Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

• Y BOREU.

News
Cite
Share

• Y BOREU. MiL GOL. Credaf fod y rhan luosocaf o ddarllenwyr y DYDD yh gwybod trwy brofiad mai cyfaill hoff a chy- mwynasgar yw y boreu i'r iach a'r gweithgar. Ond dichon y bydd yn eithaf peth crybwyll y ffaith hon i ami on o honynt. Y mae yr iach a'r gweith- iwr yn arfer rhoddi croesawiad prydlon i'r boreu; o ganlyniad, derbyniant anrbegion lluosog a gwerth- fawr ganddo, sef aur i'w Ilogellau. iechyd i'w cyrff, a synwyr i'w peaau) a hawl i adael eu gorchwylion yn dangnefeddos cyn i gysgodau yr hwyr eu dal. Ac aid oes neb yn gallu byw yn gysurus, a dilyn ffordd onest, ac esgeuluso y boreu. A dywedir i mi fod beirdd a llenorion blaenaf yr oesau yn arfer rhoddi croesawiad cynes a gwastadol i'r boreu, a'i fod yn adeg nodedig o fanteisiol i noddi awen ac athrylith, pryd y mae y côr asgellog yn llanw yr awyrgylch a miwsig eu cathlau oddiar orielau y llwyn, a phob blodeuyn a glaswelltyn wedi eu coroni a pherlau prydferthach a dysgleiriach nag a welwyd ar ben yr un brenin daestrol erioed, a'r nivrl ysnodenaidd yn araf ddringo ar ysgwyddau'yr awel falmaidd i lethrau'r bryniau a'r creigiau ysgythrog; mewn gair, pan y mae holl anian yn edrych yn llawen ar ei dychweliad allan o freichiau duon y nos. Y mae colli y boreu yn golled anmhrisiadwy, yn enwedig yn miseedd y gwanwyn a'r baf. Ond er mor ddymunol a hael yw y boreu, un o elynion penaf y diog ydyw; nid yw byth am ei weled na chlywed soa am dano. 0 ganlyniad, ceidw y boreu e?' holl ragorfeintiau yn mhell o'i gyrhaedd ef, ni chaiff fwynhau yr un o bonynt. Ond cofier, y mae i'r diog ei gyfaill, a'r gwely yw hwnw. Troa ynddo fet drws yn troi ar ei golyn, a derbynia an- rhegion uuosog ganddo, sef llogell lom, pen gwag, gwyneb^lwyd. cymeriad tyllog, a chorff aflach; ac er nad yw yn hoffi yr anrhegion hyn, yn ei wely y myn fad. Torodd y wawr, yn ei wely y mae ef; cododd jyr haul. a'r dillad dros ei ben y mae ef; can a yradar, plethu dwylaw i gysgu y mae ef; y mae ol^ynion ffactories a melinau yn troi ar eu pegynau'< er's oriau, ychydig gysgu ac ychydig hfipian -^sr ei ddymuniad annheilwng ef eto. Y mae gojpaod o lewod yn ei ystafel) wely. iddo son am godi Y mae y neb aydd yn gwisgo y cymeriaa "hwn mewn gwisg druenus o hagr. Y mae diogi yn difaholl gysur a defnyddioldeb dyn. Yr wyf yn adnabod amryw yn yr ardal hon sydd yn dilyn ,yr arferiad wrthun o gysgu yn hit yn y boreu,, pi rai sydd yn eithaf i'w hadnabod, gan eu bod ar olpawb ond hwy eu hunain gyda'u gorchwyl- ion, ac yri f wy amddifad o wybodaeth na'r cyffredin o lawer; braidd y maent o flaen yr anifeiliaid afres- ymol. Sid oes ganddynt amser i ddarllen na gWeddio:' treuliant eu horiau hamddenol yn eu gwelyau fel meirwon. Gresyn na cha'i llyfrwerth- wyr eu gwneud yn hysbys o honynt, gael iddynt ochelyd rhag galw heibio i'w tai, oblegid ni wydd- ant pa betb mae pobl yn wneud allyfrau. Ni bu yr un newyddiadur erioed yn eu pabell, os na ddygwydctodd y masnachwr ei gymeryd i lapio snuff neu fyglys iddynt. Ni wyddant ddim am hanes y byd masnachol na chrefyddol. Byddent yn well dynion o lawer pe cyfodent: deirawr yn gynt bob boreu i ddarllen y DYDD a llyfrau da eraiU. Terfynaf, gan byderu codi awydd yn y cysgadur- iaid a nodwyd i newia eu ffasiwn. Ya wyf, yn caru lies pawb, MOSES JONES.

JOHN JONES A GENERALS "Y DYDD."

AT ISOMEBODY'O FAWDDWY.

BETH MAE "NHW" YN EI DDWEYD.

AT JOHN JONES ETO.

DOWLAIS.