Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ABERDAR A'R ETHOLIAD.

News
Cite
Share

ABERDAR A'R ETHOLIAD. Mae cynhwrf yr etholiad yn parhau yn ei wres yn y lie hwn- Parheir i gynnal cyfarfodydd drwy y lie. Cynnaliwyd cyfarfod gan bleidwyr Mr. Bruce nos Fawrth cyn y diweddaf yn y Neuadd Ddir- westol, pryd yr anerchwyd yr etholwyr gan y boneddwr hwnw. Nid oedd rhyw lawer o frwdfrydedd yn cael ei arddangos yn ffafr Mr. Bruce; ac o'r braidd y rhoddodd efe foddlonrwydd i'r cyfarfod, yn neillduol yn ei ymgais i ateb gofyniadau cyflwynedig iddo gan rai o'r etholwyr. Teimlid ar y cyfan fod ei atebion yn gloff ac anfodd- haol. Yr oedd yn eithaf amlwg fod Mr. Bruce yn ymsynied drwy gorff ei araeth ei fod wedi myned braidd yn anmhoblogaidd gyda'r gweithwyr, y rhai, wrth gwrs, fydd yn gwneud i fyny luaws yr ethol- wyr. Etto, mae y boneddwr yn parhau yn uchel iawn yn syniad dosbarth o'r etholwyr. Llywyddid y cyfarfod gan R. H. Rhys. Ychydig o flaenoriaid y bobl a gymerodd ran yn y cyfarfod. Wrth gwrs, mae yn anhawdd penderfynu pa fodd y mae pethau yn debyg o droi; ond os ydym i farnu achos Mr. Bruce wrth ei gyfarfod nos Fawrth, y tebygolrwydd mawr yw y bydd efe ar ol yn rhywle. Cynnaliwyd cyfarfod nos Fercher drachefn gan Mr. Fothergill a'i bleidwyr. Yr oedd hwn yn gyfarfod Iluosog iawn. Yr oedd y neuadd wedi ei gorlenwi; a'r cyfarfod yn llawer mwy brwdfrydig na'r un y nos o'r blaen. Cafwyd anerchiad da gan Mr. Fothergill. Bu eraill yn siarad ond nid oedd rhyw lawer o 'go' yn yr areithiau. Bu bron i Dr. Price gael ei hwtio. Gwnaeth y Doctor yn gall i beidio cynnyg ar wneud araeth; oblegid yr oedd pob arwyddion, pe y gwnaethai, y buasai yn ystorm yn y fan. Nid ydym ni yn credu rhyw lawer mewn hwtio dynion ar y 'stage.' Etto mae yn ofid gan gyfeillion ac edmygwyr y Doctor ei fod ef wedi cefnu mor hollol ar achos y gwnaeth efe ei hun mor hynod fel ei bleidiwr. Dyma yn wir beth yw un yn barn-gablu ei fywyd ei hun. Wrth gwrs, rhaid i Ryddfrydwyr ganiatau i ddynion ryddid barn a gweithrediad; etto mae y natur ddynol rywfodd yn analluog i fedru cyd-ddwyn a'r dyn a rydd gelwydd i'w fywyd. Gwyr pawb fod gwaith y Doctor yn cefnu ar achos rhyddid crefyddol, yn yr ymdrech hon, yn ymylu ar hyny. Nid oes dau feddwl na dwy farn yn y lie ar ymddygiad y Doctor; ac nid oes neb yn deall yn well, nac yn teimlo yn fwy ei sefyllfa na'r Doctor. Yr oedd hyd yn nod y rhai sydd yn mysg ei wrthwynebwyr penaf yn gofidio wrth ei weled wedi taflu ei hun- an i sefyllfa nad allasai efe alw allan ddigon o egni moesol i bleidio achos ag y bu efe yn un o'r rhai blaenaf yn ei gychwyn, sef cael Mr. Fothergill yn ymgeisydd. Mae yn fwy syn yn ei achos ef na nemawr neb, oblegid ei egni a'i yni yn fwyaf o ddim a'i cododd ef i sylw. i Tra yr oedd Mri. Bruce a Fothergill yn cynnal eu cyfarfodydd, yr oedd cyfeillion Henry Richard yn gwneud yr un peth. Cafwyd cyfarfodydd hynod o luosog a llawn o frwdfrydedd yn Cwmaman ac Abercwmboi. Deallwn fod rhai o gyfeillion un o'r ddau ymgeisydd arall wedi cynnyg bron lwgrwobrwyo cynnulleidfa Moriah, Aman, drwy gynnyg rhyw £10 neu R15 am fenthyg y capel. Dywedwyd hyny ar g'oedd gan un o'r diaconiaid; a dangoswyd y teimlad mwyaf o ddirmyg gan y cyfarfod am gynnyg sarhau yr etholwyr yn y fath fodd;—ac i'r gynnulleidfa ei wytlxod gyda dirmyg. Deallwn fod y gwr a wnaeth y cynnyg wedi anfon llythyr at D. Davies, Ysw., cadeirydd Pwyllgor Mr. Richard, i geisio esbonio y peth. Ond addefodd y cyhuddiad, a gwnaeth y peth yn waeth o lawer. Buasai yn llawer gwell iddo adael y peth fel yr oedd. Mae y gwr hwn yn gwneud ei hun yn fwy o'r 'busybody' nag y mae ei safiad yn y gymydogaeth yn ganiatau. Perffeithiodd ei ddylni wrth ddweyd yn nghyfarfod Mr. Bruce mai yr Aelod anrhydeddus hwnw oedd sylfaenydd y British School. Nid rhaid i ni grybwyll fod Mr. Bruce yn ddigon o foneddwr i godi i fyny yn y fan i ddweyd nad oedd efe yn gallu derbyn anrhydedd oedd yn eiddo i eraill oedd wedi bod ar y maes yn mhell o'i flaen ef yn dadleu dros addysg rydd. Fel hyn mae achos yr etholiad yn parhau i fod mewn llawn bywyd. 'Henry Richard for ever!'—ABEKDARIAD.

ABERYSTWYTH.

CYFANSODDIAD A RHWYMEDIGAETHAU…