Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

MetoaMiuro JJgmwig.

- TWYLL POBLOGAIDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

TWYLL POBLOGAIDD. 1. Y mae yn dwyll poblogaidd fod puplic opinion bob amser yn cael ei ffurfio yn Llun- dain, ac nas gall y talaethau feddwl na siarad hyd nes byddo Llundain wedi amlygu ei barn. 2. Y mae yn dwyll poblogaidd fod newid awyr yn llesol i'r afiach, o ba natur bynag y byddo. 3. Y mae yn dwyll poblogaidd nas gall fod dyn mor ddrwg os yn myned i'r capel yn rheolaidd. 4. Y mae yn dwyll poblogaidd fod pa beth bynag sydd yn isel ei bris yn rhad. 5. Y mae yn dwyll poblogaidd fod pedwar swllt far bymtheg ac un geiniog ar ddeg a thair ffyrling yn Ilawer llai na phunt. 6. Y mae yn dwyll poblogaidd fod, dyn a ysgrifenodd lyfr yn meddu rhywbeth ynddo. Y mae ganddo yn fynjch—gallu copiawl. 7. Y mae yn dwyll poblogaidd fod yn rhaid i brogethwr bregethu ddwywaith ar y Sul, pa un bynag a fydd ganddo rywbeth i'w ddweyd ai peidio. Y mae yn dwyll poblogaidd nad yw dyn a brynodd geffyl heb fwriadu talu am dano can waethed a'r dyn a ladrataodd geffyl. 9. Y mae yn dwyll poblogaidd y dylid dangos mwy o barch i ddyn gwastraffus sydd heb dalu ei ffordd, nag i'r dyn gofalus ag sydd yn gwneud. 10. Y mae yn dwyll poblogaidd na ddylid byth ymddyddan a merched fel pe yn fedd- ianol ar synwyr cyffredin. 11. Y mae yn dwyll poblogaidd fod parch yn ddyledua i ddyn am fod ganddo berthyn- asau cyfoethog. 12. Y mae yn dvyll poblogaidd na ddylai meddygon byth gael eu talu am eu gwasan- aeth. 13. Y mae yn dwyll poblogaidd fod asyn- od yn hoffi ysgall gystal a gwair ac yd.— Camb. News.

ABERMAW.

FFESTINIOG.

BETHESDA, TALYBONT.

PORTH DINOBWIG.

CAERNARFON.