Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

TY YB ARGLWYDDI, dydd Mawrth.

News
Cite
Share

TY YB ARGLWYDDI, dydd Mawrth. Lloegr a Twrci. Gofynodd Mr. O'Reilly a oedd sail i'r adroddiadau a ymddangosodd mewn newyddiadur Hungaraidd, fod Jlongau Prydeinig wedi olanio yn Klek swm mawr o ddefnyddiau rhyfel ac arian i'r milwyr Tyrcaidd; ac hefyd, adroddiad y Moscow Gazette, fod Lloegr yn cyflenwi y catrodau Tyrcaidd yn Hersegovina ag arfau ac arian. Atebodd Canghellydd y Trysorlys yr ymofyn- iadau yn nacaol; a sicrhaodd fod Llywodr- aeth ei Mawrhydi wedi ymgadw yn berffaith ganolog, a'i bod yn hyderu y mabwysiedid yr un drefn gan alluoedd eraill. Ein perthynas â China. Cynygiodd Mr. H. Richard benderfyniad yn amlygu fod y Ty, tra yn gweled natur anfoddhaol ein perth- ynas a China, a'r dymunoldeb o osodein perth- ynas a'r wlad hono mewn cyflwr sefydlog a boddhaol, o'r farn y dylai y cyiundeb pres- enol rhwng y ddwy wlad gael ei ad-drefnu, fel ag i hyrwyddo buddianau trafnidiaeth gyfreithlon, ac i sierhau hawliau cyfiawn y Llywodraeth Chineaidd a'r bobl. Dilynwyd ef gan Mr Stewart, Syr G. Campbell, Syr G. Balfore, Syr Charles Dilke, a Mr Charley. Dywedai Mr Bourke, mewn atebiad fod y Llywodraeth er's hir amser yn barnu y bydd- ai yn fuddiol diwygio y cytundebau hyn; eu bod er's blynyddau mewn cyflafareddiad it galluoedd eraill, a'u bod yn bresenol mewn ymgynghoriad a Ffrainc, Germany, a'r Unol Daleithiau ar y mater. Eu bod wedi pender- fynu, hyd nes y caent ddau neu dri o'r gallu- oedd eraill i gydweithredu a, hwynt, i beidio cyflafareddu a China ar y cwestiwn. Wedi sylwadau pellach gan Syr J. Kennaway, tynwyd y cynygiad yn ol.

TY Y oyffredin, dydd Mercher.

TY YR ARGLWYDDI, dydd Iau.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y ARGLWYDDI, dydd Gwener.

TY Y CYFFHEDIN.

.TY Yr ARGLWYDDI, dydd Llun.

TY Y CYFFREDHF.

Y CRONICL A'R OGOFAU.