Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

- Netogfcinott < £ Tgmmg;.

News
Cite
Share

Netogfcinott < £ Tgmmg;. Ar un o ddyddiau cynhes yr wythnos o'r blaen collwyd dau blentyn perthynol i rieni parchus yn Nhowyn. Daeth i glustiau y tad a'r fam eu bod wediinyned yn nghyfeiriad y mor, gyda'r amcan o ymdrochi, ac yr oedd amryw wedi eu gweled yn ymddyosg i'r per- wyl hwnw. Wedi chwilioglan y mor a'r morfeydd gerllaw yn aflwyddianus, cadarn- heid y rbieni trallodus fod eu hanwyliaid bychain wedi eu colli am bytb. Ond yn ffodus nid felly yr ydoedd: yn ddamweiniol, edrychodd un o'r cymydogion i mewn i gut y moch, ac yno y cafwyd y ddau yn cysgu yn drwm. Wedi deffro, mynegent iddynt weled eu tad yn rhedeg tua'r mor, a chan ofn ei gosbedigaeth, iddynt ymguddio yno a syrthio i drwmgwsg. Dirwywyd Mr Evan Timothy, masnachydd, Ceinewydd, a Mr David Thomas Davies, Mydroilin, gau ynadon Aberaeron, am esgeu- luso rhoddi brech y fuwch (cowpox) ar eu plant. Y mae pier newydd wedi ei ddechreu yn Llandudno. Y mae y contract yn £24,000, ac wedi ei dderbyn gan gymerwr o Lundain. Y mae lladrad yn myned yn beth cyffredin yn nghymydogaeth y Wyddgrug. Y dydd o'r blaen torwyd i fasnachdy yn Soughton, ac aed a zC7 o'r cloer. Bu Tanymarian yn darlithio ar Gerddor- iaeth, nos Fercher, yn addoldy Cynulleidfaol Wood St., Caerdydd; ac yr oedd yr elw oddi- wrth y ddarlith i fyned i drysorfa gofFadwr- iaethol y diweddar Barch. Lewis Powell. Y mae Mr. Owen Evans, Broom Hall, wedi anrhegu Eglwys St. Cawdros, Abererch, ag organ newydd, ac wedi tanysgrifio £100 tuag at y ficerdy newydd. Gadawodd gwraig yn Mhorth Dinorwig, o'r enw Elizabeth Hughes, ei chartref tua phymthengnos yn ol heb grybwyll wrth ei gwr. Cymerodd ei dillad gyda hi, gan adael ei plant, tri neu bedwar mewn rhif, yn ngofal ei mam. Y mae bddeutu 30 oed, ac yn edrych yn llawer ieuangach. Y mae ei gwr yn ddyn sobr a diwyd, a phob amser yn enill cyflog da. A beidia hon ag "ewyllysio etifeddu y fendith" pan yn rhy ddiweddatl Llwyddodd pwyllgor Eisteddfod Tregaron ibasio penderfyniader atal reporters y newydd- iaduron i gael myned i mewn i'r Eisteddfod heb dalu. Yr oedd yr Aelod Seneddol dros y Sir, a'r aelod dros y bwrdeisdrefi yn bresen- 01; a chredir iddynt allu darbwyllo y pwyll- fjPf eu bod wedi camgymeryd, ond nid cyn ei bod yn rhy ddiweddar i gael gwasanaeth y reporters. Yn Mrawdlys Chwarterol Meirionydd, yn Dolgellau, yr wythnos ddiwedaf, cyhuddid Evan Evans, railway porter, o ladrata poteli o druc. Tyngai detective iddo ddal y dyn ar y weithred o ladrata; pnd eto traddododd ei ddadleuydd anerchiad nor gywrain ac athry- lithgar, fel y rhyddhawyd ef! Yn Nghymanfa lfynyddol y Trefnyddion Calfinaidd yn Abertawe, cyhoeddwyd amryw ystadegau yn rhoddi golwg ar gynydd a safle yr enwad yn ystod y flwyddyn a basiodd. Yr oedd cynydd yr aelodau yn 5,167; a chyfan- swm yr arian a dderbyniwyd at bob achos yn £ 154,043; 17s.; cynydd o £3,009 12s. 9c. ar gyfanswm y flwyddyn flaenoroL Yr oedd yr enwad wedi cynyddu 10,000 yn nifer ei aelodau yn ystod y ddwy flynedd. Cynaliwyd 1,405 o drengholiadau yn rhaubarth gogleddol Morganwg yn ystod y pum' mlynedd diweddaf-409 mewn canlyn- iad i farwolaethau mewn glofeydd, 147 oblegid damweiniau ar y rheilffyrdd. Yr oedd y pellder a deithiwyd i gynal y treng- holiadau yn 21,000 o filldiroedd. Boddodd William B. Baldwin, mab i fasnachydd haiarn yn Nghaerfyrddin, yn afon Towi, yr wythnos ddiweddaf, tra yn ym- drochi. Y mae y twr coffadwriaethol yn Machyn- lleth eto wedi ei adael gan yr adeiladydd; ac y mae yr ychydig sydd yn ol heb ei orphen wedi ei ohirio oblegid rhyw achos anesboniad- wy. Y mae y deialau wedi eu gosod i fyny, ond nid yw yr awrlais tu cefn iddynt. Y mae y Parch Edward Lewis Lloyd, curad Wrexham, wedi ei drwyddedu i gurad- aeth St. Mary, Bangor; a'r Parch. David Jones, Llansadwrn, i guradaeth Pentir, Bangor. Deallwn fod y Parch. W. Williams, Borth, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth eglwys Annibynol Maentwrog ac Utica, a'i a fod yn bwriadu ymsefydlu yno.

LLANFACHRETH.

ARTHOG.

LLANDEGLA-YN-IAL.

BWLCHGWYN, GER WREXHAM.

FFESTINIOG.

ILLWYNGWRIL.