Hide Articles List

4 articles on this Page

•■ iNetogirtnon t&rnnmg.I

News
Cite
Share

i Netogirtnon t&rnnmg. I Cynaliwydcyfarfod dylanwadol yn Bangor ddydd Llun i ddadleu dros atal gwerthiant diodydd meddwol ar y Sabbath. Yr oedd yr Esgob yn y gadair. Pasiwyd amryw bender- fyniadau gyda'r unfrydedd mwyaf. "Yma y diwedda yillith olaf," ysgrifenai Mr. R. Lumley, Abergynolwyn, at ei gariad, llaethferchynngwasanaeth Ardalydd London- derry, Plas Machynlleth; end tybiodd y llaethferch yn wahanol, mai hi gai y Jlith olaf. oblegid dygodd gynghaws am doriad- amod yn erbyn Lumley yn Sesiwn Trefal- dwyn, a chafodd Y,200 o iawn, yn nghyda'r costau. Dygwyddodd dwy djdamwain yn nghym- ydogaeth Rhostryfan yr wythnos ddiweddaf. Torwyd braich William Williams ymaith gan lif gron yn chwarel Penyrorsedd; a niweid- iwyd coes John Jones, Caeathro, drwy ei ym- gais i gymhwyso y brake at olwynion un o wageni y rbeilffordd; Dygwyd un Benjamin Leonard o flaen yn- adon Casnewydd am anmharchu a chamdrin ei forwyn, Elizabeth Burgess; a dirwywyd ef i'r swm mawr o 5s. a'r costau! Ai dyma y diogelwch a ddarpara y gyfraitb i wasanaeth yddion ? Dirwywyd Ilencyn 16 oed yn Nghaerdydd i 10s. a'r costau am feddwi; a chan ei fod wedi bod o flaen yr ynadon o'r blaen am yr un trosedd, cafodd ei rybuddio, os ceid ef yn euog ar ol hyn, yr anfonid ef i'r brawdlys, chwarterol fel meddwyn anniwygiadwy. Dylai amaethwyr a chigyddion fodyn ofal- us gyda golwg ar y dull y rhwymant goesau defaid, myheryn, &c. Dirwyodd ynadon Aberystwyth, ddydd Mercher, David Evans, Llanrhystyd, i 5s. a'r costau am rwymo coesau chwech 'o ddefaid mor dyn nes chwyddo o honynt. Cafodd Richard Evans, Glanrafon Bach, Llanbeblig, ei ddirwyo yn gyffelyb gan ynaclon Caernarfon am drin dau o fyheryn yn yr un dull. Dylai dynion ddysgu bellach nas gallant drin y creadur mud fel y gwelont yn dda. Gwysiwyd Henry Parsons gerbron ynadon Casnewydd am arfer creulondeb at ei farch, a dirwywyd ef i bunt a'r costau. Cyhuddwyd Gabriel Davies, Machynlletb, meddwyn anniwygiadwy etc, yn Mhennal, am feddwi yn Aberdyfi. Yr oedd Gabriel wedi ei ddirwyo ychwaneg nag ugain o weith- iauj ond anfonwyd ef ddydd Gwener i garchar am fis. Dywed un papyr y byddai yn well i Davies, ar ei ddyfqdiad o garchar, osoc1 ei drigfod i fyny yn Aberystwyth, lie y cai deimlo cryn anhawsder i gael ei ddirwyo i ychwaneg IlRõs. am feddwi. Cymerodd ail ddisgyniad le yn un o'r twnelau rhwng Aberdyfi a Glandyfi ddydd Sadwrn. I ragflaenu damwain, darganfydd- wyd y gareg mewn pryd, yr hon oedd tua haner tunell o bwysau. Credir v defnyddir mesurau er atal y disgyniadau hyn, trwy arbhio y twnelau. I i Yn mwrdd Gwarcheidwaid Machynlleth, ddydd Mercher, gwnaeth Mr. Daniel adrodd- iad, yn dangos fod treuliau cyffredin yn lleihau tra yr oedd y dreth sirol yn graddol gynyddu. Dadleuai un o'r ynadon, dro yn ol, nad oedd pethau felly. Ddydd Mercher, cyfarfyddodd surveyors MeirionaMaldwyn raio ynadon y sir ar Bont ar Dyfi i archwilio y bont, ac i weled ¡ beth a ellid wneud '4'r JJ100 a benodwyd gan y brawdlys chwarterol i gael eu treulio ar ochr Mai dwy n i'r bont; a chredir nad y w y swm yn agos ddigon i gyfarfod a'r adgyweir iad angenrheidiol ami. Y mae y strike yn nglofa Broncoed, Wydd- grug, drosodd, a dywedir fod gostyngiad cy- ffredinol drwy Ogledd Cymru i'w ddysgwyl yn y cyflogau. Dywedir fod yr AnrhydeddusC. H. Wynne, Rbug, i ymuno mewn priodas ar y dydd olaf o Awst, a Miss Frances Georgia Romer, merch y Milwriad Romer o Dolymelynllyn, ger Dolgellau. Cymer y seremoni Ie yn St., George's, Hanover Sq., Llnndain. Rhydd y papurau hanes am weithrediadau rhyfeddol campwr Cymreig o'r enw J. E. Evans, yn Cork. Y mae efe mor nerthol fel y dywedir fod dryll haner tunell o bwysau yn cae! ei roddi ar ei fynwes, a'i danio, heb ei fod yn teimlo unrhyw anfantais Dadorchuddiwyd cofgolofn er coffadwriaetb am y diweddar Dr. Emlyn Jones, yn ngladdfa Nebo, Ebbw Vale, yr wythnos ddiweddaf. Dygwyd y draul gyda chyfran o'r elw a gaf- wyd oddiwrth Eisteddfod Genedlaethol Newport, 1873. Dirwywyd Mr. J. Forrest, arolygydd glofa yr Oaks Pit, Wyddgrug, i 408. a'r costau am beidio hysbysu am danchwa nwyol a ddy- gwyddodd yno, a hyny o fewn pedair awr ar hugain wedi i'r amgylchiad ddygwydd. Derbyniodd dau weithiwr ychydig niwaid. Y mae trigolion Ruthyn wedi bod yn llawenhau ar ddyfodiad mah hynaf maer y drefi'w oed. Cyflwynwyd iddo oriawr gwerth £60, yn nghydag anerchiad. Addurnwyd y dref, dosbarthwyd amryw roddion i dlodion, a rhoddwyd te i blant yr ysgolion.

FFESTINIOG.

CYMANFA LLANGOLLEN.'

CYFARFOD LLENYDDOL LLAN-FACHRETH,…