Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

©tojefotaetijati.

News
Cite
Share

[Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr.] COLEGDY NEWYDD ABERHONDDU. (Parhad). NID oes ammheuaeth nad arswyd llywodraeth plaid a achosodd y gwrthwyneb- iad i'r amcan o gael Un Coleg" i'r enwad yR Nghymru yn ngtyn &'r mudiad daucan'mlwyddol. Canys yn gymaint ag mai y blaid a dybir ag sydd er's blynyddoedd bellach yn cymeryd llawn cymaint na'u rhan yn nhrefniad a llywodraeth Coleg presenol Aberhonddu, oedd y rhai a ymdrechai yn benaf am yr Un Qoleg," ofnid pe na buasai ond "Un Coleg" yn perthyn i'r enwad yn Nghymru, y buasai perygl i'r un blaid i ymwthio am lywodraeth hwnw hefyd; ac y buasai holl foddion addysg Golegol i ymgeiswyr am y weinidog- aeth mewn perygl o syrthio i'w dwylaw yn llwyr, yr hyn a ystyrid yr anffawd mwyaf annedwydd a allasai byth ddygwydd i'r enwad: ao mewn canlyniad, gwrthodwyd y cynnygiad, fel y gorfu i'r blaid oedd yn wresog drosto ym- ostwng a rhoddi y meddylddrych am dano i fyny. Ac nid oes ammheuaeth nad yw Coleg Aberhonddu wedi cael colled ddirfawr yn serch yr eglwysi a'u cyfran- iadau tuag ato yn y blynyddoedd diweddaf, o herwydd yr ymyraeth tybiedig, gormodol, a gredir sydd gan y blaid hon yn ei lywyddiaeth. Ac nid yn unig y mae eu gwaith yn ymwthio i gymeryd y llywyddiaeth i'w dwylaw wedi dylan- wadu yn ddrwg ar y wlad ac wedi niweidio y sefydliad, ond edrycher ar y dull y maent wedi cario y llywyddiaeth yn mlaen. Pa faint.o ddynion ieuainc, pan ar derfynu eu hefrydiaeth yn y Coleg, ac yn ymgymeryd a gofal eglwys neu eglwysi, a ymadawodd o'r sefydliad a'u teimladau wedi eu suro a'u chwerwi gan y llywodraethwyr hyn, fel nas gallasent byth deimlo chwant rhoddi eu dylanwad o blaid y sefydliad tra y byddai ei lywyddiaeth yn nwy- law y cyfryw? A hefyd, pa faint o ymgeiswyr teilwng, o bryd i bryd, sydd wedi bod yn curo wrth ddrws y Coleg, a phan nad oedd dim yn "safon der- byniad" i'r Coleg yn eu hattal i fewn; etto, trwy fod y blaid hon yn meddu awdurdod i agor neu gau fel y gwelent hwy yn dda, a gawsant eu cau allan yn ddigon diseremoni, ar ol bod yn myfyrio yn galed, ac yn gwario bron bob ceiniog a feddent i geisio dyfod i fyny a'r safon ?" Peth go ddigalon i ddyn- ion ieuainc, wedi bod yn ymladd & rhwystrau, ac mewn pryder mawr am flwyddyn a hanner, mwy neu lai, oedd gweled eu hunain yn cael eu troi yn ol fel estroniaid, heb fod iddynt ran na chyfran yn mreintiau y sefydliad y cred- ent, ac y credant hyd heddyw, fod iddynt berffaith hawl yn ei holl freintiau, pe cawsent chwareu teg. Mae llawer o'r dosbarth yna yn y weinidogaeth yn Nghymru, ac yn gwneud yn dda. Beth feddylia y darllenydd all fod teimlad y rhai yna tuag at y sefydliad, pan yn canfod ei fod yn parhau yn nwylaw yr un blaid? Ac am y Colegdy Newydd, ofnir fod yr un peth wedi effeithio mwy nag y mae llawer yn feddwl, er rhwystro y mudiad ac attal llawer o gyfraniadau tuag ato. Ond am 'Trust Deed' y Colegdy Newydd, y mae Mr. Thomas, yn yr ysgrif anodwyd, yn sicrhau i'w ofynydd, ei bod yr un "yn ei holl ddarbodion a 'Trust Deed' y Coleg presenol;" a bod "ei ddarbodion yr un ag eiddo 99 o bob 100 o'r capeli ygwnaed eu gweithredoedd yn y 50 mlynedd diweddaf. Ond nid yw yr ateb hwn o eiddo yr ysgrifenydd Parchedig yn taflu nemawr o oleuni ar y pwnc. Canys, yn y lie cyntaf, i bwy o'r cyhoedd yn gyffredin y mae darbodion Trust Deed' y Coleg presenol yn adnabyddus? Ac, yn y lle nesaf, pa brawf sydd gan Mr. Thomas fod "darbodion 'Trust Deed' y Colegdy Newydd yr un ag eiddo 99 o bob 100 o'r capeli y gwnaed eu gweithredoedd yn y 50 mlyn- edd diweddaf?" A welodd efe yr holl 'Deeds' y cyfeiria atynt? Nid oes fawr debygolrwydd o hyny. Ac heblaw hyny, pe byddai Mr. Thomas yn ber- ffaith hysbys o holl ddarbodion holl Deeds' capeli yr Annibynwyr a wnaed yn ystod y 50 mlynedd diweddaf, pa eglurhad a roddai hyny ar yr hyn a ofynid, sef, Beth yw darbodion 'Trust Deed' y Colegdy Newydd yn Aber- honddu? A phaham y dangosir y fath gyndynrwydd i adael i'r cyhoedd wybod beth yw darbodion 'Trust Deed' y Colegdy Newydd, pan yr appelir atynt mor daer am eu harian at ei adeiladu ? A ydyw yn deg a rhesymol i attal y cyhoedd oddiwrth wybodaeth lawn a sicr at ba beth, ac yn mha drefn y bwriedir defnyddio eu harian yn ngtyn a'r Colegdy Newydd, pan y gwesgir arnynt mor daer am eu cyfraniadau? Oni ddylai 'Draft' o'r 'Deed' gael ei gosod rywfodd neu gilydd o flaen yr eglwysi, cyn y gellir gofyn iddynt am eu harian, mewn trefn iddynt gael cyfleusdra tegi farnu drostynt eu hunain, a ydyw yr achos y fath ag a gymeradwyant? Ni amcanwyd yn y sylwadau uchod i sarhau na dirmygu un person yn y mesur lleiaf. Credir fod dynion rhagorol yn perthyn i'r blaid dybiedig—dyn- ion defnyddiol a dylanwadol, yn troi yn y cylchoedd pwysicaf, a pherchir hwynt fel y cyfryw. Ond mae "oes yr hawliau" wedi gwawrio, fel nad yw yn debyg y goddefir llawer etto i berson unigol, na phlaid o gyfeillion, pa mor ddylanwadol bynag y dichon iddynt fod, i ymyryd a llywodraethu, yn ol eu meddwl eu hunain, yr hyn sydd yn perthyn i eraill yn gystal a hwythau. Bydded, ynte, i bawb gydnabod eu lie, a chydnabod hawliau eu gilydd; ac yna ni rwystrir y naill gan y Hall. Ac am y Colegdy Newydd yn Aberhonddu, rhaid ihawb gydnabod ei fod yn achos o'r pwys mwyaf a'r teilyngdod uchaf, yn ei gysylltiad a'r Annibynwyr yn Nghymru. Am hyny, cydnabydded pob un o honynt ei le, a bydded iddynt oil gydweithio a'u gilydd fel un gwr— symuder pob rhwystr o'r ffordd, nes gorphen yr adeilad newydd, a'i gael yn rhydd oddiwrth y ddimai ddiweddaf o'i ddyled. AMOS.

ETHOLIAD SIR ABERTEIFI.

GAIR AT EGLWYSI ANNIBYNOL…

CYNNRYCHIOLAETH CEREDIGION.