Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEOTYR. D. ab Iolo.-Byddant yn dra derbyniol. Owynfab.—Rbaid i cbwi ymddiried i ni eich enw priodol cyn y gall eich ysgrif ym- ddangos o dan ffugenw. Mewn llaw-Eisteddfod Teitl, Brawdstarwch, at loan Pedr, Hoedledd, Etholiad Aber- dar a Merthyr, Derfel Gadarn, Gweddi newydd, Cynnrychiolaeth Mon, &c., &c. Cyfarfod Llenyddol Bontddu.- Y mae Carwr Cyfiawnder" yn achwyn ar awdurdod- au y cyfarfod uchod am attal y wobr ar yr englyn talc yn slip, yn groes i'r rheolau. Dyna gynnwys ei lythyr, ac nid yw o un dyben ei gyhoeddi. At Lenorion Dmslais.—Ysgrifena Gohebydd o'r lie hwn lythyr maith, ond ei fod yn rhy amleiriog i gael ymddangos, am gael Eisteddfod yn Dowlais yn flynyddol, ac i ddecbreu y Nadolig nesaf. Achwyna hefyd ar Bwyllgor Eisteddfod a gynuelir yn y Drill Hall. am yr anfri mawr a daflodd ar Dowlais yr amser a basiodd; ac annoga i frodyr o wahanol enwadau gyfarfod ÍI'u gilydd er cario yr amean uchod yn mlaen. Gwrandewch ei gais, a rhoddwch gyfleuadra i'r bobl ieuuine weithio. A. W. J.—Llawer o farddoniaeth sydd mewn llaw, a dyna y rheswm. Daw eich tro chwithau yn fuan. W. ff. -Da genym ddeall fod y parcel wedi cyrhaedd yn brydlawn gyda'r Great Western. Anfonir yr holl barseli o hyn allan gyda'r llinell hon, ac nid gyda'r Cambrian. Y Wbidychfa mn R. Williams.-Y mae'r pethau a ddywedwch am y cynhauaf yn y Wladfa Gymreig wedi eu cyhoeddi eisoes, ac yn eithaf hysbys HoK'a.som i chwi ddangos mwy o addfwynder ysbryd yn eich ysgrif. Yr ydym yn ofni, os cyhoeddir hi fel y mae, yr arweinia 1 ddadleuon personol a difudd. Mae banesion ar ol eich ymadawia,t cbwi, a dysgwylir hanesion pellach yn fuan, i ddweyd am obeithion y cynhauaf dyfodol. Mae pawb yn unair fod y lie yn iacb, ac yn fan cymhwys i godi anifeiliaid, yr hyn nid ydych yn yngan gair yn ei gylch. Idrii. -Gwell peidio cyhoeddi eich llythyr ar hyn o bryd. Os bydd i'r dynyn y cwynwch o'i herwydd barhau i gynnyg arian am symud y DYDD or ffordd, clan g- oswn iddo yn mha le i'w rhoddi os yw yn teimlo ei logell yn rhy drom. Os oes rhy wbeth yn annheg yn ein hertbyglau am yr wythnosau diweddaf, amlyged byny —y mae pin dalemiu yn l hydd iddo; neu ynte ymgilied i ryw faes arall. Cawn efallai gyfleusdra etto i groniclo chwaneg o hanes yr erledigaeth yn Meirionydd. J3. Evans.-Ant i'r glorian yn mhenychydig ddyddiau, a chewch wybod y canlyniad. H. P. M.-Daeth y tal i law yn ddiogel: gwna y tro yn mhen tair wythnos. Ymdrechwn roddi Anerchiad Henry Richard yn ain nesaf. Y GOHBBIAETHATT i'w hanfon i Rev. S. R., DYDn Office, Dolgellau. Yr EIBCHION i Mr. W. HUGHES, Dolgellau. TELERAU y DYDD.-Anfonir y DYDD trwy y Post am chwarter yn ol y teler- au canlyrwZ :-1 (os. telir yn mlaen) am 2s. 6c.; 3 am 4s. 6e. Os na thelir yn mlaen, 1 am 2s. 9c.; 3 am 4s. lie. HYSBysIADAu.-Heb fod dros dair llinell, Is. y tro; am bob llinell ychwaneg- ol, 3c. Ond ymddengys hysbysiadau am yspaid o amser am brisiau llawer is.
CYMRU A'R ETHOLIADAU.
News
Cite
Share
CYMRU A'R ETHOLIADAU. NID yw Cymru ond gwlad fechan, braidd y leiaf yn mysg gwledydd cred. Mae weithiau mor fechan fel mai o'r braidd y cydnabyddir hi, tuallan i'w thiriogaeth, ei hun yn wlad o gwbl. Rhyw gongl o'u gwlad gysefin eu hunain mae y Cymry yn breswylio, a'r rhai a'i preswyliant yn genedl a phobl orchfyg- edig, ac wedi bod felly am oesoedd, a'u tir yn cael ei breswylio gan bobl estronol, a chenedl gryfach a lluosocach na hwynt. Nid ydym ni yn perthyn i'r frawdoliaeth sydd byth a hefyd yn gwaeddi, "Cymru dlawd." Nid yw Cymru yn dlawd. Nid oes gwlad dan y nefoedd o'i maint a'i dyffrynoedd ar y cyfan yn fwy ffrwythlawn, a'i mynyddoedd yn fwy llawn o adnoddau, a'i phreswylwyr at eu gilydd yn well eu hamgylchiadau. Nid ydym chwaith o'r bobl sydd byth a hefyd yn gorfoli ein gwlad ar draul darostwng gwledydd eraill. Addefwn yn rhwydd ein bod yn bell yn ol mewn llawer o bethau i'r Saeson a'r Ysgotiaid. Mae genym fel cenedl wersi pwysig i'w dysgu oddiwrth y naill a'r llall. Yr ydym yn bell yn ol i'r Saeson mewn ysbryd antur- iaeth. Dichon mai dyma un o wendidau ein cenedl. Nid rhaid wrth brawf gwell o byny na'r ffaith fod bron ein holl weithfa- oedd mawrion yn nwylaw ein cymydogion; ac yr ydym yn ol i'r Ysgotiaid mewn diwydrwydd a dyfalbarhad. Er hyny, yr ydym hyd yma yn bobl neillduedig. Mae genym ein eymeriad cenedl- aethol. Mae genym ein safiad yn mysg cenedloedd y ddaear. Yr ydym. fel cenedl wedi chwareu ein rhan yn ngwareiddiad y byd, ac yn ffurfiad y cyfreithiau sydd wedi ei lywodraethu, o'r amser yr oedd ein Derwyddon dysgedig, ag a fu ar un adeg yn rhoddi cyfeiriad i feddwl Ewrop, hyd at ein Brenin Arthur, ac oddiyno hyd gwymp ein hanwylaf Llewelyn, Tywysog olaf ein gwlad; ac o gwymp Llewelyn hyd y pryd hwn. Mae y meddwl Cymreig a'r arferion Cymreig yn gorfforiaeth byw yn ngwar- eiddiad, arferion, a gwladweiniaeth Ewrop y dydd hwn. Mae genym ddylanwad anymwybodol ar holl wledydd y ddaear. Felly rhaid fod ein cyfrifolpleb yn fawr. Dichon mai y peth neillduol sydd yn rhoddi cymeriad i ni fel cenedl ar hyn o bryd ydyw crefydd. A'i chymeryd gyda'i gilydd nid oes genedl dan y nefoedd mor grefyddol a chenedl y Cymry. Mae gwedd gref- yddol ar ein holl arferion a'n sefydliadau. Yr ydym yn hyn yn sefyll ein hunain yn mysg cenedloedd y ddaear. Yn ol maint ein gwlad a rhif ei thrigolion, mae ein capeli a rhifedi ein heg- lwysi a'n gweinidogion yn lluosocach nag y ceir hwynt mewn un wlad arall. Ond y jgth sydd yn rhoddi gwedd ar ein crefydd _0. ydyw ein hanghydffurfiaeth. Yr ydym yn genedl o anghyd- ffurfwyr. Gall ein bod yn rhanedig i wahanol enwadau, ond y mae y nail] enwad mor egwyddorol a thrwyadl anghydffurfwyr ag ydyw y llall. Yr ydym yn ymfalch'io yn hyn. Mae anghydffurfiaeth weithian wedi dyfod yn rhan o honom. Mae pob math o drais a gorfodaeth ac unffurfiaeth grefyddol yn gas beth yn ein golwg. Yr ydym yn honi bod mor rhydd i addoli Duw ein tadau ac i anadlu awyr iachusol ein bryniau a'n myn- yddoedd. Yr ydym bron wedi llwyr ymddyosg oddiwrth iau unffurfiaeth crefydd y wlad. Yn hyn y mae ein safiad wedi dyfod yn aruthrol bwysig ar yr adeg bresenol. Mae llygaid Lloegr ac Iwerddon atom ni. Cydnabyddir weithian ein pwys fel cenedl. Cydnabyddir fod ein bymneillduaeth a'n hanghyd- ffurfiaeth yn elfenau byw yn ffurfiad ein cymeriad cenedlaethol. Adwaenir ni fel cenedl o anghydffurfwyr. Felly dylem weithian deimlo ein pwys fel cenedl. Dylem wneud ein rhan yn deg, yn ddynol, ac yn onest yn yr etholiadau sydd yn awr wrth y drws. Mae y peth y llafuriodd ein tadau am dano, ac y dyoddefasant gymaint er ei fwyn, yn awr yn ein dwylaw. Mae yr etholfraint wedi ei hestyn i ni. Mae ar ein Haw i benderfynu tynged gorthrwm a thrais yn ein gwlad. Yr ydym wedi dyoddef digon o drais uchelgeisiol mawrion ein tir. Mae y 'Reform Bill' wedi ein cydnabod yn ddynion. Yr ydym yn awr yn rhydd-ddinas- yddion; gwyliwn rhag arfer ein rhyddid yn achlysur i uchelgais y rhai fu drwy y blynyddoedd yn mathru ein hiawnder ac yn cyfyngu ein rhyddid. Wedi cael yr etholfraint, gwnawn y goreu o honi. Ein hawlfraint ni ydyw; arferwn hi er ein lies ein hunain a lies ein gwlad. Gweithiwn drwyddi ein cymeriad cenedlaethol. Os anghydffurfwyr ydym, trown yr etholfraint i weithio allan egwyddorion anghydffurfiaeth. Pwnc mawr y dydd ar hyn o bryd ydyw dadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig. Mae tynged gwaddoliad eglwysig pob gwlad arall dan goron Victoria yn nhynged gwaddoliad yr Eglwys Wyddelig. Yr un yw egwyddor gwaddoliad yn mhob gwlad. Felly bydd ei ddiwreiddio o'r Iwerddon yn rhwyddhau y ffordd i wneud yr un peth yn Lloegr a Chymru. Ac yn wir, hyd yn nod pe byddai raid i ni yn Nghymru a Lloegr oddef yn hir etto i ysgerbwd sefydliad gwladol o grefydd fod ar ein cefn fel c-orff y farwoliaeth, dylem ddyfod allan fel un gwr o un galon i ym- osod ar y traha brwnt yn yr Iwerddon. Diau na ddylem ddychwelyd un aelod i'r Senedd yn yr ethol- iad dyfodol heb ei fod o galon yn bleidiwr i Gladstone yn ei ymgais i ddadwaddoli Eglwys yr Iwerddon. Dichon nad ydym etto mewn sefyllfa i anfon Anghydffurfwyr dros bob Sir a Bwrdeisdref yn Nghymru; etto gallwn wneud hyny mewn rhan. Da genym fod y wlad wedi deffroi o Gaergybi i Gaerdydd. Y cwbl sydd eisieu ydyw undeb. Bydded i'r holl enwadau anghofio eu henwadaeth yn mhwnc mawr y dydd. Ac yn wir, onid yw hyn yn nodwedd ein cenedl ni 1 Er mor rhanedig oeddym ar adeg glaniad y Rhufeiniaid, etto unasom yn erbyn y gelyn cyff- redin, nes gorfod i Cesar Fawr, arwr y byd y pryd hwnw, gilio yn ol, gan waeddi, "Y Cymry, tra yn un, sydd anorchfygol." Fel Anghydffurfwyr yr ydym yn un. Ein gelyn cyffredin yn y cymeriad hwnw ydyw gorfodaeth a gwaddoliad eglwysig. Felly yn yr ymdrech sydd o'n blaen, mynwn fod yn tin. Mae yn Ilawen genym gael ar ddeall fod Anghydffurfwyr Merthyr ac Aberdar wedi penderfynu tori llyffetheiriau trais. Maentwedi dechreu ar eu gwaith. Dichon nad oes un rhan o'r wlad nac o'r byd, lie y mae anghydffurfiaeth yn uwch, nag yw Merthyr ac Aberdar. Rhifir y capeli yma wrth yr ugeiniau, ac aelodau crefyddol wrth y miloedd. Mae anghydffurfiaeth yn allu byw yn y lie. Gwyr ein darllenwyr fod tri o ymgeiswyr ar y maes, a'r tri yn Rhyddfrydwyr. Deallwn na byddai gwiw i neb gynnyg yn y Fwrdeisdref heb ei fod yn Rhyddfrydwr trwyadl. Ond dewis- ol ddyn yr Anghydffurfwyr ydyw y Cymro gwladgarol, a'r Anghydffurfiwr goleuedig HENRY RICHARD. Credwn nad allas- ent syrthio ar ei well. Mae o yn ddyn profedig, ac fel y dywed yn ei anerchiad at yr etholwyr, yn Anghydffurfiwr o ddewisiad ac o argyhoeddiad, ac nid rhywbeth wedi ei wneud gan amgylch- iadau. Ac y mae yn dda genym ddeall nad oes nac os nac oni b'ai am ei ddychweliad. Nid yw yn bosibl fod y teimlad yn fwy unol yn ffafr ymgeisydd, ulac yn bosibl fod dim yn fwy unol nag ydyw yr holl enwadau yn ei ddychweliad. Mae Bedydd- wyr ac Annibynwyr, Methodistiaid a Wesleyaid, yn teimlo fod y Cymro gwladgarol o Lundain yn Anghydffurfiwr mor drwyadl, fel y mae pawb yn gweled eu delw eu hunain yn Henry Richard. Efe yw dyn yr enwadau, ac efe yw dyn y bobl. Deallwn ei fod yn iechyd i galon pob Anghydffurfiwr egwyddorol i weled sel ac undeb, a chlywed areithiau y gweithwyr yn y cyfarfodydd lluos- og sydd yn cael eu cynnal ar hyd y He. Fe ddywedir i ni mai hwy yw meistri y cynnulleidfaoedd. Y fath mewn gwirionedd yw y teimlad dros Henry Richard, fel y deallwn nad oes am-