Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ISarSUoniaetJ.

News
Cite
Share

ISarSUoniaetJ. CWYD, MEIRION, I'R FRWYDR. CWYD, Meirion, i'r frwydr, mae'n bryd it' ddeffroi, Hyn yna yw'r alwad b'le bynag y troi; Os hir y goddefaist faich gorthrwm a thrais, Na oddef yn mhellach, ond cyfod dy lais- Ymrestrwch Ryddfrydwyr Yn wrol i'r frwydr, Dangoswch yn eglur pwy ydyw eich dyii— A mynwoh eich dyn. Mae'n syndod i lawer dy fod di yn fyw, 'Rol cael dy hir wasgu ag eithaf y screw;' Os collaist rai brwydrau, na laesed dy law, Ond bloeddia nes cilio'th elynion mewn braw- Ymrestrwch Ryddfrydwyr, &c. Os erlid dy feibion gwrolaf a wnaed, A rhoddi dy freiniau iawnderau dan draed; Na wertha di'r cyfryw drysorau am fael, Dy lais a'th arwyddair fo "mJnu eu cael." Ymrestrwch Ryddfrydwyr, &c. Doed allan dy feibion yn wrol a hy', Mae gwawr buddugoliaeth yn agor o'th du; Gwregyswch ffyddlondeb, 'Mewn undeb mae nerth," Hwn fo'ch amddiffyniad, mae'n darian o werth. Ymrestrwch Ryddfrydwyr, &c. Mae Gwron y Castell yn foddlon i dd'od— Dim llai, na neb arall, ond hwn fyddo'ch n6d; Yn troi yn anffyddlon, na chlywer fod un, I'w roi yn St. Stephan—"efe yw eich dyn." Ymrestrwch Ryddfrydwyr Yn wrol i'r frwydr, Dangoswch yn eglur pwy ydyw eich dyn- A mynwoh eich dyn. Ceredigion. LLUESTWB.

CAN

.LLINELLAU

BEDDARGRAFF MABAN.

ENGLYNION

Advertising