Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

LLITHIAU WALIS PUW

CAERFYRDDIN

Y RHYFEL.

FFRWYDRIAD DYCHRYNLLYD. -N'

DR. REES, ABERTAWE, WEDI CYRHAEDD…

CWMORTHIN, FFESTINIOG.

[No title]

A OES PERYGL?

News
Cite
Share

nid oedd Arglwydd Derby yn gweled un j perygl i ryfel Ewropaidd dori allan. J Nid oedd Arglwydd Derby yr un farn a'r bobl hyny a ddywedant nad oes dim a fynom a'r Dwyrain, ac y dylem dori pob cytundeb, a gadael i bethau fyned yn mlaen fel yr elont. Nid oedd am wthio yr egwyddor o beidio ymyraeth i eithafion. Pe gwneid hyny, gadewid i faterion rhwng gwahanol bleidiau gael eu penderfynu gan wledydd nad ydynt wedi cyrhaedd y safon briodol mewn gw&r- eiddiad i ymgymeryd a hyny; a phe byddai i Brydain beidio ymyraeth o gwbl, byddai yma un llais yn llai o blaid heddwch. Gwnaeth Prydain ei goreu i atal y rhyfel hwn rhag tori allan, a methodd, a gwna eto yr hyn a all i'w gadw o fewn terfynan Ymer- odraeth Twrci. Ond ni feddyliwyd am ymyr- aeth rhwng Twrci a'i deiliaid gwrthryfelgar, a gwna y llywodraeth ei goreu i atal eraill rhag gwneud hefyd. Os ydyw Ymerodraeth Twrci mewn cyflwr o ddarfodedigaeth o herwydd achosion mewnol, ni bydd cynorthwy allanol yn unig yn un feddyginiaeth. Y peth mwyaf ellir ofyn i ni ydyw edrych ei bod yn cael chwareu teg. Ymgymerasom, mae'n wir, ugain mlynedd yn ol, a rhoddi sicrwydd i'r "Dyn Olaf" rhag cael ei lofruddio; ond nid ydym yn rhwymedig i'w sicrhau rhag hunan- laddiad ac afiechyd. Dyna ydyw bwriad y Llywodraeth-peidio ymyraeth, gwneud ei goreu rhag i eraill wneud hyny, a chymeryd mantais ar y cyfle cyntaf i ddwyn y rhyfel presenol i derfyniad heddychol. Bydd yn rhyddhad mawr i'r wlad ddeall, nid yn unig nad oes perygl i Brydain fyned i'r cweryl presenol, ond fod pobpeth sydd yn y golwg yn bresenol yn dangos nad oes un perygl i'r Galluoedd eraill gyhoeddi rhyfel yn bresenol. Nid oes genym ond gobeithio, a dymuo am arweiniad y Nefoedd ar yr holl ymdrafodaethau a agorir ar derfyn- iad y rhyfel presenol. Bydd hwn eto yn gyfwng pwysig, pryd y byddys yn pender- fynu beth a wneir yn y dyfodol a'r rhan < hon o Ymerodraeth Twrci; ac nid oes genym Un awgrym oddiwrth ein Llywodraeth gyda sjolwg ar ei chynllun y pryd hAw; ond y Quae genym berffaith hyder yn Arglwydd Derby y bydd iddo wneud pobpeth sydd yn ei allu i atal rhyfel. Digon i ni, ar hyn o bryd, ydyw deall tod Prydain yn berffaith glir o'r eweryl presenol, ac nad oes perygl i heddwch Ewrop gael ei aflonyddu ar hyn o bryd.