Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CYNNYDD CRWYDRIAID.
News
Cite
Share
CYNNYDD CRWYDRIAID. LLETYWYD yn ngweithdy Union Dolgellau yn y flwyddyn 1865, saith gant a saith; yn 1866, wyth gant a dau; yn 1867, deuddeg cant a thri a deugain;yn 1868, bymtheg cant ac wyth. Dyblwyd eu nifer mewn pedair blynedd; a gellir casglu fod cynnydd cyfat- ebol yn Unions eraill y^deyrnas. ||Y f mae bywyd y crwydriaid yn un o diiedd iw harwain i lawer o brofedigaethau; i lygru ac andwyo eu cymeriadau; yn un sydd yn ofid i ddiwydrwydd a rhinwedd, ac yn ddianrhydedd ac yn golled i'r wladwriaeth. Y mae y crwydriaid yn gyfFredinlyn eu dyddiau gweithio goreu; yn cyd-ymdaith yn fan finteioedd, o bump i bymtheg; yn adnabod ffyrdd a chylchoedd y wlad yn lied dda; yn dewis y ffyrdd a'r cylchoedd lle'y bydd yn fwyaf diberygl iddynt erchi am fwyd a diod wrth fyned heibio; a lie y bydd lleiaf o berygl iddynt gael eu dal a'u cosbi am unrhyw fan-droseddau. Yn awr,1 y gofyniad yw, A oes dim'modd i attal cynnydd y drwggorthrymus hwn? Ac i'w leihau yn raddol, os nad ellir ei attal ar unwaitM Dylai y fath ofyniad gael ystyriaeth awdur- dodau pob Sir a phob Union. A fyddai dim modd cael gwaith, ie gwaith buddiol, yn mhob sir, gwaith a dalai am ei wneud, megys adgyweirio ffyrdd a llwybrau, a chloddiau a gwrychoedd, a digaregu meusydd, a sychu lleoedd lleidiog, agor cwterydd a glanhau heolydd, priddo llysiau, a chwynu efrau, &c. Meddyl- iem y byddai yn lied hawdd i berchenogion tiroedd a gweithiau gynllunio gwaith buddiol os am welliantau, ac ysgafnhau beichiau eu g wlad fa byddai yn hawdd iddynt hysbysu i awdur- dodau yr Unions "y gwaith sydd ganddynt i'w gyflawni, ae y talent gyflog rhesymol am ei wneud. Ond a fyddai modd cael gan y crwydriaid i blygu yn hywaith i weithio ar delerau teg, xvrth reol dda, neu dan iau esmwyth? Byddai, ond ymroddi at hyny yn bwyllog ac yn benderfynol. Gellid esbonio y gwaith fyddid am wneud i overseer priodol; a gallai hwnw gymeryd tigain, mwy neu lai, o'r crwydriaid dan ei arolygiaeth. Os gweithient yn ufudd a. diwyd a ffyddlawn, dylid bod yn deg wrthynt gyda golwg argyflogac oriau a llety a lluniaeth; ond os byddent yn gyndyn a diog a lladronig, dylid eu cadw yn dyn dan ddysgyblaeih lem. Dylai cyhoeddiad fyned allan drwy holl wersylloedd y crwydriaid fod gwaith yn cael ei drefnu iddynt os deuant i'r cyrhaeddf'nid rhyw awr o dorl cerrig dan shed y gweithdy fel tal am y gwely a'r brecwast, ac yna cael eu gollwng yn rhydd i elfen eu diogi i grwydro ar draws rhyw gylchoedd eraill o'r wlad—ond diwrnod llawn o waith teg i gael ei wneud yn onest am gyflog teg,—nid cyflog y gweithiwr profedig a medrus a ffyddlawn ydym yn feddwl, ond eyflog y gwas diog anhylaw. Byddai rhybudd teg felly i finteioedd y crwydriaid fod GWAITH yn ddarparedig ar eu cyfer, bron yn sicr o'u gogwyddo i chwilio am waith drostynt eu hunain; ac i nychu eu blys at grwydro; ac i ymgais am fodo ryw wasanaeth buddiol toewn unrhyw gylch lie y gallant gael gwaith yn lie crwydro ar hydy byd. Y mae yn deilwng o ystyriaeth nad oes ond ychydig iawn o F ENYWAID—er eu bod yn fwy na banner preswylyddion y wlad -yn mysg y crwydriaid. Y mae eu bod hwy yn ymgadw heb grwydro yn anrliydedd iddynt: oblegid y mae yn ddiamheuol eu bod hwy yn cael eu llawn ran o wasgfeuon yr amserau hyn fel y bechgyn. Y mae yn fwy na thebyg fod llaweroedd o hoiiynt yn dyoddef, ond y maent rywfodd yn bywjheb nychu eu hiechyd a'u moesau drwy ludded a llygredd yr arferiad o grwydro ar hyd 9 ac ar draws y gwledydd. Pe byddai gan rywun gynghor neu gynllun er gwella y drwg enbydus a gwarthus hwn, byddai da genym ei gael. Y mae yn llawn bryd i ymgais am ddiwygiad. Prin y mae awdurdodau ein gwlad wedi bod mor llwyddiannus ag y gallesid dysgwyl i ddiwreiddio o'r tir y drygau ar profedig- aethau sy'n. dilyn segurdod a diogi.
PREGETH WLEIDYDDOL AR ETHOLIAD…
News
Cite
Share
PREGETH WLEIDYDDOL AR ETHOLIAD CYFFREDINOL 1868. GAN Y PARCH. T. SELBY JONES, TREWEN. (Parhad). OND awn rhagom i sylwi yn- IV. YMDDYGIAD GWROL, PENDERFYNOL, A RHEOLAIDD Y GWBTH- DDRYCH, yn ngwyneb crybwylliadau twyllodrus, rhuadau cynddeir- iog, a dichellion gwaedlyd ei elynion. Ond efe ni chymerodd arno glywed eu bygythiadau, ac a ymwrolodd ac "a ymgynghorodd &'r holl bobl. Yr oedd y ffrydlifau o wawd a dirmyg a daflodd y Tories ar Mr. Gladstone mor fuan ag y gwnaeth ei benderfyniad ar yr Eglwys Wyddelig yn hysbys iddynt, yn ddigon i beri i ddyn o benderfynolrwydd cyffredin i beidio yngan gair byth mewn per- thynas iddi. But stop a bit yw hi. Y mae tua deng mlynedd ar hugain o oes Seneddol-yn neillduol un debyg i oes Mr. Gladstone -yn durio talcenau ein cynnrychiolwyr, ac yn tewychu eu crwyn, fel mai nid am ddim y cauir genau rhai o honynt. Felly, er cy- maint o wrthwynebiad a ddangosodd y cyfrwysgall Disraeli, y levelling up May, y weeping Walpole, a'u cyfeillion, i benderfyn- iad Mr. Gladstone, profodd iddynt mai nid un o'u gorchwylion hawddaf oedd cau genau cymhar bywyd merch hynaf Barwnig Hawarden Castle. Na, yn lie llwfrhau a thori ei galon yn ngwyneb gwrthwynebiadau ei elynion, yn ngeiriau ein testun, darfu i Mr. Gladstone ymwroli ac ymgynghori a'r holl bobl. Gan mai cyn- nrychiolwyr y bobl yw ein haelodau Seneddol, cyn pasio unrhyw Fesur pwysig, y mae o'r pwys mwyaf i wybod, mor agos ag y gellir, beth yw barn a theimlad y wlad am y cyfryw Fesur. Yr oedd Reform Bill 1867 wedi gwneud tyrfa luosog,o etholwyr newyddion, y rhai nad oeddynt erioed or blaen wedi cael yr un llais yn ngwneuthuriad y cyfreithiau y dysgwylid iddynt ufuddhau iddynt a byw wrthynt. Heblaw hyn, nid oedd yr Eglwys yn yr Iwerddon wedi bod yn gwestiwn yr husting' yn yr etholiad cyffredinol cyn y diweddaf. Felly nid oedd neb o'r etholwyr—hen na newydd— wedi amlygu eu barnau arno o gwbl; a chanfod yr etholiad cyffred- inol, dan nawdd y Mesur Diwygiadol, wrth y drws pan gynnygiodd Mr. Gladstone ei Irish Church Resolutions, cafodd pobpeth fyned yn mlaen mor ddystaw ag yr oedd modd, beth bynag, heb gynnyg vote of no confidence' yn y Weinyddiaeth, nac arall, yr hyn a allasent wneud yn ddigon rhwydd y pryd hwnw, pe buasai y Rhyddfrydwyr yn dewis. Yn- lie hyny, dysgwyliasant yn dawel am raniad rheolaidd y Ty, er mwyn ymgynghori a'r holl bobl. Ac i ymgynghori yr aed. Bobol anwyl, 'nawr am dani. Red neu blue. Show your colours, beth bynag ydynt-—maes a nKw. Oraclau y gwahanol ardaloedd, at eich pyst a chwi. Weinidogiron y gwahanol enwadau, gadewch lonydd am dipyn i etholedigaeibh, bedyddiaeth, antinomiaeth, a phob "aeth" arall; ac os oes genych ryw stori sarhaus am Dori, pe b'ai mor hyned a Methuselah, na hidiwch, maes a hi. Put all your ministerial hands upon deck, onide, cyn wired a bod y Wyddfa yn uwch na Llanberis, fe ddaw y 'Gwr a'r baich drain' o hyd i chwi yn rhywle; ac os felly, gwae'ch clustiau chwi fydd hi. Post-boys, cribwch eich gwalltau, brwsiwch eich pedwarcarnoliaid, parotowch eich cerbydau, fychain a mawrion; yr uchaf ei geiniog—that's the man i chwi. Siopwyr a masnachwyr, codwch brisiau eich ysnodenau, red neu blue, black neu white, na ofelwch am liw na llun, pwy na pheth—cofiwch fod y traveller yn dyfod heibio yn mhen pythefnos, a gofalwch recordio votes yn iawn ar ddydd yr etholiad—dyna'r cyfan. Glercod a chyfreithwyr, blaenllymwch eich pluen-fonau; a pheth bynag a anghofiwch, gofalwch dynu cyd a choes rhaca o fil, rhag ofn na chewch y fath gyfle am geiniog etto am saith mlynedd. Wei, yn