Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

LLITHIAU WALIS PUW

CAERFYRDDIN

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CAERFYRDDIN y bwriadwn ddweyd gair am dano. Ond y mae yn awr yn myned yn hen beth. Cafwyd yno bwyllgor lluosog-y lluosocaf am a wn i a welwyd erioed. Kilsby yn y gadair. Yr ocddym yn falch iawn o gael y fraint o weled a chymdeithasu a Dr. Vance Smith. Diamheu genym y bydd dytodiad y gwr hwn yn gaffaeliad Did yn unig i'r sefydliad, ond hefyd i'r dref yn gyffredinol. Cafwyd pwyll- gor rhagorol. Y mae yn dda genym feddwl fod y coleg uchod yn myned ar gynydd yn gyflym. Parhaed felly yw ein dymuniad. Derbyniwyd y pwyllgor diweddaf amryw o fyfyrwyr, y rhai, ni a obeithiwn, a fydd nid yn unig yn anrhydedd i'r Coleg, ond hefyd yn weinidogion da i lesu Grist. Buasai yn dda genyf allu dweyd ychwaneg am y pethau uchod, ond y mae hi yn awr wedi myned braidd (ys dywedai yr hen dad o Ddolgellau), yn rhy ddiweddar, ac nid oes yn awr ond eu gadael ar hyna. Yr oedd dau neu dri o bethau y buaswn yn dymuno dweyd gair, a dim ond gair, am danynt yr wythnos hon. 1. Araeth Mr. Henry Richard, A.S., yn y Senedd nos Lun diweddaf, ar y Bill Addysg. Y mae yn wir mai colli wnaeth; ond er hyny, yr oeddym yn teimlo yn falch o'r brotest yn erbyn Bill Lord Sandon. Fe ddywedodd rai pethau yr oedd yn rhaid eu bod fel brath yn myned i galon llawer o'r rhai oedd yn gwrandp arno. Dylem deimlo yn falch o hono fel cenedl. Rhodded yr Arglwydd iddo ddyddiau meithion i wasanaethu ei wlad ac achos Rhyddfrydiaeth. Dymunol fuasai genym, feallai, roddi crynhodeb o'r araeth, ond y mae hyny allan o'r cwestiwn ar hyn o bryd; 2. Y mae nhw yn dweyd nad rhyw unol iawn ydynt wedi bod yn y cabinet y dyddiau a basiodd. Yn sicr, nid yw hyn yn aVwydd er daioni i'r weinyddiaeth. Gwell i ddyn gael pawb bron yn elynion iddo na thylwyth ei dy. Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, saif hi ddim. Oymered Disraeli ry- budd. Y mae amryw bethau wedi dygwydd yn y dyddiau a basiodd sydd yn profi mai nid digwmwl ydyw awyrgylch ei weinyddiaeth ef. A ydyw yn ddigon o ddyn i gymeryd rhy- budd, tybed ? 3. Peth arall a roddodd foddlonrwydd i mi, ac ysgafnhad mawr i'm calon, oedd darllen heddyw (ddydd Sadwrn), hanes y ddirprwy- aeth a aeth ddoe at Lord Derby, gyda golwg ar ein perthynas ni a'r dwyrain. Yr oedd araeth Derby i ni fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Cymysglyd iawn ymaepethau yn ymddangos ar hyn o bryd; ond diolch am ddyn o arafwch a chymedroldeb Derby mor agos i'r llyw. Gobeithio na rydd ef ddim i fyny i Disraeli. Y mae gan y wlad ymddir- iedaeth yn Derby. Yr oeddwn yn teimlo yn falch ei fod wedi cyfeirio at y Berlin note, a mynediad ein llynges i Besika Bay. Diam- heu genym y bydd genych hanes manwl am y ddirprwyaeth, felly, nid yw o un budd i ni ychwanegu. Y mae hi yn rhy dwym i ddim yn awr bron. Y mae hysbysiadau yn cyr- haeddyd yma am amryw yn syrthio dan y tywydd. Byddwch wych oil. s „

Y RHYFEL.

FFRWYDRIAD DYCHRYNLLYD. -N'

DR. REES, ABERTAWE, WEDI CYRHAEDD…

CWMORTHIN, FFESTINIOG.

[No title]

A OES PERYGL?