Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CYNWYSIAD. I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Ar yr un diwrnod ag y clywsom om far- wolaeth Mr. Ward Hunt, daeth y newydd i'n clustiau o ymadawiad gwr hollol wahanol —John Frost, y Cbartist. Hwyrach y dy- lasem ddweyd, yr hwn a fu felly, oblegid yr oedd, ar adeg ei farwolaetb, y dyn a gondem- niwyd i farw am godi gwrthryfel yn erbyn ei Frenhines, yn dal comisiwn ei Mawrhydi fel ustus heddwcb. Bu unwaith yn ddyn pur hynod. Er o sefyllfa gymdeithasol digon da i fod yn ynad, eto, ymunodd &'r Chartists; a phan, mewn canlyn'ad i'w iaith anheyrngaro), y bygythiwyd eisymud oddiar y fainc, rhodd- odd her i Arglwydd John Russell (y pryd hwnw, yr Ysgrifenydd Cartrefol), yr hwn, ar unwaith, a dynodd ei enw ymaith. Tachwedd 4ydd, 1839, daeth y Chart sts, yn rhifo 20,000 dao flaenoriaeth Frost a Zephaniab Williams, i Casnewydd, Mynwy, a decbreuasant dori y tai. Taniodd y mil wyr i'w canol, a dychwel- wyd y tan gan y gwrtoryfelwyr, a lladdwyd amryw o bob ochr. Or diwedd, ymwahan- odd y Chartists, a daliwyd eu blacnoriaid. Cynaliwyd comisiwn neillduol i'w profi yn Mynwy, a phasiwyd dedfryd marwolaeth ar Frost, Williams, a Jones. 0 herwydd rbyw- beth neu gilydd, niweidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth am oes.