Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
I REMEMBER!! Iw £ Cocm DillE is mm, •« •" yii WOT@« SETTER THAN THE BEST COCOAS. 11-Ceeea is in the heat rank ef realty valuable Mh."—L«MW<L mm DAINTY SAMPLE FREE. .»> j" i ■ —— Bnnkill Row, Ltenetoa, B.G. ON N".Il m I I M w PHWIHW iwBawiiiiifiiHiiBiiiiww ammm
[No title]
sawdd Ei feddwl a'i ysbryd Ef yn nefol o hyd, fel mae pob man yn nefoedd iddo. Adnodau 14—15, "Ac megis y dyr- chafodd Moses," etc.—Trwy gymhar- iaeth y sarph yn yr anialwch (gwel Numeri xxi., 4—9), dengys Efe Ei fod yn fwy nac esiampl; mae yn gyfnvng i wella y natur foesol sydd wedi ei chlwyfo gan bechod. Clwyfwyd y bobl yn farwol gan y seirph tanllyd, ac nid oes gwellhad ond trwy ffydd-credu gair Moses, ac edrych ar y sarph bres ond y mae sicrwydd am iechyd i bob un ufuddhao. Felly am dano Ef- rhaid ei ddyrchafu yn ol bwriad cariad Duw, i'r amcan aruchel o wella pob un a gredo ynddo. Dyrchafwyd Iesu i'r groes, a dyrchefir Efe heddyw i orsedd calon tyrfa ddirif. "Bywyd tragwyddol," yn ei natur a'i barhad-cael dynion i dderbyn hwn yw prif amcan holl gyn- lluniau a gweithredoedd Duw, ac mae yn llwyddo yn fendigedig. Tyned bawb ato ei hun. --@¡.Ii>
LLANSADWRN.
LLANSADWRN. Y DIWYGIAD. Parhau ar ei gynydd y mae y diwygiad yn y cylch yma, ond y mae tir lawer eto heb ei feddianu ganddo, mewn llawer ystyr yn y gymydogaeth hon, fel y cawn sylwi nes yn mlaen. Nos Fercher cyn y diweddaf daeth dau
DDIWYGIWR IEUANC
DDIWYGIWR IEUANC i dalu ymweliad a ni, a chynhaliwyd cyfarfod diwygiadol yn Nghapel Seion, sef y capel perthynol i'r Methodistiaid, a rhoddodd yr Anibynwyr eu presenol- deb yn gryno gyda'r amcan o adenill y cariad brawdol oeddynt wedi golli er ys amser; ond drwg genym orfod cyd- nabod na lwyddasant yn eu hamcan. Yr oedd yn amlwg nad oedd yr Ysbryd wedi cael un gronyn o effaith ar galonau arweinwyr y Methodistiaid, ac un arall o safle sydd yn eu plith. Gweddiwn am i'r tan dwyfol ddod yn gryfach, fel y byddo yn llosgi yr holl lid a'r digofaint sydd yn preswylio yn- om. Gobeithio y cartha y cyffro presenol bob gronyn o'r ysbryd dialgar yma o'n calonau, ac y maddeuwn bawb i'n gilydd, fel maddeuodd Crist i ni; a chofiwn mai rhaid yw maddeu neu fod heb faddeuant byth. Teg ydyw crybwyll i'r gweinidog Anibynol weddio yn angerddol am roi a chael maddeu- ant. Gobeithio y caiff y weddi daer edifeiriol hon ei hateb. Mae gwir angen am atebiad iddi; ac os bydd i lygaid rhai o'r Methodistiaid syrthio ar yr ychydig linellau anmherffaith hyn, gobeithio y daw ton o edifeirwch dros- tynt. Goh.
Y Wers Ryngwladwriaethol.…
Y Wers Ryngwladwriaethol. AM IONAWR 29, 1905. Gan B.E. IOAN III, 1-15. TESTYN EUR- AIDD, IOAN III, 16. Ar ol egluro Ei ogoniant drwy droi y dwfr vn win yn Cana, aeth yr lesu gyda'i dylwyth a'i ddisgyblion i Caper- naum, ac oddi yno i Wyl y Pasc yn Jerusalem. Yno, eglurodd ei gymer- iad trwy lanhau y Deml. Nis gallai sancteiddrwydd ei natur oddef i'r bobl elwa yn anghyfreithlon trwy godi gorbrisiau am newid yr arian tramor i arian y cysegr, ac am anifeiliaid ac adar i'w haberthu adeg yr wyl. Ceis- ient ymgyfoethogi trwy rhith-grefydda, ac mae yr Iesu yn eu gyru allan. Mae hyn oil yn tynu sylw; ato, ac er fod y mwyafrif yn ei gondemnio, mae nifer yn credu ynddo, ac yn ei gefnogi; ac yn eu mysg mae Nicodemus, am yr hwn y ceir hanes yn y wers hon. Y mae cynwys y wers mor bwysig, ac mor amserol, fel y dylem ei hastudio mewn ysbryd gweddigar, dan arweiniad yr Ysbryd Glan. Adnod 1: "Phariseaid "-sect bwysig o'r luddewon, yn cynwys y mwyafrif o'i llywodraethwyr crefyddol. Hon oedd y blaid uniongred, ond yn or- hunanol. Credent yn gryfach ynddynt eu hunain nac yn neo arall. Nico- demus "-Iuddew ofnus, ond yn ddyn gwybodus a blaenllaw, ac yn aelod o'r Sanhedrim. Ceir hanes am dano ddwywaith ar ol hyn (pen. vii, 50; a pen. xix, 39). Adnod 2 Liw nos "-am mai hon ydoedd yr adeg oedd yn ei ateb oreu. Dyn tawel ydoedd, am fyw ar wahan i'r dyrfa. Nid oedd am ddangos ei fod yn pleidio y Dysgawdwr newydd nes gwybod mwy am dano. Yr oedd y nos yn fwy addas i'w neges. Mae am gael ymgom bersonol a'r Iesu. Er yn ofnus, eto chwiliai' am y goleuni. Rabbi "—Athraw. Ymresyma yn deg. Mae gwyrthiau Crist yn brawf ei fod o Dduw. Dyma ddyn a meddwl agored. Daw hwn, a phob un tebyg iddo, i'r goleuni. Adnod 3: Yn wir, yn wir."—Mae liyn yn gyfystyr a llw, ac yn gosod pwysigrwydd mawr ar yr hyn sydd yn canlyn: Oddieithr geni dyn dra- chefn," neu oddi fewn, etc. Tybia Nicodemus fod ei safle grefyddol ef yn ddigon o brawf ei fod yn y deyrnas. Yr oedd y deyrnas iddo ef yn gyfystyr a'r genedl Iuddewig, yn nghyd a phob un ddygid i fewn trwy enwaediad. Na, meddai'r Iesu, un ysbrydol yw y deyrnas, ar wahan hollol i un genedl, a rhaid myned iddi trwy enecligaeth- hyny yw, cyfnewidiad moesol trwyadl. Mwy na hyn, heb y geni o newydd, nis gellir ei gweled. Nid llygad corph, ond ysbryd, all ei gweled. Rhaid agor hwnw trwy y geni o Dduw. Y pur o galon all weled Duw. Adnod 4: "Pa fodd y dichon dyn," etc.-Dyma wirionedd sydd uwchlaw gallu Nicodemus i'w amgyffred. Cen- fydd fod geni drachefn yn naturiol yn anmhosibl. Dengys ei ateb, a'i ofyniad, nad oedd ef wedi ei ail-eni. Adnod 5: Yn wir, yn wir," eto; ac yn ei ganlyn ceir datguddiad pellach o'r athrawiaeth bwysig hon, "0 ddwfr." —Mae'r dwfr yn arwyddlun o burdeb. Trwy olchi o ddwfr y purid ac y cysegrid dynion a phethau—" geni o ddwfr yw difodi yr hen fywyd. Dyma ystyr bedydd loan—difodi y gorphenol drwg, a dechreu o newydd. 0 her- wydd hyn, gwrthodai y Phariseaid fel corph, a chymeryd eu bedyddio. Byddai cymeryd eu bedyddio yn brawf eu bod wedi byw yn anheilwng,- ac ni wnaent gydnabod hyn. Eithr nid yw hyn yn ddigon mae'r bywyd allanol i fod yn gynyrch cyfnewidiad mewnol; felly, rhaid geni o'r ysbryd hefyd,- hyny yw, rhaid i ansawdd ysbryd pob un i gael ei gyfnewid gan yr Ysbryd Glan-geni i fywyd newydd. Adnod 6: "Yr hyn a aned o'r cnawd," etc.-Wrth gnawd y golyga y dyn yn yr oil o hono ar wahan i'w ysbryd. Cynwysa ei gorph, yn nghyd a'i nwydau, a'r dymuniadau sydd yn llywodraethu ei gorph. Yn yr enedig- aeth naturiol, daeth i fyd naturioJ, gyda gallu i'w ganfod a'i fwynhau ond mae gan Dduw fyd arall-byd ysbryd- ol, a thrwy yr ail-eni daw pob un i fewn i hwnw, gyda gallu i'w weled a'i fwynhau. Egwyddor yr adnod yw, fod pob peth yn cynyrchu ei debyg. Y naturiol yn cynyrchu y naturiol, a'r ysbrydol yn cynyrchu yr ysbrdol. Adnod 7: "Na ryfedda" etc—Yr oedd yr athrawiaeth mor newydd i Nico- demus, fel y syna ati; ond dengys yr Iesu iddo, na ddylai ei anghredu o herwydd y dirgelwch a gynwysa, am fod dirgelwch o gwmpas pethau naturiol hefyd, nas gall byth eu hamgyffred. Adnod 8 Gwynt "—yr un gair ag a gyfieithir yn ysbryd yn yr adnodau blaenorol. Dywed Dr. Marcus Dods, yn ei Roeg o'r Efengyl hon, y def- nyddir y gair 370' o weithiau yn y Testament Newydd, ac mai unwaith yn unig y golyga wynt. Felly, gellir esbonio y gair mewn dwy wedd: (1) fel arwyddlun, neu (2) fel ffaith. Os fel arwyddlun, golyga fod y gwynt yn ei gychwyniad, ac yn y cyfeiriad a gymer, yn anesboniadwy-yr unig beth sydd amlwg yw ei effeithiau. Felly yr ysbryd. Mae'r pa fodd yn ddirgelwch, ond yr effeithiau yn eglur i bawb. Ond os fel ffaith, golyga hyn fod yr ysbryd yn anadlu lie y myno, ac ar y sawl a fyno, heb derfyn ar ei ddylanwad. Mae hwn yn wir, a diolch am hyny. Ond gwell genym y blaenaf yn y cysyllt- iadau hyn, am yr etyb yn well i Nicodemus. Adnod 9: Pa fodd, eto.-Mae wedi synu i ymyl dyrysu, gan y gwirionedd. Ceisia ei ddeall, ac nis gall. Nis gall neb eto. I wybod rhywbeth am y geni drachefn, rhaid gwybod am ei effeithiau. Adnod 10.—Syna yr Iesu yn awr. Dyma ddyn yn honi bod yn ddysgawd- wr crefyddol heb astudio ei Feibl. Pe wedi darllen ei Feibl yn ofalus, buasai wedi gweled yr athrawiaeth yn eglur. (Gwel Jer. xxiv., 7 Ezeciel, xi., 19— 21: xviii., 31--32, etc., etc.) Adnod 11, "Yn wir, yn wir.Wele eto ddatguddiad newydd, yn cynwys datguddiad o'i haniad Ef. Wyddom." -Hawlia undeb a'r Tad yma. Nid ymresymu mae efe, megis y gwna dysgawtiwyr eraill, ond siarad yr hyn a wyr. Medda sicrwydd am bobpeth. Welsom."—Lluosog eto. Nido es yn- ddo amheuaeth am y pethau hyn. Dyma'r byd y triga ynddo, a gwyr bob peth am dano. Ein braint ni yw derbyn yr oil; yna bydd y prawf o'n mewn. Adnod 12.-—Os gwrthodwn y pethau lleiaf, pa fodd y derbyniwn y pethau mwyaf ? Mae Efe wedi dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni; ein braint ni yw credu Ei Air. Adnod 13, "Ac ni esgynodd neb i'r .Nef," etc.-Nid esgyn i'r Nef a wnaeth Efe, ond disgyn. Felly, mae ganddo wybodaeth gywir o'r hyn a ddatguddia. "Mab y Dyn."—Hwn ydoedd Ei hoff enw. Dengys Ei berthynas agos a dynion. Nid mab dyn, ond Mab "y" Dyn. Y mab sydd yn batrwn perffaith i bob mab a merch hyd byth. "Yr Hwn sydd yn y Nef."—Nid lie, ond cyflwr yw y Nef iddo Ef. Mae an-
Advertising
Gwaith Enillgar i Bawb A ddewisio trwy Brynu Machines i Weu Hosanau. Rhoddir Gwersi i Brynwyr "tJ William Griffiths, 146, WINDSOR ROAD, NEATH. Argraphwyd a Chyhoeddwyd gan E. Rees a'i Feibion, Swj&ddfa Llais Llafur, Ystalyfera, Glam., Ion, 27,• 1905.