Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Rwssia Newydd.

News
Cite
Share

Rwssia Newydd. Yn ei gwaed mae Rwssia newydd yn awr. Dyna hanes dechreuad pob gwir fywyd bywyd yn ei waed ydyw, ac o dan arwydd ei waed yr erys ar hyd ei oes. Golygfa ofnadwy o awgrymiadol oedd gweled tua 400,000 o weithwyr o dan arweinydd y Tad Gapon, dilynydd i Tolstoy, yn cychwyn i Balas y Czar, :er rhoddi eu cwynion fel gweithwyr o'i flaen a golygfa mwy ofnadwy oedd gweled tua dwy fil o honynt yn feirw, a thua phum mil o honynt yn glwyf- edig, am gynyg at y fath beth. Eiddil- yn yw'r Czar, ac mae yn ol dewisiad ,ei swyddogion beilch, a gorthrymgar, a phwdr. Cynygia swyddogion y <Czar i gadw'r bobl i lawr drwy filwyr ac arfau, a thrwy dywallt gwaed. Y fyddin, ar hyn o bryd, ydyw prif allu llywodraethol Rwssia. Mor bell ag yr a y Czar, mae mor ddiallu a baban. Ymgais arweinwyr y wlad yw cadw y bobl mewn anwybodaeth, ac ystyriant fod eu hanwybodaeth yn fantais l'w gorthrwm a'u slafeidd-dra. Mae'r swyddogion gwladol ar ol y bobl fel gwaedgwn sef y bobl hyny a ddiodd- efant oddi wrth orthrwm masnachol a gorthrwm gwleidyddol. Os clywant am gyfarfod yn cael ei gynal mewn ystafell ddirgel o blaid gwell rhyddid, .disgyna'r swyddogion arnynt fel bar- cud, a chymerant hwynt yn rhwym yn ddiymaros. Os cant fod un wedi agor ei enau yn ffafr gwell mesurau, rhoddir rhywbeth gwaeth iddo na charchar. Ac mae'r Eglwys a'r offeiriadaeth yn cefnogi cythreuldeb o'r fath hyn. Beth yn fwy teg na chais y bobl at y Czar? Pobl ydynt yn dyheu am well llywod- raeth, ac yn gofyn am gael Senedd o gynrychiolwyr, ac am gael deddfau fo yn ateb i ddyheuadau ac eisiau a dyr- chafiad y wlad. Dyna Rwssia newydd —dyna'r bywyd newydd sydd yn Rwssia a chan ei fod yn cael ei wrth- wynebu gyda'r fath greulonder, tyr y bywyd newydd allan o angenrheid- rwydd mewn ffurfiau poenus ac an- hyfryd. Nid cri yn crbyn swyddogaethau gwladol fel y cyfryw yw cri Rwssia newydd, ond cri am ddiwygiad yn y swyddogaeth, er cael diwygiad yn y wlad yn gynredinol ac mae pob gwir .ddealldwriaeth, a gwir v/asanaeth, a gwir syniad am fywyd yn Rwssia heddyw o blaid hyn. Milwyr a byddin- oedd ydyw prif allu y gorthrymwyr; argyhoeddiad a gwirionedd ydyw prif allu y diwygwyr ac mae egwyddor yn gryfach bbb dydd na byddin—a hi a nofia iw gorsedd ar waed ei ffyddlon- iaid. O Rwssia hen Mae llygad Ewrop ami heddyw, ac mae gweddiau y miloedd yn ymfyddino gyda'r diwyg- wyr. Gwelir vox populi" am y tro cyntaf yn siarad yn ei waed yn Rwssia, ac wele filwyr dan arfau yn ceisio rhoi taw arno ond mae yn rhy hwyr o'r dydd i'w ddystewi. Fe sieryd o feddau y miloedu laddwyd y Sul o'r blaen, ac fe ymdeithia yn hollalluog- rwydd ei hun i lywodraeth newydd, ac i ddeddfau newyddion, ac i Rwssia newydd yn hanes y wlad.

IBalfour yr Un o Hyd.I _,i

'..8-BWRDEISDREFI . CAERFYRDDIN…

Hwnt ac Helynt.

[No title]