Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

''Y WLADFA.;"'-';.'!"

News
Cite
Share

Y WLADFA. Y WLADFA. Nid Gwladfa, ond Y WUBFA. Mae gwahaniaeth hanfadol rhyngddi a phob sefydliad Gymreig arall. Cymydogaeth- au mewn siroedd a thaleithiau eraill ydyw y rhai sydd wedi eu ffurfio. Mae't awdurdod yn nwylaw estroniaid digon cryfion i'w gadw. Mae Patagonia yn aros am boblogaeth ddigonol i'w ffurfio yn Dalaeth Gymreig. Rhyfedd morbWI ydyw golygon rhai i weled hyn, a rhyfeddach fyth y cyndynrwydd i gydnabod y gwahaniaeth. Maeagos i bedair blynedd er pan ymadawodd y fint;ai gyntaf o Liverpool. Amser maith iawn, os mesurir y cyfnod yn ol treigliad meddyliau gofidus a theimladau pryderus, drwy galonau pleidwyr y mudiad. Amser byr iawn a'i fesur yn ol treigliad yr amgylchiadau oedd yn gweithio allan dynged y Wladfa Gymreig. Mae modd gwheud arbrawf (experiment) ar ambell beth bob dydd; ond nid oes modd profi addasrwydd gwlad i godi gwenith ond unwaith y flwydd- yn. Damwain hollol fuasai i'r fintai godi gwenith da y tro cyntaf, neu yr ail; oblegid nis gwyddai neb o'r sefydlwyr ond y nesaf peth i ddim am y tir na'r tywydd, na'r tymmorau, Rhaid oedd iddynt area yno i sylwi ar a chydmaru amgylchiadau neillduol a damweiniol y He, ac yna eu cyfarfod. Meithder y prawf yn benaf barai ofnau yn nghylch llwyddiant yr anturiaeth. Dibynai pob peth ar waith y fintai gyntaf yn aros yno nes gorphen y prawf. Er mwyn darbwyllo y sefydlwyr am y pwys iddynt orphen y prawf yr aeth y twymngalon aYcaredig Gadifor drosodd. Fe gollodd ef ei fywyd i gadw bywyd y wladfa. Oni buasai iddo fyned pan yr aeth, mae'n fwy na thebyg y buasai y cyfan wedi myned yn ofer. Bydd ei goffadwriaeth yn gysegredig tra bo Cymro i feddwl am dano. Mae y cyfeillion sydd yn cwyno yn nghylch oediad yn anghofio un mater arall, sef yr anhawsder i gael cyd-ddealltwriaeth &'r wladfa. Nid yw pedair blynedd o amser i ohebu A'r wladfa ond cyfartal a nawmiaibhebu a'r Unol Daleithiau, neu naw niwrnod i ohebu oddiyma k Llundain. Nis gallasai llythyr fyned a dyfod i'r wladfa o dan bum' his-ye, nis gallasai ar adegau o dan naw mis. Y mae anystyriaeth o'r pethau hyU wedi arwain llawer i ddweyd ac ym- ddwyn mewn modd na ddylasent. Dywed rhai 'y GAI/LBSID trefnu yn well.' Gallesid yn ddiammheu mewn damcaniaeth; ond pwy wystlai swilt arycahlyniadymarferol. ypia, yjo Pwy fuasai yn dychymygu mai y dynion gyfrifid salaf YMA fuaBai y _y yn: ye ym dynion goreu YNO, ac mai y dynion goreu YMA fuasai yn achosi mwyafo ofid; ond FELLY Y Btr. Gall pawb ddweyd, 'Pe buasai hyítneu'rllall, y BUASAI fel hyn neu fel arall.' Yratehiaq gorèu wrth law i hyn ydyw yr hen ddywediad, 'Pe buasai y Wyddfa yn j^ws, y buasai pobl Llanberis wedi ei bwyta bellach.' Digon yw fod y rllai a anfonwyd wedi gwneud y gwaith oedd i'w wneuthur; a'r canlyniad yw ein bod yn gwybod fod Dyffryn y Camwy yn barod i dderbyn a chynnal ugain mil o drigolion—yn barod i dalu am ei iafurio a'rhatt, yn ol miliwn o bunnau y flwyddyn—yn barod i gyn- nyi*chu dig^n o ^enith i gynnal pedwar can' mil o bobl. Nid oes Ysgatland, Iw^rddon, a Ffrainc, ond ychydig gyda dwy .fflMyy^er_ppb pe?a^/ yn NyfFryn y Camwy chwe' erw o W d^mpain mil trigolion. Mae genym nid yn unig yn barod i a. miliynau o ddefaid, ond •^b^^fe^mivrchu pa^i y, j^^pat yn rhy fach. Fel mai riidf' fi'm d^im v gwanwvd rhvw DDENG MIL O ac y llafunwy'd am ugain mlyrifjfe-^r-nid am ddim y dyodaefwyd y caledi a'r newyn; ac nid Si^Mmi yr aberthwyd bywydau. Buasai yn annhraethol ddymuiJ^L.tilu dweyd na ch(^[pdd neb ei fywyd yn yr ymdrech; tmS>ryd, dylid cofio\^gs gellir dweyd hyny. hyd yn nod 6 ^ws^lau canol- radd(ft;p £ igledd Cymru, nac ychwaith am weithiaii gltiy^^beubaTth. Ond (. mae rhywbeth gwell a gwahanol iawn me»p,^pi)bywyd i ennill bywoliaeth i eraill; ac ennill annibymaeth ceh^wj& fodd- imliQddychol. Mae i'r Wladfa luaws o amcanion. Nid oddiar yr un cyiphell- iadau mae pawb yn ei phleidio. Mae rhai yn foddlawn os gwelant ynddi fanteision diammheuol ymfudiaeth,—digon yw fod y dyn elo i'r Wladfa yn cael cystal mantais i ennill-byweliaeth a phe yrelai i'r Unol Daleithiau. Mae rhai yn llawenhau am eu bod yn gweled Gwladfa yn sicrhau manteision crefyddol a chymdeithasol cyfuwch a'r rhai a geir yn Nghymru. Rhaid fodhon yn egwyddorgref iawn, onide, ili fuasai y rhai sydd wedi ymfudo o Gymru i Le'rpwl, ddim yn gwario rhyw hanner can' mil o bunnau am addoldai; ac ni fuasai cymaint o bria ar waith rhai yn codi capelau Seisonig yn Nghymru. Mae eraill yn pleidio am eu bod yn gweled gobaith i'r hen iaith barhau. Mae cariad at iaith yr aelwyd agos mor gryfed a greddf. Bu agos i'r Eisteddfod ymgrogi wrth roddi benthyg ei hesgynloriau i Sais-addolwyr ddieneidio yr hen iaith. Daeth Pedr Mostyn i'r rescue, onide, felly y buasai. Y Gymraeg ydyw iaith grefyddol Cymru, yr iaith wladyddol, a'r iaith farddonol. Mae eraill yn selog am eu bod yn gweled y llwybr yn glir i ennill bodol- aeth annibynol. Mae hyn yn bwysig i ambell genedl, ac nia gall fod yn niweidiol iawn, oddigerth fod cenedl yn hollol annheilwng. Y genedl gryfaf ar y pryd, sydd bob amser i fyw byth. Nisgall iaith farw, tray byddo arian yn Uogellau, gwybodaeth yn mhenau, a theimlad yn nghalonau y rhai fo yn ei llefaru; etto, rhaid cyf- addef mai elf en doddawl ydyw cenedl orchfygedig tra yn ngwlad eu gorchfygwyr, Nis gall cenedl fod yn elfen ffurfiol nes y caffo, i raddau, reoli ei thynged ei hunan. Mae eraill yn edrych ar y Wladfa fel seren ddydd Cristionogaeth, yn siriolwenu ardywyllwch caddugawl Pabyddiaeth a Phaganiaeth yr America Ddeheuol. Nid oes eisieu llais or nef i'n hargyhoeddi y cai Gwladfa lwyddiannus Gristionogol yn Patagonia ddylanwad mawr ar gymdeitllas yn yr America Ddeheuol. Nid oes dim yn groes i arferiadau rhagluniaeth Duw yn y syniad mai gweinidogaeth ein cenedl fydd efengyleiddio yr America Ddeheuol, yn yr un ystyr ag yr efengyleiddiwyd yr America Ogleddol gan y tadau pererinol. Mae rhai hefyd yn cael eu dylanwadu gan yr oil, neuamryw, o'r cymhellion hyn. Mae'n amiwg i bawb bellach fod yn rhaid i luaws ymfudo, neu y bydd ein gwlad yn syrthio i dlodi. Y mae un o bob degar hugain odrigolion Manchester yn byw ar y dreth godir oddiar y naw ar hugain. Pe yr anfonid deng mil ar hugain o dlodion y ddinas hon 1 fan y gallent ennill bywoliaeth, deuent yn gwsmeriaid i ni yma cyn ppn ychydig flynyddoedd, a chaffai gweithwyr yma fwy o waith a gwell tal. Bydd raid i'r POOR LAW BOARD roddi ei le i BOARD OF EMIGRATION. Dysgir ein STREET ARABS, &c., i drin tir, ac an- fonirhwyileoeddaddaa yn Canada neu Awstralia. 'Wrth dir llafur mae'r brenin yn byw.' Yr hen fam sydd yn cadw ei phlant, • —ei gwlan a'i llin, a'i dwfr a'i llaeth, a'i gwenith a'i henllyn hi, sydd yn cadw plant dynion. Anwyl ddarllenydd, nis gelli gydymdeimlo a phleidwyr y Wladfa, ac etto, mae rhai o'r pethau a nodasom, sydd yn gyrhaeddadwy drwyddi, yn cyffwrdd A'th galon: 'Nac attal, gan hyny, ddaioni oddiwrth y rhai y perthyn iddynt. Gall FOB "TTN o ddarUenwyr y DYDD roddi cymhorth i gyrhaedd yr amcan,—pob un, meddwn, meibion a merched, hen ac iemainc. Maearnom eisieu rhyw UN yn mhob cwmwd a phentref, a Llan a thref; un yn mhob capel ac Eglwys drwy y Dywysogaeth, i weithio ar ran y Wladfa. Gweithier am ryw chwe' mis yn egnïol, a bydd y drws yn agored i bob dyn yn Nghymru sydd yn weithgar a gonest, ac etto yn dlawd, i gael myned i'r Wladfa Gymreig. Mae'n bosibl y ceir caniatad i ranu Rhaneion presenol y Cwmni, fel ag i'w gwneud yn rhai £1 yn lie £10. Mae miloedd yn deisyf hyn, ac yn barod i weithio yn egniol eu hunain, ac i annog eraill, pe caent ryw gymhorth i ymfudo. Gallaiy Cwmni ynrhwydd iawn anfon un ar gyfer pob £ 30, a'u sefydlu yn gysurus ar ddyffryn y Camwy. Modd bynag, mae pob golwg yn awr y bydd mintai GYFOETHOG yn nyffryn y Camwy erbyn y cynhauaf nesaf; ac y mae pob golwg hefyd y cludir hwy yno yn Hong y Cwmni YmfudoL Nid ydym yn dweyd hyn i ddenu neb i gynnyg eu hmnain, gan fod y fintai mewn golwg genym yn awr. Os bydd rhai yn tynu yn ol, bydd lie i eraill. Bydd o gant a hanner i ddau cant yn llawn ddigon hyd gynhauaf 1870. Yr ydym yn ddiolchgar xawn am y llongyfarchiadau, ac hefyd am y cynnygion i wasanaethu y mudiad. Mae rhai yn cynnyg myned allan i weithio, eraill i ganvasio, ac eraill yn cynnyg taenu llaw-Ieni. Mae eraill yn cynnyg ymofyntanysgrifiadau i ysgafnhau y beichiau sydd ar ysgwyddau blaenoriaid y mudiad. Gadawer i ni wybod maint y fyddin, a gwaith hawdd fydd trefnu gwaith iddi. Mae ffydd, amynedd, dyfalbarhad, a hunanaberth, wedi ein harwain i hyn o lwyddiant. Nid oes ond y sail wedi ei gosod, cymer ugain mlynedd i wneud y gwaith fydd megys o'r golwg. 60 Bristol St., Hulme, Manehestef. DAVID LLOYD JONES.

'CRONICL' BANGOR V. 'Y DYDD.'