Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYLCHWYL GERDDOROL HARLECH.

CYMANFA Y BEDYDDWYR YN NHREFFYNON.-

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYMANFA Y BEDYDDWYR YN NHREFFYNON. Cynaliwyd hon eleni Gorphenaf 11 eg a'r 12fed. Am 10 dydd Mawrth, daeth y Gynadledd yn nghyd i gapel yr Annibynwyr (gan fod achos arall yn nghapel y "Bedyddwyr ar y pryd). Dewiswyd y brawd H. Morgan, Dolgellau, yn gadeirydd y Gy- manfa; ac yna, wedi dechreu trwy weddi, aed yn miaen yn y Cynadleddau 131 a 2 o'r gloch i ymdrin 2 a'r materion canlyno!:— 1. Anerchiad gan y Cadeirydd. 2. Darllen a chadarnhau penderfyniadau y Cyf- arfodydd Chwarterol am y flwyddyn. 3. Dewis Pwyllgor-i enwi Pwyllgorau am y flwyddyn ddyfodol—Y Genadaeth Gartrefol, Ar- ianol, Er chwilio i gymhwysderau ymgeiswyr am fynediad i'r Athrofa, Personau i gynrychioli y Gy- manfa ar Bwyllgorau vr Athrofeydd yn Hwlffordd a Llangollen, ac ar Bwyllgor Undeb Bedyddwyr Cymru. v Dewis Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifenydd, ac Archwilwyr y Gymanfa am y flwyddyn ddyfodol. 5. Penodi y Cyfarfodydd Chwarterol am y flwyddyn. 6. Dewis pynciau i ymdrin a hwynt yn y Cyrdd- au Chwarterol. 7. Penodi y lie sydd i gaeJ casgliad Cymanafaol. Ymgeiswyr,—Croesoswallt a Fflint. 8. Mynegiad y Cadeirydd a'r Trysorydd o ber- thynas i'r ddiogelfa (safe) yn Rhuthyo. 9. Cynygiad yn nghyldh gweinidogion yii symud, ae hefyd aelodau eglwysig. 10. Cyflwyno y Cymdeithasau canlynol i sylw yr eglwysi:—Y Genadaeth Dramor a Chartrefol, Cymdeithas Gyfieithiadol y Beibl. Cymdeithas y Gweddwon, Cymdeithas yr Hen Weinidogion, yr. Athrofeydd, ac Undeb Bedyddwyr Cymru. 11. Cynygiad i gael un Llyfr Hymnau i'r enwad trwy Gymru. 12. Am gydymdrech yn egaiol a phenderfynol o blaid y gymdeithas ddirwestol. 13. Ein bod yn anghymeradwyo cynllun y llyw- odraeth i addysgu y genedl. 14. Y Gymanfa nesaf i fod yn Cefnmawr. 15. W. Williams, Garth, i fod yn gadeirydd y Gymanfa y flwyddyn ddyfodol. 16. Ein bod yn derbyn eglwys Beisonig'Penycae, ac eglwys Paul Square, i'n Cymanfa. 17. Ein bod yn derbyo y llythyr a ysgrifenwyd gan y brawd Owen Davies, Caernarfon, ac yn ei gy- meradwyo yn fawr i'r eglwysi. 18. Ein bod i gadw y Sul cyntaf yn Awst i weddigamYr Ar^lwydd dywallt o'i Ysbryd yn hel- aethach ar yr eglwysi i'w hadfywio, ac i achub pechaduriaid. Cynaliwyd y cyfarfodydd pregethu yn nghapel y Bedyddwyr a chapel y Methodistiaid, yr hwn a roddwyd at ein gwasanaeth gyda y parodrwydcl mwyaf. Y brodyr a fu yn pregethu yn y gymanfa oedd Jones, Cefnmawr; Williams, Corwen; Evans, Casnewydd; Edwards, Cefnmawr; James, Ruthin; Morgan, Dolgellau; Jones, Llangollen; Morgan, Llanelli; Davies, Caernarfon; Parry, Cloughfold. Cawsotn gymanfa dda iawn yn mhob ystyr, y cynadleddau yn Iluosog, yr eglwysi mewn heddwch a chariad, ac yn cydymdrech o blaid y ffydd, ac ychwanegiadau drwy fe iydd at yr eglwysi; preg- ethu da, a gobeithio y bydd effaith yn canlyn yn y dyfodol yn achubiaeth 11awer o Dechaduriaid i fywyd tragwyddol.

, BRYN SEION, BRYMBO.

ODDIWRTH .GYMANFA GYNULLEIDFAOL…

PANTEG, SALEM, CO^DGRUFFYDD.

[No title]

CYFARFOD LLENYDDOL LLAN-FACHRETH,…