Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
CAMBRIAN RAilWAYS. Tourist Arrangements, 1876. FIRST, Second, and Third Class Tourist Tickets, available for five months, will be issued from June 1st to 31st October, 1876. For particulars, see Time Table and Pro- grammes issued by the Company. HENRY CATTLE, TRAFFIC MANAGER. Traffic Managers' Office, May, 1876. JOHN HUGHES, Printer & Stationer, Barmouth. Orders received for Printing & for Welsh & English Periodicals. MANOR SCHOOL, TARVIN, NEAR CHESTER, WILL reopen 24 July. References to Indep- endent Ministers. G. Jones, M.A., Head Master, YN EISIEU XiNGINE DRIVER AT BEIRIANT -i-J SEFYDLOQ-. Gwaith parhaus. Rhoddir y flaenoriaeth'i wr priod. Rhaid i'r ymgeisydd fod yn sobr, ac o gymeriad da. Eower person neu bersonau i ymofyn a hwy. Ymofyner trwy lythyr, gan hysbysu yr oed a'r gyflog, a'r Meistri JONES & GRIFFIEHS, Merchants, Aberdovey. PREGETHAU J. R., Rhif I., GyJ. II., Pris Is., I'w cael -o SWYDDFA Y DYDD, Dolgellau. T^YMUNA y PARCH. J. LEWIS, BIR- JJ Mils GHAM, ar 'w gyfeillion gyfeirio eu llythyrau ato; o hyn allan fel y canlyn:— Penarth House, Frederick Road, Ashton Park, Birmingham. TO DRESSMAKERS. WANTED at Dolgelley one or two assistants as improvers. Apply by letter to Z," Post Office, Dolgelley. „ AIL-ARGRAFFIAD. COFIANT y diweddar Barch. C. JONES, Dol- gellau, (Hen Olygydd y Dysgedydd), gyda darlun, gan y Parch. R. Thomas, Bala. Wedi ei rwymo yn hardd, a'i oreuro, a'i lythyrenu, pris 2s. 6c. Cynwysa wahanol benodau ar neillduolion ei gymeriad gan Dr. Rees, Le rpwl; J. Thomas; M. D. JonM; ydiweddar Caledfryn; W. Ambrose; D. M Davies, ac amryw ysgrifenwyr eraill. YN BAROD GWEITHIAU EMRYS, ac yn gorphen y gwaith Rhif 8. Pris Is. GEIRIADUR, Rhif 17. ESBONIAD CYFLAWN, Rhif 18. git ein arofjtfbtogr, IOAN LLTFNW T Diolch yn fawr i chwi, a bydi yr hyn a gynygiwch bob amser yn dderbyniol. Pbndrefwr.1-Mynwch silliadar da, as astudiwch ef. ac yna tireuliwcb awr bob dydd am flwyddyn uwchben Gramadeg Cymreig, a gellir dysgwyl y daw rhywbeth 0 honoch fel cyfansoddwr arol I hyny. Drwy ymdrech y mae rdagori. 1 AT Y BEIRDD. OHYN allan, diolchwn am i'r Beirdd gyfeirio ue cynyrchion i'r DTDD fel y canlyn: Rev. D. C. Harris (Caeronwy), Colwyn, Conway„ I
A OES PERYGL?
News
Cite
Share
A OES PERYGL? YR ydym, erbyn heddyw, wedi cael ateb nacaol yn swyddogol i'r cwestiwn hwn gan un o weinidogion pwysicaf ein teyrnas, ac un o'r dynion m wyaf craft a galluog a fedd ein gwlad, sef Arglwydd Derby, yr Ysgrifen- ydd Tramor. Dydd Gwener, bu dirprwyaeth ddylanwadol a 'lluosog iawn yn cyflwyno deiseb i Arglwydd Derby ar y cwestiwn Dwyreiniol, yr hon osodai allan mai dymun- iad y deiliaid ydyw i Brydain beidio ymyr- aeth o gwbl yn y cweryl sydd yn awr yn caol ei gario yn mlaen rhwng Servia a Thwrci. Blaenorid y ddirprwyaeth gan Mr. John Bright, ac yr oedd yn ei ganlyn lu mawr o aelodau Seneddol, a boneddwyr eraill o ddylanwad; ac yr oedd y ddeiseb wedi ei harwyddo gan luaws eraill o'n cy- nrychiolwyr, ynadon, cynrychiol wyr gwahanol gymdeithasau yn Llundain, a phrifdrefi Lloegr, Ysgotland, a'r I werddon. Wedi iddynt ddangos fod y wlad yn dymuno i Brydain gadw yn glir o'r cweryl presenol, dywedodd Arglwydd Derby ei fod yn gwbl o'r un farn a'r ddirprwyaeth am y cwrs a ddylai y Llywodraeth fabwysiadu yn bresen- ol, sef peidio ymyraeth, os nad allai ein hymyriad fod yn foddion i brysuro terfyniad y rhyfel presenol. Mor bell ydoedd oddiwrth feio y ddirprwyaeth am ddyfod ato, fel yr amlygodd ei foddhad i gael gwybod eu barn ar y cwestiwn dyrys hwn; a syhvodd fod gan Weinidog mewn gwlad gynrycbioliadol, ddyledswydd lied anhawdd a dyrys i'w chyflawni, am ei fod, yn weithredol, yn was y Senedd a'r cyhoedd yn ogystal a'r Goron, ac nad ydyw, bob amser, yn cael ei gyfarwyddo gan ei feistriaid; ond gadewir ef i ddyfeisio beth a ddymunant hwy iddo wneud, ac nis gall wybod eu gwir deimladau hyd nes y byddo efe wedi gweithredu yn groes iddynt. Ond nid felly yroedd yn yr amgylchiad hwn. Mewn perthynas i ddystarvrwydd y Llywodraeth tra yr oedd ymdrafodaeth yn cael ei chario yn mlaen i geisio adfer trefn yn Nhaleithiau gwrthryfelgar Twrci, dywed- odd mai anfantais fawr i hyny fuasai cy- hoeddi pobpeth oedd yn pasio, am fod yn eu mysg ffeithiau nad allent lai na chynyrchu drwgdeimladau bob ochr. O'r diwrnod cyntaf y gwelwyd fod eu hymdrech, ac ymdrech holl Ewrop, wedi methu, a bod rhyfel ar dori allan, amlygasom ar unwaith nad oeddym am gadw dim o'r golwg; ac oni buasai eu meithder, buasaijyr holl ohebiaeth- au ar y mater erbyn hyn o flaen y Ty a'r cyhoedd, Awgrymwyd wrtho fod gwaith y Llywodraeth yn gwrthod arwyddo "Nodyn Berlin," ac yn anfon adran o'r Llynges i Besica Bay, yn peri i'r wlad gredu ei bod yn bwriadu amddiffyn Twrci rhag gwrthryfel mewnol yn gystal ag ymosodiadau oddiallan. Dywedai ei arglwyddiaeth ddarfod i'r Llywodraeth wrthod arwyddo Nodyn Berlin" yn unig am ei bod yn argyhoeddedig na wnai y cynllun ddim gweithio-na fyddai yn foddhaol gan y gwrthryfelwyr mwy na'r Porte. A chyda golwg ar anfoniad y llongau rhyfel i Besica Bay, y mae y rheswm dros hyny yn hynod wahanol i'r hyn sydd yn rhedeg trwy wabanol gylcboedd y cyhoedd. Ar yr adeg pan y meddylid fod y Nodyn ar gael ei gyflwyno, a diorseddiad y Sultan yn cael ei gynllunio, yr oedd sefyllfa Caereystenyu a'r J wlad oddiamgylch mor gynhyrfus fel yr oedd yn anmhosibl dirnad beth fyddai y canlyniad. Yr oedd y diweddar Sultan mewn sefyllfa heb fod yn mhell o wallgofrwydd—yr oedd yn amlwg fod anghydwelediad yn bodoli yn gyflredinol — ac yr oedd yr adroddiadau mwyaf cynhyrfus yn cael eu lledaenu fod y Galluoedd am ddefnyddio rhyw foddion eithafol tuag at y Mahometaniaid—mewn gair, yr oedd yn anmhosibl i neb deimlo yn- ddiogel nad allai rhyfel cartrefol ddri allan, yn cael ei gaulyn gan lofruddiad deiliaid Prydeinig yn Nghaercystenyn. 0 dan yr amgylchiadau hyny, ymgyfarfyddodd Llys- genadwyr gwahanol wledydd; ac er eu diogelweh eu hunain a phersonau eraill diniwaid, ac amddiffyniad rhag annhrefn a therfysg cyffredinol, penderfynasant mai dymunol fyddai cael cymaint ag a ellid o nerth arfau yn ymyl. 0 Gaercystenyn y daeth galwad am danynt; ac nid Llywodraeth a Llysgenadwr Prydain oedd yn eymeryd y cwrs hwn eu hunain, eithr yr oedd y Gallu- oedd eraill wedi gwneud yr un peth. Ond gan mai yn Lloegr y mae mwyaf o longau, y mae mwy o sylw yn cael ei roddi i'w presen- oldeb yn Besica Bay, er nad oes ganddynt ond yr un neges yno a llongau rhyfel y teyrn- asoedd eraill. Felly, y mae y rheswm am eu hanfoniad yno yn bur wahanol i'r casgliad- au a dynir yn y cyffredin, sef fod Prydain yn myned i amddiffyn Twrci rhag gwrthryfel mewnol yn gystal ag ymosodiadau allanol. Heblaw nad ydyw Prydain wedi gwneud dim eto i i ddangos fod perygl iddi fyned i ymyraeth, methai Arglwydd Derby weled un tebygrwydd ar hyn o bryd i ryfel Ewrop- aidd ddri allan, le, y peth mwyaf annhebyg yn y byd. Methai ddirnad o ba gyfeiriad yr oedd i ddyfod. Y mae Ffrainc ac Italy, o herwydd diffyg arian a rhesymau eraill, yn anmharod i gymeryd rhan unrhyw gwrs a wna greu cynhwrf cyffredinol. Gwyr pawb nad oes gan Lywodraeth na phobl Germany unrhyw fuddianau yn y Dwyrain, ac felly edrychir arno gyda llawer llai o ddyddordeb yno nag mewn gwledydd eraill. Mewn gwirionedd, yr unig bwysigrwydd a roddant arno ydyw am y gall dori ar heddweh Ewrop. Nid oes yn aros ond Lloegr, Awstria, a Rwssia. Nid oedd yn credu fod neb yn tybied fod Prydain yn awyddus i wneud rhyfel; ond yr hyn a ofnir ydyw, i ni gael ein llusgo i ryfel yn erbyn ein teimladan a'n buddianau. Wel, y mae Awstria mewn sefyllfa hynod anfanteis- iol a pheryglus i ddyfod allan i wneud rhyfel -gwneir yr Ymerodraeth i fyny o wahanol genedloedd, a byddai toriad ar heddwch ya sicr o effeithio cymaint yno ag yn Twrci; ac er mwyn ei diogelwch ei hun, gellir bod yn sicr na ddaw Awstria allan i dori ar heddwch Ewrop. Beth ynte am bobl a Llywodraeth Rwssia? Wel, gwyr pawb fod yno gydym- deimlad oryf gan ryw ddosbarth tuag at y gwrthryfel sydd yn myned yn mlaen yn Twrci. Y mae yno blaid gref ag sydd yn ffafriol i ffurfiad Ymerodraeth Sclavonaidd o dan nawdd a iheolaeth Rwssia; ond un peth yw dweyd fod y fath blaid mewn bod, a'i bod yn gref, a pheth arall yw dweyd fod y gallu gweithredol yn ei dwylaw. Os oes unrhyw beth yn sicr yn y byd hwn, y mae yn sicr fod Ymerawdwr Rwssia ei hun yn caru heddwch, ac y mae y cwbl bron yn sefyll ar ei ewyllys a'i benarglwyddiaeth ef. Nid yw sefyllfa cyllid Rwssia ychwaith ar hyn o bryd yn ffafriol i ryfel ar ol y gwahanol ymgyrchiadau yn Asia. Os oes eisieu prawf ychwanegol, y mae i'w gael yn mhenderfyniad y ddau Ymer- awdwr—Rwssia ac Awstria-i beidio ymyr- aeth, nac i beidio gwneud dim heb gydsyniad y prif alluoedd Ewropaidd; a thrwy y cwbl,