Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
ORICCIETH.
News
Cite
Share
ORICCIETH. Wythuoa y bydd hir goffa am dani oedd yr wyth- nos hon yn Criccieth, o herwydd yr wythnos hon oedd wythnos yr uchel-wyl flynyddol gan yr Anni- bynwyr. Dewiswyd y gweinidogion canlynol i'w Chadw:—Parchn. E. Stephan, Tanymarian; L. Probert, Porthmadog; J. Miles, Aberystwyth; a H. Jones, Birkenhead. Yr oedd yr 'hen stori' am drein y cadw a'r maddeu yn cael ei thraddodi gyda hwyl nefolaidd, ac yn cael ei gwrando gyda bias neillduol. Diau genym ein bod wedi cael rhai defnynau i lawr yn ystod y cyfarfod. Dysgwyliwn yn bryderus weled egin o'r newydd yn tarddu a thyfu yn ngardd yr Arglwydd.—S. ROBERTS.
NODION 0 DDINAS MAWDDWY.
News
Cite
Share
NODION 0 DDINAS MAWDDWY. Mae i'r lie hwn, fel pob lie arall, ryw neillduol- ion; ac efallai mai nid anfuddiol fyddai i mi, ar fy ymweliad, sylwi ar rai o honynt. Wrth edrych oddiamgylch i'r dolydd a'r mynyddoedd, gwelaf fod natur ya ei hieuenctyd, ac fel ar ei holl egni yn ceisio dangos mawredda phrydferthwch uwchraddol y greadigaeth. Onid rhyfedd gweled Trebor Mawddwy heb het am ei ben ar lanau dolenog y Ddyfi? Ambell waith, cyfrai ei fysedd, fel pe byddai uu o honynt ar goll; dro arall, safai yn synfyfyriol, a'i olygon i'r llawr, fel pe byddai wedi colli carai ei esgid. Ond wedi holi ei helynt, cefais alkn mai gwneud englyn i'r "Wenol" yr oedd. Gellir dweyd yn ddibetrus mai yn addoldy yr Annibynwyr y ceir y canu cynulleidfaol goreu yn y He hwn—mae yr holl leisiau megys un. Af yn awr i gapel Sion Gorff. Wele'r arweinydd yn yr allor-dyn yn feddianol ar lais mawr ac yswyth; credaf wrth ei arddull feistrolgar ei fod yn gerddor medrus; ond pa 'run, mae'r eneth hon a'r eneth arall yn agor eu safnau wrth eu hamser eu hunain. Y llanc acw hefyd, os wyf yn gweled yn dda trwy y spectol hon, mae dau lyfr yn agore l o'i flaen-tafl olwg frysiog ar y naill a'r llall; ond gan fy mod yn myned yn hen, a'm clyw yn pallu, nis gallaf fod yn siwr pa un ai Alto ai Tenor y mae yn ganu-dywed ysbryd can a chydgordiad nad ydyw Yn cyffiwrdd a'r un o honynt yn briodol. Hefyd, Aed y Solffa o sylw i ffwrdd, A'i goffa heb ei gyffwrdd, Os ydyw o uu rhwystr i rai dori'r geiriau. Pa les rhoddi penill allau os na chaiff sylw? Gellid {tteddwl ar ysgogiadau rhai y gallasent y llyfr hymnau ar dafod leferydd. Moelydre ar goll.-Cynygir gwobr o ddwy wns o 8rtuffi unrhyw berson ryd i amlygrwy-M i'r cyhoedd Yn mha le y gellir canfod y gohebydd talentog hwn. Os ydyw ar oir y rhai byw, deued i Fawddwy cyn gynted ag y gallo; mae pobpeth wedi myned allan o drefn-Syr Edmund Buckley wedi tori yn dipia. Ond y peth gwaethaf o'r cwbl yw, fod y cadeirfardd penigamp o Dy'nybraich yn mya'd i roddi ei holl beirianau barddonol ar auction. Mae'r holl beir— janau mown trefn dda; a chafwyd prawf digonol lawer gwaith o'u cyfaddasrwydd i wueud awdlau, ^wyddau, englynion, u fel byddo'r galwad. ^ae y brif olwyn wedi ei gwarantio gan Cerist jj^rdd i droi yn rhwydd yn y pedwar mesur ar regain. Yr auctioneer fydd Tegwyn, a gallwch fod siwr na fydd dim prynu i fewn o gwbl. SOMEBODY.
iSartitiontaetij.¡
News
Cite
Share
iSartitiontaetij. ¡ I MISS GORDELIA EDWARDS. Pan ar ymweliad brysiog yn ei thrigfod, Gorph- enaf 3, 1876. Y deilwng dlos Gordelia,—dy;fysedd Dy flwsig rhagora; Gwn, dy wen a'th ganiad wna Yn angyles y'Ngwalia. ALLTUD EIFION.
ENGLYNION
News
Cite
Share
ENGLYNION Ar briodas Mr, Morris Roberts, Tyddynbach, Llanfachreth, a Miss Ellen Edwards, Goitref, Ganllwyd. I Morris ddawnus am ddenu-fwynaidd Deg feinwen anwylgu; Haelionus y gwnaf englynu-yn lIon, Ha! enwog wron am ffyddlawn garu. I hudol gwlwm Eden-yr aethant, Rhai eithaf, yn llawenj Efe, ei wiw Efa wen Arddela trwy'r aur ddoleo. O'u huniad ar hyd eu heicioes—y bo'nt Yn byw heb un drygfoes, Yn ddau Ion o gyrhaedd loes, A rhai addfwyn gwareiddfoes. Herio wnaeth farn annhirion—ac eiddil Hen lancyddiaeth wirion; Un gwiwlwys, mae'n ei galon Wir gred yn y fodrwy gron. Dyddiau yn Hawn dedwyddyd-oes emawg, A disiomiant hefyd, I hwn a fo, a gwyn fyd I Elen, ei anwylyd. MEURIG AP IOAN.
BREUDDWYD Y MEDDWYN.
News
Cite
Share
BREUDDWYD Y MEDDWYN. Dafydd, betit ywlr achos, dywed, Dy fod di mor lion dy hynt? Byth nid wyt i'th wel'd yn feddw Fel yr oeddit ddyddiau gynt; Sut mae'th wraig a'th blant anwylion, Rhai a drinit gynt yn syn; Tyner wrthynt wyt yr awrhon, Beth yw'r cyfnewidiad hyn? Breuddwyd fry o'r nefoedd ataf I'm rhybuddio'n wir a ddaeth, A fy argyhoeddi'n drylwyr 0 fy hen arferion wnaeth; O! fy nghyflog gynt a wariwn Oil i borthi'm blys a'm chwant, Nes bu agos i mi a thori N Calon Mary, a llwgu'r plant. Am fy ngwraig a'm cartref hefyd Y pryd hyny faliwn ddim, Ond ei hel yn greulawn beunydd Gyda geiriau geirwon llym, Nes oedd dagrau gloyw'n llifo Dros ei gruddiau llwydion hi, A fy mlant yn hidl wylo Heb ddim bara yn y ty. Gwedd affurr fy ngwraig newidiodd, Hardda oedd yn Nghymru wen; Fel glaswelltyn bron na wywodd, Poenau wynodd wallt ei phen; Tra myfl mewn medd lawenydd, Ondfyngwraigawylaigwn; Cysgu ddarfu'm,-a breuddwydio Wnes y breuddwyj rhyfedd hwn. Tybio i mi gyrhaedd adref Yn fy medd'doti 'roeddwn i; Athra rhyfedd yr edrychai Pawb a phobpeth yn y ty; Erbyn i mi ddechreu edrych O fy neutu, canfu'm lu 0 ddyeithriaid-ond nis gallwn Mary ngwraig ei chanfod hi. Llais a glywais ar ryw enyd, D'wedai "'Nawr,;mae 'ngwiad y dydd; Bywyd gafodd llawn o ofid, Pwy yn wraig i feddwyn fydd"? Hyny barodd i mi dremio Yn fwy craffus gylch y ty, A chanfyddais yno'n wylo. Fy hoff blant o'i chwmpas hi. Wylo yno'n dorcalonus 'Roeddynt gylch ei marwol ran, Gan eu cyfarch yu wylofus Minau nesais at y fan: D'wedai'r plant, O! nha i deffrowch hi, Dweyd mae pawb mai marw wnaeth; 0 fy nhad gwnewch iddi wenu, Byth ni pherwn iddi aeth. D'wedais wrthynt yn alarus, 0 fy mhlant, nid marw wnaeth; A chusanu wnes ei gwefus, 'Rhon gan angau oedd yn gaeth; D'wedais wrthi, Mary anwyl, Eto byth ni lfinaf di, Na wnaf, Mary, hyd fy arwyl Eto byth ni feddwafi, Mary, Mary, gwna fy ateb, Dafydd yn dy anerch sydd; A deff roes tra hi yn gyru Gweddi drosw'i "wlad y dydd;" Mi a'i gwasgais at fy mynwes, Dagrau Mfai'n berlau crwn; Byth er hyny 'rwy'n bendithio'r Nefoedd am y breuddwyd hwn. Llundain. AFONOG.
Y LILI.
News
Cite
Share
Y LILI. Y dydd o'r blaen, cyflwynodd boneddiges i mi lili y dyffryn, ac ar unwaith, daeth yllinellau canlynol i fy meddwJi. o lili fecllan anwyl, dlos, D'eneinio gest a dagrau'r nos; 'Rol hyiiy, gwenodd,arnat ddydd, Ce'st wres yr haul i sychu'th rudd; .u Ond ah! rhyw greulon un a aetb I'r dytfryn, a dy gyrchu wnaeth A dy gyflwyno, lilyi mi; 01 fel 'rwyf yn dy;edmygu di, Er i mi geisio'th gadw yn fyw, "Rwy'n gweled. fod dy wedd yn wyw; Dy wisgo wnaf fi ar fy mron, Wyt addurn im', 0 lili Ion; Brenhinoedd daear er eu bri Ni wisgwyd hwy erioed fel ti- Tydi oedd ddoe ar gynydd lion, Ond heddyw'n gwywo ger ein bron; Ac megis oes y lili wen Y daw fy einioes ina. i ben; Haul bywyd sydd yn, t'w'nu awr, Y fory angau'n tori i lawr. Fy nyddiau megis cysgod sydd, Ac ymaith aut fel gwawr y dydd; 0, am ymado a'm llygredd oil, A bod yn bur heb ynwyf goll; Mor bur a'r lili heb un bai, Mae modd i wueud y cyfiawn rai. Liverpool. MYFANWY M.EIRION. F' '1 t- i -V "■ 'I <■■■>& •! ¡¿'. W ■' r' ■' w r;- "■■■? I' .i U — ['
ILLWYNGWRIL.
News
Cite
Share
o de a bara brith. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol:—Mrs. Williams, Hendre; Mrs. Jones, Henblas; Mrs. Jones, Cefn- feusydd; Mrs. Griffiths, Parthygwyddwch; Miss Owen, Gors; Misses Lewis, Prysgae; Mrs. Owens, Station; Mrs. Evans; Mrs. Lloyd; a Mrs. Vaughan. Wedi i bawb gyfranogi hyd ddigon o'r arlwy a ddarparesid, cymerodd rhedegfeydd ac amryw chwareuon diniwed eraill le rhwng y plant. Yn yr hwyr, cynaliwyd arholiad cyhoeddus yn yr ysgoldy, o dan Iywyddiaeth John Jones, Cefn- feusydd. Gan fod hyn ya beth newydd yn yr ardal hon, fel y gallesid ya naturiol dysgwyl, daeth nifer luosog yn nghyd i*wrandaw yr arholiad. Wedi i'r llywydd roddi anerchiad byr a phwrpasol i'r am- gylchiad, galwodd ar yr arholwr at ei waith-Mr. James Davies, C.M., Brithdir. Aeth Mr. Davies trwy ei waith yn ganmoladwy. Arholodd y plant oil—pob dosbarth wrtho ei hun, a hyny mewn gwahanol ganghenau addysg. Yn ystod y cyfar- fod, canodd y plant amryw donau yn hynod swynol, o dan arweiniad Mr. Richards, yr ysgolfeistr. Ar ddiwedd y cyfarfod, rhoddwyd gwobr i bob un o'r plant yn ol eu teilyngdod. Cyflwynwyd v gwobr- wyon gan Mrs. Griffiths, priod y Parch. William Griffiths (A.), Arthog, a Miss Roberts, Friog House. Wedi hyn, cafwyd anerchiad gan Mr. Davies, yn datgan ei foddhad yn fawr yn y plant; ac hefyd, rhoddodd uchel ganmoliaeth i Mr. Richards am ei lafur gyda'r plant. Wedi cael ychydig eiriau oddiwrth Mr. Richards ei hun ar sefyllfa yr ysgol, &c., terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu y bum ynddo erioed.-GwRiLFAB.