Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LLEF ETO DROS Y SABBATH.

News
Cite
Share

LLEF ETO DROS Y SABBATH. AT DAFARNWYR DOLGELLAU., < Llawer mwy o feio a chondemnio sydd arnoch chwi a'ch masnach nag o geisio eich goleuo a'ch cynghori yn nghylch dygiad eich masnach yn mlaen. Chwi a wyddoch, feallai, fod y teimlad yn cryfhau yn gyflym trwy yr holl deyrnas y dyddiau hyn o blaid cau y tafarndai ar y Sabbath. Mae Scot land wedi ei fynu eisoes, yr Iwerddon yn sier o'i fynu yn un o eisteddiadau nesaf y Senedd, a Lloegr a Cbymru yn sicr o'u dilyn cyn bo hir. Yr ydwyf yn teimlo awydd cryf i'ch taer anog chwi yma yn Nolgellau i achub y blaen ar orfodiaeth y gyfraith, a chyduno oil i gau eich tai eich hunain. Byddai gwneud hyny o'ch gwirfodd eich hunain yn llawer mwy o glod i chwi nag oedi hyd nes y daw y gyfraith i'ch gorfodi. Nid wyf yn meiddio eich anog i wneud byn beb y rhesymau cryfaf dros byny. Gallaf nodi fel fy rheswm cyntaf, fod agor eich tai, a gwerthu y diodydd meddwol ar y Sabbath ynfusnachu arno, ac felly yn dros- eddiad o orchymyn pendant Dura. Gwir fod y gyfraith Brydeinig yn gwneud hyn yn gyfreitbion i chwi dr rai oriau o'r Sabbath. Ond cyfraith ydyw ag y mae Gair Daw a rheswm dynolryw yn cyduno i'w chondemn- io. Rhaid tod gwerthu diodydd meddwol ar. y. Sabbath yn dda nea yn ddrwg. Os yn dda, paham na cbaniata eu gwerthu trwy yr oll o'r dydd—'Onid yw yn rhydd gwneuthur da ar y Sabbath?' Os yw yn ddrwg, paham y cyfreithlona wneuthur unrhyw ddrwg ar unrhyw ran o ddydd Duw? Onid un ryfedd ydyw y gyfraitb a all wneud yn un fasnach yn dda ar rai oriau, ac yn ddrwg ar eraill o'r un diwrnod? Cyhoedda werthu blawd, bara, cig—angen- rheidiau bywyd-gan ein masnachwyr eraill ar unrhyw ran o'r Sabbath, yn anghyfreithlon, fel trosedd o orchymyn Duw; ond gwerthu y diodydd meddwol genych chwi, ar rai o oriau y dydd, yn gyfreithlon! Y fath gabl- draeth ar ddydd a gorchymyn Duw, ac ar bob synwyri Credwch 6, cyfraith ydyw bon hollol groes i gyfraith Duw, un wedi ei chyf- add&su at wane anniwall yr holl wlad am y diodydd meddwol, gan wane yr un mor ddi- wall ein llywodraeth dreulfawr am y cyfan- aymiau aruthrol o arian y wlad sydd yn dylifo mor rhwydd i'w thrysorfa trwy hyny. Ydyw, y mae eich gwaith yn gwerthu y diodydd meddwol ar unrbyw ran o'r Sabbath yn fasnachu mor wirioneddol ar y dydd sant- aidd, ac felly yn fathriad uniongyrchol ar orchymyn Duw ag a faasai gwerthu unrhyw nwyddau masnachol eraill aino. Yr ydych, yn ddiau, yn pechu yn erbyn Duw; ac y mae ynddo ei hun yn rheswm digonot dros i mi eich anog yn daer i brysuro rhoddi i fyny fasnach yn y diodydd meddwol ar y Sab- bath. Ystyriaeth ddifrifol arall sydd yn fy ngby- niheli i'ch anog yn y modd taeraf i gau eich tai ar y Sabbathau ydyw, am fod gwerthu y diodydd meddwol ar y dvdd santaidd ya eich goeod cbwi mewn sefyllfa arbenig o ar. srvydlamn o ran cyfrifoldeb gerbron Duro. Nid yn unig y mae y weithred o werthu y diodydd meddwol, fel unrhyw nwyddau eraill, ar y dydd Sabbath ynddi ei han yn bechadurus; ond y mae natur ac effeithiau y diodydd hyny ar y sawl a'u ftyfafit yn gwneud ea gwerthiad hwy ar y dydd yn ar- benig o becbadur JS. Y mae eu heflfcithiau ar gyrff ac eneidiau eu hyfwyr yn gwrth- weithio yn uniongyrchol yn erbyn holl am- canion Duw yn sefydliad y Sahbatn. Gwydd- och oil fod swyn arswydkwn i lygad dynol, n yn y diodydd ydych yn werthu -fod met budolus yn eu safn, ond colyn gwen- wynig o'r tu ol, a chanoedd yn ein tref fechan ni sydd wedi eu colynu i farwolaeth ganddynt. Edrychwch ar effeithiau y diod- ydd ydych chwi yn werthu ar y Sabbathau ar gyflwr ysbrydol y dref ar y dydd cvsegr- edig. Mae yma lawer nad ydynt bytb yn sangu un ty addoliad ar y Sabbath ond ty tafarn-byth yn addoli un daw ond y ddiod feddwol. Ceir yma dai heb un Beibl o'u mewn, a rhai yn byw ynddynt nas gallant ddarllen gair o hono. Gwelir yma ugeiniau o blant nad yw eu rhieni byth yn eu hanfon i un Ysgol Sabbathol. Treulia lluaws yma y Sabbathau yn segura, yn chwedleua a darllen y newyddiaduron gartref, gyda'u haner peint a'u pi bell, wrth gwrs, neu ynta yn rhodiana allan, ac o dafarn i dafarn pan allont; pob chwaeth at dy a phetbau Daw heb erioed ei fagu ynddynt, neu ynte wedi ei lofruddio gall y cbwantat y diodydd meddw- ol. Ceir yn ein tref fechan freintiedig feib- ion a merched, ieuainc a hen, mor dywyll- ion yn mhethau mawr y Beibl bron a Hot- entotiaid Affrica! A difrifofach na hyny, gwelir yma ddynion, ieuainc a hen, a fuont yn aelodau gobeithiol o'n Hysgolion Sabbath- ol a'n heglwysi, yn awr yn diota a meddwi o dafarn i dafarn ar y Sabbathau! Mor garp- iog ea dillad, a mwy carpiog fyth eu moesau a'u cymeriadau, ydyw lluaws yma, fel na fynant byth yuiddangos yn gyhoeddus ar y Sabbath mewn un ty addoiiad, mewn un lie mwy parchus na'r tafarndy! Y gwyr yn rhodiana a diota allan, y gwragedd yn chwedleua yn nhai eu gilydd, a'r plant carp- iog yn chwareu allan, dyna hanes Sabbathau llawer o deuluoadd ein tref! Yn awr, cwestiwn pwysig ydyw, pwy, yn beaaf, sydd yn gyfrifol yn ngolwg Duw, Barnwr pawb, am y cyflwr gresynus hwn y mae cynifer o'n cyd-drefwyr a'n teuluoedd yn treulio eu Sabbathau ynddo ? Pe anfon- id ymchwilwyr trwy y dref i gael allan hanes yr holl deuluoedd didduw hyn, ni byddai ond un atebiad am bron yr oil o honynt--y ddiod feddwol; ein tafarndai sydd yn agored, a'r diodydd hudolas a werthir ynddynt ar y Sab- bathau sydd yn llygru, yn gwenwyno, a din- ystrio pob dylanwadau santaidd, pob teimlad crefyddol, pob hunanbarch, pob rhinwedd personol, teuluol, a chymdeithasol sydd yn harddu y ddynoliaeth yn mysg y teuluoedd truenus hyn. Ie, y gwirionedd difrifol ydyw, y chwi, ein tafarnwyr, yn ddiau, a ystyriai Duw yn gyfrifol, yn benaf, am yr holl bagan- iaeth hwn sydd eto yn ein tref. Gwir y gall- wch wrthddadleu fod pawb at eu perffaith ryddid i ddyfod neu beidio i'ch tai i yfed ar y Sabbathau. Ond da y gwyddoch, mor sicr ag y myn y baban y fron, ac y myn yr hydd sychedig "yr afonydd dyfroedd," y myn y meddwyn, truan, y gwpan feddwol, pa bryd bynag y gall ei chael. Mae yn ei charu yn fwy nag arian, yn fwy na'r Sabbath, yn fwy na Duw, yn fwy na'i wraig na'i blant, yn fwy na'i en- aid ei hun, ac yn fwy na'r nefoedd! Yr ydych yn gweled rhai yn eich taiar y Sab- bathau, sydd yn aberthu yr holl bethau hyn i'w chwant at eich diodydd chwi. Mae y pech- od mawr o brynu,ac yfed y diodydd swynol ar y dydd santaidd ar eu penau hwy; ond ar benau pwy y mae y pechod, yr un mor fawr o'u gwerthu iddynt ar y dydd ? Yn eich tai, yn eich casgau a'ch potelau chwi, dan eich c gofal chwi y mae y temtasiynau Ilygad-dyn- ol, onide ? Gwyddoch o'r goreu fod y rhai sydd yn dyfod i'ch tai i'w hyfed ar y Sabbath- au ynllwyr anghymhwysoeu hunain i unrhyw dy o addoliad, ac i bethau mawrion Duw a'u heneidiau eu hunain gael unrhyw effaith daionus arnynt. Pan y mae y meddwyn, truan, yn dyfod i'ch tai i yfed ar ddydd yr Arglwydd, mae llais o'r nef yn dywedyd a lief uchel wrthych chwiac yntau, "Cofiwch gadw yn santaidd y dydd Sabbath!"—"Ni chaiff y meddwon etifeddu teyrnas Duw!" Ac eto, am ychydig o'i bres, yr yiych yn di- brisio y llais dwyfol, ac yn rhoddi y ddiod ddinystriol iddo! Ofni yn wir yr ydwyf, oni roddwch i fyny, y bydd yr arian hyn ydych yn dderbyn yn barhaus gan drueiniaid diot- gar a meddwon ar ddydd Duw, yn troi yn arian toddedig gwynias yn eich eolyddioa ar ol hyn mewn byd a ddaw. Er mwyn eich eneidiau eich hunain, er mwyn y Sabbath, er mwyn Duw, yr wyf yn erfyn, yn llefainar- noch oil, gyda'r taerineb mwyaf, i roddi i fyny, yn ddioed agor eich tai, a gwerthu y diodydd meddwol ar ddydd yr Arglwydd Achubed pob un o honoch y cyfleusdra nesaf i gymeryd licence i'w gwerthu am y chwe' diwrnod gwaith, fel y galloch chwi a holl ddiotwyr anffodus ein tref "gadw y Sabbath heb ei halogi." Ni bydd fod eich tai yn gau- edig trwy y dydd, fel yr holl fasnachdai eraill, yn unrhyw anghyfleusdra i neb. Pawb fydd yn credu fod arnynt angen am y diodydd ar y Sabbath, gallant ragofalu i'w cael, fel pob angenrheidiau eraill i'w tai ar y nos Sadwrn. Yr ydwyf yn rhoddi y cynghor hwn i ehwi o wir gariad at eich lleshad; a phan y byddweh chwi a minau, a'r rhai sydd yn diota a medd- wi yn awr yn eich tai ar ddydd yr Arglwydd, yn "ymddangos gerbron brawdle Crist," chwi a welwch y diwrnod hwnwpa un ai hwy ai fi oedd yn gwir garu eich lleshad. Teim- laf fi, beth bynag, yn fwy tawel i'ch cyfarfod chwi a hwythau o flaen y frawdle hono wedi rhoddi y cyngbor eyfeillgar hwn i chwi mewn pryd i osgoi gwg y Barnwr, "Argl- wydd y Sabbath." UN YN LLEFAIN.

DOLGELLAU.

[No title]

BETH YW DYLEDSWYDD PRYDAIN1