Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR. AwsTlN.—Mae eieh ysgrif ar *Y Nadolig* yn un dda iawn. A fydda,i genych wrthwynebiad i ni ei chadw hyd y Nadolig nesaf cyn ei chyhoeddi, gan y credwn y cymerai yn well o lawer y pryd hwnw nag yn awr? CWEBYL YR ALABAMA.—Yr ydym yn ddiolchgar i'n cyfeillion Jones, E., a D. H., am eu cefnogiad i'r nodiadau a wnaethom ar y pwnc. Dichon ei bod yn afreidiol, os na byddai yn niweidiol, i gyhoeddi ychwaneg ar y mater yn awr; oblegid dywedir fod yr Arlywydd Grant a'i gynghor, a dynion a newyddiaduron mwyaf dylanwadol yr Unol Daleithiau, yn anghymeradwyo syniadau y seneddwyr Sherman a Chandler, a'r rhai oeddyntwediymwylltio i hysio i ryfel; a'u bod yn awr yn gynhes a boneddigaidd am barhad cyfeill- < garwch a chydfasnach rhwng y ddwy wlad. Diolch i drugaredd y nefoedd fod cynghor y rhai oeddynt mor wallgof am ryfcl wedi cael ei ddifwyno, drwy iddynt fyned yn rhy boethwyllt yn yr achos. GWILYM DEINIOL.- Yr ydych chwi yn meddwl yn o gryf nad allasai Cang- hellydd y Trysorlys wneud dim yn well i'r tlawd eleni nag a wnaeth. Y mae eraill yn barnu yn wahanoL Nid ydym am ddadl ar hyny ar hyn o bryd. Yr hyn a ysgrifenwyd gan Robert Lowe yn ei Budget diweddaf a ysgrifenwyd. Gobeithio y daw i ysgrif enu well well ar ran y tlawd, ac ar ran pawb eraill wrth gyfansoddi ei Budgets nesaf. SHON 0 FEBTHYB AC R. R.—Gwell genym beidio cyhoeddi ychwaneg yn nghyleh yr anghydwelediad o berthynas i ranau o lythyr Gwesyn. Hyder- wn fod y ddwy ochr am weithio yn y dull y barnont oreu er lies eu gwlad. PROTESTANT EGLWYSIG. Vr ydym yn credu eich bod yn bryderus am ddefnyddioldeb, yr Eglwys; ac yr ydym yn credu hefyd, fel chwithau, y gellid gwneud ei gwasanaeth yn fwy effeithiol pe rhoddid mwy o deimlad calon yn y llais a'r wedd wrth ddarllen y llithoedd a'r gweddiau. Ond prin y mae yn gweddu i'r DYDD gyhoeddi llithoedd ar y pwnc. Cyfeiriwch eich cynghor yn fWYUNIONGYIlCHOL i ystyriaeth y rhai ydych am ddiwygio, a gall felly fod o les mawr. W, J. E.J PBNBHYN.—Nid yw y rhifynau a nodwch genym. J. THOMAS, BETHEL.—Nid oes ond y rhifyn cyntaf or "Ganwyll" allan o'r Waag. MACHBETH ABALL.—Methu cydweled y mae hwn & Machreth yncofnodi ffaith mor ddibwys yn y DYDD diweddaf. Yr ydym o'r un fam â. chwi, ac nid ydym am i chwi drin eieh gilydd ar ddalenau y DYDD. MEWN jLLAW.—Eisteddfod Silian; Tafol y Beirdd, gan y Dyn a'r baich drain; Mae'r Byd yn fyw; Treth y Own; Hanes Crefydd yn yr Iwerddon; Eglwys Loegr a'i baglau; Gladstone; Helyntion Gwlad y Mawn; Pethau Chwithig" &c., &c. CYFEIBIEB y GohebiaethSiu i'r—Parch. S. R., Dolgellau. Yr eirchion i Mr. WK. RUGHIS, Dolgellau. TELERAU T DYDD.—Anfonir y DYDD trwy y Post am chwarter yn ol y teler- au canlynol1 (os telir yn mlaen) am 2s. 6c.; 3 am 4s. 6c. Os na thelir yn mlaen, I am 2s. 9c.; 3 am 4s. 1 lc. HYSBYSIADAB.—Heb fod dros dair llinell, is. y tro; am bob llinell ychwaneg- ol, Sc. Ond ymddengys hysbysiadauam yspaid o amser am brisiau llawer ÙI.

CYNNRYCHIOLWYR RHYDDFRYDIG…

CWERYL .YR ALABAMA ETTO.

Y 'PERMISSIVE PROHIBITORY…