Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Hide Articles List
CYNWYSIAD.
18 articles on this Page
CYNWYSIAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNWYSIAD. g| Yr Wythnos 1 Hanes Plwyf Celynin 2 Anerchiad 3 Y Cronicl a'r Ogofau 4 Y Senedd 5 Newyddion Cymreig. g Barddoniaeth 7 Swn Rhyfel 8 Twnel dan y tnor 9 Gohebiaethau 10 Etholiad Sir Benfro 11 Marchnadoedd yr Wythnos. H. 121 Hysbysiadau .1316
[No title]
News
Cite
Share
Dathlwyd dydd Mercher diweddaf, fel ar- ferol yn y Palasau Brenhinol, fel y dydd ar gyfer yr hwn y coronwyd ein Grasusaf Frenhines ddeunaw mlynedd ar hugain yn ol; a phwy nad yw yn dymuno i'w Mawrhydi deyrnasu yn hir eto?
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y "sefyll allan" yn mhlith cysodwyr Berlin yn achosi cryn lawer o anhwylusdod. Y mae yr holl gysodwyr, hyd yn nod y rhai a weitbient ar newyddiadur y Llywodraeth, wedisefyll allan am ragor o gyflog.
[No title]
News
Cite
Share
5?ae y Maeslywydd MacMahon wedi cy- hQeddi pardwn, neu leihad yn y ddedfryd i 87 o bersonau sydd yn awr mewn carcharau am gymeryd rhan yn ngweithredoedd y commune; ac ni ddygir neb eto i brawi, os na byddant wedi bod yn arweinwyr gwrthryfel- gar, ac yn euog o droseddau anfad, megys lladd.
[No title]
News
Cite
Share
YnNghynadleddy Demooratiaid, yn St. Louis, yr wythnos ddiweddaf, dewiswyd Mr. Tilden yn ymgeisydd y blaid hdno am y gadair Arlywyddol, a Mr. Hendricks yn is- lywydd. Dy wedir fod yn anmhosibl i'r blaid Ddemocrataidd gael gwell ymgeisydd na Mr. Tilden, ac y bydd yn dda san lawer o'r blaid Werinol gofrestru eu pleidleisjau yn ei ffafr. Y mae yn ddyn i'w wlad yn mhob ystyr o'r gair, ac y mae ganddo obeithion lawer am gael ei ethol i'r swydd uwchaf yn y Talaeth- au Unedig.
[No title]
News
Cite
Share
Teimlwyd saith o ysgydwadau daeargryn- faol yn Corinth, tir Groeg, a'r cymydogaeth- au yr wytbnos ddiweddaf. Dinystriwyd amryw o adeiladau, ac y mae y rhai sydd yn aros ar eu traed yn ymddangos yn debyg o syrthio. Diangodd y trigolion er diogelwch
[No title]
News
Cite
Share
0 flaen y Vice Chancellor Hall, dydd lau, dygw,;d i derfyniad achos Benchers y Gray's- inn yn erbyn Br. Kenealy. Er fod Dr. Kenealy wedi cael ei ddiaelodi o'r Gray's-inn yr oedd yn parhau i wrthod rhoddi i fyny yi! ystafelloedd a feddianai fel aelod, ac aincan y cyngbaws hwn ydoedd ei orfodi i wneud hyny. Yinddangosai y Dr. ei hun i wneud ei amddiffyniad, ond i ddim dyben, a rhaid r iddo roddi y cyfan i fynya feddianai fel aelod Or Gray's-inn.
[No title]
News
Cite
Share
-j > -— ==rr Yn Mrawd urham, dedfrydwyd dyn ieuanc, o'r enwrJames Brown, i bum' mlyn- edd o alltudiaeth am wneud ymosodiad creu- lawn ar ferch ieuanc. Dywedodd Mr. Jus- tice Lush ei fod wedi penderfynu rhoddi terfyn, os gall, ar y cyfryw ymosodiadau cig- yddlyd ar ferched a braich grefy gyfraith.
[No title]
News
Cite
Share
Rhyfeddy fath elynion ffyrnigydywyrTJch" el Pabyddion i'r Tywvsog Bismark. Adroddir am offeiriad Babaidd yn Germany, yr hwn, mewn gwledd i difyru y plant, a alwodd ei gi yn mlaen. Taflodd damaid o fara iddo, ond iddo ei fwyta, dywedodd mai anrheg oedd oddiwrth Tywysog Bismark; ar hyn, gwrth- ododd ei gymeryd. Cynygiwyd ef wed'yn yn enw Dr. Falk, ond gwrthododd y creadur ei fwyta; ond pan ddywedwyd mai oddiwrth y Pab yr oedd y tamaid wedi dyfod, ysgyd- wodd y ci ei gynffon, a bwytaodd y bara, ac am y trosedd hwn, anfonwyd ef i garchar am dri mis.
[No title]
News
Cite
Share
Pan y mae pob carcharor yn ngharchar swydd Lincoln yn costio X2 4s. yn yr wyth- nos, neu gymaint deirgwaith a chyflog llafur- wr gonest am weithio o godiad haul hyd ei fachludiad, y mae yn 11awn bryd gwneud ymchwiliad manwl i lywodraethiad y carch- arau. Yn sir Drefaldwyn, nid yw y gost ond 2s. 4c. yn yr wythnos, a gellir cadw deunaw yn Nhrefaldwyn am yr un faint ag a gostiai cadw un yn Lincoln. Pan y mae 7s. yn y dydd yn cael eu gwario arr fwyd a dillad i bob carcharor, dylai y carcharorion ddiolch, a dweyd fod eu coelbren wedi disgyn mewn lIe hyfryd. Ond dysgwy liwn y rhoddir terfyn ar anghyfartalwch fel hyn, trwy i'r Llywodr- aeth fabwysiadu un system unffurf i'r holl wlad.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y derbyniadau i'r Cyllid am y chwarter cyntaf o'r flwyddyn arianol, yr hwn a ddiweddai at y 30ain o Mehefin, ar y cyfan yu hynod o foddhaol, yn enwedig pan gymer- om i ystyriaeth farweidd-dra y fasnach haiarn a'r glo. Y mae y derbyniadau yn cyrhaedd £ 18,347,412, yr hyn sydd yn fwy o £80,750 nag a dderbyniwyd yn ystod yr un tymh, r y llynedd. Yr oedd y derbyniadau am y flwydyn yn £77,212,443, neu ychwaneg o £1,696,429 na'r flwyddyn flaenorol.
[No title]
News
Cite
Share
Cyrhaeddodd Mr. Edward Pierrepont, Llys- genadwr newydd America yn y wlad hon, Le'rpwl, dydd LIun, gyda'r agerlong Britan- nic, un o agerlongau ysblenydd y "White Star." Ar ei laniad, anrhegwyd ef ag anerch- iadganyr "American Chamber of Commerce.'
[No title]
News
Cite
Share
Yn Mrawdlys Bedford, o flaen Mr. Justice Field, cyhuddwyd Lucy Lowe o lofruddio ei phlentyn ar y 14eg o Fawrth yn Stagsden, pentref gerllaw Bedford. Cafwyd y plentyn wedi ei lapio mewn Ilian mewn coed- wig gyfagos. C&fwyd hi yn euog, eithr ar- gymhellodd y rheithwyr hi i drugareddy Llys, Pasiodd y Barnwr ddedfryd marwolaeth l yn y ffurf arferol, ond gwna anfon y ffeith- iau ar ddymuniad y rheithwyr i'r Ysgrif- enydd Cartrefol.
[No title]
News
Cite
Share
Y pedwerydd o Gorphenaf yw y diwrnod mwyafyn yTaleithiau Unedig bob blwyddyn, ond yr oedd felly yn neillduol dydd Mawrth diweddaf, sef dydd can'mlwyddiant cyhoedd- iad annibyniaeth yTaleithiau, a'u bod wedi eu rhyddhau oddiwrth bob cysylltiad a Choron Prydain. Cyhoeddwyd hyn mewn ystafell yn Philadelphia, yr hou a adnabyddir hyd heddyw fel y "Neuadd Annibynol;" ac i anrhydeddu y flwyddyn hon y cynelir yr Arddangosfa fawryn Philadelphia.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae dyryswch arall wedi cyfodi yn Moeltryfan, gerllaw Caernarfon. Hawliai nifer o'r dynioq gael gorphen eu gwaith am haner dydd bob dydd Sadwrn, a phan wrth- odwyd eu cais, aethant ymaith o'r Chwarel yn llu, a dywedir eu bod wedi arfer iaith fygythiol tuag at y rhai a arosent wrth eu gwaith; ac apeliodd Mr. Allanson, ar ran y perchenogion, at ynadon Caernarfon am ragor o heddgeidwaid i'r gymydogaeth, yr hyn a gauiatawyd, trwy anfon chwech o hedd- • geid waid yno. Gobeithio na bydd eu heisie ae na bydd ir chwarelwyr ddiraddio eu c/- meriad uchel trwygythrwfl tebyg i'r un "a gymerodd le yno or blaen.
[No title]
News
Cite
Share
Parhau i ostwng y mae cyflogau y glowyr a'r haiarnwyr yn mhob parth o'r Deyrnas Gyfunol, ac y maent yn is mewn amryw fan- au nag y buont er's ugain mlynedd. Bu tipyn o ddyryswch yn nglyn a. hyn yn Brymbo y dyddiau diweddaf, pryd y rhoddodd y cwmni rybudd i'r dynion sydd yn gweithio yn y ffwrneisiau eu bod dan angenrheidrwydd i ostwng deg punt y cant yn eu cyflogau. Penderfynodd y dynion "sefyll allan," ond cynygiasant i weithio ar bum' punt o ostyng- iad; ac yn y diwedd, boddlonodd y naill a'r llall i 71 o ostyngiad; ac felly, rhagflaenwyd strike yno ar hyn o bryd.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae tri o larllod, a'r tri yn aelodau o'r Weinyddiaeth bresenol, wedi colli eu gwragedd yn agos iawn i'w gilydd, sef Iarll Caernarfon, Iarll Masmesbury, ac yn ddi- weddaf ladl. Beauchamp, yr hon a fu farw boreu dydd Sadwrn, yn 32 oed. yn mhen tua. chwe' mis ar ol ei thad, Iarll Stanhope.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae yr holl newyddion diweddaraf o Gaercystenyn yn cadarnhau yr adroddiadau fod milwyr Servia a Manenegro wedi croesi y terfynau. Dywedir fod y ddwy dywysogaeth wedi dyfod i gytundeb eyflawii gyda gol wg ar bobpeth perthynol i'r rhyfel. Croesodd byddin Servia boreu dydd Sul, ac y maent wedi meddianu sefyllfaoedd pwysig yn nhiriogaeth Twrci. Y mae Seryia wedi gofyn i'r galluoedd mawrion gyhoeddi fod yr afon Danube yn neutral, trwy yr hyn y lluddid i ynfadau y Tyrciaid gyrhaeddBelgrade; ac os ygwrthodir peryglir ei mordwyaeth, am y gosodir torped- oes yn yr afon.