Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
MRS. HARRIETT BEECHER STOWE.
News
Cite
Share
MRS. HARRIETT BEECHER STOWE. Y MAE y rban fwyaf o newyddiaduron Lloegr ac America yn Ilym gondemnio ei hysgrifau diweddar yn yr'Atlantic Monthly' a 'Mac' Millan' ar Lord Byron. Y mae y rhai mwyaf adnabyddus o Lord a Lady Byron yn tystiolaethu yn y modd cryfaffod adroddiadau Mrs. Stowe am yr achos o'u hysgariad yn hollol anghywir; ac y mae bron yr holl fyd llenyddol yn chwerw feio ei chwaeth a'i hys- bryd yn cyfansoddi ac yn cyhoeddi y fath adroddiadau, yn enwedig yn awr, yn mhen cynnifer o flynyddoedd ar ol marw Lord Byron. Pe buasai awen yr hen Lord yn awr yn fyw, ac mor hoenus ag y bu, nid oes ammheuaeth na buasai yn cychwyn Mrs. Stowe or 'garret,' ac yn ei tbrotian i lawr drwy y kitchen i waelod y cellar, os nid yn is na hyny; ac y buasai yn ei gadael yno. A'r hyn sydd yn gosod lliw duach fyth ar erthyglau Mr. Stowe ydyw, fod adroddiadau anghywir yn myn'd mor gyflym ac mor bobl- og yn y farchnad ag ydyw y gwirionedd; a'r dybiaeth gyffredin ydyw fod yr awdures ddoniol yn deall yn bur dda yr art uchel o ysgrifenu 'Sensational Articles' a ennillant iddi y pris uchaf yn y market; ac y mae yn bosibl, ambell dro, i rai feddwl mwy am gyflog da nag am adrodd y gwirionedd. Os gwnaeth Mrs. Stowe gam A choffadwriaeth Lord Byron, hyderwn y gwna apology ag a fydd yn deilwng o'i doniau, ac yn foddhaol i'r cyhoedd. Hi hoffem i'r Wasg Anffyddol geisio gwyngalchu buchedd Lord Byron. Achosodd ei anffyddiaeth lawer o lygredig- aethau, ac arweiniodd ei lygredigaethaui lawer o ofid; ond dylai y Wasg Buritanaidd fod ar ei gwyliadwriaeth rhag camliwio hen helynt- ion ag oeddync bron llithro o'r golwg i dir anghof. Os yw adroddiad Mrs. Stowe yn gywir, ac od oedd rhwymau moesol ami i gyhoeddi y dirgelwch oeddid wedi ymddiried iddi, dylasai ei gyhoeddi naw mlynedd yn ol. »
EGLWYSI SEFYDLEDIG.
News
Cite
Share
EGLWYSI SEFYDLEDIG. Y MAE dadsefydliad Eglwys yr Iwerddon yn awr yn ffaith; yn ffaith ag sydd wedi gwneud yr argraff ddyfnaf ar y wladwriaeth ac ar yr Eglwys; yn ffaith a gyflawnwyd ar ol yr ystyriaeth ddifrifolaf a'r ymresymiad mwyaf pwyllog; yn ffaith a gyflawnwyd gan ddeddf- wyr blaenaf y ddaear; yn ffaith a brofa yn ddamnedigaeth a marwolaeth i hen egwyddor anghyfiawn a gormesol eglwysi sefydledig; yn ffaith ag y mae ei dylanwad o hyd yn trym- hau ac yn ymledu; ac y mae y dylanwad hyny yn sicr o drymhau ac ymledu nes y rhyddheir crefydd o'i llyffetheiriau a'i llygred- igaethau gwladol yn NGHYMRU a Lloegr a Scotland, ac yn holl Daleithiau tramor Prydain, yn gystal ag yn yr Iwerddon. Oblegid hyny yr ydym yn bryderus am i'r Statesmen enwog profedig pwyllog cydwybod- ol ydynt wedi hir astudio y pwnc mawr, a'r rhai a ddechreuasant ddwyn eu barn i fuddug- oliaeth, gadw yr awenau yn eu Haw nes sefydlu mewn dull heddychol gydraddoldeb crefyddol drwy yr holl ymerodraeth. Da iawn genym weled Rhyddfrydwyr o bob oed ac o bob gradd a sefyllfa yn pleidio egwyddor- ion mawrion iawnderau cydwybod a rhyddid crefyddol; ond dylid dal yr awenau gyda gofal a medr pan y mae y cerbyd yn treiglo mor gyflym a chyda nerth cynnyddol, ar dipyn o oriwaered, rhag y dygwydd damwain. Da iawn genym weled eglwysi sefydledig yn prysur 'drefnu eu tai' er gallu byw a gweithio yn fwy cyfiawn ac anrhydeddus ar eu traul eu hunain, gan y gwyddom yr effeithia hyny er tawelwch y gwledydd, ac er llwyddiant i grefydd.
♦ CYNNADLEDD HEDDWCH.
News
Cite
Share
♦ CYNNADLEDD HEDDWCH. CYFARFU bron bedwar cant o brif bleidwyr Achos Heddwch, ryw wythnos yn ol, yn Lausanne, Switzerland. Sylwedd eu hym- resymiad oedd, mai y ffordd oreu i ddiogelu heddwch Ewrop fyddai i ffurfio 'Undeb' o'i holl wledydd dan yr enw 'United States of Europe;' a bod llywodraeth pob talaeth, neu deyrnas, i gael ei dwyn yn mlaen, yn ol ewyllys y deiliaid, drwy gyfryngwriaeth eu cynnrychiolwyr; a bod pob talaeth i fod yn annibynol yn ngweinyddiad eu holl achosion cartrefol; ac y dylent gael rhyddid pleidlais, rhyddid y wasg, rhyddid dadleuaeth cym- deithasfaol, rhyddid cydwybod yn mhob cysegr, a rhyddid i ddiwygio eu holl sefydl- iadau gwladol. Areithiwyd yn wresog yno yn erbyn profedigaethau a llygredigaethau milwraidd, a thros sefydliad Uchel-lys o gyf- lafareddiad er terfynu pob dadl rhwng gwlad a gwlad. »
ADDA JONES A GOL. Y DYDD.'
News
Cite
Share
ADDA JONES A GOL. Y DYDD.' WRTH gyfiawnhau cynnyg byrbwyll Watkin Williams yn y Faner' fach cyn y ddiweddaf, y mae Adda Jones yn brysio i gael cwpanaid o de rhag llesgau yn ngwyneb gelyn I gewyn- og' oedd yn dyfod yn sydyn i'w olwg, nid amgen Golygydd y DYDD. Tra yr oedd Adda ar ganol amddiffyn ei gern aswy rhag un gelyn, cafodd achos i ofalu am ei gern arall rhag cripiadau Haw ewinog y Golygydd add- fwyn o Ddolgellau. Ond y mae Adda yn teimlo yn bur gwmfforddus y gall lorio Gol. y DYDD,' naill ai ar ol y te, neu heb cheer y te eithr nid oedd am ei lorio ar lawr y < Faner' fach, ond yr oedd am ei gadw dan ei law am ryw dridiau, i gael ei lorio yn iawn ar y Faner' fawr ddydd Mercher. Buasai yn bluen yn nghap Adda iddo lorio Gol. rhwysgfawr y DYDD ryw fis yn gynt, oblegid yr oedd yn un o'r rhai cyntaf allan ar faes pwnc Watkin Williams; ond nid oedd Adda am ei weled y pryd hyny ac yr oedd mewn cryn dipyn o lwch wrth geisio'llorio un arall. Y mae tipyn bach or Watkin Williams yn Adda Jones pan y mae yn udganu wythnos yn mlaen ei fwriad i'w lorio. Buasai yn fwy business-like iddo ei lorio yn ddirodres, a chadw ei gorn ar y shelf i'w chwythu ar ol iddo ddarfod. Buasai yn bluen arall yn ei gap iddo ddyfod yn mlaaa i'w lorio ar lawr y DYDD ond mwy dewisol oedd ganddo, ac y mae yn ddiogelach iddo ymaflyd y codwm dan Faner y Dinbychiaid nag yn llygad y DYDD. Y mae Adda yn fawr ei set am 'feddygin- iaethu ysbryd ceintachlyd a phigog golygydd- ion anffaeledig.' Y mae ganddo waith mawr. iawn, a gwaith da iawn mewn llaw; ac os gall ei gyflawni, ac os gall ei feddyginiaethu ei hun hefyd, cyn neu ar ol meddyginiaethu y Gols, bydd hyny yn bluen ardderchog arall yn ei gap. Y mae yn meddwl iddo glywed rhywbeth gynt am addfwynder Gol. y DYDD; ac od oes rhyw weddillion o'r addfwynder hyny yn aros ynddo, y mae yn gobeithio y gall ei adferu i'w gyflwr gynt o ras, o leiaf y mae am dreio ei law; ac y mae yn cofio yn y cyfamser ato, gan obeithio cael ei gyfarfod yn gwmfforddus ar ol ei adferiad i ras Adda Jones. Yn awr, y mae Adda Jones, nid yn unig yn cymeryd yn ganiataol, ond y mae yn ceisio ei resymu ei hun i'r gred, fod Gol. y DYDD wedi syrthio oddiwrth ras dadgysylltiad cref- ydd o iau y llywodraeth, neu nad yw ddim dros hawl y deiliaid i gydraddoldeb crefyddol. Y mae y Gol. yn parhau yn y gras hwnw yn ddiysgog; a byddai yn burion i Adda gofio fod Gol. y DYDD yn un o breswylwyr y Pre- Adam-ite earth; hyny yw, yn un o bobl y byd cyn Adda Jones. Yr oedd yn y byd hwnw gewri o ddadgysylltwyr yn hit cyn llunio Adda Jones o bridd y ddaear, ac yn hir hir iawn cyn iddo agor ei lygaid: ac y mae ambell un o'r rhai hyny yn aros hyd heddyw, ac y maent yn glynu wrth eu pwnc heb lesgau na diffygio, er fod Adda mewn hwyl ddoctoraidd am dreio eu meddyginiaethu; neu os nad all, y mae am eu disodli, a'u llorio,' a'u lluchio o'r nbrdd. Y mae Gol. y DYDD am hysbysu i Adda ac i'w holl deulu ei fod mor ffyddlon i bwnc mawr Rhyddhad Crefydd ag y bu yr un o honynt erioed yn awr oleuaf a santeiddiaf ei gydwybod; ac y mae yn gobeithio cael byw i weled Milflwyddiant y Dadgysylltiad, os na bydd i brysurwch digy- wilydd teulu Watkin Williams godi tram- gwyddiadau bryntion ar ffordd yr olwymon. Yn awr, y ffaith yw i Mr. Watkin Williams, mewn awydd gwyllt am ryw flaenoriaeth, neidio i'r blaen, heb ymgynghori a neb o'i gydseneddwyr, na chael cymhelliad gan un- rhyw ddosbarth o'i gydgenedl, a rhoddi rhy- budd i'r Ty o'i fwriad i gynnyg, yn gynnar yr eisteddiad nesaf, am ddadgysylltiad a dad- waddoliad yr Eglwys Gymreig. Gwyr ef yn burion ei fod wrth roddi y fath rybudd, yn y dull y gwnaeth, wedi gweithredu yn groes i farn a theimlad y Rhyddfrydwyr hynaf, craff- af, cysonaf, a mwyaf profiadol yn y senedd, a thrwy bob parth or Dywysogaeth. Cafodd gyfle yn ei araeth ddiweddar yn Wrexham i esbonio ei arncan; ac y mae ei esboniad yn nodededig o gowliog, ac yn wrthun o Vï-aidd; ac yn argoel go eglur nad yw ddim yn ei le