Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Hide Articles List
15 articles on this Page
OYNWYSIAD. 1
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
OYNWYSIAD. 1 Yr Wythnos ••• ••• Hanes Plwyf Celynin. Llith Ephraim Llwyd ••• J. Y Rhyfel j! Newyddion Cymreig 2. Y Wasg "— 7 Beth yw Dyledswydd Prydain? 8 LIef eto dros V Sabbath Gohebiaethau Llythyr Desgrifiadol Y newyddion diweddaraf o Faes y Gwaed Hysbysiadau lo,lb
[No title]
News
Cite
Share
Y mae hysbysiad pellebrol wedi cyrhaedd yr Hague oddiwrth Lywodraethwr y Dutch Indies]" yn cadarnhau yr adroddiad am long ddrylliad yr agerlong "General Kroesen" y ngenau y Straits of Sunda, pan ar ei thaith n Acheen i Batavia. Collodd dau gant a de* ar hugain eu bywydau.
[No title]
News
Cite
Share
¡ Y mae tri o beirianau sugn yn codi dwy filiwn o alwyi?i% ddwfr bob dydd o Lofeydd Bilston, ger Wolverhampton, wedi sefyll, y rhai a weithid gan gwmni ar y draul o bed- War ugain punt yn yr wythnos. 0 herwydd marweidd-dra y fasnach y mae y glofeydd er- aill wedi gwrthod cyfranu fel arferol at y gost, ac yna, nid oedd dim i'w wneud ond eu hatal rhag gweithio. Y Mae dros bum' mil- iwn o dunelli o lo mewn perygl o gael ei guddio dan ddwfr; ac mown ycbydig fisoedd, boddir hefyd lofeydd pwysig Tipton, yr hyn Sydd yn creu cryn lawer o bryder yn mysg pob dosbarth yn y cymydogaethau hyny o ddeheudir swydd Stafford.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y penderfyniad a basiwyd mewn cyfarfod mawr a dylanwadol yn Birmingham yr wythnos ddiweddaf, yn ddan^oseg Hed gywir o farn y wlad yn gyffredinol ar ddyled- awydd y wlad hon yn ngwyneb y cythrwfl presenol yn Twrci. Yr oedd amryw filoedd wediymgasglu yn nghyd, pryd y pasiwyd y penderfyniad canlynol :N ad oedd yr un ys- tyriaeth a wnai gyfiawnhau gwlad Grist- ionogol feI Prydain i fyned i gynorthwyo Llywodraeth Fahometanaidd mor bydredig ag eiddo Twrci;" a'r cynorthwy hwnw yn efleith- io i ddal miliynau o drueiniaid tlodion mewn caethiwed haiarnaidd.
[No title]
News
Cite
Share
Yn Mrawdlys Durham, yr wythnos ddi- weddaf, dedfrydwyd John Williams, glowr, 37 oed, i gael ei ddienyddio am ladd yn wir- foddol ei frawd-yn-nghyfraith, John Wales, ary 23ain o Mehefin diweddaf, yn Edmonds- ley, gerllaw Durham.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae Gwarcheidwaid Undeb Keighly Wedi cael eu gwysio'o flaen Llys y Frenhines am wrthod cario allan ddeddf Brech y Fuwch. Y mae y Gwarcheidwaid yn credu ,nad,yw rhoddi y cow-pox ar blant yn un amddi- ffyniad rhag y "frech wen," ac y maent wedi myned i dybied.yn mhellach fod y mater wedi ei adael at eu dewisiad hwy i'w gario allan neu beidio, pryd, mewn gwirionedd, nad oes ganddynt ddim i'w wneud ond gofalu fod y Ddeddf yn cael ei chario allan i'r llythyren. Ond digon tebyg eu bod wedi cael eu har- wain i'r dybiaeth hon gan ddeddfau goddefol y blynyddoedd hyn, yrhaisydd yn gadael dynion a byrddau at eu dewisiad i'w mabwys- iadu neu beidio. Caiff y Gwarcheidwaid hyn wers, ac ofnwn y bydd yn rhaid iddynt dalu yn ddrud am dani.
[No title]
News
Cite
Share
f:<' t ■ Yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, dyg- odd un Miss Thomas gynghaws yn erbyn y Parch. John Rowlands, vicar Hope, sir Fflint, am dori amod priodas. Ymddengys fod y diffynydd wedi bod yn vicar yn Bwlch- ycibau, sir Drefaldwyn, ac iddo ddyfod igyd- nabyddiaeth a Miss Thomas, merch y cloch- ydd yn y lie hwnw. Cymerodd hi i gadw ei dy, ac addawodd ei phriodi. Wedi iddo gael bywoliaeth Hope, torodd yr amod priodas am fod ei dad yn anfoddlon i'r briodas. Y mae Miss Thomas, yn awr, yn cadw ysgol yn Bwlchyciban, a dygodd y cynghaws hwn yn ei erbyn, a hawliai gael mil o bunan o iawn. Dyfarnodd y rheithwyr iddi gael wyth cant a haner.
[No title]
News
Cite
Share
Ymwelwyd a Gogleddbarth Iowa, dydd Mercher, gan ruthr ofnadwy a dinystriol, a gorlifwyd Rochdale, pryd yr ysgubwyd 150 o dai ymaith, y boddodd deugatn o bersonau, ac y cyfarfyddodd tri eraill a'u hangeu mewn ffyrdd eraill. Dinysfriwyd deg ar hugain yn llwyr o dai yn Darlington, a gwnaeth ddifrod mawr ar y reilffordd yn y manau hyny.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae un o ddynion galluocaf a dysgedicaf Germany, Proffeswr Treitschke, yr hwn sydd yn un o aelodau Rhyddfrydig y Senedd, yn Broffeswr mewn Hanesiaeth yn Mhrifysgol Berlin, ac yn un o ysgrifenwyr gwleidyddol Germany, wedi cyhoeddi traethawd, yn yr hwn y mae yn trin Prydain yn enbyd. Dywed ei bod yn cynrychioli barbariaeth mewn deddfau cydgenedlaetbpl, am ei bod' yn gwrthod ildio ychydig o'r fantais sydd ganddi yn nghryfder ei Llynges ar y m6r. Y mae wedi bod yn amddiffynydd ibobpeth drwg, ac yn elyn dirgel neu amlwg bobpeth da. Yr oedd yn cynal breichiau y caeth- feistri yn yr U nol Daleithiau, fel y mae yn amddiffynydd i dra-awdurdod unbenaethol Twrci vn J Dwyrain yn bresenol. Ym- ddengys fod teimlad y Bhyddtrydwyr yn Germany yn ffafriol iawn i undeh rhwng y tri Ymerawdwr ar y mater, sef Rwssia, Germany, ac Awstria.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae Arglwydd Russell wedi ysgrifenu llythyr at larll Granville, yn yr hwn y mae yn awgrymu y dymunoldeb a'r angenrheid- rwydd o fabwysiadu yn awr un cwrs ag a wnaed yn 1827 gan Mr. (panning. Yn y flwyddyn hono, gwnaed cytuhdeb rhwng Prydain, Rwssia, a Ffraine; a dylai y wlad- lywiaeth a roddodd y pryd hwnw,'dan gyfar- wyddyd Arglwydd Palmerstori; ei hannibyn- iaetb i Groeg, gael ei mabwysiadu i gyhoedd Servia yn meddu ar annibyniaeth cyffelyb.
[No title]
News
Cite
Share
i >r,x } I."f Tra yr oedd yr Americaniaid yn dathlu dydd can' mlwyddiant annibyniaeth y Tal- eithiau, yr oedd mintai o'u milwyr mewn brwydr boeth a'r Indiaid lladronllyd a gwaed- lyd. Collodd milwyr yjaleithiau,275 o wyr, a chlwyfwyd 60. Y mae y, Senate wedi awdurdodi yr Arlywydd Grant i dderbyn gw,asanaeth pump o gatrodau o wirfoddolwyr o'r Taleithiau Gogledd-OrllewinoJi i roddi ter- f yn ar branciau yr Indiaid hyn.: >)
[No title]
News
Cite
Share
I Y maeadroddiad Seneddol sydd newydd ei gyhoeddi yn dangos fdd costau addysg el1- fenol yn Mhrydain 'Fawr a'r lWerddon am 1874—75 yn £ 5,289,036. O'f swm uchod, cyfranodd y Trysorlys Ymerodrol ^2 228, 470, a chatwyd y gweddill fel y canlyn:— £89.7,858 trwy gyfraniadau gwirfbdd I, £1,198,098odd.iwrth arian yr ysgol; £ 118,545 oddiwrth wadcloliadau, £ 846,065 trwy drethi. f
[No title]
News
Cite
Share
r Cymerodd amgylehiad gofidus le yn Don- caster dydd Sadwrnj pryd y boddodd Mr. George Oldfield, unig tab y Parch. Mund Oldfield, gweinidog y Wesleyaid. Yr oedd Oldfield '-d 'y I ya wedi myned i ymdrochi gyda lluaws o gyfeill- ion i Swimming Bath newydd y dref; ond er- ei fod yn nofiwr da, collodd' ei fywyd. Ni f chanfyddodd neb ef yn suddo, a gweled ei ddillad ar y lan a wnaetb i'w gyfeillion ad- gofio ei fodyn eu mysg.
[No title]
News
Cite
Share
U (" ,¡ i -i r "TTiTc'C/?'• Diangodd genethig 15 oed, o'r enw Mary A.gar, o Rosedale Abbey, .gerllaw Whitby, dydd Mawrth diweddaf, gyda. bachgen ieuanc, 20 oed, o'r enw John White, yr hwn oedd wedi bod yn cyfeillachu a'r eneth er's peth amser, ond yn groes i ddymuniad ei rhieni a'i chyfeillion. Boreu dydd Iau, cafwyd ei chorff yn nofio yn ymyl y lan yn agos i Scarborough. Yr oedd heddgeidwaid Scarborough wedi cael warrant i ddal John White; ond dydd Sul, dyma gorff arall yn nofio ynagos i'r un fan, sef eiddio y dyn ieuanc, Jdhn White. Yr oedd yn ei logell ef ddau docyri il,r Cliff Bridge, a'r farn ydyw iddoi daflu yr eneth yn gyntaf, ac yna ymollwng ei hun wed'yn i'r dwfr.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae tri o heddgeidwaid Birmingham wedi eu cael yn euog o ladrata gyda chreu- londeb, a dedfrydwyd pob un o honynt i bum' mlynedd o ajltuddiaeth.