Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Y LLEUAD. ^ V
News
Cite
Share
Y LLEUAD. V (ODDIWRTH Y DYN A'R BAICH DRAIN.) lJoreu Dydd Llun y Sulgwyn. Dyma wythnos ar ol wythnos wedi ein cludo unwaith etto hyd i hen wyl eriwog
Y SULGWYN.r'-.'.'"'
News
Cite
Share
Y SULGWYN. r Mae gan y rhan fwyaf ryw gymaint o barch i HEN BETHAU, bydded eu gwerth gwirioneddol y peth y bo; ac os ydyw henaf- iaeth yn haeddu parch, y mae yr hen wyl hon yn ei gyfiawn haeddu, oblegid y mae yn HEN JAWN. Heb son am Bentecost yr hen oruchwyliaeth, yr hwn, fel y gwyr y rhan fwyaf, oedd Sulgwyn yr Iuddewon, mae Paul yn dymuno bod yn Jerusalem erbyn y Sulgwyn,' a cherir yr hen wyl yn mlaen drwy yr oesau yn ddidor-derfyn hyd y dydd heddyw. Diamheu fod llawer iawn o gyfhewidiadau wedi cymeryd lie yn y dull o dreulio yr, wyl o smser Paul hyd y dydd hwn, rhai ler gwell' a rhai 'er gwaeth.' Mae gwyliau, fel pethau eraill yn llygru, ac yn dad- feilio ac yn cyfnewid o dan guriadau ystormydd yr oesau, a Ilifeiriant llygredigaethau. Gan nad pa mor grefyddol y treulid y Sûlgwyno dan yr hen oruchwyliaeth, a thrwy oesau boreuaf, a. chanol oesau Cristionogaeth, y mae yn amlwg ddigon fod y wedd grefyddol oedd arni wedi diflanu i gryn raddau yn Jfghymru a Lloegr erbyn heddyw, oddieithr y mymryn gwahan- iaeth sydd yn y gwasanaeth yn yr Eglwys Sefydledig. The 'order of the day' yn awr drwy wythnos y Sulgwyn ydyw cyf- arfbdydd te, Picnic Parties, a Railway Excursions,—pawb yn d'od o'r trefydd i'r wlad, a phawb yn myned o'r wlad i'r trefydd. Wel, gobeithM fechgyn a genethod y cewch chwi hwyl a mwyn- had ayda, phob peth teilwng, ac na fydd neb o honoch yn cael aahos i ga.nu tu&'r flwyddyn nesaf hen benmil Syr Meurig:— "Mae gwaew anferth yn fy nghefn Er's agos ugain mlynedd, A hyny i gyd, i gyd i gyd, O achos Sulgwyn llynedd." Prif crfoledd: sir Gaernarfon heddyw a thrwy yr wythnos, ydyw dyfodiad Mr. Asheton Smith, aer y Faenol,'i'w ced. Ac er TBwyn truga.redd & phobi Merthyr, a'r hwntws yn gyffredinol, boed hysbys iddynt fod yr Asheton Smith hwn yn etifedd y Faenol, tipyn o etifeddfaeth sydd yn troi cryn swm 0 arian iV pherchenog yn flynyddol mewn tffrr o Arfon; ao mae'n debyg fod y llanc hwn yn dygwydd bod yn un ar hugainped heddyw, neu un o'r dyddiau yma. Mae y rhan fwyaf o bapyrau y Gogledd yn gofalu rhoi cryn ofod i hysbysu y ffaith orbwysig hon, ac i adrodd a manylu ar y darpariadau sydd ar gyfer yr amgylchiad. Heblaw hyny, y mae y beirdd yn canu i'r aer ar draws eu gilydd, fel pe bae yna ryw frasder rhyfedd i'r awen druan wrth iro y llanc hwn hefo sebon meddal. A helpo yr awen druan! Mae hi yn gorfod byw ar gibau go waelion yn ami. Mae hi druan fel ceffyi yn malu bare, yn gorfod myn'd o hyd, hebddim byd gwell na rhisgl o dan ei dant fynychaf, ac yn ami o ran hyny naae y felin yn hollol wag, ond waeth be', mae'r awen yn myn'd beunydd, glep, glep. Wrth weled y peth yn cael ei heraldio mor gyhoeddus a'i ledu ar draws y byd gyda'r fath fanylrwydd, mi fethais yn lan a rho'i taw ar ryw hogyn o fardd sydd yma yn rhigymu i bob peth. Dyna lle'r oedd o yn troi gwyn ei lygad tuag i fyny, ac yn gwneud ystumiau arno ei hun, er mwyn cael 'edrych wel prydydd,' ac mi'roedd o heiyd yh llawermwy tebyg yn ei EDRYCHIAD i brydydd, nag oedd o yn ei WAITH. Dyma fel y canodd y lolyn, ond nid oes na sense na chynghan- edd ynddo, ddyliwn i— Mae aer mawr y Faenol yn dyfod i'w oed, Y ffaith fwyaf rhyfedd yn Nghymru; Gan hyny 'yn dro 'relo hi' yn y coed, Nes bo'u gwreiddizu yn syth ar i f,ynu. 'Roedd o yn sicrhau fod gwei'dcoeden a'i gwraidd ar i fynu yn idea newydd spon danlJi; ond efelychiad ydyw lii, wedi'r cwbl, o'r hen ddrychfeddyliau marwnadol, sef y brwyn a'r blodau yn wylo, a'r bonciau yn curo eu penau yn eu gilydd. Ystyriwoh!'roteddhwn lfwydd yn iau 'iiono dyn,' -■ Oddeutu y Sulgwyn diweddaf, A bernir daw'r llanc tua blwyddyn yn h^n J Ar derfyn y deuddeg mis nesaf. Ho, ho, dyna ddarganfyddiad tebyg i hwnw, sef na fydd dyn ddim byw yn Mr iaLwn felly ar ol tori ei ben. Etto,— c' Fu Irioed ffasiwn beth ar y ddaear erioed, Ac ni fydd dim 0 leiaf un flwyddyn; Fod aer mawryFaenolyn dyfod i'w oed, A hyny yn wythnos y Sulgwyn!! Yn 'doedd 0, yn beth odt Y bachgen yn cyrhaedd ei un ar hugain yn union ar y Sulgwyn. Peth rhyfedd na.fuasai mab gwr mawr fel y fo yn mynu holidays y Sulgwyn, ynlle ffwdanu drod i'w oed a rhyw fwstwr felly yn aniser yr wyl arbenig. Ar ol cael rhyw wythnos o rally yn awr, Ni synwn i bellach 'run mymryn Na fydd Llanpiau Dinorwig yn gwneud i'r aer mawr Dd'od i'w oed o hyn allan bob blwyddyn. Stop, ebe fi wrth y prydydd, chei di fyn'd yr un cam pellach y ffordd yna, neu fyddi di ddim gwell na Clwydfardd a'r gynffon oedd yn eiganlynyr wythnos ddiweddaf. Rho dy 'gerdd yn y god, a'r god i gadw' was, nes cei di ryw destun mwy rham- antus na phen blwydd impyn o foneddwr, na wyr neb bron, mewn cydmariaeth, fod ei fath wedi gwneud ei yinddangosiad yn yr hen fyd yma. Ond i adael beirdd a barddoniaeth mewn cysylltiad a'r aer' hwn, ac i fyn'd i edrych yn ddifrifol; ouid yw yn sobr o beth fod y fath lol botes, a helynt yn eael ei wneud gyda llanc fel hwn. Cam-chwareu hollol a'r wlad ydyw Ilenwi colofn neu ddwy o newyddiadur a hanes dyfodiad yr aer hwn a llawer aer arall i'w oed. Annhegwch o'r fath fwyafannheg ydyw talu am beth fel hyn. Yr wythnosj^^weddaf talwyd am gael gwybod pa sawl ergyd o bylor oedaJWpbel ei barotoi a pha sawl coelcerfch oedd i gael ei chynneu. wythnos hon etto rhaid talu am hanes pa sawl ergyd o bowdwr a daniodd, a pha sawl coelcerth a gynneu- odd, a pha sawl bwa o fythwyrddion a gyfodwyd, a pha sawl potel o hen win a yfwyd, a pha sawl pen a gafodd y bendro, a chan' mil o bethau cyffelyb, na waeth gan y byd heb eu gwybod, os nad gwell ganddynt; ac y mae yr helynt hon i gyd gyda llanc na wyr pedwar ar bymtheg a phedwar ugain o bob cant o bobl Deheudir Cymru ddim yn y bydmewri nn modd am dano, ac y mae llawer o siroedd yn y Gogledd o ran hyny heb ond ychydig iawn yn teimlo dim dyddordeb yn Mr. Smith o gwbl. Mae'n wir fod Duff, perchenog presenol etifeddiaeth y Faenol, wedi gwneud ei hun fymryn bach yn gyhoeddus yn amser yr etboliad, trwy ddangos ei hun yn Dori o'r fath gyndynaf, a mwyaf direswm; ond gallwn i feddwl nad yw hyny yn un rheswm dros wneud y fath helynt gyda'r etifedd, os nad oes rhywbeth yn gyd- weddol a Thoriaeth mewn gwastraffii arian am bethau saith RwaL waeth na diles. Diammheu cyn y bydd hyn o ysgrif o dan lygad y darllenydd, y bydd,ugeiniau o bunnau wedi cael eu lluchio i ffwrdd yn waeth na difudd, ar gyfrif'y dygwyddiad hwn. Onid yw hi yn bryd bellach i chwi roddi eich arian am rywbeth mwy sylweddol na. fflamau ^I'roH atoWg pylor?^^ (Md yw yn fhywyi^-os bydd pbtt^yii dewig cyfranu arian -at aingylchiad. fel eu: rhoddi aiu iy^beth a ey 7 wnelo les i rywun rywbryd. Buaaai adswn dioldx y tlawd am rodd 0 rywbeth sylweddol at gynnal bywyd, yn adlai^ llawer mwy hyfryd jm ftghlustiau yr aer o'r Vaenol a phobl Dinorwig yn gyffredinol, nag a fydd adswn trwm o ergydion o bylor wrth gerdded o agen i 1 agen drwy greigiau Eryri. Buasai yn dangos llawer mwy o synwyr, a mwy o BASTE, a mwy o haelioni, a mwy o grefydd liefyd yn mhobl dda. etifeddiaeth y Yaenol, a chyfeillion Mr. Smith, pe buasent yn hoffi. edrychar wedd lwyd a. gwelw tlodion yr ardaloedd, acyn rhoddi yr holl arian iddynt mewn rhyw ddull, yn lie ymhyfrydu mewn edrych a. syllu ar dafodau tanllyd coelcerthi mawrion yn ysgrifenu 'FFOLINEB' ar yr awyroleu mewn Uythyrenau o dân., Pe buasai Mr. Smith wedi gwneud rhywbeth gwerth i gofio am dano,—^pe buasai yn cymeryd yn ei ben i waddoli rhyw sefydliad daionus & deng mil o bunnau, neu rywbeth felly, buasai rhyw rith rheswm dros wneud tipyn o helynt yn ei gylch. Glywsoch chwi, Mr. Gol., fod Boxer,' hen geffyl du Morgan o'r Cwm, yn d'od i'w oed yn union yr un diwrnodau ag aer y Yaenol? Wel, y mae, hona yn ffaith, ac yn ffaith go bwysighefyd o'i chymharu a'r ffaith sydd ar ei chyfer. Synwn i 'run blewyn nad yw 'Boxer' wedi gwneud mwy o l.waith trwm,l wel tau, nag a wnaeth, ae nag a wna yr 'aer' hwn yn ei fywyd. Fodd bynag, y mae 'Boxer' wedi gadael gwell esiamplau ar ei ol na'r rhan fwyaf o foneddwyr y cymerir cryn helynt yn eu cylch. Ni chynneuwyd yr un goelcerth, ac ni losgwyd dim pylor i goflo yr adeg y daeth 'Boxer' yn un ar hugain. Yr unig beth y penderfynwyd arno yn ystabl y Cwm oedd, ar fodi 'Boxer,' a r ce. y au teiieiuon sydd gydag ef, i gael EXTRA FEEDING y diwrnod y daeth 'Boxer' i'w oed; a 'doedd hwna ddim yn ddwl o gynllun ychwaith. Pe buasai pobl Dinorwig ac edmygwyr Asheton Smith yn rhai
.'EXTRA FEEDING'"
News
Cite
Share
'EXTRA FEEDING' i'r 'ceffylau teneuon' y Sulgwyn, buasai yn ateb gwell dyben iddynt yn y pen draw. Buasai cynneu tan yn y mynwesau hyny ag sydd wedi cael eu hoeri gan dlodi ac angen, yn llawer gwell na chynneu taii ar ysgwyddau yr Eryri. Wn i ddim, acni wyr neb ddim ychwaith, pa bryd y DECHREUODD rhyw arferion ffol fel y rhai hyn, 'dwyr neb yn y byd pryd y. DARFYDDANT ychwaith. Ond mi wn i hyn, fod yn hen bryd iddynt ddarfod bellach. Maent wedi cael eu rhwysg am ddigon o hyd, ac y mae dynion wedi bod yn gaethioni arf erion fel y rhai hyn am lawn digon o amser. Tafler hwy bellach, rhag cywilydd, 'i'r wadd a'r ystlumbd.' Bydd yn llawer mwy o gysur i feddyliau aerod a'u eyfeillion, wedi y delont i addfedrwydd oedran a phrofiad, i adolygugweithredodrugaredd a haelioni, nag a fydd iddynt i feddwl am eu gwaith yn cynnal i fyily hen ddefodau hoUol annheilwng o oleuni agwareiddiadyr ON hon. Pan ddaw aer i'w oed yn rhywle etto, neu pan briodo aer y Vaeuol, neu pan enir aer i'r aer hwn, neu rywbeth o'r fath, peid- iwch a syrffedu Cymru hefo adroddiadau am gyfres o weithredoedd ffol; ond gwnewch fel Morgan o'r Cwm—rhoddwch EXTRA FEEDING I'R CEFFYLAU TSNBUON,