Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

• ■"CWERYL YR ALABAMA."

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

• "CWERYL YR ALABAMA." Y lIAE yn ddrwg iawn genym fod ein cefnderoedd yn America, yn enwedig ein cefnderoedd Cymreig yno, yn trin eu hen fam- wlad mewn ysbryd mor annheg, ac mewn iaith mor gas, mewn nwyd mor hunanol ac mor ddialgar. Er mai "cefnderoedd" y'n gelwir, carem siarad a hwy fel brodyr, oblegid brodyr o'r un awyr ac o'r un achau ydym-brodyr o'r un genedl ac o'r un grefydd. Cawn yn "Baner America" am Ebrill 21, erthygl olygyddol ar "Gweryl yr Alabama,erthygl a ysgrifenwyd mewn nwyd, heb nemawr o ddynoliaetb na dim cariad ynddi; erthygl gloff iawn o goes ei logic, a chloflach na hyny o goes ei Christionog- aeth. Yr erthygl fryntaf dichon a ysgrifenwyd mewn unrhyw iaith yn America er dechreuad y cweryl." 1. Y mae yn treiglo yr holl fai at ddrws "awdurdodau Prydain." Rhesyma eu bod yn ewyllysio i'r herwlong fyned allan, a'u bod yn cymeradwyo ei holl amcanion lladronllyd." Haera fod llywodraeth Prydain yn bysbys or ffaith, fod Laird wedi cytuno A Jefferson Davis i adeiladu yr Alabama, er cynnorthwyo i ddymchwelyd llywodraeth America. Haerir fod Jeff, wedi hurio Laird; pan y gallai fod Laird yn volunteer. Nid oes brawf fod Jeff, wedi hurio Laird; a phe buasai hyny wedi bod, nid oes dim prawf fod llywodraeth Prydain yn hysbys o'r peth, neu yn gwybod am y cytundeb. Dichon iddi gael rhyw hysbysiad, ond nid mewn pryd i drefnu er attal cyflym ymlitbriad yr Alabama i ddyfroedd y Werydd. Dichon y gall- asai Lloegr, a dichon y gallasai America hefyd, agor eu llygaid yn gynt cyn i'r Alabama lithro o'u gafael. Dichon iddi fod yn rhy gyflym ac yn rhy sly i'r ddwy lywodraeth. Y mae llawer lleidr wedi bod yn rhy sly, neu yn rhy gyflym, i'r policeman goreu. 2. Haera" Baner America," mai yr Alabama ddarfu "dde- chreu ysgwyd byd masnachol" yr Unol Daleithiau. Dyma etto haeriad rhy sweeping, a dweyd y goreu am dano. Y mae yn compliment ynfyd o ucbel i'r Alabama. Nid yr herwlong hbno o wlad dramor ddarfu ddechreu ysgwyd byd masnachol" America nage yn wir, yn wir, ond rhyfel cartrefol gwallgof a gwaedlyd America ddarfu ddechreu ysgwyd byd masnachol yr Unol Daleithiau, a byd masnachol Ewrop hefyd yn y fargen. Taer erfynir ar ein brodyr o swyddfa y Faner" i ystyried ystyr eu haeriadau cyn eu hanfon allan ar byd ac ar draws y byd. Y mae pobl nior deg a diragfarn a galluog ag ydynt hwythau yn eu darllen, a dichon yn eu deall hefyd, ac yn methu yn lan a gweled eu cywirdeb. 3. Yr ydys yn y "Faner" yn beio Lloegr yn llym iawn am gydnabod byddinoedd y De fel Belligerents, er fod Llywodraeth America ei hun wedi gweled a theimlo yr angenrheidrwydd iddi eu cydnabod fel Belligerents. Nid rhyw deg iawn ydyw trin llywodraeth Llundain, am wnead yr hyn oedd llywodraeth Washington yn wneud hefyd. 4. Cymerir yn ganiataol, heb drafferthu am brawf, ac yna penderfynir heb nac os nac oni bai, fod Llywodraeth Lloegr yn atebol am yr holl niweidiau a wnaeth yr Alabama; ac yna cyn- nygia wneud i fyny y cyfrifon, neu swm y claim, yn y dull mwy- af tra arglwyddaidd, ac un-businesslike y bu neb erioed mewn na llys na masnach yn ceisio gwneud i fyny unrhyw gyfrifon yn y byd dyrys, cowliog, cynhengar, a dialgar presenol. Gosodir i lawr fel sylfaen y cyfrif fod y gwrthryfel yn costio i lywodraeth America filiwn o ddoleri bob dydd. Yna tybir, neu yn hytrach dewinir fod yr Alabama wedi estyn hanner can' niwrnod at hyd y gwrthryfel, ac felly fod hyny yn rhoddi hawli banner can' miliwn o ddoleri. Pity garw na buasai "Baner" America yn dewinio fod yr Alabama wedi estyn dau can' niwrnod at hyd y 'w gwrtbryfel, oblegid gallasai felly son am ddau can' miliwn o iawn. A rbyfedd iawn na buasai sel ei dewiniaeth yn dweyd pum' can' niwynod fel y gallasai son am bum' can' miliwn o iawn. Buasai mor naturiol iddi ddweyd pum'can'niwrnod ag oedd iddi ddweyd pum' deng niwrnod. A phe buasai yn medru cyf- logi dewines ei swyddfa i ddweyd fod yr Alabama wedi gwneud mwy na dyblu hyd y gwrthryfel, gallasai weiddi am wyth can' miliwn. Buasai cael rbyw fil o filiynau yn bwrs gwerth iddi "godi ar ei thraed" i'w hawlio. 5. Cyhoedda "Baner" America fod Reverdy Johnson, Cen- hadwr neu Gynrychiolydd America yn Lloegr, wedi bod am fisoedd yn ceisio dwyn o amgylch gytundeb boddhaol i'r ddwy blaid; a bod y cytundeb hwnw wedi cael ei gynllunio yn ol cyfarwyddyd William H. Seward, Ysgrifenydd Tramor Amer- ica. Cyhoedda yn mhellach fod Mr. Seward wedi bod-yn weinidog o graffineb a doniau digyffelyb, nad oedd yr un match iddo nac yn Lloegr, nac yn Ffrainc, nac yn un o wledydd Ewrop, mewn gair, nad oedd ei debyg ar yr boll ddaear, a bod y Seward hwnw wedi bod yn ffyddlawn rwwlad, ac wedi gwneud y gwasanaeth uchafiddi drwy rediad ei fywyd blaenorol: ac i'r cytundeb hwnw a wnaeth W. H, Seward a Reverdy John- son, yn cnw a thros lywodraeth America, gael ei dderbyn a chael ei selio gan lywodraeth Prydain Fawr; ac yr oedd y cytundeb hwnw yn agor y porth i gyflafareddiad o degwch ac o heddwch: ond wedi y cyfan, darfu i gydgynghorfa fawr America wrthod a dirymu y cytundeb hwnw, a hyny ar ol iddo gael ei orphen yn ol cyfarwyddyd Llys America, a than sel cydsyniad Llys Lloegr; a'i daflu allan yn ol iaith ysgrythyrol y "Faner," i'r wadd a'r ystlumod. Y gwir achos o'i daflu i'r ystlumod oedd, nid annhegwch y cytundeb ynddo ei hun, ond anmhoblogrwydd y gweinidogion fuont yn ei lunio. Ni buasid yn ymddwyn mor ddirmygus ato a'i daflu i'r ystlumod pe buasai gweinyddiaeth Grant, neu rai o Flaenoriaid "Plaid" y "Faner" wedi ei lun- iaethu. Gall fod barn am y tro afreolaidd hyny gan rai o alluoedd eraill y: ddaear, a gall fod barn hefyd am dro mor un- courtly, gan awdurdodau uchel llywodraeth y wlad fry: a gall fod y farn hyny yn wahanol i farn llywodraeth America: ond nid ydyw barn neb ar y ddaear, na barn neb yn y nef o ddim pwys yn ngolwg llywodraeth fawreddog, alluog, gadarn mewn rhyfel, ac anwrthwynebadwy yr Unol Daleithau. Y hi yn unig sydd i gael penarglwyddiaethu ar bwnc yr iawn dyledus iddi; a rhaid iddi gael penarglwyddiaethu yn hollol fel y gwelo yn dda; a rhaid i Loegr blygu at ei thraed, i ymbil am ei madd- euant a'i ffafr, ac i dalu iddi yr iawn mawr a ewyllysia orchymyn. 6. Crybwylla y Faner" dairgwaith am "Urddas" America, a bod llywodraeth Lloegr wedicymylu ei hurddas, wedi bychann ei hurddas, wedi diraddio ei hurddas, a bod rhyw iawn mawr mawr yn ddyledus i'w hurddas^ Attolwg, beth ydyw gwir urddas gwlad fawr gref fel America? Ai rhodio a gwddf estyn- edig a ffroen ucheI gan rygyngu wrth gerdded a tnrystiö t'r traed, ai ynte syinud mewn agwedd foneddigaidd ac ysbryd cym- ydogoll Ai sgwario fel meistres dros yr holl faes, ai ynte ymgaredigo fel boneddiges yn uaysg ei ebwioryddl Ai geiriau tegwch a rheswm, ai ynte broliaith a difriaeth. Nid yw y "Faner" yn nodi i ni yr iawn ydys i dalu i "urddas" America, ond yn unig awgryniu y dylai gael drutachaberth ar allor ei hurddas nag ar unrhyw allor arall sydd ganddi.