Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BEAUMARIS A CHOLWYN A'U CLYCHAU.

News
Cite
Share

BEAUMARIS A CHOLWYN A'U CLYCHAU. SYB,—Y mae eglwys Beaumaris a'i chladdfa ar fryn bychan tlws yn nghanol y dref. Yn ei hymyl y mae hen garchar du, ac y mae y "crogle" yn wynebu ffenestri goleuaf yr eglwys- Yr ydwyf yn synu na buasai rhywrai, ar adeg adeiladu, yn gorchymyn i'r ddau le cyhoeddus sefyll yn mhellach oddiwrth eu gilydd. Cynghorem y gweinidog gweithgar sydd yno yn bresenol i arfer ei ddylanwad i fynu planu poplars wrth glawdd y fynwent, i guddio y carchar, ac yn enwedig drws haiarn coch y crogle. Yn sicr, y mae edrych ar y fath olygfa oddiar lwybrau y gladdfa, a thrwy ffenestri yr eglwys, a thuedd ynddo i glwyfo neu i galedu teimladau boneddigesau Beaumaris. Oni buasai fod yr yw mor hir yn tyfu, enwaswn hwy yn lie y poplars i'w rhoddi i guddio un o weddillion barbariaeth yr hen oesau. Maddeuer i mi am hyn o awgrymiad. Efallai fy mod i a rhai o'r boneddigion a fynychant y lleoedd cysegredig, yn wahanol ein chwaeth. Gwn mai pleidwyr crefyddau sefydledig fuont yn brif amddiffynwyr ac edmygwyr carcharau, ystanciau, ffaglau, a chrogbrenau. Ond a'r clychau yn benaf y mae a fynwyf fi y waith hon. Y mae yn Beaumaris res o honynt, a chanddynt lais mwyn clir. Nidaryf yn sier a oes rhyw ddefodaeth gysegredig yn nglyn a. chwareu y clychau, heblaw galw i'r eglwys. Ond y mae yn Beaumaris addoldai Wesleyaid, Methodistiaid, Anni- bynwyr, Bedyddwyr. Dechreuant hwy eu hoedfaon fore y Sabbath am ddeg. Cymerir hanner awr i ddarllen gair Duw, gweddio, a chanu mawl. 0 gylch hanner awr wedi deg y mae y pregethwyr yn darllen eu testunau; gwna y cyffredm hyny, ac &nt dros eu harweiniad i fewn yn lied ddystaw. Ofnwyf fod peth rhodres yn y dystawrwydd yma, ac y mae peth rheswm ynddo hefyd. Pe cychwynai ambell un yn uchel, byddai perygl iddo fethu cyn y diwedd. A phan y mae gweinidogion y gwahanol enwadau yn cymeryd eu testunau, y mae clychau Beaumaris yn dechreu chwareu a chadw swn, a daliant ati oddeutu hanner awr, nes yw ambell un yn methu ei glywed ei hun. Ond deallwyf nad yw y rhai sydd wedi ymarfer yn teimlo cymaint oddiwrthynt. Bum yn dyst o beth cyffelyb yn Ngholwyn. Pentref bychan tlws yw hwnw, ac eglwys yn ei ganol. Cylchynir hi ag addoldai heirdd y pedwar enwad. Dechreuir addoli yno a chwareuir clychau o gylch yr un amserau ag y gwneir yn Beaumaris, a delir ati yn gyffelyb; ond nid yw clychau Colwyn mor glir eu lleisiau a pheraidd eu tonau, eithr y maent yn fwy annymunol i ddarllen testunau yn eu clyw. Y mae y blaenaf yn canu, a'r olaf yn bugunad. Yn Beaumaris y mae y llais yn boddi mewn dwfr glan, ond yn Ngholwyn boddir ef mewn dwfr llwyd. Nid wyf am wneud mwy na hyna o sylw o glychau Colwyn; ond dymunwn appelio ar y mater yn y dull mwyaf parchlawn, at Syr Richard Bulkeley, ac Eglwyswyr Beaumaris, pe buasai pob un o'r gwahanol enwadau yn dewis cael clochdy a chlychau wrth eu haddoldai, ac yn eymeryd yn eu penau i'w chwareu pan fuasai gweinidog yr eglwys yn gweddio neu yn darllen ei destun, a'r Eglwyswyr yn eu mynydau mwyaf cysegredig, ai tybed y goddefasid hwy? Pe buasai plant Beaumaris yn aflonyddu addoliadau fel y gwna ei chlychau, ai nid yn yr adeilad du sydd yr ochr arall i glawdd y fynwent y buasai eu Hetty? A wnai clychau yr eglwys ddim dechreu chwareu banner awr wedi naw, fel y byddai iddynt ddystewi erbyn deg, ac y gellid oyd-ddechreu addoli ag Ymneillduwyr? Neu, os galw i'r eglwys yw unig amcan clychau, ac os na ellir dechreu yno cyn unarddeg, a ellid dim rhoddi ar ddeall i Eglwyswyr eu bod yn cael eu galw am "ddeg," ac yn cael awr o amser i ymbarotoi at addoli? Nid ymwisgo wyf yn feddwl. Gallai dull arall 0 ymbarotoi fod yn fuddiol i bawb. Neu, os na ellir dechreu cyn unarddeg, ac os y w yn hanfodol dechreu ar ol i'r clychau orphen chwareu, a fuasai pum' mynyd ddim yn ddigon yn lie hanner awr? Cawsai y clochydd felly lai o drafferthion byd ar y Sabbath; ac yn wir, y mae cryfach rhesymau am iddo ef gael byrhau ei waith, nag sydd i swyddfa llythyrau Llundain gael ei chau ar y Sabbath. Buaswn yn cynghori Ymneillduwyr y pentrefydd y myn eu clychau chwareu ar y mynydau uchod i ymollwng i amser eu brodyr Eglwysig a dechreu addoli am unarddeg, oni buasai fy mod yn gweled ei bod yn myned jrn afresymol bell y pryd hyny i'r rhai sydd yn dilyn natur, drwy godi yn fore 1 ddechreu ar y gwaith o addoli Yr wyf yn canmol gweinidog ac Eglwyswyr Beaumaris am eu gweithgarwch. Deallwyf eu bod yn codi yn fore, ac wrthi yn ddiwyd; ond a fyddai dim modd dysgu i'r clychau i ddeffro yehydig yn gynt na'r amser a nodir uchod? Nid wyf yn gweled y byddai genyf fi le i gwyno ar athrawiaethau a defodau Pabaidd yr Eglwys, pe dygent eu treuliau eu hunain, a phe na orthrymid y wlad i'w cynnal. Nid oes dim ddaw a theulu y grefydd dreisiol yn gynt i w pwyll ac at y Beibl, na'u rhoddi i fyw arnynt eu hunain. Daw hyn a hwy i arfer synwyr cyffredin, i wneud eu dyledswyddau, a dysgwyl wrth Dduw am bethau ysbrydol. Nid Ymneillduwyr yn unig sydd yn cyhoeddi peth felly y dyddiau hyn. Gwrandawer ar Mr. W. Vernon Harcourt, (Historicus), yn ei araeth yn Oxford, pan yn cynnyg ei hun i fod yn gynnrychiolydd y ddinas hono. Y mae efe yn Eglwyswr o waed, o broffes, ac o frwdfrydedd; ond y mae yn erbyn ei chysylltiad â'r llywodraeth. a gwaddoliad, a myn mai efe, Gladstone, Bright, &c., yw cyfeillion penaf yr Eglwys. Dyma iaith Harcourt: —"Ai ar ei chysylltiad a llywodraeth y dibynai yr Eglwys pan aeth pysgot- wyr Galilea i gyhoeddi efengyl i baganiaid coelgrefyddol, a phan y darfu iddynt orchfygu gorchfygwyr y byd? Nage, ond aethant allan yn nerth tfydd, ae addewid bywyd tragwyddol. Nid enawdol oeddynt eu harfau, ond defnyddient gleddyf yr Ysbryd, a tharian y ffydd; ac y mae y rhai a daerant fod ar grefydd Mab Duw eisieu llywodraethau i'w chynnal heb ddeall ei natur." Dyma iaith un or Eglwyswyr mwyaf brwdfrydig pan yn cynnyg ei hun yn gynnrychiolydd dinas Rhydychain! lie prif ysgol Eglwyswyr. A dyma yw teimladau miloedd o gyfeillion gonestaf yr Eglwys. Rhaid y maddeuir i Ymneillduwyr bellach ydynt wedi bod yn ysgrifenu yr un peth er's degau o flynyddau. Ond od oes rhyw rai heb gymeriad na thalent yn byw yn fras ar ddegymau a gwaddoliadau yr Eglwys, nid oes neb o honom yn dysgwyl maddeuant ganddynt hwy. J & J Caniataer i mi, yn y dull mwyaf parchus, i anerch fy mrodyr, gweinidogion yr Eglwys, a 1 haelodau. Digon tebyg mai chwerthin a wnewch ar fy sylwad- au ax y man-glychau. Gallwn innau chwerthin yn ol; ond y mae yn anhawdd genyf feddwi nad oes ambell i leygwr parahus fel Syr Richard Bulkeley yn teimlo. Nid amser yw yn awr i sarhau yr Ymneillduwyr a, phethau tebyg i chware y clychau i aflonyddu eu haddoliadau. Gellir ystyried hyn yn beth bach, ond nid yw yn rhy fach i fod yn drosedd cosbadwy k charchariad, pe buasai plant y dref yn euog o hono. Daw pethau bychain fel hyn yn erbyn Eglwysi Sefydledig ddydd y cyfrif sydd gerllaw. Nid dydd y farn ddiweddaf ydwyf yn feddwl, ond y dydd y cyfeirir ato yn Dat. xviii., y bydd Duw dros ei apostolion santaidd a'i brophwydi, yn dial ar drais, ac yn gofyn oddiar ei law "waed prophwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear." Y mae Eglwyswyr wedi arfer ymffrostio yn eu hurddas a'u cyfoeth; a braidd na ddywedent hwy pan yn eu cerbydau a'u dillad goreu am i Ymneillduwyr sefyll yn mhell oddiwrthynt; ac etto rhaid i Ymneillduwyr dalu am eu cer- bydau a'u dillad, a thalu eu ffordd i'r nef! Ni thai hyn ddim, ac y mae wedi cael ei oddef yn rhy hir. Ymhyfha gweinidogion yr Eglwys i gyhoeddi athrawiaethau ac arfer y defodau mwyaf Pabaidd, a rhaid i Gristionogion gynnal pethau mor annhebyg i grefydd eu Blaenor! Myn. olynwyr yr apos- tolion (?) mai eiddo cyfreithiol iddynt hwy yw y degwm. Ysgrifenaf yn eglur yn eu hwynebau, Nage. Bu yn cael ei dderbyn gan Babyddion o'u blaen hwy. AL Pabyddion a'i pia? Nage. Ni bu gan neb erioed hawl i'w roddi iddynt. Ai arglwyddi tiroedd a'i pia? Nage. Ni ddarfu iddynt. erioed ei brynu gyda?r tir. Gwyddant wrth gytuno am hwnw nad ydynt yn prynu y ddegfed ran. Wel, pwy a'i pia? Pawb; ae at dalu y trethoedd sydd yn bwysau ar bawb y dylai fyned, ac y bydd yn rhaid iddo fyned. Mentrwn ddadleu ar y pwnc a holl esgobion a holl offeiriaid, holl dirfeddiannwyr a holl stiwardiaid, holl gyfreithwyr a holl glareod Pabaidd a Phrotestanaidd y ddaear; ac efallai iod sarhau Ymneillduwyr drwy chwareu y clychau mân ar adeg eu haddoliadau yn cyflymu dyfodiad yr amser pan y gwneir cyfiawnder a'r degwm. J. R.

BEDD DIC ABERDARON.

Y GYNNADLEDD WESLEYAIDD.

GOHEBIAETHAU 0 AMERICA.

CYNNRYCHIOLAETH CEREDIGION.