Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

,j• DOLGELLAU.

News
Cite
Share

,j DOLGELLAU. Damwain angeuol.-N os Iau, Medi 30, cyfarfyddodd dyn o'r enw Owen Jones, beili, Dolgellau, a damwain angeuol y noswaith uchod, pan ar ei ffordd o'r Friog i Barmouth Junction. Ar y trengholiad ddydd Sadwrn tystiodd G. Griffiths iddo weled O. Jones yn fyw tua 6.5. p.m., a gofynodd iddo a allai fod yn ddigon buan i'r tren. Dywedodd y tyst y gallai os brysiai, ac fod arwydd diod arno. W. Davies, peirianwr, a dystiai iddo pan o fewn tua milldir i B. Junction gyda'r tren oedd yn ddyledus 6 29 gyrhaedd 6 44, deimlo yr engine yn codi, ac mor fuan ac iddo gyrhaedd fyned i edrych beth oedd y mater, ac iddo er ei syndod ganfod corff dyn o dan yr engine. Galwodd ar y Sta- tionmaster Thomas, yr hwn a dystiai iddo ef a'r porter dynu dyn allan oedd dan yr engine-nad oedd ganddo ddim am dano ond ychydig o'i grys tua'i wddf, iddo roddi y corff yn y station, a myned am filldir ar hyd y llinell, a chanfod dill- ad y trancedig yn ddarnau yn nghyd a'i ymen- ydd. Y mae yr amgylchiadau yn anhysbys pa fodd y dygwyddodd hyn. Rhoddodd y crwner orchymyn i'r heddgeidwad wneud ymholiad pa le yr oedd y trancedig wedi bod yn yfed ddiw- eddaf, ac i ddwyn y personau hyn o flaen yr yn- adon. Dangosodd y crwner hefyd nad oedd dim bai ar Gwm., y Railway, am fod yn ymddangos fod O. Jones yn trespasu ar y llinell wrth ddy- fod y ffordd y daeth, a dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth Ddamweiniol. Pwysau psgoja.—Yn Ilys yr ynadon ddydd Mawrth, dirwywyd John Kichardss, Butcher, Dinas Maw ddwy, i 10s. a'r costau, am y trosedd hwn; a Thomas Williams, Flour Dealer, o'r un lie, i 5s D. R. Jones, Grocer, Friog, i 5s.; a Griffith Evans, Abercowarch, i 3s. a'r costau am gadw clorianau anghywir. Yr achwynydd oedd Superintendent Hughes, Bala. Tmadael tI,'1' Fyddin.—Anfonwyd Wm. Beazley, yr hwn a gyfaddefai mai deserter o'r 1st Bat. 10th Regiment of Foot ydoedd, i'r carchar hyd nes y ceir gorchymyn o'r War Office i'w symud ymaith. Budreddi.—Gwyr pawb mai hyn yw achos llawer o'r clefydau heintus sydd yn ddinystr i gymaint o fywydau. Y mae yn ymyl y Fronallt, gerllaw y dref, hen domen ddrewllyd er's amser maith, ac y mae yn llawn bryd bellach ei syinud ymaith. Pe b'ai yr Inspector of Nuisances mor garedig ag ymweled a'r lie a gorchymyn hyny, gwnai gymwynas fawr i lawer o Visitors heblaw—V; <w • ■ n a putu-Mfkax <) ;'1-' RHYDYMAIN, GER DoMKM.Ap.—Medi 28 a'r 29, cafwyd cyfarfod pregethu yn y lie uchod ar ach- lysur agoriad capel newydd yno. Y brodyr a hregethasant ar y pryd oeddynt Mri. Thomas, Ban- gor; Evans, Llanbrynmair; Peters, Bala; ac Ellis, Llangwm; a Jones, Dolgellau. Costiodd y capel £600, a chyfranodd y gymmlleidfa eu hunain tua X400 at y draul.—UN O'R AELODAU. TOWYN.—Cynnaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf ddydd Gwener diweddaf yn y lie hwn gan y gwahanol enwadau crefyddol. Nid wyf yn cofio gweled y fath gynnulleidfaoedd mor Uuosog mewn eyfarfodydd o'r natur yma. erioed o'r blaen. Cafwyd anerchiadau byrion gan walianol weinidogion y dref. Yr oedd yn amlwg fod ysbryd diolch i'r Arglwydd am ddoniau Rhagluniaeth wedi meddianu pawb; ac yr oedd arwyddion amlwg fod y Nefoedd yn foddlawn i'w cynnulliad.-H. P. LLANFIHANGEL-y-PENNANT.-Ar yr 28ain a'r 29ain o'r mis diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod pregethu gan yr Annibynwyr. Gweinyddwyd ar yr achlysnr gan y gweinidogion canlynol:— J. Jones, Abermaw; Jones, Machynlleth; a Jones, Dolgellau. Cafwyd pregethau rhagorol, ac arwyddion amlwg fod arddeliad dwyfol arnynt. Y mao un rhinwedd nodedig yn perthyn i'r gyn- nulleidfa hon, sef eu bod yn gofalu am y dyeithr- iaid; yr oedd yno gyflawndero ymborth argyfer pawb, a gofalent na byddai i neb gael ei esgeul- uso. Bydded i holl eglwysi y sir eu hefelychu yn hyn o beth.—JONATHAN.

Family Notices

ifftarcfjna&flrtrty gt aHgtfjnos.

Advertising

LLYTHYR .DYSGYBL AT Eli ATHftA*W!…