Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
BEN GAPBL, LLANBRYNMAIR.
News
Cite
Share
BEN GAPBL, LLANBRYNMAIR. MB. GOL.,— Dichon nad annerbyniol gan eich darllenwjr fyddai cael gair o hanes yr achos goreu yn yr hen fangre adnabyddus a chyaegredig hon. Da geoyf allu dweyd fod golwg dra llewyrchus ar waith yr Arglwydd yn ein mygg. Mae y Parch. 0. Evans, ein parchus weinidog, yn ddigon adnabyddus trwy dde a gogledd Cymru, fel na raid iddo wrth lythyr, au canmoliaeth oddiwrthym oi; ond gallaf sicrhau had ydyw yn fwy poblogaidd a. chymeradwy yn unman nag yn mblith ei bobl ei hun gartref, ac y mae pobl ei ofal yn penderfynu dangos eu teimladau caredig tuag ato, a'u gwerthfawrogiad o'i lafur egnlol, mewn dull mwy aylweddol na thrwy eiriau yn unig. Y mae arwyddion amlwg i'w gweled fod yr Arglwydd yn arddel ac yn bendithio ei ymdrech- ion, oblegid y mae yr achos yn llwyddoac yn myned. rhagddo yn gyson a pharhaus o dan ei weinidog- aeth, fel nad oes odid fia yn myned heibio heb fod rhywrai o'r newydd yn cael ei dderbyn i fewn i'r eglwys. Ychwanegwyd rhai ugeiniaii at yr eglwys yn ystod y flwyddyn a basiodd, ac yr oedd yma elygfa effeithiol iawn y Sibbath Cymun Jeb^diweddaf, sef gweled chwech yn cael eu derbyn at fwrdd yr Ar- glwydd, ac amryw o honynt yn benau teuluoedd, a rhai o honynt yn gyfryw ag yr oedd yr eglwys bron wedi llwyr anobeithio eu gweled byth yn ymuno a chrefydd. Yr oedd degau yn colli dagrau yn hidl wrth edrych arnynt tra yr oedd ein gweinidog yn rhoddi deheulaw cymdeithaB iddynt. Fel hyn y mae gwedd dra llwyddianus ar yr eglwys henafol hon, ac y. mae oriel newydd i gael ei chodi a chyf- newidiadau eraill i gael eu gwneud or y capel oddi- fewn ac oddiallan yn nechreu yr haf dyfodol. Gellir crybwyll hefyd fod yr ysgol Frutanaidd sydd yn y gymydogaeth yn dyfod yn mlaen yn rhagorol o dan ofal Mr. Williams yr ysgolfeistr, yr ¡ hwn sydd wedi ymsefydlu yn yr ardal yn ddiwedd- ar. Nid wyf yo meddwl y camgymeraf wrth ddweyd fod mwy o blant yn dyfod i'r ysgol yn awr nag a fu ar unrhyw gyfnod o'r blaen. Bydded llwyddiant mawr ar addysg a chrefydd yn yr hen gyoiydogaeth sydd yn meddu adgofion mor ddyddorol. Yreiddoch, DIACON. m t,,¡u t. J. t Jfjir i O*) if! ff (pt.
' 1,. ATBERCHENOG A GOL. U…
News
Cite
Share
1,. ATBERCHENOG A GOL. U Y DYDD." FoNEDDtGMN,— Afreidiol yw dweyd eich bod yn caru Ilwyddiant eich papyr; gwyddoch hefyd yn ogystal a byny fod i chwi ganoedd o gyfeillion, fel fy hunan, yn caru yr un peth; ac y mae gweled y DTDD er's dwy flyaedd yn awr wedi ac yn bed yn faes yr ymladdfa, yn achosi gofid i ganoedd o'i dderbynwyr, ac yn peri i rhai wneud ag ef fel &'r Tyst, sef peidio ei dderbyn i dr, a hyny ar gyfrif yr ysgrifau enllibus Bydi wedi ymddangos ynddo er Mawrth, 1876, gan rai nad ellir dweyd yn well am danynt na'u bod heb ofni Daw na pharchu dyn, er eu bod, y rhan fwyaf, os nad yr oil o honynt, yn proffesu dysgu eraill i wneud yr hyn na wnant hwy eu hunain, a hyny o dan rith gwellan Athrofa y Bala. Ond y gwir am dani yw hyn, y mae yr athrofeydd wedi derbyn mwy o niwed gwirioneddol oddiwrth y rhai hyn nae a allant byth wneud o les iddynt, gan fod caa- oedd o blant y seti yn penderfynu na chyfranant geiniog eto at yr un o honynt, a hyny am y rheswm fod y rhai sydd wedi bod yn derbyn addysg ynddynt ar draul y wlad a'r eglwysi yn gwastraffu eu hamser gwerthfawr i ysgrifenu llythyrau y teimla hyd yn nod yr isaf ei gymeriad yn y wlad yn sarhad o'r mwyaf eu cysylltu &'i enw. Hefyd, y mae y llythyrau hyn wedi darostwng y weinidogaeth, ac wedi gwneud rhwyg rhwng y seti a'r pulpud na chyfanir mo hono yr oes hon, beth bynag am y nesaft ac nid oes gan y gweinidogion hyn neb i'w beio am hyn ond hwy eu hunain. Ac os nad yw yr ymladdwyr hyn yn barod i gyhoeddi cadoediad, cy- 'I hoeddwch chwi un yna, a dichon y bydd i swydd- feydd eraill hefyd ddilya eich esiampl yn hyn o beth, oblegid y mae yn llawn bryd; ac os na bydd j genych 108 rywbeth yn amgen i eiddo Annibynwr a Peria, a ymddangosodd yn y DYDD yr wythnoa -eyn y ddiweddaf, gadewch i ni gaeldaien wen, bydd bdno o werth, feallai, ryw dro eto; ac am lythyr Peris, y mae yn amheus genyf a oes yr ua chwarel- ■wf yn Llanberis a fuasai yn gallu bwrw allan y fath fustl a'r Peris hwn. Y mae arnaf ofn y rhaid edrych fustl a'r Peris hwn. Y mae arnaf ofn y rhaid edrych { am dano i le a chyda gwaith mwy cysegredig na thori ceryg yn y chwarel. J. Yreiddoch, F."J. P. J.
CLADDFA YN COLWYN A COLWYN…
News
Cite
Share
CLADDFA YN COLWYN A COLWYN BAY. SYR,- Fy unig amcan ydyw cael sylw fy nghyd-drigolion yn y lleoedd uchod at yr angen mawr sydd arnom am gael claddfa ar gyfer y lleoedd hyn. Y mae yma deimlai dwys o herwydd y diffyg o hyn. Y mae cael lie i gladdu ein meirw yn un o'r pethau mwyaf pwysig. Y mile yma ddarpar mawr ar gyfer petban eraill; ond gobeithio nad ydym yn anghofio fod yn rhaid i ni oil gael ein claddu. Rhyw deimlad cysurus ydyw gwybod fod genym le neillduol i gael ein claddu pan ddaw angen am hyny. Ond yn bresenol, y mae y rban fwyaf o honom yn gorfed teimlo nas gwyddom yn mha le y cawn ein claddu. Onid digoo ydyw y tristwch a'r galar a gawn pan yn colli ein cyfeillion a'n perthynasau, heb i ni gael ychwaaeg at y brofedigaeth, trwy gael helbul a thrafferth i gael lie i'w claddu. Heblaw hyny y mae y lleoedd hyn, yn enwedig Colwyn Bay, yn cynyddu yn gyflym mewn poblogrwydd, ac nid oes ya un o'r ddau le hyn le i gladda o gwbl. Fa fu lie. mae yn wir, yn mynwent Eglwys Colwyn; ond yn awr y mae y lie hwnw wedi ei gau i fyny yn hollol. Hefyd, yr oedd lie yn mynwent capel yr Annibynwyr, ond erbyn hyn y mae hono wedi llenwi i fyny; ond fel y mae yn hysbys i lawer, lie newydd ydyw Colwyn Bay, felly ni fu yno le i gladdu erioed. Gan hyny, yr ydym yn gorfod myned a'n meirw i'w claddu i bellder o florid. Yn ngwyneb y peth hwn, yn nghyda llawer o betbau eraill, yr ydym yn gorfod teimlo y mawr angen sydd arnom o gael Local Board i'r lie, er mwyn sicrhau gallu gweitbgar i ddylanwadn yn effeithiol gogyfer âg angen y lleoedd cynyddol hyn Yr eiddoch, Colwyn Bay, Chwef. 19. O. LL.
" NEWYNU I FARWOLAETH."
News
Cite
Share
NEWYNU I FARWOLAETH." AT Y PARCHEDIG D. ROBERTS, WREXHAM. Gyda chaniatad Gol y DYDD, dymunwn ofyn gofyniad neu ddau i chwi, anwyl Syr, a hyderaf na bydd fy ngofyniadau islaw eich sylw, oblegid y maent yn dal perthynas a'ch cymeriad. Y mae yn debyg ddarfod i chwi eich hun, fel llawer eraill, weled nodiad at y gohebwyr yn y DYDD, ychyjig ddyddiau yn ol, o dan y penawd, Capet Albion Park,' aylw o eiddo y Gol. fel y canlyn, Y mae yn well genym ni beidio cyhoeddi dywediadau y Parch. D. R. na hanes y ffrwgwd fa yna;' yn awr gan fy mod ya gweled oddiwrth y ÐYDD diweddaf nad oedd ond eich hunan yn ateb i'r ddwy lythyren D. R. yn y cyfarfod chwarterol a gynaliwyd yn y capel uchod, yr wyf yo casglu mai chwi yw y gwr. 1. Ai credadwy, Syr, ydyw ddarlod i chwi ddefn- J yddio rhyw ymadroddion anghymhwys i'w cy- hoeddi? 2. Ai gwirionedd ydyw ddarfod i chwi ddefnyddio y fath ymadroddion a newyner hwy i farwolaeth,' gan gyfeirio at y terfysgwyr a enciliasant o eglwys Albion Park? ° 3. A ddarfu i chwi arferyd ymadroddion tebyg i'r rhai a nodwyd ? ac os darfu i chwi, pa eglurhad sydd genych, os gwelwch yn dda, i'w roddi ar y j fath ddywediad? oblegid gwyddys am neillduol- 1 rwydd eich dull chwi o roddi amlygiad i'ch meddyl- iau, sef eich bod yn hoff o'r cymhariaethol, neu'r figurative, ac fod yn bosibl i ddyn a arfero y dull hwnw gael ei gamddeall. 4. A ydyw yn wir ddarfod i chwi pan yn cyhoeddi rhai o'r gwrthryfelwyr yn nghapel Albion Park, Caerlleon, ryw nos Sabbath yn mis Tachwedd, 1877, yn ddiarddeledig, arferyd y fath ymadrodd a'ch bod yn ewyllysio ar fod drws y nefoedd yn cael ei gau rhagddynt? Hyderaf, Syr, na chymerweh yn angharedig aruaf am gyfeirio gofyniadau fel hyn atoch; ond gan fy mod yn deall fod y fath ddywediadau' yn cael eu tadogi arnoch ar byd a lied y wlad, a chan fy mod yn m«ddwl fod eraill a ddymunant gael sicrwydd yn mherthynas i'r fath ymadroddion; a chan fy mod yn meddwl fod tuedd yn y fath ymadroddion i beri i rai feddwl yn waelach o honoch fel gwr Duw a gwasanaethwr lesu Grist, ystyriwn fy mod yn gweithredu yn rhesymol ac yn ddynol, os nad yn Gristionogol, i wneud sylw cyhoeddus yn y DYDD, modd y caffoch gyfle i ddwyn y gwirionedd i eglur- der. Yr eiddoch yn gywir, HEN DDIACON.
AT ANNIBYNWR A PERIS.
News
Cite
Share
AT ANNIBYNWR A PERIS. MR. GOL.,— Ymddengys i mi, Syr, fod darllen rhanau o'r DYDU fel mwg i'r llygaid a finegr i'r danedd.' Nid oes wedi bod yn eich gohebiaetbau er's llawef flsoedd bellach ond cwerylon, athrod, ac absen ddidor, ffrwyth rhagfarn a chenfigen dynion 0 feddwl bach a chrebychlyd, ao mor hunanol ag Y gall eu hamgvffredion hwy, druain, ymgyrbasd gan dybied eu bod y fath fodau pwysig yn y byd loerawl hwn, fel y dyllii pob bod bach arall ond ell hunain ymostwng i'w barn a'u mympwy hwy, pheidio dweyd gair, nac ysgrifenu brawddeg, na chyhoeddi pamphledyn, na dim arall, ond a fyddo yn unol a. chyffes eu ffydd hwy, os ydynt yn meddU un o gwbl; ond gwyddom am rai o'r tylwytb grwg. nachlyd a chwerylgar hyn sydd yn byw ar bwys f wlad, ac heb hiner digon o waith, o'r hyn lleiaf ni* gwnant yr hyn sydd ganddynt; a bron yn ddieithr- iad saif y bodau hyn ar ben y clawdd, gan edrych o'u cwmpas i ba ochr i fyned. Yn mha ochr tybed y mae y blaii gryfat? Ond nid yr oil sydd dipyn yn bigog sydd felly ychwaith, mae eithriad i bob rheol. Fe fyddai'n dda pe gallai dynion ganiatau i eraill yr hyn maent yn garu eu hunain. Da chwi, weiD: idogion yr efengyl, a phob cwerylwr arall, rhowcb » fyny yr arferiad iselwael o dduo, cnoi, a thru fly ncO eich gilydd; a chan fod doctoriaid we ii myned yo bethau mor gyffredin yn y dyddiau preseno), feallai mai nid anfuddiol fyddai eich cyfeirio at gyngor call a gwerthfawr doctor o'r gyfraith a elwid Gamaliel, a welir yn llyfr yr Actau, y burned benod# dechreuer darllen yn y 34ain adnod hyd y 40fed.. Astudiwch y cyngor yn dda; a chwi sydd yn arfef cynghori pecbaduriaid gwnewch bregeth arno, yo He cweryla yn y DYDD, a beio dynion eraill am wneud yr un peth yn gymhwys ag a wneir genych eich hunain. Beiwch J. R. ac eraill am fod yn ffraegar a phigog; beth, mewn difrif, ydych chwi yn wneud? Atebed eich cydwybodau, a thewcb. Gwnewch yn debyg i'r asyo y soniai Henry Vin- cent, Yaw., am dano yn un o'i ddarlithiau angbyd- marol i'n clywedigaeth y noswaith o'r blaen. Dy* J we'iai foi dyn ac asyn wedi eu golchi dros fwrdd llong, a pban ganfyddodd yr asyn ei hun allan •'» ddyfnder, ac mewn perygl o foddi, fe gauodd ei safn, a thrwy hyny cyrhaeddodd y lan yn ddyogeW ond y dyn, druan, a agorai ei safn, ac er iddo dd'od i'r wyneb dair gwaitb, eto boddodd, a hyny yn unig am ei fod wedi agor ei safn pan y dylasai ei chao. Mor wired a bod dwfr yn Hyn Tegid fe foddwch ofl na chauwch chwi eich safnau. Byddwch i fyny a'r asyn, beth bynag, yn hyn o bwnc. Mae rhyw hen fardd yo canu i nifer fel chwi, wn i ddim yn iawn pwy, 03 nad Llywarch Hen neu Taliesia Ben Beirdd; ond waeth pwy, o un hyny, fel hyn y mae ef yn dweyd:— Mae'n resyn gwel'd doniol grefyddwyr Yn gaeth i gwerylon a gwall, Y naill wrth ymwthio i'r orsedd Yn sangu ar sodlau y llall; Ar helynt fel yma y chwardda Cythreuliaid pan gwrddont yn nghyd, Ac yna dechreuant ymddadleu, Gan daoru mai hwy bia'r byd: Holl deulu'r cwerylon gochelwch, Mae Satan a'i fryd ar eich cael; Pob dynol gymdeithas a'ch gwrthyd, Cyfrifir chwi'n isel a gwael; 'Marferwch a synwyr cyffredin, Na fyddwch fel plantos yn hwy, Eich doniau crefyddol defnyd Jiwch Yn gyaon, ddigweryl, byth mwy.' Dyna nhw, am a wn i, fel y cefais hwy o'm oof. Mae yn ddigon tebyg yr ystyrir pawb sydd o'r tu allan i ryw gylch penodol yn ymyrwr a materioB rhai eraill; os felly, nid o dan fantell cudd-enw, fel mae arfer rhai. Byddwch wych a thawel, yw dy- muniad Yr eiddoch, &c., R. O. ROBERTS. Earlstown, swydd Gaerhirfryn, Chwef. 18. j j
I MARWOLAETH CYMRO YN YR INDIA.…
News
Cite
Share
MARWOLAETH CYMRO YN YR INDIA. j MB. GOL.,— Y mae genym y gorchwyl anhyfryd o hysbysU marwolaeth un o'n cydgenedl mewn gwlad estronol i rywun neu rywrai anadnabyddus i Dt; er hyny, y mae yn rhaid ei fod, nea eu bod, yn un, neu yn rhai o drigianwyr DolgeIlau neu'r gymydogaeth amser yn ol, os nad ydyw ar hyn o bryd. Enw y tranced- ig ydoedd Ellis, ac enw ei dad ef hefyd oedd Ellis W. Williams. Yr ydym wedi holi ein goreu yo nghylch yr ymadawedig a'i deulu, ac wedi methu a chael dim o'i hanes, na neb yn adnabod Jyr un o'i berthynasau. Ni ddywedir o ba leneu barth y daeth y trancedig i'r India, ac ni ddywedir pa un ai enw cyntaf ynte ei enwolaf (enw ynte ei gyfenw) ydyw Ellis; gall fod y naill neu y llall, ond feallai mai wrth enw neu gyfenw arall yr adwaenid ef gynt yn Nolgellau a'r gymydogaeth, gan fed newid eaw yn beth anrhydeddus dros y mor, felyn, achos l-i fi li 1. i j