Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

FFESTINIOG.

AGOR1AD CAPEL NEWYDD SILOH,…

News
Cite
Share

AGOR1AD CAPEL NEWYDD SILOH, GLAN- DWR, GER ABERTAWY. Y mae olwyn omser o hyd ar waith, ac y mae pethau, ac amgylchiadau y buwyd yn hir ddisgwyl am danynt, o'r diwedd yn dyfod, ac yn fuan iawn yn pasio i roddi lie i betliau eraill, felly gydag agor- lad y Capel newydd eang, prydferth, a chyfleus hwn; buwyd yn hir a pbryderus ddisgwyl am dano, o'r diwedd daeth, ac heddyw, nid oes genym ond adolygu, a mwynhau yr adgof am yr amgylchiad dyddorol. Saif y capel oldeutu 300 o latheni oddi- wrth yr hen gap: ar fryn amlwg iawn, gwelir efo bellder mawr o bob cyfeiriad—y mae fel dinas ar fryn-nc mewn cyferbyniad hollol i'r hen gapel, yr hwn oedd fel myrtwydd yn y pant, yn guddiedig br,idd gan weithfeydd a rheilffyrdd, nas gwelid ef nes bod yn ei ymyl, a. pbawh ar a elai heibio yn ysgwyd pen, nc yn synu fod cartref mor lwyd gan Eglwyø Annibynol yn yr ardal. Wedi bwriadu am gryn amser i adeiladu capel, yn niwsdd y flwyddyn 1875, etholwyd Pwyllgor at y gwaith, a gofynwyd i Mr. Thomas Freeman, i barotoi cynllun. Cymer- wyd y gwaith i'w adeiladu gan Mr. T. White. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan W. Thomas, Yaw., Lan, Gor, lOfed, 1876, pryd yr oedd yn bresenol oddeutu 40 o weinidogion o Dde a Gogledd Cymru, Maer Abertawy, amryw aelodau a swydd ogion y Gorphoriaeth, a thorf aruthrol o bobl. Cynaliwyd cyfarfadydd yr agoriad Sul a Llun, Chwef. 10 a'r 11. (Jawd cwrdd gweddi lluosog iawn am haner awr wedi saith y boreu. Am 10 o'r g!oeb, darllenwyd a gweddiwyd gan Dr. Thomas, Liverpool, aphregethodd y Parch. R. Thomas, Han- over, ac y mae genym i ddiolch i Mr. Thomas a'i briod hawddgar, am y rhodd haelionus o ddwy bunt ar hug "in o ddechreu yr anturiaeth hyd yn awr. Ar ei ol yn ystod y cyfarfodydd, cafwyd pregethau godidog gan Dr. Rees, Caer; Dr. Rees, D. Saunders (T.C.), ac A. J. Parry (B.) Abertawy; a T. Johns, Llanell'y. Cafwyd cynulliadau mawrion iawn. Dydd Iau canlynol, y 14eg, darparwyd gwledd i'r Saeson, pryd y pregethwyd gan y Parch. E. H. Evans, Caernarfon. Ar ol pregeth y prydnawn, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth E. M. Richards, Ysw., Ceredigion. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor gan y cadeirydd, Dr. Joseph Davies. Havad; a thraddodwyd aaerchiadau pwr- pasol gan y llywydd, a'r Parchn. Dr. Rees, Aber- tawe; E. H. Evans, Caernarfon; W. E. Jones, Tre- forris; E. Thomas (B.), Walters Road; A. J. Parry, I Bethosda, Abertawe; ac R. Thomas, gweinidog. Am haner awr wedi chwecli, yr hwyr, daeth Mr. H. H. Vivian, A.S., a'i briod, i fawn, a chafwyd anerchiad rbagorol ganddo, ac hysbysodd Mr. Thomas fod^ cheque o jE50 iddo on i galw yn offiice y gwaith. Wedi ymadawiad Mr. Vivian, darllenwyd a gweddi- wyd gan D. Williams, Ysw., Training College, a phregethwyd gan Mr. Evans, yr oedd ei byawdledd iel afon lifeiriol yn cario pobpeth o'i flaen. Galw- odd Mr. Thomas ar Dr. Reep, eto i ddweyd ychydig eiriau. Mawr ganmolai ly capel hardd, a dywsdai ei fod nid yn unig yn un o gapelau goreu y aywys- ogieth, ond y deyrnaB. Dydd Sul, a nos Lun, y 17 a'r 18, cyf., cafwyd eto bregethau ardderchog gan y Parchn. R. Thomas, Bala; W. Morgans, Caerfyrddiri; a W. Jenkins, Pentre. Casglwyd yn ystod cyfarfodydd yr agoriad oddeutu £ 450, yr hyn, at y awm oedd eisoes mewn Haw, sydd yn gwneud cyfanswm • £ 3,270; holl *• • • .!1-rr-iJ f draut yr adeilid oedd £5 ;500, felly, gwelir fod ych- ydig dros dair mil yn aros o ddyled. Y mae yr hen gapel genym eto mewu llaw. Y mae'r llwydd- iant yn y gorphenot yo peri i ni wynebu'r dasg yn galonog. Y mae ein rhagolygon yn addawol-yi y,-gol Sul, y canu, y Temlau Dirwcatel yn flodeuog'^ yr Eglwysyn heddycbol, y weinidogaeth yn dder- byniol ac effeithiol iawn, a'r Parch. R. Thomas, y gweinidog, yn teimlo mor ddedvyd a brenio. Go B W.uJf,. [Drwg genym orfod talfyru.—Gol.] 'U?ii i ii

;'1''(;' iSamuoniaeti). h…

YR ARAN YN Y GAUAF.

I Y DAIL A'R GAREG WEN.!°TT0^

-. ———————-—- - -i ' -it ENGLYNION…

.,-'-'-.-¡,,''! jinn1—."?•11…