Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

[No title]

V geneiTO-.9meroHrol.

TY Y CYFFREDIN.

TYY CYFFREDIN, dydd Mercher.

News
Cite
Share

TYY CYFFREDIN, dydd Mercher. Mesur Can y Tafarnau ar y Sabbath yn Iwerdd- on.-Cynygipdd Mr. R. Smyth ail ddarlleniad y mesur. Anogai y dymunoldeb o basio y mesur yn ddioed, am fod y ddadl dros ac yn ei erbyn yn berffaith hysbys er darlleniad cyntaf y mesur yn Mai. Dilynodd Syr M. Hicks Beach, yr hwn, gan gyfeirio at y rhaniad a gymerodd le yr adeg a nodwyd, pryd y dangosodd y Ty ei gymeradwyaeth drwy fwyafrif mawr o egwyddor y mesur, a ddywedai fod y Llywodraeth wedi d'od i'r penderfyniad o edrych ar y bleidlais hono fel pleidlais dros ail ddarlleniad y mesur ac na byddai iddo ef, gan hyny, eiwrthwynebuyn ei yrfa. Ar yr un pryd, awgrymai fod yn mryd y Llywodraeth, mewn amser cyfaddas, i gynyg gwelliantau neillduol. Amlygai Mr. Gladstone ei grediniaeth nad oedd y caniatad neu y gildiad o eiddo y Llywodraeth i gael ei gwestiyno am foment, a chynghorai Mr. Smyth yn rhydd i gyfarfod gwelliantau y Llywodraeth, a pheidio gadael i unrhyw ymlyniad wrth gaethder han- fodol athrawiaeth ei arwain i wasgu am gael y mesur i weithrediad dioed achyffredinol. Gwrthwynebai Mr. Roebuck y mesur, am cad oedd cwestiynau o'r fath i gael eu penderfynu gan y mwyafrif. Dywedai Major O'Gorman nad ydoedd ef, ar ol adfyfyrdod, yn fwy o gyf- aill i'r mesur nag ydoedd i'r penderfyniad blaen- orol. Gwrthwynebai ef resymeg yr aelod dros Roscommon, y dylai tafarndai gael eu cau ar y Sabbathau yr un modd o masnachdai teilwriaid a chwegwerthwyr (grocers). Yr oedd gwahan- iaeth dirfawr rhyngddynt; a mentrai ef ddweyd fod y tafarnau, o fore Lluo. hyd nos Sadwrn, bron yn ddiddefnydd. Yr oedd y ffarmwr, ar 01 diwrnod o waith, yn rhy flin i gerdded i ben- tref cymydogaethol, gyda'r bwriad o ymweled a, thafarndy: gadawant hyny heibio hyd y Sabbath (chwerthin). Yr oeddynt yn myned i'r pentref agosaf lie yr oedd capel Pabaidd neu eglwys Brotestanaidd, neu beth bynag a fyddai yn y ffordd o ymarfeiad crefyddol, er mwyn addoli Duw fel y barnont hwy yn oreu. Ar q1 addoli Duw, deuant allan; ac am ddau o'r gloch, ni thybiant yn un pechod-yn wir, yr oedd y gyf- raith wedi darparu ar eu cyfer—i ymgynull i dafarndy gyda'r amcan o gyfarfod y naill y Hall a chael glasiad o gwrw neu borter (chwer- thin); a honai ef, heb ofni gwrthwynebiad, y gallai bron ar ei 1^, pe yn angenrheidiol, fod canoedd o filoedd o bobl Iwerddon yn myned adref mor sobr ag y mae yn bosibl o'r lleoedd hyn. Yn nghylch y pryd hwnw y llynedd yr oedd y tywyd yn hynod wlyb, ac yr oedd ganddo ef swm o wair yn gorwedd ar ei dir mewn siglen hollol, ac yr oedd yn credu y byddai iddo golli y cyfan. Ond daeth Sabbath teg gyda haul ilosgedig; ac wedi bod yn y mass a chymeryd byrbryd (luncheon), cymerodd bleserdaith i edrych ar y gwair; ac er ei syndod gwelai tua chant neu ragor o'r bobl dlodion yn ei gyweirio: ac i wneud ystori hir yn fer, erbyn yr hwyr yr oedd y gwair yn ei gociau, ac ni buasai efe yn gofalu pe ibuasai yn gwlawio cathod a chwn yr wythnos ddilynol. (Chwerthin.) A oedd rhywbeth heb fod yn iawn yn hyna? Yr oedd yr Hollalluogfyn gorchymyn iddynt ofalu na chai ffrwyth y ddaear ei ddystrywio. Nid oedd dim olle yn yr hyn a wnaeth y bobl. Nid oedd ef yn gwybod beth oeddynt ar fedr wneud, ac ni fynent geiniog am eu gwasanaeth. A oedd y Ty yn meddwl ei fod ef yn myned i adael i'r bobl dlodion hyny weithio iddo ef o ddau o'r gloch hyd yr hwyr, a'u gollwng ymaith yn waglaw? Wrth gwrs, cyfarwyddodd ei weision i fyned i'r tafarndy agosaf i geisio dwy neu dair baril o borter, a mwynhaodd y tlodion ef yn rhagorol. (Chwerthin). Yr oeddynt yn chwysu mor galed ag y gallent, a deuai y porter allan o honynt mor gyflym ag yr elai i fewn. (Chwer- thin mawr). A allai unrhyw aelod anrhyd- eddus weled bai arno ef am wneud yr hyn a wnaeth? Os gallai, cyfodai ef i fyny, a dywedai wrth y cyfryw aelod fod ei farn fef yn isel iawn am dano.—Darllenwyd y mesur yr ail waith heb raniad.

TY YR AKGLWYDDI, dydd Iau.

TY Y CYFFREDIN.

ITY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener.

TY Y CYFFREDIN. ?

SEGURWYR.