhanwyd y Ty, a chafwyd fod 54 yn ei erbyn a 36 drosto. Mewn atebiad i amryw gwestiynau a roddwyd gan larll Stanhope, Arglwydd Derby a ddy- wedai, yn unol a'r drefn arferol, mai Tywysog Bismark, fel cynrychiolydd y wlad lie y cynelir y Gynadledd, a fyddai i lywyddu yn y Gynadledd yn Berlin. Ty y Cyffredin.—Syr Wilfred Lawson a ofynai amryw gwestiynau mewn perthynas i'r Clefyd Heintus oedd wedi tori allan ar yr Anifeiliaid yn swydd Lincoln. Arglwydd Sandon, yr hwn oedd wedi bod yn absenol o'r Ty am yspaid, a dderbyniwyd yn wresog, a dywedai nad oedd yr haint wedi tori alJan o'r newydd. Ychwanegai gyda phetrusder fod yr arolygwyr wedi hya bysu fod y "Clefyd ofnadwy hwn wedi cael ei achosi trwy i'r anifeiliaid yfed dwfr," yr hyn barodd i'r holl Dy chwerthin. Ychydig o faterion a ddygwyd gerbron y Ty heblaw yr uchod.

TANCHWA MEWN GWAITH GLO YN…