Hide Articles List

6 articles on this Page

YN YR ÐWTIt,

í. ,. YR UNDEB CYNULLEIDFAOL…

DYDD MERCRER..,

News
Cite
Share

DYDD MERCRER. Am 7 o'r gloch, cyfarfyddwyd mewn cyfeillach grefyddol,o dan lywyddiaeth y Parch. D. Richards, Caerphili. Yna darllenwyd papyr rhagorol ar y Miyieillach Grefyddol,' gan y Parch. J. H. Jones, Wern, Ystalyfera. Nis gallwn yn breaenol roddi y papyr gwerthtawr hwn o flaen ein darllenwyr, ond dyfynwn ychydig o hono. Dywedai Mr. Jones mai nid deddfu yr oeddym yma heddyw, ond fod rhai rhoolau y dymunai eu gweled mewn ymarferiad. 1 Prydlondeb. 2 Byrder. 3 Byw- iogrwydd. Amrywiaetb. Dywedai hefyd y gall y gyfeiljach fod yn ddyddorol heb fod yn adeiladol, ac y gall weithiau fod yn adeiladol heb fod ya ddyddorol. ondofolli weithiau nad oedd yn cyrhaedd yr un o'r ddau amcan yn y dyddiau hyn. Dywed- ai hefyd y dylid gochel ysbryd anfoddog-ysbryd ffolineb ac ysbryd disgyblu. 4 Awgrymai Mr. J., y dymunoldeb o gadw list pa mor fynych y byddo pob aelod yn rhoddi ei bresenoldeb yn y gyfeillach, a darllen y list yn y gyfeillach nos Sabbath unwaith hob chwe' mis. Barna hefyd y byddai yn well rhanu eglwysi mawrion yn wahanolddosbarthiadau a rhyw un neu ddau o ddynion cytrifol a galluog i ofalu am danynt. Creda Mr. J. hefyd mewn nodi adnod neu bwnc o athrawiaeth yn flaenorol fel pwnc y gyfeillach ddilynol, a byddai yn fuddiol treulio rhyw gymaint oamser ar edechreu ambell gyfeillach i holi. Wrty gwrs nid ydym yn credu fod yr uchod yn rhoddi cyfleiad o'r papyr rhagorol a gafwyd, ond gall fod o ryw wasanaeth er hyny hyd nes y ceir ef yo gyfan. Wedi hyny cyllwynodd y Parch. W. Evans Aberaeron, y Dr. Thomas, Pittsburgh ar Parch. Jones Gomer, i'r cyfarfod a chawsant dder- byniad croesawgar. Yna cafwyd ymddiddan ar y papyr yn y dref ganlynol:- ijr. H. E. Thomas a ddywedai ei fod wedi ei fagu yn y gyfeillacb. Yn nghyfeillach y plant, mewn cyfeillach gymysg, yn nghyfeillach y gymanfa, ond ni fu hyd heddyw yn nghyfeillach yr Undeb. Dy- wedai ei fod wedi bod yn ymddyddan ft Dr. Jacobus, yr esboniwr, ac yr oedd yn hyood awydd- us am wybod rhy wbeth am y gyfeillach grefyddol yn mysg y Cymry. I sicrhau cyfeillach dda, mae yn rhaid ymvtfneud Ilawe-r a Duw. Dywedai fod G-wyddsl mwy castiog nag arferol yn myned yr un pryd ag ef drosodd i'r Amerieu, ac yr oedd ganddo sofren ddrwg, yr hon fuyn geisio basio gyda phawb, ond nid oedd neb a'i derbyniai, ond pasia sofren dda yn America fel yma. Pasia erefydd iawn yn America. Dywedai eu bod yn cael ambell gyfeill- ach flaaus yn Pittsburgh. Y Parcb. R. W. Griffith, Bethel. Mae Mr. Evans wedi gofyn i mi gefnogi, ond nid wyf yn gwybod cefnogi beth. Ni chlywais Dr. Thomas yn cynyg dim byd. Oad mi gynygiaf i fod i bob un o honom fyned i'r seiat yn gyson y flwyddyn nesaf, a chefnogaf y cynygiad yna. Da oedd gonddo weled galw sylw at y gyfeillach. Mae eisteddfodwyr, eerddorion.difweatwyr.&c., yn galw aylwateu cymdeithasau, a dyma alw at y gyfeillach. Canmol- ai y papyr. Un peth grybwyllwyd oedd amser y gyfeillach. Sylwai fod amser yn bwysig. Fod rhai yn Uadd amser. Dylid dechreu mewn pryd. Hoffai syniad Mr. Samuel, Bethesda, mai awr ddylai y gyfeillach fod- Ond pan ddelai cawod o wlith, credai mewn bod yn hwy. Credai mewn aros ugain mynyd yn hwy er mwyn cael pwys yn rhagor o fenyn. Cred- ai mewn pwnc yn y gyfe Ilach. Yr oedd hen breg- ethwr o Fangor yn arfer d'od i Bethel pan oedd yn blentyn, a phob amser yn pregethu ar Lyfr y Caniad- au, clywodd ef yn dweyd mai pwnc, profiad, a disgybl- aeth, neu ftraining ddylai y gyfeillach fod. Pwnc i fyw, profiad i farw. Dylai y gyfeillach fod yn fagwr- tttth cymeriad crefyddol. Dr. J. Thomas, Liverpool, a alwai sylw at un sylw a wnaeth Mr. Jones yn ei bapyr yn nghylch dwyn hobbies Tgyfeillachau. Parch. W. Griffith, Caergybi. Teimlai yn anhawdd meddwl am eglwys heb gyfeillach., Cyfeillion a theulu yw yr eglwys, a rhaid iddynt gael cyfeillachu.1 Cyfeir- odd Mr. Jones at y 66 Psalm fel desgrifiad o'r gyfeill- iach, a chredai hefyd fod 104 Psalm yn ddesgrifiad pur dda. Credai y dylai arweinydd y gyfeillach fod wedi parotoi. Credai y gallai y cynllun canlynol fod yn fanteisiol:—1 Ar ol y cymundeb i'w threulio mewn gweddi. 2 Athrawiaethol. 3 YmarferoL 4 Profiadol. Dr. Thomas Rees. Cyfeiriodd Mr. Jones Jones, at amser dechreu y Gyfeillach Grefyddol. Ei hadfywio wnaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Dynion oer gyda chrefydd sydd bob amser yn esgeuluao y gyf- eillach. Rhoed un awgrym yn nghyloh cadw enwau. Dylid hefyd geisio rhwystro 4dynion annoeth i siarad. Eisieu cael cyfeillachau blasue-gormod o wellt yn lie gwair. Mr. R. Owen, Bethel, a gofiai gyda hyfryd- wch am hen gyfeillachau dedwydd gyda'r hen dad o Bethel. Mr. Morris Roberts, Tymawr, a anogai bawb i fod yn siriol yn y gyfeillach. Mr. Williams, Racine, America. Teimlai lawer o hyfrydwch yn y cyfarfod. Ni fu mewn cyfarfod cyffelyb erioed o'r blaen. Anog- ai i roddi y pethau mewn gweithrediod. Mr. Harris, Abertawe. Un o blant y gyfeillach ydoedd. Ai adref i anog y brodyr i fod yn fyr. Wedi hyny, darlledodd y Parch. 0. Evans y pro- ramme at y cyfarfod 10 o'r gioch, a therfynodd y Parch. Morgans, Pantycrugiau, trwy weddi.

■-í,!;^ TREBOR MAI WEDI MARW!

MYNYDDOG WEDI MA.RW!

; Jw: -I ■— —' DAU ENGLYN…