Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BEIRNIADAETH TRAETHODAU PENYDREF,…

News
Cite
Share

BEIRNIADAETH TRAETHODAU PENYDREF, CAERNARFON. "Abiah." Derbyniwyd pedwar o draethodau ar ei hanes,—gan Melita," "Heroditus," "Samuel," ac "Eutychus." Y mae "Melita" yn amcanu yn wych am yr hanesa r addysgiadau, ond y mae ei bapyr wedi ysmotio, ei iaith yn wallus, ei lythyrenu a'i attal- nodi yn fwy difEygiol na'i gydymgeiswyr. Y mae papyr "Heroditus" yn lan, ei lawysgrif yn eglur a godidog, er, mi dybiwn, het ddyfod etto i'w pherffeithrwydd. Pe buasai genym safon am lythyrenu ac attalnodi, tybiwn y buasai efe yn dyfod yn Iled agos ati. Daw at ei destun yn ddiymdroi. Erys gydag ef hyd y diwedd. Mae ei iaith yn ystwyth, a gwna ei feddyliau yn eglur ag ychydig eiriau. Oud rhwng "Samuel" ac "Eutychus" y mae yr ymdrechfa. Y mae llawysgrif y ddau, yn enwedig Samuel, yn eglur a phrydferth. Buasai yn well gan J. R. nag aur pe yr ymorchestasai i fod yn debyg iddynt 50 mI. yn ol. Buasai llanciau swyddfa y waag wedi dwrdio llai arno, ac wedi gwneud peth mwy o chwareu teg a'i ysgrifau. Nid yw efe yn credu fod llawys- grifen annarllenadwy yn arwydd o fawredd; ond wedi llithro i'r ffos yma, fel fEosydd eraill, y mae yn anhawdd dyfod o honi. Y mae y lediaith Seisnig wedi efteithio peth ar "Samuel." Nid yw ei glust: wedi dysgu iddo pa peth yw effeithiau diwedd y gair btaenorol ar ddechreu ambell air Cymraeg. Ysgrifena "gwlad" Crist. yn lle" Grist- ionogol"arnynt" cy. yn lie "yywilydd"—"yn prawf ddigon yn lie yn irau/digon, &c. "Eutychus" yw y mwyaf cywir yn mhob peth. Anhawdd cael y gwall lleiaf ynddo ef. Gan mai Abiah yw y testun, tybiwn ei fod yn aros yn lied hir gyda Jeroboam ei dad fel arweiniad i mewn i draethawd mor fyr. Daw "Samuel" yn gynt at ei destun; ac wedi dyfod ato, y mae y ddau yn aros gydag ef am y goreu hyd y diwedd. Pe rhoddid y wobr i "Eutychua," yr wyf yn meddwl y dywedid fod "Samuel" wedi cael cam; a phe rhoddid y wobr i Samuet," yr wyiyn credu y dywedid fod Entychus" wedijcael cam. Os goddefa y rheolau, buasai yn well genyf ranu y wobr gyntafrkwng y ddau, a riloddi yr ail i "Heroditus. "Helyntion 1868 yn gysylltiedig A Chyniru." Derbyniwyd pedwar traetbawd,gan Benoni, •* Theophilus," Gwyliedydd ar y Twr," ac "Apolos." .:v r* Y mae "Benoni" yn ysgrifenu mor gywir. eglur, ac ystwyth a'r goreu o honynt, ac y mae yhjiaws ei ddarllen; ond rhaid ei gau atlatt, yn t. Am ei fod yn hysbysu y beirniad pwy ydyw. 2. Am nad yw yn gwbl mor gynnwysfawr a'i gydymgeiswyr. 3. Am ei fod yn rhesu tysteb S. R. a thoriad allan y Dydd yn mhlithjjri/'helyntion'68. Llawysgrif drom, ddilun, tebyg i A. S. neu Esgob sydd gan Theophil- us ac od oes coel ar y fath beth, dynoda y dy n mawr. Rbesa rai pethau na busawn yn dysgwyl yn mhlith prif helyntion y flwyddyn. Ymae mwy o nerth dirodres nag o dlysni barddonol yn ei gyfansoddiad, fel yn ei lawysgrif. Y mae el sylwaditu ar yr helyntion yn arddangos y meddwl crafjus sydd yn gweled yn mhell. Y mae efe a Benoni" yn gosod yr Eisteddfod yn mhlith prif helyntion '68; ond y maeut ynwahanol eu barnau am dani. Rhesa yr olaf hi gyda'r pethau goreu, a'r blaenaf gyda'r pethau annymunol; a geilw yn ddifrifol am ei diwygio neu ei chladdu. Gobeithio nad y diwygiad hwnw fydd cyaylitu y cyfarfodydd llenyddol a hi. Y mae I- Gwyliedydd ar y Twr" yn ysgrifenu Haw gref, bendefigaidd. Saif.ei lythyrenau a'u penau i fyny yn sythion, neu yn hytrach pwysant ar eu cefnau; ond nid mor hawdd eu darllen. Rhenir Helyntion '68 ganddo yn Annheyrngarol— Ymweliadpl—Naturiol—Llenyddol~Damwein- iol—Eglwgsig—Gwladyddol—a Marwotaethpl. Gwelir fod ganddo ddigon o agoriadau i ddwyn yr Helyntion i fewn, ac y mae yn gwneud. Cyffwrdd a mwy o bethau na'r un o'i gydymgeiswyr. Arnlyga ei feddyliau mewn ychydig eiriau. Ni wyr efe ddim am "foroedd trochionllyd gorddiwaelod- adwy, a ser gwefrdreiddiawl a thanbelenawg;" ond y mae yn synil, eglur, ac eofn. Diau mai prif helyntion '68 fu yr Etholiadau, ac ar hwn yr arosa hwyaf o lawer. Y mae II.Apolos yn sicr o fod yn feistr mewn cyfansoddi ac ysgrifenu. Ganddo ef y mae y traethawd meithaf. Y mae eiirawddegauynfwy cwmpasog a gorphenol. Efe yw y mwyaf hyawdl a blodeuog o lawer; ond nid efe rydd fwyaf o feddyliau eglur mewn lleiaf o Iè. Gyda'r Ethqiiadau y dechreua efe. Ar y pen hwn y mae hanner ei draethawd, ac yma y dwg allan ei holl nerth; a buasai yn anhawdd i neb fod yn well. Erys braidd yn rhy hir gyda'r Troseddau yn Nghymru, a rhy fach gyda'r pethau pwysig sydd yn dilyn, fel y mae yn hytrach yngwanhau at ddiwedd ei draethawd.. Derbynied pwyllgor Caernarfon ddiolchgarwch y beirniad am ddewis testun mor ddyddorol a phriodol. Yr anfantais gydsi chymeriadau ysgryth- yrol yw, fod cynnifer wedi ysgrifenu arnynt, fel nad oes dim i'w wneud ond casglu; tithr ni all fod llawer wedi ei ysgrifenu ar Helyntion y fi. yn 'I Nghymru, fel y mae yn rhaid i bob unddyfod allan yn efe ei hun; ac felly y daw y pedwar y sylwn arnynt. Peth caa yw llawer yn ceisio am wobr, heb yr un yn deilwng, a chad- eiriau yn cael en gadael yn weigion au oerion; ond nid mor siomedig yw pedwar yn ymgeisio, ac oil yn deilwng, a'r beirniad yn methu gwybod pa un yw y t^yngaf. Y mae yn anrhydedd i gyfarfod llenyddol Penydref fod y fath bedwar wedi ysgrifenu ar eu prif destun. Rhaid fod rhyw- beth heblaw y £ 1 wedi eu denu. Y mae y beirniad wedi cael ffordd i daflu allan "Benpni," am iddo roddi ar ddeall pwy ydyw; tnd y mae J wedi methn a phenderfynn rhwng y trt eraill. Os chwarddir am ei ben am hyn, ehwarddent hwy. Rhitner y jel 6a. 8c. i bob un; neu rhodder i un, ae anfoner y ddau eraill i eistedd—un i gadair wag Aberystwyth, a'r llall i gadair wag Rhuthyn. Conwy, Mawrth lfi, '69. J.B. .————- .HsiSJiiSi' ■* .'1

OYFARFOD LLENYDDOL SOAR, MERTHYR,…

GRUFFYDD RISIART AT THOMAS…