Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CENDL.

News
Cite
Share

CENDL. Cyfnewidiadau Teuluaidd.—Tna phum mis yn ol, yr oedd teulu o wyth o nifer yn byw mewn ty bychan, dodrefnus iawn, ar y mynydd-dir rhwng- Cendl a Sirhowy. Yma yr oedd glanweithdra, diwydrwydd, a darbodusrwydd i'w gweled. Yma y trigianai y famgu, a'i pblant, a'i hwyrion. Y famgu, debygem, oedd ag awenau y llywodraeth deuluaidd yn ei lIaw; ac yr oedd, fel y barnwn, yn ofalgar a deheuig yn eu llywio. Ond ow! daeth angeu yn lied annysgwyliadwy, a cbymerodd hi ymaith. Dyna'r teulu mewn galar mawr, ac wedi colli yr un yr edrychid ati fel ei ben. Aeth mis heibio mewn hiraethu a galaru am dani. Yr oedd cryn dipyn o gystudd wedi bod er's tro ar y ferch a'i gwr; ond yn awr dysgwylid gwell^ad— dys- gwylid etto heulwen ar ol cwmwl. Ond ow! dyma gwmwl mwy brochus etto. Yn mhen mis i'r dydd y claddwyd y famgu, pan yr oedd y ferch yn myned yn nghylch ei goruohwyliaeth yn y ty, darparu ciniaw i'w theulu, a'i thri phlentyn o'i deutu, yn nghyda merch fechan i gyinydog, yr hon a'i helpai—pob peth, mor bell ag y gwyddom ni, yn myned yn Hilaen yn dawel a hapus iawn; ond ow! ar daruwiad ttygad, dyna y daranfollt ofnadwy yn erch-drystio uwchben eu hannedd facb-dyna y fellten ar eu gwarthaf—dyna y to, a thalcen, a rhanau eraill o'r ,ty, yn holltau a arylliau wan—y dodrefn hardd a glan yn ysgyrion, a rhai o'r celfl wedi eu hyrddio allan o'r ty i gefn y buarth, a'r ffenestri fel pe buasent wedi eu cbwythu ymaith trwy nerth pylor! Ond pa le yr oedd y rhai hyny o'r teulu oedd yn y ty ar y pryd? Dyna. ferch fechan y cymydog yn rhedeg tuag adref yn anafus fel un wedi gwall- gofl-dyna. y plentyn hynaf yn rhedeg allan o'radfeihon yn ddychryaedig, a'r baban ar ei braich-a dyna'r fam yn annheimladwy (insensible) ar lawr y ty wedi ei gor. chuddio gan ddarnau o'radeilad ddystrywiedig! a'r bachgen bach pedair oed wrth ei hochr yn orchuddiedig gan goed, ceryg, a mortar, yn gelain marwl Adfer bywyd iddo nis gellir. Ymdaenodd braw drwy y gymydogaeth, ymgasglodd lluaws yn iaghyd Or cymydogion, gwnai pawb ei oreu i gynnorthwyo-yr oedd gwyr eryflon yn delwi. Ymddadebrodd y fam, a bu yn hir nychu obyny hyd ddydd Iau, Ebrill 29, pryd y bu farw. Claddwyd hi yn mynwent Carmel y Sadwrn canlynol. Ann Jones oeddenw y famgu, ond nid dan yr enw hwnw ei hadweinid oreu, eithr Nanny Bevan' oedd yr enw dan yr hwn yr adnabyddai y cyffredin hi. Jennet Lewis oedd enw y ferch. Btlm yn nhy Lewis Lewis, ei gwr gweddw, un o'r dyddiau diweddaf. ac .ni welais yno ond dau o'r wyth a gyfansoddent deulu cysurus ychydig amser yn ol. Trwy amgylchiadau yn nghwrs rhagluniaeth a gweinidogaeth angeu, maent wedi eu Chwalu mewn byr amser—rhai yma a thraw yn yr ardal hon, un yn America, tri yn V y bedd. Dyma enghraifft, yn mysg myrdd o rai cyfifelyb, o anwadalwch a chyfnew- idiolrwydd y byd hwn. Claddedigacth Lizzie Hughes.—Yn y DYDD am Ebrill 16, ymddangosodd hysbysiad am ei marwolaeth. Ail feich y Parch. R. Hughes, Carmel, ydoedd. Parhau yn hiraethlon a thorcalonus iawn y mae Mr. a Mrs. Hughes ar ol en hofl anwyles Lizzie.' Hi yn wir oedd «anwyl un y cyleh teuluaidd a'r cymydogion.' Annys, gwyliadwy iawn y bu ei marwolaeth. 0, tydi y scarlet fever I yr hen angyles ddin- ystriol! paham y gwnaethost hyn? O'r alaeth oesol a beraist i^u bron! ond rhaid ymattal. Dydd Ma wrth, Ebrintl3, claddwyd 'yr hyn sydd farwol' o Lizzie fach I mewn daeargell yn mynwent Carmel, yr hon oedd wedi ei llorio a'i murio, a'i gwneod mor gysurus efallai ag y gall bedd fod i olwg y byw. Yno y gorwedd yr hyn sydd lygradwy o honi wrth ochr bedd ygymydoges wddgar, Mrs. Needham, anwyl briod Joseph Needham, Ysw", Manager gwaith Cendl; yr hon hefvd oedd ferch i'r diweddar Barch. T. Evans, Llanwrthwl, ac wyres i'r diweddar Barch. Mr. Evans, Rhaiadr Wy. Daeth tyrfa luosog i arwyddo parch i weddillion marwol 'Lizzie fach,' a'u cydymdeitnlad a'r rhieni galarus ar ddydd ei chladdedigaetli. Elai yr orymdaith apgladdol o'r ty i'r addoldy yn y drefn ganlynol;—yn gyntaf, y gWeinidogion bob yn ddau; yna cantorion Carmel; yna merched byehain Ysgol Sab- bathol Carmel, yn nghyda rhai ysgol ddyddiol Miss Sarah Ann Jones, yn' yr hon yr arferai' Lizzie' fod, ac yn yr hon yr oedd hi yn favourite gan y feistres a'r plant; yna corffmarwyranwyles fach mewn arch gaboledig o good derw, yn cael ei ddwyn gan chwech o wyr ieiiainc Carmel, a menyg gwynion am eu dwylaw, a scarfs gwynion am eu hetiau; yna y tad a'r fam, a'u hunig blentyn yr hon sydd yn awr yn fyw; yna dau o'r perthynajsau agosaf; yna Mary Thomasy forwyn, yn nghyda dwy o gyfeill- esau yr un fach ymadawedig; ac yna ydorfo gymydogion a chyfeillion. Elidyn arafaidd dan ganu yn bruddaidd o gate yr ardd hyd ddrws yr addoldy. Yno dar- llenwyd cyfran o air Duw gany Parch. J. Edwards, Pontygof; gweddiwyd yn deiml- adwy gan y Parch. R. Parry, Victoria; pregethwyd yn Saesonaeg gan y Parch. E. A. Jones, Rehoboth, Brynmawr, ac yn Gymraeg gan y Parch. D. Hughes, B.A., Tre- degar— y ddau yn hynod bwrpasol ac effeithiol; a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. Griffiths, Gosen, Rhymni. Rhwng y ddwy bregeth, canwyd tin 0 hoff bennillion Lizzie fach,'sef— Guide me, 0 thou great Jehovah,'&c. Yr oedd yn hyfrydwch pruddaidd i'w thad i edrych ar yr arch ddysglaer, yn yr hon yr oedd ei hanwyl gorff yn amgauedig, ar y bwrdd cymundeb yn y sedd fawr gerbron y pulpud. Ond rhaid ei symud oddiyna i'w osod o'r golwg yn y ddaeargell baroto- edig. A dyma ni yn myn'd tuag yno. Wedi ei gosod yn dyner a destlus yno, tra- ddodwyd anerchiadau llawn o deimlad ac addysg gan y Parchn. Evans, Cendl (gynt o Nantyglo); Jones, Machen; Jones, Elim, Tredegar; a Jeffreys, Penycae; a g weddi- wyd gan y Parch. R. Hughes, Adulam, Tredegar; a rhoddwyd pennillion darluniadol iawn o deimlad y rhieni i'w canu ar y diwedd gan y Parch. W. Edwards, Tabeirnacle, Penycae. Yna darfu i'r tad ollwng ychydig flodau o'i law ar gauad arch ei hoff blentyn ar waelod y bedd; ac aeth un o wyr ieuainc Carmel i lawr i'r bedd, a gosod- odd yno amryw flodau amryliw a pheraroglus, fel yr arwydd diweddaf o serch allesid eiddangos. A dyma. ni y byw yn awr yu ymwasgaru i fod am ryw gymainto amser etto yn y byd hwn cyn cael ein gosod, un ar ol y llall, yn ngorweddfau y marw. Y Parch. JJ. Duvies, New lnn.-Pa fodd na b'si y gwr hwn yn fwy adnabyddus yn y Gogledd ? Mae yn wir ei fod ef yn adnabyddus tua Dinbych a Rhuthyn, a Chroes- oswallt, ae ychydig leoedd yn Maldwyn. Ond ni chlywais am dano mewn cymaint ag un GYMANFA erioed yn y Gogledd. A dychymygaf glywed rhai o wyr y Gogledd yn dweyd,' Pwy yw Davies, New Inn ?' Pwy yw yn wir! Y mae wedi bod yn preg- ethu yn nerthol a swynol i filoedd Cymanfaoedd mawrion y Deheudir yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Y mae wedi bod yn weinidog yn New Inn, Sir Fynwy, er's saith mlynedd a deugain. Ac y mae yn awr a'i frawddegau mor lithrig, a'i ddawn mor ystwyth, a'i lais.mor beraidd, a i ysbryd mor wrol braidd ag y bu erioed. Dydd Sabbath, Ebrill 25, bu yn pregethu yn Carmel, Cendl. Traddododd yma ddwy bregeth ar farwolaeth Lizno Hughes.' Mewn dull toddedig iawn triniai yr athraw. iaethau melus o anfarwoldeb yr enaid ac adgyfodiad y corff. Ei deatun yn y boreu oedd Actau xxvi. 8, ac yn yr hwyr Job xiv. 14. Er fod gan Olygydd yDYn1) ysbryd tyner, etto, tybiwn nas gall ef gydymdeimlo nemawr a thad a mam alarus ar ol hof blentyn. Ond y mae gwyr y gwallt gwyn fel Jenkins, Rhymni; Jeffreys, Penycae; a Davies, New Inn, yn meddu mantais neillduol i wmoud hyny. Gwyddant hwy trwy brofiad am beth felly. Ac O! brofiad chwerw yw!—MABA.

CEMMAES, MALDWYN.

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

Watrjnalioelit* p ragtijnos.

Marchnad Yd Llundain.

GAIR AT YR ANNOETH.