Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
LLITHIAU WALIS PUW
News
Cite
Share
LLITHIAU WALIS PUW LXV. ■' MR. GOL. Y mae cryn amser wedi myned heibio er Pan yr ysgrifenais air atoch; ond er hyny, na feddyliwch fy mod wedi eich hanghofio. Grinder amser a gorch wylion eraill a'mlludd- lasant i ysgrifenu atoch yn fwy cyson. Ac j*id oes genyf ond ychydig o amser i ysgrifenu ^jth heddyw, ond yr wyf am wneud, bydded hi mor fer ag y bo hi, er mwyn eich hysbysu fy mod ar dir y byw, ac yn teimlo yn iach, Cryf, a dedwydd, ac nid peth byehan yw hyn- yna. Yr oedd lláwer o bethau yr oeddwn yn bwriadu anfon i chwi lithiau arnynt, ond y tnae hi yn awr wedi myned yn rhy ddiweddar; ond er hyny, enwaf i chwi un neu ddau o'r pethau y bwriad wn ysgrifenu arnynt. Dyna 1 ddechreu, cyfarfod y JUBILI YN NGHAPEL YR ERW, 5eUan, yr 1 wn sydd o dan ofal y Parch. T. ■Thomas, Llanfaircludogau. Y mae y cyfeill- yn y He uchod wedi gweithio yn gampus. ^afwyd yno gyfarfodydd rhagorol; a theimlem fod y brawd Thomas yn esgob ar yr holl wlad mewn parch ac anrhydedd mawr. Dymunem iddo ef a Mrs. Thomas ddyddiau meithion, a bendith Duw fo yn orphwysedig arnynt hwy a'u plant anwyl. Heblaw yr uchod, dyna bwyllgor Coleg
CAERFYRDDIN
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CAERFYRDDIN y bwriadwn ddweyd gair am dano. Ond y mae yn awr yn myned yn hen beth. Cafwyd yno bwyllgor lluosog-y lluosocaf am a wn i a welwyd erioed. Kilsby yn y gadair. Yr ocddym yn falch iawn o gael y fraint o weled a chymdeithasu a Dr. Vance Smith. Diamheu genym y bydd dytodiad y gwr hwn yn gaffaeliad Did yn unig i'r sefydliad, ond hefyd i'r dref yn gyffredinol. Cafwyd pwyll- gor rhagorol. Y mae yn dda genym feddwl fod y coleg uchod yn myned ar gynydd yn gyflym. Parhaed felly yw ein dymuniad. Derbyniwyd y pwyllgor diweddaf amryw o fyfyrwyr, y rhai, ni a obeithiwn, a fydd nid yn unig yn anrhydedd i'r Coleg, ond hefyd yn weinidogion da i lesu Grist. Buasai yn dda genyf allu dweyd ychwaneg am y pethau uchod, ond y mae hi yn awr wedi myned braidd (ys dywedai yr hen dad o Ddolgellau), yn rhy ddiweddar, ac nid oes yn awr ond eu gadael ar hyna. Yr oedd dau neu dri o bethau y buaswn yn dymuno dweyd gair, a dim ond gair, am danynt yr wythnos hon. 1. Araeth Mr. Henry Richard, A.S., yn y Senedd nos Lun diweddaf, ar y Bill Addysg. Y mae yn wir mai colli wnaeth; ond er hyny, yr oeddym yn teimlo yn falch o'r brotest yn erbyn Bill Lord Sandon. Fe ddywedodd rai pethau yr oedd yn rhaid eu bod fel brath yn myned i galon llawer o'r rhai oedd yn gwrandp arno. Dylem deimlo yn falch o hono fel cenedl. Rhodded yr Arglwydd iddo ddyddiau meithion i wasanaethu ei wlad ac achos Rhyddfrydiaeth. Dymunol fuasai genym, feallai, roddi crynhodeb o'r araeth, ond y mae hyny allan o'r cwestiwn ar hyn o bryd; 2. Y mae nhw yn dweyd nad rhyw unol iawn ydynt wedi bod yn y cabinet y dyddiau a basiodd. Yn sicr, nid yw hyn yn aVwydd er daioni i'r weinyddiaeth. Gwell i ddyn gael pawb bron yn elynion iddo na thylwyth ei dy. Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, saif hi ddim. Oymered Disraeli ry- budd. Y mae amryw bethau wedi dygwydd yn y dyddiau a basiodd sydd yn profi mai nid digwmwl ydyw awyrgylch ei weinyddiaeth ef. A ydyw yn ddigon o ddyn i gymeryd rhy- budd, tybed ? 3. Peth arall a roddodd foddlonrwydd i mi, ac ysgafnhad mawr i'm calon, oedd darllen heddyw (ddydd Sadwrn), hanes y ddirprwy- aeth a aeth ddoe at Lord Derby, gyda golwg ar ein perthynas ni a'r dwyrain. Yr oedd araeth Derby i ni fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Cymysglyd iawn ymaepethau yn ymddangos ar hyn o bryd; ond diolch am ddyn o arafwch a chymedroldeb Derby mor agos i'r llyw. Gobeithio na rydd ef ddim i fyny i Disraeli. Y mae gan y wlad ymddir- iedaeth yn Derby. Yr oeddwn yn teimlo yn falch ei fod wedi cyfeirio at y Berlin note, a mynediad ein llynges i Besika Bay. Diam- heu genym y bydd genych hanes manwl am y ddirprwyaeth, felly, nid yw o un budd i ni ychwanegu. Y mae hi yn rhy dwym i ddim yn awr bron. Y mae hysbysiadau yn cyr- haeddyd yma am amryw yn syrthio dan y tywydd. Byddwch wych oil. s „
Y RHYFEL.
News
Cite
Share
Y RHYFEL. Ychydig, os dim, a gymerodd le yr wythnos ddi- weddaf ar faes y gwaed. Y mae yn amlwg erbyn hyn fod Servia wedi camgymeryd y nerth oedd ganddi i'w wrthwynebu, ac yn lie ymosod ar safle- oedd y Tyrciaid, bydd yn llawn digon o waith iddi amddiffyn ei therfynau ei hun rhag y gelyn. Oddi- wrth awdurdodau bydiiinoedd Twrci, ceir adrodd- iadau am ysgarmesau wedi troi yn fuddugoliaethus iddyni hwy; ond dywed adroddiadau Servia mai hwy oeddYDt y gorchfygwyr. Fodd bynag, Jln- ddengys fod y ddwy ochr yn ymbarotoi gogyfer a brwydr fawr. Blino y darllenydd fyddai rhoddi y gwahanol adrodiadau, oblegid nid ydynt oil ond pentwr o adroddiadau anwireddus, wedi eu dyfeisio i ateb dybenion neillduol. Y mae gohebydd y Daily News wedi bod yn ym- ddyddan a'r Tywysog Millan. Dywed ei bod yn debyg o ran pryd a gwedd, a llun ei gorff yn debyg i'r Tywysog Napoleon. Dywedodd y Tywysog wrtho ei fod yn ymladd dros i'r Tyrciaid fyned ymaith o Bosnia a Herzegovina, ac na bydd roddi ei gleddyf yn y wain hyd oni chwblheir hyny. Adroddir am weithrediadau dychrynllyd o eiddo y Tyrciaid yn Bosnia. Llosgant bentrefl yn mbob eyfeiriad, lladdanc a darniant bawb y gosodant eu dwylaw arnynt; a thaflant blant bychain i fyny i fyny i gael eu dal a blaen ea bidogau.
FFRWYDRIAD DYCHRYNLLYD. -N'
News
Cite
Share
FFRWYDRIAD DYCHRYN- LLYD. -N '< ttsiiil 36 WEDI EU LLADD. n wall Tra yr oedd y rhyfel-long newydd, "Thunderer" yn cael ei phrofi yn Stokes Bay, dydd Gwener, ond cyn iddi fod dan agerdd am lawn deng mynyd dyma y berwedydd yn ffrwydro, gan ladd deg ar hugain yn y fan, a chlwyfo cymaint a hyny o bersonau, ac y mae chwech eraill wedi marw er hyny, yn gwneud y nifer yn 36; ac y mae yn ofnus na ddaw llawer o'r clwyfedigion eraill byth i fyny. Y inaa y Frenhines wedi anfon ei meddyg ei hun i weini ar y clwyfedigion, gyda chan' punt at drysorfa y dyoddefwyr, yr hon sydd eisoes yn £ 840. Y mae gwneuthurwyr y berwedydd wedi tanysgrifio £500. Cleddir deg ar hugain o honynt heddyw (dydd Mercher) ar unwaith yn mynwent Haslar, Portsmouth. -;Y
DR. REES, ABERTAWE, WEDI CYRHAEDD…
News
Cite
Share
DR. REES, ABERTAWE, WEDI CYRHAEDD ADREF. Da genym hysbysu ein darllenwyr fod Dr. Rees wedi cyrhaedd yn ddyogel drosodd o America. Glaniodd yn Liverpool ddydd Llun, a chyrhaeddodd Abertawe ddydd Mawrth. Yr oedd y Parchn. B. Williams, Canaan, a Roberts, Castellnedd, yn nghyda lluaws mfawr o gyfeillion o Liverpool, wedi troi allan i'w gyfarfod, ac yn ei ddysgwyl o'r Agerlong. Y nos Sul blaenorol, yr oedd Eglwys y Tabernacl wedi pasio penderfyniad gyda theimlad dwys, i'r pwrpas fod Mr. Richard Jones, un o'r diaconiaid hynaf, i gyfarfod Dr. Rees, a chyflwyno iddo y myn- egiad o'u cydymdeimlad ag ef yn wyneb ei adfyd presenol, yn y ffordd a welai ef yn oreu. Mae y Doctor yn iach, ond yn drallodus iawn ei deimladau. Yr Arglwydd a fyddo yn dda wrtho.
CWMORTHIN, FFESTINIOG.
News
Cite
Share
CWMORTHIN, FFESTINIOG. Damwain.-Cyfarfyddodd William Jones, Traws- fynydd, a damwain ddifrifol iawn yn y lie unhod prydnawn dydd Iau, y 13 cyfisol, trwy dori ei glun. Tra yn cyflawni ei orchwyl yn y rhaffar frest y graig, yn ddirybudd, llithrodd darnau o'r graig is- law iddo, gan ei daro, nes ei niweidio i'r graddau a nodwyd.—Y« ERYR GLAS.
[No title]
News
Cite
Share
Y mddengys fod yr Indiaid sydd yn blino yr Americaniaid yn llawer cryfach nag y meddylid. Q wrthwynebwyd y Cadfridog Crook gyda deuddeg cant o wyr, g^n bedair A o wyr, gan bedair mil o Indiaid, y rhai cedd- ynt newydd orchfygu y Cadfridog Custor. Gwrthododd Crook ei gwyneb mewn brwydr, hyd oni ehaffai adgyfnerthiad, fel ag i roddi ein ergyd derfynol ac effefthiol i'w pranciau,
A OES PERYGL?
News
Cite
Share
nid oedd Arglwydd Derby yn gweled un j perygl i ryfel Ewropaidd dori allan. J Nid oedd Arglwydd Derby yr un farn a'r bobl hyny a ddywedant nad oes dim a fynom a'r Dwyrain, ac y dylem dori pob cytundeb, a gadael i bethau fyned yn mlaen fel yr elont. Nid oedd am wthio yr egwyddor o beidio ymyraeth i eithafion. Pe gwneid hyny, gadewid i faterion rhwng gwahanol bleidiau gael eu penderfynu gan wledydd nad ydynt wedi cyrhaedd y safon briodol mewn gw&r- eiddiad i ymgymeryd a hyny; a phe byddai i Brydain beidio ymyraeth o gwbl, byddai yma un llais yn llai o blaid heddwch. Gwnaeth Prydain ei goreu i atal y rhyfel hwn rhag tori allan, a methodd, a gwna eto yr hyn a all i'w gadw o fewn terfynan Ymer- odraeth Twrci. Ond ni feddyliwyd am ymyr- aeth rhwng Twrci a'i deiliaid gwrthryfelgar, a gwna y llywodraeth ei goreu i atal eraill rhag gwneud hefyd. Os ydyw Ymerodraeth Twrci mewn cyflwr o ddarfodedigaeth o herwydd achosion mewnol, ni bydd cynorthwy allanol yn unig yn un feddyginiaeth. Y peth mwyaf ellir ofyn i ni ydyw edrych ei bod yn cael chwareu teg. Ymgymerasom, mae'n wir, ugain mlynedd yn ol, a rhoddi sicrwydd i'r "Dyn Olaf" rhag cael ei lofruddio; ond nid ydym yn rhwymedig i'w sicrhau rhag hunan- laddiad ac afiechyd. Dyna ydyw bwriad y Llywodraeth-peidio ymyraeth, gwneud ei goreu rhag i eraill wneud hyny, a chymeryd mantais ar y cyfle cyntaf i ddwyn y rhyfel presenol i derfyniad heddychol. Bydd yn rhyddhad mawr i'r wlad ddeall, nid yn unig nad oes perygl i Brydain fyned i'r cweryl presenol, ond fod pobpeth sydd yn y golwg yn bresenol yn dangos nad oes un perygl i'r Galluoedd eraill gyhoeddi rhyfel yn bresenol. Nid oes genym ond gobeithio, a dymuo am arweiniad y Nefoedd ar yr holl ymdrafodaethau a agorir ar derfyn- iad y rhyfel presenol. Bydd hwn eto yn gyfwng pwysig, pryd y byddys yn pender- fynu beth a wneir yn y dyfodol a'r rhan < hon o Ymerodraeth Twrci; ac nid oes genym Un awgrym oddiwrth ein Llywodraeth gyda sjolwg ar ei chynllun y pryd hAw; ond y Quae genym berffaith hyder yn Arglwydd Derby y bydd iddo wneud pobpeth sydd yn ei allu i atal rhyfel. Digon i ni, ar hyn o bryd, ydyw deall tod Prydain yn berffaith glir o'r eweryl presenol, ac nad oes perygl i heddwch Ewrop gael ei aflonyddu ar hyn o bryd.