Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

, CYDWYBOD ETHOLIADOL.

News
Cite
Share

CYDWYBOD ETHOLIADOL. (GAN IOAN PEDR). ANAML y defnyddir geiriau mewn ystyr gywir a phriodol gan y cyffredin. Nid oes odid i air a ddefnyddir mewn ystyr fwy cyffredinol na chydwybod. Ofer i ni geisio yn bresenol ddarnodi yn fanwl yr hyn a olygir wrth y gair. Ymfoddlonwn ar ddweyd yii syml yr hyn a olygwn ni wrtho yn hyn o ysgrif. Golygwn yn un peth farn neu olygiadau dyn am bynciau, a theimlad o ddrwg neu dda, euogrwydd neu ddieuogrwydd, mewn perthynas iddynt. Nid yw dyn yn cael ei eni a chredo ymarferol yn ei galon. Rhaid ei oleuo a'i ddysgu cyn y gwyr pa fodd i ym- ddwyn yri iawn a theilwng mewn gwahanol amgylchiadau. Ond y mae cydwybod yn golygu rhywbeth mwy na gwybodaeth a goleuni. Golyga deimlad o rwymedigaeth a chyfrifoldeb- deimlad angerddol o euogrwydd neu ddieuogrwydd yn wyneb ymddygiad. Y mae y filfebeth a chydwybod boliticaidd hefyd. Fe deimla dyn, o angenrheidrwydd, ei fod yn gyfriM Greawdwr am ei bleidlais mewn etholiad yn gystal ag mewn pob gweithred arall; ond yr wyf yn ofni nad yw cydwybod pawb wedi ei goleuo yn y pwnc hwn. Nid y'm yn awr yn myned i ddadleu pa un ai Toriaeth ai Rhyddfrydiaeth sydd yn iawn, ond-fe ddymunwn ofyn wrth basio, pwy sydd yn ceisio dibrisio cydwybod, ac yn pregethu yn erbyn ei llais ar amser etholiadl ^fiid y Torïaid sydd yn selog am i ddynion beidio ag ystyried fod cysylltiad yn y byd rhwng eu pleidlais a'u cydwybod 7 A phaham y maent felly 1 Atebed y sawl a wyr. Tybia rhai nad oes a fyno cydwybod ft dim ond crefydd, ac nad oes crefydd mewn dim ond addoliad. Nid crefydd yn ddiau yw amaethu a march nata, ond pwy a ddywed er hyny nad oes a fyno crefydd a chydwybod a'r modd yr amaethir ac y march- nateir ? Y mae gonestrwydd ac anonestrwydd yn holl ymdrafod cymdeithas, ac y mae dyn mor gyfrifol i'w Greawdwr am y modd y pryno ac y gwertho, ag yw am ei fawl a'i weddi. Os ydyw felly gyda golwg ar faterion masnachol, pa faint mwy mewn cysylltiad a'r llywodraeth 1 Y mae llywodraethu gwlad yn dda, yn fwy, ac uwch gwaith na?i hamaethu; ac y mae mwy o gyf- rifoldeb ar ddyn wrth bleidleisio na phan yn cyflawni dyled- swyddau bywyd cyffredin. Bu tipyn o ymddyddan dro yn ol yn y Senedd yn nghylch pa un ai hawl ai braint yw pleidlais. Byddai yn burion i ninnau ei hystyried mewn tri golwg, a rhoi pwys neillduol arni fel dyled- swydd. Ond y mae pleidlais yn "hawl." Nid hawl i bawb yn mhob ystyr, ond hawl i'r neb sydd yn dyfod i fyny a'r telerau yn ol cyfansoddiad Prydain. Yr ydym ni fel Rhyddfrydwyr yn dal fod hawl naturiol gan bawb mewn oed a synwyr i gael rhan yn llywodraethiad ei wlad. Gwir fod y Senedd a'r llywodraeth yn trefnu ac yn edrych ar ol eiddo y deiliaid. Pe na buasent yn dal cysylltiad a'r deiliaid mewn unrhyw fater arall, buasai yn gyfiawn i'r drefn bresenol o gymhwysder pleidleisiol gael ei gweinyddu, sef i bawb gael pleidlais os bydd yn meddu rhyw swm o eiddo, ac mewn effaith, drwy ddylanwad sidrwyol, i bob un gael cynnifer o bleidleisiau ag a fyddo ganddo o denantiaid. Ond gan fod dyn yn rhywbeth heblaw meddiannydd eiddo, a bod perthynasau eraill can'mil pwysicach rhyngddo a'r llywodr- aeth na pherthynasau arianol, nid ar ei eiddo y dylai ei bleid- lais fod yn seiliedig. Y peth pwysicaf i ddyn ac mewn dyn yw oi fod yn ddyn. Y mae y ffaith hon, mewn ystyr boliticaidd, ac yn mhob ystyr arall, yn gorbwyso pob cymhwysder arall. Dylai pob dyn gael pleidlais am ei fod yn ddyn, os na fydd, drwy ryw drosedd neu ddiffyg, wedi darostwng ei hun islaw dynoliaeth; a dyna y mae y Rhyddfrydwyr yn ei amcanu ato, wrth geisio pleidlais gyffredinol, ydyw eu hiawnderau i bawb o'r deiliaid. Y mae gan bob dyn hawl naturiol i bleidlais, ond nid yw yr hawl gyfreithiol wedi ei hennill etto i bawb; ond y neb sydd yn ei meddu, y maent wedi ei chael drwy hawl. Clywir y Toriaid yn siarad yn fynych fel pe buasai pleidlais yn dyfod i ddeiliad drwy ewyllys da y meistr tir, ac fel pe byddai ganddo fe hawl ynddi. Os iddo ef y mae y llywodraeth yn rhoddi y bleidlais, paham y gofyna am i'r tenant bleidleisio? Twyll i gyd yw yr haeriad. Y mae y bleidlais etholiadol etto yn "fraint." Gallai dyn fyw hebddi, ond gan ei fod yn cael ei ddyrchafu fel aelod cym- deithas drwy ei feddiant o honi, y mae yn fraint iddo ei chael. Nid yw fod ganddo hawl naturiqj iddi yn dinystrio ei gwerth fel rhagorfraint. Y mae yn 'warrant' o gymeriad da yn wyneb deddfei wlad, ac o synwyr heb ei ddyrysu; oblegid nis gall neb ond meddiannwyr y cyfryw ei hawlio. Ond y mae pleidlais etholiadol yn "ddyledswydd" etto. Nis gall dyn ei hesgeuluso heb niweidio ei hun ac eraill, yr hyn nad oes gan neb hawl i'w wneud. Nid yw llafur corfforol na medd- yliol yn beth dymunol, ond y mae yn ddyledswydd ar bawb i lafurio, ac nis gall neb osgoi y ddyledswydd hon heb ddyoddef y gosb. Gosododd y Creawdwr luaws o ddyledswyddau i orphwys ar ysgwyddau dyn, a llawer o honynt yn annymunol ar y pryd; ond o'u gweithredu yn lies a dyrchafiad i'r dyn yn y diwedd. Un o'r rhai hyn yn ddiau yw llywodraethu. Y mae yn ddyled- swydd yn mhob deiliad, nid yn unig i ufuddhau i'r deddfau, ond hefyd i gymeryd rhan yn eu ffurfiad, a thrwy hyny roddi ei law wrthynt ei fod yn cydsynio a'u tegwch. Ond y drwg yw, yn ein gwlad ni, fod arglwyddi tiroedd yn sefyll rhwng y deiliad a'r llywodraeth, ac yn haeru mai ganddynt hwy y mae yr hawl i lywodraethu y wlad, ac mai yn ol eu gol- ygiadau hwy y dylai y cwbl gael ei ddwyn yn mlaen. Y mae hyn yn groes i drefn natur a Rhagluniaeth fel y dangosasom,. ac y mae yn groes i gyfansoddiad Prydain fel y dangoswn etto. my Os yw llywodraeth yn cyflwyno yr awdurdod i ddwylaw yr, arglwyddi tiroedd, rhaid ei bod yn rhoddi iddynt hwy yr hawl o bleidleisio hefyd. Y peth fyddai yn deg o dan y drefn, neu yn hytrach yr annhrefn presenol, fyddai i bob meddiannwr tir gael cynnifer o bleidleisiau ag sydd ganddo o denantiaid. Ond nid. felly y trefnodd cyfansoddiad Prydain. I'r tenantiaid y rhodd-: wyd y pleidleisiau, ac o ganlyniad hwy sydd yn gyfrifol am eui hiawnddefnyddio. Pwy sydd yn son mwy am barchu y cyfan., soddiad Prydeinig na'r Toriaid, a phwy sydd yn taflu cymaint o ddiystyrwch arno? Pwy sydd yn son cymaint a hwy am fonedd- igeiddrwydd a threfn, a phwy ar yr un pryd sydd yn ymddwyn mor anfoneddigaidd a didrefn? Y mae eu geiriau a'u hymddyg- iadau yn ddrewdod yn y wlad, yn gystal ag yn ffroenau y Nefoedd. Gesyd cyfansoddiad Prydain ar y tenantiaid y ddyledswydd o ethol aelodau seneddol, a diala y Torïaid arnynt wed'yn am wneud hyny, yn y modd creulonaf a mwyaf ciaidd. Yr esgus a ddygir gan rai yw, fod gan bob dyn hawl i wneud a fyno a'i eiddo ei hun: ac fel y gall siopwr werthu darn o lian i'r neb y myno, felly y gall meistr tir osod ei dyddyn i'r neb y myno. I hyn yr atebwn, yn gyntaf, mai nid dyna y mae Toriaid Meirion, a Phenllyn yn enwedig, wedi ei wneud. Nid nacau gosod tir i rai am eu bod yn Rhyddfrydwyr, ond eu troi o'u tir- oedd ar ol bod yn byw yno am flynyddoedd lawer, am eu bod