Hide Articles List

9 articles on this Page

V Setteun Pmerotrrol.

TY Y CYFFREDIN.

ITY Y CYFFREDIN, dydd Mercher.…

TY YR ARGLWYDDI, dydd lau.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener.

TY Y CYFFREDIN.

¥ gantat jfarttioL

LLITH EPHRAIM LLWYD

News
Cite
Share

af ofnadwy) at bersonau tawel a respecto Ai nid ffrwyth cenfigen ydyw y cyfan, fer r,- edf Gwyliwch ati, onide bydd Lowri nr eich cefnau fel barcutan. Y mae Temlyddiaeth Dda yn colli ei dyl- anwad yn yr un gymydogaeth. I brofi y pwnc, chwedl Cadi Ellis, A y mae merch,. sydd yn byw yn ymyl y mor, yn penderfynu llenwi eu ceadodau a diod Syr John. Y mae gan rai o'r hil ddynol ddigon o synwyr cyfFredin i feddwi yn respectable, a myned i'w gwelyau i sobri wed'yn, ond am y rhai byn, rhaid iddynt gael codi rom, a hyny ar y Sabbath. 'Gwae chwi, breswylwyr glan y m6r.' Yn ngwysg fy nghefn i L-n-r-s. Taro ar hen gyfaill yno newydd ddychwelyd o F—n-—g—r gyda'r tren, ac yn mhlith pethau eraill, dywedodd wrthyf fod yn yr un cerbyd ag ef ryw mag o gymydogaeth y F—r—n G—ch yn torsythu, fel pe buasai yn werth ceioiog a dimai, ac yn ceisio gwneud sport o hen wr parchus. Pa fudd ydoedd gwrando ar y ffwl yn ymffrostio yn ei wroldeb yn gallu gadael ei wraig, yr hon a briododd y diwrnod hwnw, pryd y gwyddai pob dyn o synwyr llai na chyffredin, nad oes yr un ddynes wedi erioed ei darparu ar ei gyfer, nac yn debyg o fod ychwaith. Pe buasai gwir yn ei ymffrost, mae'n bur debyg y bu- asai ei wraig yn falch o gael ymwared ag ef. Gwell i ti y tro nesaf, boy, y byddi yn trafaelu, gau dy geg, ac yna, ni fydd neb yn gwybod fod dy synwyr mor brin. Hwre! Alarch Gwyrfai wedi cael teitl newydd, a dyma hi, P. S., neu, yn ol esboniad Wil twll y clawdd, "Peiriant Sibellol." Bydded hit oes iddo i enill yn holl sill-gacynod y bydysawd. Races mulod deudroed yn Llanrhaiadr y moch. Enillodd y mul cyntaf, wrth gwrs, a'r achos i'r mul olaf fethu enill ydoedd, ei fod wedi yfed gormod o ddwr o dwb brag. Onid gwell fyddai i aelodau y cyrff yma gadw o'r fath leoedd, rhag ofn i'r hen batriarchiaid godi o'u beddau? i'w hargyhoeddi. Newydd da o lawenydd mawr. Y mae Eos Einion wedi rhwymo ei hun wrth Miss Davies, Nantclwyd, a gobeithio y byddant wedi eu rhwymo am byth yn rhwymau cariad. Fel hyn y cana Bardd Cemmaes iddynt:- "Llwyddiant i chwi fy nghyfeillion, Bydded cariad yn eich nyth; Fel gwythien euraidd odiaeth Yn arweinydd i chwi byth." Bu agos i mi ac anghofio rhoddi hanes fy ymweliad i a'ch hen ftrind, a chyd-drefwr, Mr. John Jones, (yrhwn aurddwyd genyfyn ol brain a defaid am dri o'r gloch boreu dydd Gwener y Groglith diweddaf, yn nhy yr Archdderwydd Etta Mon, yn Lazarus Lleif- iad) i bwthyn a gardd yr anfarwol lenor "Theta Delta." Os oes paradwys yn rhyw- le ar y ddaear yma, dyma lie y mae. Ni fu'm i erioed mewn lie mor brydferth, palas bych an mewn gwirionedd, a Theta yn frenin ynddo. Pe na buasai yr un gronyn o awen mewn dyn, buasai byw yn y fath fwthyn a hwn yn ei alluogi i gyfansoddi awdl heb erioed astudio rheolau barddoniaeth. 8aif mewn llecyn tawel, o swn a dwndwr ofnadwy ein tref. Adeilad bychan yn yr hen style ydyw, un uchder, fel y dywedir, ac y mae ei wyneb glan oddiallan yn eich argyhoeddi ar unwaith fod y rhai sydd yn trigo o'i fewn yn bobol dwt, fel y dywed pobl sir Fon; ae wedi yr eloch iddo, yr ydych yn ofalus rhag llych- wino llawr y bwthyn. Yn wir, yr oeddym yn ofni eiatedd yno, rhag y byddai i ni ei halogi. Y mae yr olwg ar y ddau, sef Theta a'i anrhydeddus wraig, yn eich argyhoeddi hefyd fod glanweithdra yn brif study gan- I ddynt, am eu bod hwy eu dau, "fel pin mewn papyr, chwedl Mali Jacob. Y mae pob ys- tafell yr un fatb, glanweithdra yn teyrnasu yn mhob congl; byddai yn dal da i lawer gwr I a gwraig fyned yno i gael gwers ar lanweith- dra. Mewn un ystafell yno y mae harmon- ium, a'r hon y mae Theta yn arfer difyru ei hun a'i briod, drwy ei chwareu hirnos gauaf, a chawsom ninau y pleser o weled y brawd yn rhedeg ei fysedd ar hyd-ddi, er difyrwch mawr i ni. Yn ymyl y bwthyn y mae gardd fawr yn llawn o bob math o flodau a ffrwyth- au, yr hon sydd o dan ofal y cyfaill. Cawsom y fraint o rodio drwyddi, ymborthi ar y strawberries, &c. Ac fel rhodd i goffau am ein hymweliad ag ef, anrhegodd ni ein dau a bunch o flodau o bob lliw ag arogl mwyaf peraidd. Wedi siglo Haw, a diolch am y croesaw mawr a gawsom gan y cyfaill caredig, aeth Lazarus Lleifiad i'w fan, ac felly hefyd yr aeth EPHRAIM LLWYJD. Lerpwl, Gorph. 8, 1876.