Hide Articles List

6 articles on this Page

Y FFESTINIOGIAID.

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. Daethum yn ol eto o'm taith ddwyreiniol, ac y maearnafofn mai pur aneffeithiol fu fy vmweliad a'r Tyrciaid eraicrhau telerau hed iwch rhyn4ddynt hwy a'r Rwssiaid; o herwydd aeth y Tyrciaid i ddechreu edliw i mi fod genyf ddigon o waith yn fy ngwlad a chyda'm cenedl fy hun, a bod gweith- rediadau mor ysgeler yn cael eu gwneud, ie, yn Nghymru, ag a wnawd gan un Mahometan erioed. Ac fel m<e cydwybod euog yn cyd-dystio & gwir- ionedd, diengais o'u gwydd mor fuan ag y gallais, ac ni bussai neb ya cael gwybod tv mod wedi bod yn nghyffiniau y Twrc o gwbl oni b'ai fod fy nghyfaill Ap Iorwerth wedi bod mor llipa ei dafod a chvhoeddi hyny ar ol derbvn fy Ilythyr od tiwrth gyrau mynydcloedd y Balkans. Ond wedi dyfod, e.mfyddais fod y pethau canlynol yn myned yn mlaen YD fy arJal. Nos Fawrth, y 24ain cynfisol, cefaia ddarlith ddy idorol. Y testuo ydoedd, 'Tri Chedyrn Cvmru,' sef y diweldar Barcbn John Eliaf, Christmas Evans. a Williams o'r Wern. Y darlithiwr ydoedd Mr. Thomas Hughes, Penymorfa, (gynt o Mach- ynlleth). Cafwyd cynulliad llaosog yn yr Assem- bly Room, darlith dda, traddodiad yn hynod o effeithiol. Cymerwyd y gadair gan Mr. R. Owens, Rhiw. Yr oedd elw y ddarlith yn cael ei gyflwyno i Moses Roberts, yr hwn a gollodd ei law yn Engine Lifio Coed yn Fourcrosses. Ciywaia fod y derbyn- iadan tua £ 15. Oriau Llafur.—Fel y gwyr llawer o'ch darllen- wyr, mai dyma yw pwoc y dydd y dyddiau hyn yn Ffestiniog, sef lleihad oriau llafur yr holl chwarelwyr. Tua phymthegnos yn ol, cynaliwyd cyfarfod cyffredinol, i'r dyben o dd'od i gyd- ddealltwriaeth yn nglyn a'r mesur, a phasiwyd yn y cyfarfod hwnw i gael dirprwyaeth o bob chwarel i ffurfio yn bwyllgo", er ceisio tynu allan gynllun sicr ac effeithiol i ddwyn yr hyn a fwriadant gael oddiamgylch yn y ffordd ddiogelaf a mwyaf didram- gwydd i'r meistriaid L'r gorucbwylwyr, yn nghyda'r gweithwyr eu hunain. Yr ydwyf yn deall fod rhai chwarelau wedi gwneud eu rhan yn y cyfeiriad yma, ond eraill heb wneuthur hyny eto. Nos Fawrth, ymgyfarfu y dynion a ddewiswyd yn y chwarelau sydd fwyaf addfed, ac hefyd, sydd yn teimlo mwyaf o angenrheidrwydd am hyn, gyda'u gilydd yn y British School, ond ni wnaethpwyd dim i bwrpas, ac ni wneir dim yn effeithiol cbwaith heb i'r holl weithwyr yn yr holl chwarelau dd'od i gyd- deimlo a chydweithredu, ac ethol dynion da, pwyll- og, ac ystyriol i'w cynrycbioli, ac i syrthio ar gyn. llun ag sydd yn debyg o gyrhaedd yr amcan. Ni threthwn chwi & gofod i edrych y fantais a'r an fantais all ddeilliaw o hyn pe gellid ei gael, liyd ryw adeg eto. Budd-gyngherdd-Nos Wener diweddaf, cynal- iwyd cycgherdd yn yr Assembly Room, er rhoddi ychydig gynorthwy i William Jones, Rhydygto, yr hwn sydd yn wael ei iechyd er's tair blynedd bell. ach. Yo absenoldeb y Parch. D. Roberts, Rhiw, lIywyddwyd. y gweithreHadau gan Mr. J. Grimtht Rhiw. Cymerwyd rhan arbenig ynddo gaa y GwaenydJ Brass Band. Dylem fod yn ddiolchgar i'r seindorf ardderchog bon am fod bob amser mor barod i gynorthwyo. Hefyd, dadganfrydyn feistr- olgar y darnau canlynol gan gor y Rhiw:—'Gwalia Wen,' 'Y Danchwa,' 'Moeswch i'r Ar^lwydd,' 'Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel.' Chwareuwyd ar yr Harmonium gan Mr. R, R. Owens. Dadganwyd unawdau (solos) gan Lewis Roberts (Llew Ystradau), W. Williams, Evan Jones, Dinas; Evan Jones, Llanrwst. Cyfarfod pregetltu.-Nos Wener a Sadwrn, yn nghyda'r Sul diweddaf, cynaliodd y Bedyddwyr eu eyfarfod blynyddol yn y capelau Soar a Seion; ond ddydd Sal, buont oil gyda'u gilydd yn yr Assembly Room. Pregethwyd yn y cyfarfod gan y gweinidogion canlynol: —Parchn. A. Williams, Dolbenmaen; John Thomas, Caerfyridin; Charles Davies, Le'rpwl, (gynt o Fangor).—Llwtdpab.

BETTWS-GWERFIL-GOCH.

UNDEB YR ANNIBYJVWYR CYMREIG.

CAN MOSES "~

CYMANFA ANNIBYNWYR MON.