Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. MR. GOL, Gan nad ydwyf wedi aflonyddu ar.eich heddwch yn awr er's tro, hyderaf y caniatewch i mi ofod ijtechan o'r DYDD i wneud ychydig sylwadau ar y ■^featinogiaid. Ni ddym^inwn, er dim, ddweyd yr IIn gair fel ag i friwio teimladau yr un o honynt; ac eto i gyd, byddai yn well genyf i'r ychydig a ddy- ^edwyf ddeffro a chynhyrfu eu teimladau. i'w S^aelodion na chelu oddiwrthynt yr hyn sydd wir £ 01 danynt. Mae rhyw hen ddiareb yn dweyd fel Vn,—' Dweyd y gwir sydd dda bob amser, dweyd gwir digio llawer." Felly, gan fy mod yn rliwym 0 sefyll at y gwir, byddaf, yn ol y ddiareb ^ehod, yn rhwym o dynu gwg, a digio ami i un o'r ?°sbarth hwnw a elwir "Nhw." Dosbarth rhyfedd lawn ydyw y "Nhw" yma. Os y bydd rhywbeth yn SomedjI dyfod, neu os y try rhyw symudiad yn 8loto, neu gymdeithas yn fethiant, hwy, druain, gaiff holl fai—y "Nhw" byth a hefyd ydyw tad pob —gwna pob un ei fwch diaDgol ar y "Nhw." Vs ymresymir yn erbyn eu cyndynrWyjj^ 0 ymuno Undeb y Gweithwyr, ar 01 eu hymresymu i Slawdd, dywedant, Does. bai yn y byd arnom ni "Nhw" ydyw y drwg i gyd—pe buasai y "Nhw" debyg i ddynion, ymunasem ni oil ar unwaith Undeb." Y "Nhw" hefyd ydyw'r drwg ein bdd dosbarth o weithwyr yn cymeryd ein gorfodi i eithio deuddeg awr y dydd." Cyfaddefa pob f^eithiwr yn y chwarelau fod ein: hamser gweithio yn rhy hir; a saif i fyny mor ddifrifol yr "78 arno a chare? filldir,' a dywed gymaint piti na ddeuai y "Nhw" i'w cefnogi 1 ddeisebu eu eistrriaid am gael lleihau eu horiau llafur. Bellach, Of ia digon naturiot sydd yn ymgodiynmeddwl '*• v ■' r"'1 <■: y darllenydd ydyw, Pwy a feddylir wrth y "Nhw?' Wei, i fod yn onest, rhaid dweyd mai nyni ein hunain ydynt; ie, nyni. y Ffestinogiaid, ydynt y "Nhw." Rhag ein eywilydd yn cyndyn sefyll yn ffordd diwygiadau yr oes. Ceisiwn daflu yr holl fai ar y "Nhw." Glanhawn ein hunain, a phriodol- wn ein holl wendidau iddynt hwy, pryd, mewn gwirionedd, mai nyni ydynt. Anwyl gyfeillion, dylem gofio mai gwehilion cymdeithas sydd yo gwneud i fyny y "Nhw" yma bob amser; ac os dy- wedwn ni mai Did rhai 0 honynt ydym, y mae ein gweithredoedd yn ein condemnio. Gan hyny, gyd- weithwyr. gadewch i ni ymysgwyd o'r cyflwr poen- us ac adfydus yr ydym ynddo. Bydded fod genym fwy o ymddiried y naill yn y Ilail-na fyddeii i ni fod yn fradychwyr Judasaidd i'n gilydd; dyna, mewn gwirionedd, ydy w ein cymeriad yn bresenol. Ofer byth fydd i ni ddysgwyl diwygiad heb yn gyntaf ddiwygio ein hunain. Byth nae yn dra- gywydd ni chawn leihau ein horiau llafur tra y par- hawn fel yr ydym. Rhaid ein asio, rhaid ein cael yn fwy unol a'n gilydd. Yr ydym yn rhy anghymdeithasgar—yn rhy annhebyg i ddynion yn byw mewn gwlad efengyl. Edrycha ein brodyr chwarelyddol yn Arfon arnom fel dosbarth israddol i bob dosbarth arall o weithwyr, aid am nad ydym cystal gweithwyr a bwythau, yr edrychant mor ddiystyrllyd arnorr, oud am mai gwlaneni o bobl ydym — dim sefyll ynom gyda dim -rhyw greaduriaid ag y mae gwaseiddiwch wedi ei gyfrodeddu a'n holl weithredoedd. Yr ydym fel dosbarth yn ddigon llygadgraff i weled y dylem gael diwygiadau gyda llawer o bethau; ond y drwg ydyw, ein bod yn berffaith amddifad o'r stwff hwnw -gwroldeb a phenderfynolrwydd, yr hyn bethau sydd anhebgorol angenrheidiol cyn byth y cawn ein dymuniadau. Anwyl frojyr, y Bathesdiaid a'r Llanberisiaid, a fyddai yn ormod hyfdra gofyn am i rai o honoch ddyfod drosudd atom unwaith yn rhagor, er ceisio cyfanu ychydig arnom; mae ein sefyllfa yn druenus i'r eithaf, ac nid oes ynom allu i'w gwella. Yr ydym yn gruddfan o dan feithder ein horiau llafur—yr ydym oil gyda'n gilydd yn cydolygu y dylid eu lleihau-ac yr ydym yn rhai go lew fel cynllunwyr, ond yn amddifad o'r dewrder hwnw sydd yn ofynol i wynebu y goludog. Yr ydym yn ddigon dewr a gwrol pan yn y twll gyda'n gwaith; ond unwaith yr elom i wyddfod rhai o'n huwehafiaid, yr ydym yn colli ein holl ddewrder —dechreua ein garau grynu yn nghyd; a chan y byddwn mor ddychrynedig yn yr olwg danbeidiawl a dysgleiriawl arwynebpryd yr un y byddwn yn dweyd wrtho ein cwyn, dywedwn na ddywedasom ac na wnaethom ddim oil, ond mai y "Nhw" sydd yn codi row, ac yn unol a'r cyffesiad yna, rhydd ei arglwyddiaeth gynghor, yn ol pa un y dywed y bydd yn rhaid gweithredu; a rhag ofn mai ein troi i ffwrdd bob enaid walltog, byw, bedyddiol, a gawn, rhwydd gydsyniwn a'r gorchymyn. Cyn terfynu, dymunwn argraffu ar feddwl holl ddarllenwyr y DYDD nlai nid ar ein goruchwylwyr nac ar ein meistri chwaith y gorwedd yr oil o'r bai ein bod mor debyg i ddallhuanod yn Ffestiniog. Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai iddynt fod—o'r hyn lleiaf, nid ydynt yn ddim gwaeth nag ydoedd eiddo chwar- elwyr Arfon. Cymaint sydd arnom ni yn Ffestiniog ei eisieu ydyw, i rywrai neu rywun drugarhau wrthym, os y gwyr beth ydyw y feddyginiaeth oreu at wella yr hyn y soniwyd am dano. Gwyddom i raddau pa beth sydd yn eisiau. Y cwestiwn ydyw, pa fodd i'w gael. Da chw1., ddarllenwyr goleuedig y DYDD, tosturiweh wrthym cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar arnom. Yr eiddoch, &c., YSBRYD.

AT MR. R. O. REES.

Hloffium,

ISARTMOMEAT!).

;' YR WYBREN NOSAWL. '' v

GWRAIG SARUG. 5 '"

DAU ENGLYN I'R ROBIN GOCH.

ODLAU COFFADWRIAETHOL ^

ENGLYN I'R WENOL.

DOWLAIS.