Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MetoaMiuro JJgmwig.

- TWYLL POBLOGAIDD.

ABERMAW.

FFESTINIOG.

News
Cite
Share

FFESTINIOG. Cynaliodd y Methodistiaid Calfinaidd eu cyfarfod misol yn nghapel y Rhiw, y 3ydda'r 4ydd cyfisol, pryd y pregethwyd ynddo gan y Parchn. E. Foulkes Jones, America; W. Jones, Penrhyn; J. Roberts, Abergynolwyn; J. Davies, Bontddu; D. Jones, Llanbedr; J. H. Sympnd, Towyn; R. Roberts, Dolgellau. Cyfarfyddodd Edward Jones, Tanygrisiau, â. dam wain yn chwarel y Cwmni Cymreig, dydd Iau diweddaf, trwyi dwildanio arno a'i anafu yn hynod drwm. Yr ydym yn cael ar ddeall fod y Method- istiaid Calfinaidd wedi dechreu achos Seisnig yn hen ysgoldy Dolgaregddu. Pregethwyd y Sabbath dtweddaf am y waith cyntaf gan y Parch. J. T. Wheldon; ac efallai y bydd hyn yn nerth i'r dyeithriaid gael clywed y gair yn cael ei draddodi yn eu hiaith na bod heb foddion i fyned yno.G. B.

BETHESDA, TALYBONT.

PORTH DINOBWIG.

CAERNARFON.