Hide Articles List

3 articles on this Page

\ mm*

News
Cite
Share

mm* Y BEIRNIAD. GORPHENAF, 1877. Fel bob amser, felly y tro hwn eto, yr ydym yn cael yn y Beirniad ysgrifau o 'Werth a dyddordeb mawr. Anerchiad i Fyf- yrwyr Duwinyddol yw y peth oyntaf geir yma, a'r testun ydyw, "Tair laith y Groes." Ceir ar y decbreu sylwadau tarawgar lawer. Wrth fyned yn mlaen, sylwa yr ysgrifenydd fod dwy o'r tair ieithoedd hyn yn haeddu aylw myfyrwyr duwinyddol, mewn modd arbenig. Yna dygir wyth o ystyriaethau yn mlaen er cymhell i ymdrech gyda golwg ar hyn, sef i gyrhaedd gwybodaeth o'r Hebr. aes, a'r Groeg Beiblaidd. Mae yr latyr. iaethau, pa fodd bynag, rai o honynt, yn eithafol a dibwynt, megys pan yr honir fed y wybodaeth yma yn angenrheidiol er "bodd- had Duw," cyrhaedd "duwinyddiaeth ys- grythyrol," a sefydlogrwydd yn y gwirion- edd." A yr awdwr yn mhellach o'i le eto, pan y dywed mai "fel byn yr enill gweinidog ymddiried ei wrandawyr." Gall hyn fod yn help os bydd pethau eraill yn gyfartal. Ond dylasai yr awdwr gofio mai annhraethol mwy peth yn ngolwg cynulleidfa yw fod eu gweini- dog yn gallu siarad i bwrpas, ac yn medru rhoddi ambell floedd effeithiol nes siglo y lie, na'i fod yn gallu rhoi ateb cadarnhaol i'r cwestiwn "a fedri di Roeg1" Wedi y cyfan, y.sgrif ddyddorol yw hon, er fod yr awdwr yn mawredd ei sel dros fedru yr ieithoedd gwreiddiol, wedi cyfeiliorni ychydig ar air yn nghyflead rhai o'i brif osodiadau. Y mae yr ysgrif gyntaf ar hanes "Thomas Edward," y Naturiaethwr Ysgotaidd, yn ddifyrus iawn i'w darllen. Y mae yn seil- iedig ar gofiant a ysgrifenwyd iddo gan un o awduron mwyaf poblogaidd yr oes, sef Sara- uel Smiles. Ganwyd Thomas Edward yn Gosport, ger Portsmouth. Ysgotiad oedd ei dad, a gwehydd cotwm wrth ei alwedigaeth. Yn achos y rhyfel yn erbyn Napoleon y cyn- taf, gorfu arno ymuno a'r fyddin, a symud cryn lawer o le i Ie, yr un fath a milwyr yn gyffredin. Wedi iddi fyned yn heddweh, symudodd yn 01 i Aberdeen, ac yno y dech- reuodd Thomas Edward ymddadblygu, a rhoddi yr arwyddion cyniaf o'r enwogrwydd mawr oedd yn ei aros yn y dyfodol. Gall- wn addaw i ddarllenwyr ieuaine lawer iawn 0 foddhad yn nghwmni y Naturiaethwr enwod Thomas Edward. Yn yr ysgrif sydd yn dwyn y penawd, "Taith i'r Haul," ceir J dychymyg anturus ar waith, a llwydda yr awdwr yn rhyfedd i roddi i ni gipdrem ar fawredd a gogoniant creadigaeth Duw. Yn y Bryddest-gan sydd yn dwyn yr enw "Golygfeydd Brycheiniog," yr ydym yncyfar- fod a darnau grymus a swynol dros ben. Mae y llinellau cyntaf ynddi, yn ein dwyn ar unwaith i ddysgwyl cael yma rywbeth "o'r awen wir." Ebe y bardd yn brydlerth:- "O'm llety iach, yn own cynghanedd rydd, Hen Wyøg ddoleuog wrth ymdreiglo heibio; A phan oedd haul, teg ymerawdwr dydd, Uwch eirian gaer y dwyrain newydd ddringo; Cychwynais ar foreuol hyfryd hynt, Hyd uchel gopa'r Banau serth aruthrol, I fwyn ogleisio'm clust perorai'r gwynt, Alawon tyner, glwys, o froydd nefol. Yn eistedd wyt ar oraed i, gadarn, gref, Ardderchog fynydd ban—hen mewn blynyddau; Wyt dyat o bob chwyldroad dan y nef, A'r stormydd mawrion fn'n cynhyrfu'r oesau; Dy ben goronir gan y grug a'r brwyn, A blodau fyrdd a drwsia'th ruddiau rhychog; Dy ffyrdd orchuddir gan y mwswg mwyn, A'th dtaed a olchir gan afonydd troellog." Yn debyg i hon mae y Bryddest ar Ddy- chymyg," etc yn faith, ac yn cynnwys darn- au godidog iawn. Ar ol hyn, y prif bethau ydynt ysgrifau ar "Fawredd Trefn Iachawd- wriaeth," "Offeiriadaeth, ac Archoffeiriad- aeth Crist," a'r "Awyrgylch." Fel arfer, mae y Nodiadau ar Lyfrau, a'r Cofnodion Chwarterol yn dda iawn. 0 ran argraff- waith, mae y Beirniad yn awr yn rbagori braidd ar yr oil o'n Cyfnodolion Cymreig. Da genym ei weled yn cael ei droi allan mor hynod o lan a destlus. Boed ei lwyddiant yn eang a hir-barhaol.

©tgnotteb J&enetitJoU

Y LINDSAYS. ,--