Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

FFESTINIOG.

AT MR. R. O. REES.

Hloffium,

ISARTMOMEAT!).

;' YR WYBREN NOSAWL. '' v

GWRAIG SARUG. 5 '"

DAU ENGLYN I'R ROBIN GOCH.

ODLAU COFFADWRIAETHOL ^

ENGLYN I'R WENOL.

DOWLAIS.

News
Cite
Share

aeth yn Dowlais oddiwrth yr adroddiad uchod. A diau y buasai y turn out dydd Llun yn llawer llu o oeach oni buasai fod Manager y gwaith wedi rhoddi rhybudd y byddai i bob un a gollai ei waith dydd Llun, gael ei stopio drwy'r wythnos. Ffei, ffei, onide? gwrthod rhyddid am un diwrnod i'r dosbarth goreu o'i weithwyr, sef y dosbarth crefyddol-y dosbarth sydd yn cadw y gwaith, pan y mae y dos- barth arall, y digrefydd, yn colli dyddiau gyda'r diodydd meddwol; ac eto, pan anfonwyd cais ato am ryddid i'r dosbarth crefyddol am un diwrnod, gwrthododd y cais gyda y rhybudd gorthrymus a nodwyd. Ond er ei waethaf ef, cafwyd gorym- daith ardderchog, un a gofir yn hir yn Dowlais, ac un yr wyf yn credu sydd wedi gadael argraff a dylanwad parhaol ar bawb yn y lie. Wedi gorphen gorymdeithio, aeth yr ysgolion i'w manau apwyntiedig—rhai i'r meusydd ae eraill i'r capeli, i fwynhau te a bara brith; a gellwch feddwl, Mr. Gol., fod pawb wedi gwneud cyf- iawnder a'r danteithion darparedig, ar ol bod yn lJerdded am ddwy awr drwy y lie. Yr oedd y plant dan bymtheg oed yn cael eu te am ddim, a phawb dros hYDY yn talu chwecheiniog yn mhob ysgol ond M. Mae eithriad i bob rheolonid oes? Felly y bu yn Dowlais y diwrnod hwnw; yr oedd yn rhaid i Shon Gorff gael bod yn eithriad i bawb yn y lie, drwy roddi y te am ddim i bawb a fyddai yn cerdd- ed gyda hwy y diwrnod hwn. Nid wyf yn gwybod betli amean yr Hen Gorff yn Hermon, Dowlais, yn gwneud hynyna. Un cyfrwys iawD yw efe, a diau fod ganddo ryw amean mewn golwg wrth wneud yr eithriad uchod i ysgolion eraill y dref. Bum yn toeddwl am ddau amean allasai fod ganddo. Y cyntaf oeddwn yn feddwl oedd hwn, sef ceisio ar- graffu ar feddwl trigolion y dref a'r wlad o gwmpas, fod y Methodistiaid yn Dowlais yn llawer mwy haelionus na'r enwadau eraill, ond bydded hysbys i Shon a phawb, mai nid am nad yw yr enwadau eraill yn llawn mor haelionus a'r Methodistiaid y darfu iddynt godi chwecheiniog yr un ar bawb dros bymtheg oed, ond am eu bod am ddysgu pawb a fedr i dalu am yr hyn y maent yn ei fwynhau. Amean arall oeddwn yn feddwl allasai fod ganddo oedd ceisio chwyddo nifer ei ysgol erbyn y diwrnod hwnw; ac yr wyf o'r farn mai hwna oedd ei amcan, gan mai eerdded gyda'r orymdaith oedd yr amod i gael y te am ddim. Trie teilwng o Shon Gorff ynte, Mr. Gol.? Shon yw Shon o liyd, a thebyg lawn mai Shon fydd efe mwyach. Maent yn dweyd mai peth anhawdd iawn yw cael gan hen geffyl i adael ei driciau. Llawn mor anhawdd a hyny yw cael gan yr Hen Gorff i adael ei driciau; an hyny, waeth rhoddi heibio ceisio ei ddiwygio, a'i thaflu i fyny yn bad job. Wedi gorphen yfed te a bwyta y bara brith, gorphenwyd y diwrnod gan y gwahano) ysgolion drwy gynal cyfarfod yn yr hwyr i adrodd, canu, ac areithio ar wahanol faterion, rhai yn yr awyr agor- ed ac eraill yn eu capeli. Cafwyd hin ddymunol, a threat ardderchog, ac yr tpyf yn meddwl yr hoffai pawb a'i mwynhaodd gael ei chyffelyb eto y flwyddyn nesaf; a chredwn y byddai yn fuddiol i gael ei bath bob blwyddyn, a yw dymuniad UN A FWYNHAODD EI HUN.