Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

6atbb\.uttaetb.

News
Cite
Share

6atbb\.uttaetb. AwsT.-Mae y mis hwn yn un tra gwerthfawr yn ei gysyllt- iad a chynnaraidd gynnyrchion gerddi, yn y flwyddyn ddyfodol. Mae'r garddwr mwyaf celfydd yn ymddibynu, i raddau mawr, ar y mis hwn am blanhigion cynnar o wahanol rywiau. Gan hyny, dylai pob perchen gardd, iawn ddefnyddio y cyfleusdra; a chan fod wythnos o'r mis wedi myned heibio, dylem afael yn y gor- chwyl a'n holl egni ar dbriad dydd. Codwch y rhywiau addfed, sef cloron, pys, a ffa, a chedwch had, os ydynt yn rhywiau toreithiog. Yna heliwch y gwlydd i gongl o'r neilldu i fraenu yn wrtaith at wasanaeth dyfodol. Yna gwrteithiwch a phalwch eu tir yn ddwfn, gan ei falurio a'i gymysgu yn wastad a destlus. Yna llyfnhewch ei wyneb a chribin. Yn nesaf, agorwch resau a chongl eich caib, wrth linin, yn fodfedd o ddwfn, a throedfed rhwng rhes a rhes. Yna heuwch faip yn deneu yn y rhesau, a chladdwch a'r gribin, a churwch a chefn y rhaw. Maip cynnar yw'r goreu, sef yr 'orange jelly.' Yna lluniwch welyau wrth linyn pedair troedfedd o led, a throedfedd rhyngddynt. Yna heuwch wely neu ddau o wynwyn gauaf; cofiwch gymysgu yr hadau gyda huddigl a brwmstan blodiog; hyn a geidw y pryfaid rhag eu difa. Cladd- wch yr had a phridd o'r llwybrau sydd rhwng y gwelyau, yn hanner modfedd o drwch dros y gwely. Yna llyfnhewch a churwch yn ysgafn a rhaw. Yna taenwch chwarter modfedd o ludw wedi ei ridillio dros y gwely, a'i lyfnhau a'i guro ychydig a. rhaw. Yna tociwch yr ochrau yn unionsyth wrth linyn. Oddeutu canol y mis, heuwch y bresych cynnar a'r diweddar, a'r cochion; heuwch ychydig huddigl a gwlaeth, &c. Gellwch ranu gwely rhyngddynt ond gofalu rhag eu cymysgu, a'u claddu oil yr un modd a'r wynwyn. Heuwch y blodgawl ('cauliflower') mewn lie da a chysgodol yn wynebu'r haul ganol dydd. Claddwch y rhai hyn etto yr un dull a'r wynwyn. Planwch blanhigion mefys mewn tir trwm, hanner llath rhyngddynt bob ffordd. Planwch y cawlach yn rhesau, hanner llath rhwng rhes a rhes, a phymtheg modfedd rhwng y planhig- ion yn y rhes. Dyfrhewch yn helaeth wrth blanu. Heliwch ychydig bridd at y perlys ('celery') ar dywydd sych. Cneifiwch y gwrychoedd. Cedwch hadau y perlysiau. Nac anghofiwch lanweithdra a dyfrhau. T. 0.

"MAE POB PETH YN GWEITHIO."

CYFANSODDIAD A RHWYMEDIGAETHAU…