Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
MERTHYR.
News
Cite
Share
MERTHYR. Y mae heddyw yn ddiwrnod mawr iawn yma-dyma ddydd y 'Flower Show.' Y mae yma ffrwythau gerddi o bob math ag y gall dyn ddychymygu braidd, yn nghyda blodau prydferthion o bob math, o erddi ein mawrion, megys Mr. Fothergill, Mr. Crawshay, &c. Y mae yma hefyd luaws o bethau gan weithwyr, yn cael eu codi ganddynt hwy eu hunain, ac yn cael eu gwobr- wyo, yn nghyda chymeradwyaeth uchel. Credwyf fod sefydliadau o'r fath yn fendith fawr i symbylu dynion i roddi eu hamser at bethau o werth, yn lie ei wastraffu gyda phethau sydd a thuedd ynddynt i ddarostwng dynoliaeth. Yr Etholiadau.-Dyma yr hyn sydd yn tynu mwyaf o sylw yma yn awr, er y cyfan; ac, yn wir, peth pwysig ydyw, gan fod sefyllfa ddyfodol y wladwriaeth yn ymddibynu ar y dynion sydd yn cael eu danfon i mewn genym. Y mae pob lie i gredu fod Mr. Richard yn safe,' pa fodd bynag; oddieithr i ddynion droi yn ddwbl dwyllodrus, o herwydd nid oes dim i'w glywed gan bawb braidd ond Henry Richard, oddieithr ambell i Dori, ac ambell i un arall sydd a'u cydwybodau wedi eu rhwymo wrth eu swyddau. Y mae yma bwyllgorau wedi eu ffurfio yn mhob dosbarth trwy y dref, ac yn yr ardaloedd cylchynol. Bu dau gyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon—un yn Penydaren a'r llall yn Abercanaid; a chynnaliwyd pwyllgor yn Neuadd Ddirwestol y dref, nos Fawrth diweddaf. Y mae y ddau foneddwr arall, Mr. Bruce a Mr. Fothergill, wrthi yn ddiwyd iawn. Heno y mae Mr. Bruce yn anerch ei etholwyr yn Dowlais. Bu Mr. Fothergill yn eu hanerch yn Aber- dar—clywais ei fod yn hyawdl iawn yno. Clywais fod Mr. Crawshay wedi dyfod i'r penderfyniad i roddi ei weithwyr at eu rhyddid, o'r diwedd, wedi gweled na chymerant eu gorfodi. Y mae Mr. Clark, Dowlais, o'r dechreu, yn eu rhoddi at eu hewyllys; ond digon tebyg mai rheswm Mr. Crawshay dros eu rhoddi yn rhydd ydyw, ofni colli Mr. Bruce, o herwydd fod y gweith- wyr yn gwrthod rhoddi un 'vote' iddynt. Yr eiddoch, hyd y tro nesaf,— GOHEBYDD.
CYFARFODYDD DIWYGIADOL.
News
Cite
Share
CYFARFODYDD DIWYGIADOL. RHOSLEFEN.—Saif y lie hwn rhwng Llwyngwril a Thowyn. Nos Fercher diweddaf, cynnaliwyd cyfarfod lluosog yn y lie uchod, i ddadleu Rhyddid etholwyr Meirion yn yr etholiad nesaf. Cadeirydd—Mr. Thomas Roberts, Llwyngwril. Areithiwyd gan Osmond Williams, Ysw.; Parchn. D: Davies, Abermaw; Josiah Jones, Machynlleth; Mri. Newall, Towyn; C. R. Jones, Llanfyllin; Owen Owens, Arthog; Parch. R. Jones, Llanegryn; Mr. Meredith Jones, Arthog; Y Gohebydd; ac eraill. ABEBDYFI.—Nos Iau dilynol, cynnaliwyd cyfarfod cyffelyb yn ymyl y Farchnadfa yn Aberdyfi. Cadeirydd-D. LI. Lloyd, Ysw., Towyn; a chy- merwyd rhan ynddo gan Osmond Williams, Ysw.; Parchn. D. Davies, Aber- maw; W. Lloyd, Llundain; F. Jones, Aberdyfi; John Pughe, Ysw., M.D.; Mr. Jones, Timber Merchant, Aberdyfi; Newall, Towyn; a'r Gohebydd. Yr oeddynt yn gyfarfodydd lluosog a da. Deallwn fod cyfarfodydd cyffelyb i gael eu cynnal etto yr wythnos nesaf yn Dinas Mawddwy ac Arthog, lie y bydd rhai o ddynion blaenaf y blaid Ryddfrydig yn cymeryd rhan ynddynt.
-EBBW VALE.
News
Cite
Share
EBBW VALE. Urddiad.-Nos Lun a dydd Ma wrth, Gorph. 27 a'r 28, cynnaliwyd cyfarfod yn y lie hwn i'r dyben o urddo y Parch. W. Edwards, o Goleg Aber- honddu, yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol Seisnig yn y lie. Traddodwyd y gynaraeth ar Natur Eglwys, gan y Parch. W. Edwards, Aberdar, nos Lun. Dranoeth, pregethwyd i'r Eglwys, gan y Parch. H. Oliver, Newport; ac i'r gweinidog, gan y Parch. J. Davies, Caerdydd. Holwydygofyniadau gan y Parch. T. Jeffreys, a gwedd'iwyd yr urddweddi gan y Parch. J. Darnton, Newport. Pregethwyd yn yr hwyr, yn Gymraeg, gan y Parch. R. Rowlands, Aberaman; ac yn Saesonaeg, gan y Parch. J. Darnton. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan T. Jeffreys, ieu.; R. Hughes, Cendl; a D. Jones, Hirwaun. Cafwyd cyfarfodydd da. Hyderwn y bydd ein cyfaill ieuanc yn llwyddian- nus iawn yn ei faes newydd. Cyfarfod Politicaidd.Mae y lie hwn yn dechreu cynhyrfu yn achos yr Etholiad. Cafwyd cyfarfod lluosog yma ddydd Llun diweddaf. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan James Brown, Ysw., Newport; Parchn. H. Oliver, Newport; W. Edwards, Aberdar; J. Jones, (Mathetes), Rhymni; ac Edward Davies o'r un lie. Hefyd, cymerodd D. O. Edwards, J. Rees, a D. Williams, ac eraill o weinidogion y lie, ran yn y cyfarfod. Llywyddid yn fedrus gan y Parch. D. E. Edwards, gweinidog y Trefnyddion yn y lie. Yr oedd y cyf- arfod yn dra Uuosog. Pasiwyd amryw benderfyniadau pwysig-un o ba rai oedd, ei bod yn Uawn bryd i'r sir ymryddhau oddiwrth orthrwm ac iau rhyw dri theulu sydd hyd yma wedi mynu anfon i'r Senedd ddynion o'u ffurf hwy eu hunain. Mae cynnrychiolaeth y sir hon wedi bod yn hynod o Doriaidd, a'i Bwrdeisdref yr un modd. Ond y mae y Rhyddfrydwyr wedi penderfynu ymddattod oddiwrth rwymau Toriaeth. Ymddengys fod dau Ryddfrydwr ar y maes. Mae pob peth yn arwyddo y bydd yma ymdrech boeth. Ond hyderir yn gryf y ca rhyddid y fuddugoHaeth.—RHYDDFRYDWR. GWEITHFEYDD HAIARN A THIN YN Y DEHETJDIR.—Dywedir fod llawer o'r gweithfeydd hyn wedi gorfod sefyll yr wythnosau diweddaf,—rhai o herwydd y poethder, ac eraill o ddiffyg dwfr. Y mae y gofyn am haiarn i Rwssia yn cynnyddu, ac y mae pethau yn fwy addawol nag y buont wythnosau yn ol.
I IDOLGELLAU.
News
Cite
Share
DOLGELLAU. Agoriad y Reilffordd i'r Bala.-Dydd Mawrth diweddaf yr oedd yn ein tref rialtwch anarferol ar agoriad y llinell hon. Cludwyd cannoedd lawer ar hyd-ddi yn ystod y dyad; ac yr oedd y bleserdaith yn foddhaol a hyfryd. Cafodd plant y gwahanol ysgolion drip rhad i'r Bala yn y bore, a dychwelas- ant yn yprydnawn i gydyfed tS ar y "marian mawr." Cyd-chwareuai 'band' y ddwy dref yn ystod y dydd, a chroesawid y dyeithriaid gah gyflegr mawr Mr. Roberts, ergydion trymion yr hwn a barai i'n creigiau ddiaspedain. Da genym ddweyd na ddygwyddodd un ddamwain yn ystod y dydd. Bydd y llinell hon yn fanteisiol neillduol i drigolion y parthau hyn, am ei bod yn fwy uniongyrchol i brif drefi Lloegr na'r Cambrian, ac hefyd am yr eir yn llawer cynt ar hyd-ddi i Forganwg a Mynwy. Y mae y fath annhrefn ac afreoleidd-dra ar hyd y Cambrian, yn enwedig yn ngtyn a mansypynau a an- fonir ar hyd-ddi, fel y bydd ar adegau yn rhoddi prawf mor danllyd ar dymherau masnachwyr, nes y byddant yn barod i'w hoffrwm i'r gwr drwg; ac er cwyno, a chwyno yn dragywydd, nid oes un gwelliant i'w gael. Y mae yn bwysig ofnadwy mewn cysylltiadau o'r fath cael 'swyddogion' cymhwys— dynion a daflant eu holl enaid i'w 'business,' ac a dalant sylw manwl a dioed i'r cwynion a anfonir iddynt. Bydd pedwar 'train' yn y dydd yn gadael yma yn ystod y mis hwn, a pedwar yn dyfod i mewn. Drwg genym ddeall y bydd y llinell yn cael ei rhedeg ar y Sabbath. Hyderwn y cwyd crefyddwyr y dref eu llais fel un gwr yn erbyn ychwanegu y cyfleusderau i halogi dydd yr Arglwydd, ac na theiml- ant yn dawel nes gwneud deiseb gref at y Cwmni yn erbyn yr ymddygiad. Dichon, ar yr amgylchiad hwn, nad anmhriodol dweyd gair wrth Fasnachwyr ein trif-Rhaid i chwithau, fel dosbarth, o hyn allan fod ychydig yn fwy rhesymol yn eich prisiau, onide bydd y prynwyr yn defnyddio y cyfleusderau sydd wedi eu hestyn iddynt i ymofyn eu nwyddau i leoedd eraill. Nid wyf yn gweled un rheswm dros i ni orfod talu 5s. neu 6s. yn chwaneg am nwydd nag y mae eraill yn roddi am yr un peth mewn tref o fewn deugain milldir i ni. Talodd Ned Ffowc 18s. yr wythnos ddiweddaf am bar o 'elastic boots' i Jack, Tyhir, pan y prynodd Wil tudraw gystal par ag yntau, os nacr gwell, am hanner y swm, mewn tref heb fod 80 milldir oddi- yma. Wel, ni ddylai y pethau hyn fod, ac ni bydd ychwaith o hyn allan. Rhaid i Jack foddloni ar lai o elw, neu ynte roddi ei finiawyd i gadw. Gair at ymwelwyr.-O hyn allan nid oes ammheuaeth nad ymwela can- noedd os nad miloedd a'r hen dref hon o hyn i ddiwedd yr haf. Fe siomir llawer ynddi, "rhai er gwell a rhai er gwaeth." Y perygl mwyaf ydyw i ddyn golli y ffordd yma. Dysgrifiad da yw eiddo un o roddi afal ar y bwrdd, a chymeryd Uonaid llaw o gnau, a dodi y cnau ar yr afal. Fel hyny y mae Dolgellau-ei hystrydoedd blith traphlith. Y pethau y gellir eu gweled yn y dref a'r cylchoedd yw hen 'barliament' Owain Glyndwr, y Torrent a'r Preci- pice Walks, Cader Idris, y gwahanol raiadrau, y carchardy, y 'workhouse,' a'r bryniau tlysion sydd yn amgylchu y dref. Caiff yr ymwelydd hefyd weled a mwynhau ei hun yn y "marian" yn rhad ac am ddim. Tro anfoneddigaidd yw codi crogbris ar Ysgolion Sabbathol ar eu hymweliad a lie. Nid oes am- mheuaeth nad yw llawer un wedi meddwl'gwneud ei "gynhauaf" trwy hyn. Os bydd rhai o deulu Dyffryn Clwyd am ddyfod yma, y cynghor goreu iddynt fyddai cael Iorwerth Clemon yn arweinydd, oblegid y mae ef wedi bod yma yn byw, ac yn adnabyddus yn y lie.
OAERFYRDDIN.^
News
Cite
Share
OAERFYRDDIN. Yr Etholiad nesaf.—Er pan ysgrifenalom o'r blaeri, y mae llawer o bethau wedi cymeryd lie mewn cysylltiad a. chynnrychiolaeth Caerfyrddin a Llanelli, ac y mae yr hyn sydd wedi ei wneud yn bwysig, ac yn galw am ystyriaeth difrifolaf pob pleidleisydd. Cofia eich darllenwyr yn ddiammheu i ni nodi er's wythnos neu ddwy yn ol fod Col. Stepney yn cynnyg ei hun yn ymgeisydd, a'i fod wedi cyhoeddi ei anerchiad i'r etholwyr, yn yr hwn y dad- blyga yr egwyddorion mwyaf rhyddfrydig, yn enwedig felly ar bwnc pwysig y dydd, sef yr Eglwys Wyddelig. Addawa bleidleisio dros ei dadgysylltiad a'i dadwaddoliad. Yn awr, fel y dywedasom o'r blaen, yr unig beth yn erbyn y Colonel ydoedd ei oedran, ac o ganlyniad, credid, pe buasem yn cael dyn ieuangach, ac o gyfansoddiad cryf, ac yn iach ei egwyddorion, y buasai hyny yn fwy dymunol. Methwyd cael un o'r fath. Y mae W. Morris," Ysw., wedi gwrthod ailymgeisio, o ganlyniad, nid oes dim i'w wneud ond glynu wrth y Col. Stepney, a'i gael i'r Senedd. Meddyliodd y Torïaid fod yma deimlad cryf yn erbyn Col. Stepney, a chan fod Mr. Morris yn gwrthod dyfod yn mlaen, y buasai yn adeg dda iddynt hwy i dreio beth allasent wneud yn y mater. Galwasant gyfarfod, a phenderfynwyd ar unwaith i roddi gwahodd- iad i C. W. Nevill, Ysw., Llanelli, i ddyfod yn mlaen. Gwyddant yn eithaf da fod y dosbarth Rhyddfrydig yn y mwyafrif o lawer yn Nghaerfyrddin a Llanelli; ond yr hyn y maent hwy yn feddwl ydyw, cael Tori i mewn dan glogyn y Rhyddfrydwyr. Meddyliant fod y teimlad yn gryf ac yn gyffredinol iawn yn erbyn Col. Stepney; ond credwn eu bod wedi cam- gymeryd yn hyn, a chant weled hyny pan ddaw dydd y prawf. Y mae y Torïaid wrthi yn galed y dyddiau hyn. Y mae y papyrau sydd ganddynt yn Uawn o saethau, y rhai a annelir ganddynt at y dosbarth Rhyddfrydig. Ond pa les? Try eu hergydion allan- yn flat shots' yn y diwedd. Y maent wedi bod trwy y dref hon a 'Requisition' i Mr. Nevill, er cael gweled teimlad y dref. Y maent yn gyru 'handbills' hefyd, ac y maent fel yma yn fyw eirias am gael Tori i fewn; ond na feddylied y darllenydd fod yr ochr arall yn segur tra y maent hwy yn gweithio. Y mae y Registration Association' wedi an. fon papyrau bychain trwy y dref, ac wedi gosod rhai ar y muriau, yn ceisio gan yr etholwyr ystyried ac ymbwyllo, rhag gwneud dim y bydd yn edifar ganddynt yn ol llaw eu bod wedi ei wneud. Yn awr, Etholwyr Caerfyrddin, pa beth a wnewch yn yr amgylchiad pres- enol? Pwy anfonwch i'r Senedd? Gwyddom eich bod am ddyn wna ddadl- eu a phleidleisio dros "ryddid" crefyddol a gwladol-Stepney yw eich dyn. Gwyddom eich bod am ddadgysylltu yr Eglwys oddiwrth y llywodraeth yn yr Iwerddon—Stepney wna ei oreu dros hyny. Os ydych am gael Prifysgol- ion Lloegr, y rhai ydynt sefydliadau cenedlaethol, yn agored i bawb o'r genedl, yn annibynol ar yr enwad y perthynant iddynt, rhoddwch eich llais gyda Stepney. Nis gallwn gael iaith ddigon cref er ceisio eich perswadio i "ystyried" y pwys o bleidleisio yn iawn yn yr etholiad nesaf. A ydyw Caerfyrddin a Llanelli, y rhai ydynt wedi bod yn cael eu cynnrychioli gan Ryddfrydwyr am y 30 mlynedd diweddaf, yn awr yn myned i adael neb ond Rhyddfrydwr drostynt? A ydynt yn myned i fradychu eu hegwyddorion "yn awr," pan y mae pynciau mor bwysig o flaen Senedd em gwlad? Nac ydynt, medd llais y rhai ymladdasant yn wrol yn y blynyddau aethant heibio; nac ydynt, medd profiad y 30-ml. diweddaf; nac ydynt, medd yr awydd hwnw am ryddid sydd yn ein calonau; nac ydynt, medd y calonau sydd yn ffieiddio pob math o ormes, caethiwed, a thrais* nac ydynt, medd llais cydwybod ddiragfarn; nac ydynt, medd gwareiddiad ac addysg; ie, nac ydynt, medd pobpeth sydd resymol, a Christionogol hefyd; gan hyny, Etholwyr Caer- fyrddin, cyhwfanwch eich baner—plenwch eich 'standard' yn wrol—ymledd- wch yn ddewr a di-ildio, nes cael goruchafiaeth. Peidiwch rhoddi clust i ryw ystorïau gwenieithus a arferir er eich denu. Peidiwch rhoddi eich enwau yn fyrbwyll wrth unrhyw ddeiseb, heb yn gyntaf bwyso a mesnr y mater yn ddifrifol.—GOHEBYRP.
GOHEBIAETHAU 0 AMERICA.
News
Cite
Share
ST. LOUIS, Mo. July 7th, 1868. DEAR S. R.I am permitted by the kindness of my friend J. M. Davies to add a line to his letter. I rejoice that we have the DYDD. May your under- taking prosper to the extent of your desire, and to the fullest extent of God's will. I will write again soon. J. B. EVANS. GOMER, OHIO, Gorphenaf 7fed, 1868. SYR,—Daeth tri rhifyn o'r DYDD, sef 5, 12, 19 Mehefin, i law. Yr ydym yn mawr hoffi ei blygiad a'i argraff. Y mae amryw yn yr ardal yma am ei gael. Anfonaf 'list' yna cyn gynted ag y caf yr eirchion a'r arian. Mae'n debyg mai tri'ellir gael dan stamp dwy geiniog. Carwn wybod y pris am chwe' mis. Buom yn y capel neithiwr yn derbyn addewidion at Gapel newydd." Cyr- haeddasant i chwe' mil; ac yr wyf yn hyderus y cyrhaeddant i ddeng mil, ac y cawn gapel ag a fydd yn enw i'r ardal. JOHN R. JONES. [Y mae y crybwylliad am gapel newydd yn Gomer yn ein Iloni. Dylai fod yn un hardd helaeth er bod yn deilwng o'r ardal. Ond drwg genym orfod hysbysu J. R. J. mai y ffordd rataf i anfon y DYDD i'r Unol Daleithiau ydyw anfon tri yn un sypyn, yn ol rheol y 'book postage,' dan dair stamp ceiniog. Felly bydd toll cludiad pob papyr yn geiniog. Ped anfonid papyr ar ei ben ei hun byddai yn ddwy geiniog. Er yr holl ymffrost fod Lloegr ac America yn pleidio addysg a chyfeillgarwch, go araf y mae ein llywodraethau yn gostwng toll cludiad papyrau a llythyrau a llyfrau rhwng y ddwy wlad. Gallant fforddio yn hawdd gario llythyryn bychan hanner owns am lai'na chwe' cheiniog, a newyddiadur am lai na dwy geiniog, a llyfrau am lai na thair ceiniog bob pedair owns. Pa raid i gludiad cistaid fechan o bapyr ac inc fod gymaint yn ddrutach na chludiad dim arall?—GOL.]