Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
0 Opinions of the Family. No. 4. What Mother says • "My dear old mother advised me to try FERRU-COCOA. /fittili UiS She said she and father never cared about Cocoa before, but faBjPSB JW now they drink it for breakfast and supper, and have never felt 80 well in their lives. It is the only Cocoa containing Iron, and I have been giving it to my daughter Mary for she seems so nnBBBB&m weak and ill; anaemic, the doctor called it. I am thankful to MB ssiy she is improving rapidly, and llfm&i| I KNOW IT IS THE COCOA HAS DONE IT." VERY mON.—The Iron contained in FERRU-COCOA in adentilcally /S lUBABTAirr extracted from Food Products ut tkk VHM that rr is comtaixsb IFLWXWVVV'"WWlf l AHT. xx rxxM. and then added to FERRU-COCOA under the instroctioas 10 vms™ of Mbsisal Mbm. It ie Ikom as it Exists in FOOD, and is thos in the form nature 11 iateoded it to be taken. In ottar word*, it is Iron takes in the form 01 a FOOD. I THBSB ARB The immense majority oi toolcs pnecribed by Medical Men cootaia Iron a | BArvra. form or other. Why aot take it as a food in the form at a I flSBssfflScl delicious invigorating beverage ia »«ch a way aatare iateods this life- n wetainiag ingredient to be taken ? Sold la ML, ML, t f1/6 Tins hy all fdwitota, fihreeen, aai Maraa. PVIRB SAMMJi.net Mm) mm enpHsaMM la tb* FERRU-COCOA FERRU-COCOA Mufg. Co., Ltd., K m ceswiu lmmk, ex. ENRICH EB TMK BLOOD nxmo uunm rucm> COCOA jot mm* wwu ^rVKiWV* arm. m m 11 tm Oil mi fcwMe TW
Y Diwygiad yn Rhydybont.
Y Diwygiad yn Rhydybont. Awgrymodd y Parch. E. Evans, Soar, Llanbedr, trwy lythyr i'r eglwys, mai dymunol ilawn iyddai hi gynal cyf- arfodydd diwygiado} neillduol, 'ac y byddai; ef a chyfeillion o Lanbedr yn roddlon talu ymweliad a'r eglwys, ac hefyd fod y Parch. T. Eli Evans, Llan- fair, a chyfeillion oddi yno yn foddlon, dod hefyd. Teimla. yr eghvys yn ddioJch- gar iawn i'r brodyr am eu cydymdeim- lad. Yr ydym wedi teimlo y cyffro yn y gwersyil yn ein cyfariodydd gweddi yn cldiweddar. Yn arbenig yn nghyfar- fodydd yr wythnos gyntaf o'r flwyddyn hon, y mae y ciynulliadau wedi bod vn lluosog iawn—pob brawd a chwaer o un calon ac ysbryd, yn teimlo fod ganddynt rywbeth i wneud i ddyrchafu baner y Groes. Carvvsom ryw ddefnynau lawr yn yr oedfaon hyny yn swn gweddiau a pbrofiadau y saint, ond nos Wener di- weddaf, yr oedd yn dyfroedd nofiadwjy. Yr oedd y Parch. T. Eli Evans, Llan- fair, a'i gyfeili'ion—yn chwiorydd a brodyr-wedi ,addaw talu ymweliad a ni y noson yma am chwech yn yr hwvr. Ni ddechreuwyd am chwech, o herwydd ni ddaeth y cyfeilhon o Lanfair mewn pryd end dechreuwiyd y cyfarfod gan frawd o'r eglwys trwy roddi emyn allan. i'w ganu, sef, "Gwaed y Groes sy'n codi fynu." Cyn gorphen ei ganu, teimlwyd yr awel yn chwythu o Galfai;a. 1)ar- llenwyd rhan o brophwydoiiaeih Ksaiah a chyn gorphen darllen, daeth y Parch. W. T. Francis, Aberduar, a'r Parch. Eil Evans, Llanfair, a'i gyfeillion ,i fewn. Yna canwyd "Dyma gariad fel y moroedd." Yna offrymwyd gweddi am dywalltiad o'r Ysbryd sancta.dd, a chy- merwyd yr arweinyddiaeth i fyny gan y Parch. Eli Evans. Canwyd "0 anfon Di yr Ysbryd Glan." Cyn pen ychydig eiliadaiu, gorfu i Mr. Evans roddi yr arweinyddiaeth i fyny i'r ysbryd. ei hun. Dyma'r dyrfa yn cadw gwyl mewn gweddi, can, a mawl, dweyd. profiad, adrodd adnodau, hyd haner awr wedi deg. Ni thelimlasom yn debyg eriaed"-y gynulleidfa megis wedi ei gweddnewid. Y gweddiaiu yn llawn o'r tan dwyfol, yn diolch am anfoniad o'r Ysbryd Glan, ac yn dyheu am ragor o orfoledd yr iachawdwriaeth. Gweddiau y chwiiorydd a'r brodyr 0 Lanfair yn ddwys ar ran yr eglwys yn y lie. Yn yr argyfwng presenol, os wedi ei siomi mewn dynion, nad oedd yr un perygl iddi hi gael ei siomi yn ei Duw—yr Hwn sydd yr un ddoe, heddyw, byth, ac yn dragywydd. Mawr hefyd oedd eu dy- muniad am i rywrai gael eu plygu yn yr oedfa i gyffesu y bendigedig lesu yh Waredwr i'w heneidiau. Yr o'edd Mr. Francis, Aberduar, ar ei draed erbyn hyn, yn dweyd fod Iesu Ei hunan yn y capel; ein bod wedi disgwyl llawer am yr arwyddion, ac o'r diwedd eu bod wedi dod. Erbyn hyn, yr oedd y tan dwyfol yn llosgi yn gl'ir—"Iesu bia'r diolch," "Ar Ei ben bo'r goron," "Bencligedig," "Haleluwia," ac "Amen" oedd hi. Wele frawd yn cod yn v sedd fawr, yn dweyd nad oedd yn well yn y nefoedd, ac os tawai y gynulleidfa folianu Duw am Ei anfeidrol, gariad a'i holl ddoniau, y llefarai'r ceryg^—sef muriau yr hen gapel, ond nid oedd eisiau i'r un gareg lefaru, am fod calonau pawb oedd yn bresenol yn barod ddigon i roddi y gogoniant, y clod, a'r diolch i'r Oen a laddwyd. Brawd aral'l ar ei draed, yn diolch ei fod wedi teimlo diwygiad '59' yn y Borth, Aberystwyth, a,c yn diolch i Dduw ei fod wedi cael byw :i weled y diwygiad presenol, a theimlo ei nerth' a'i ddylanwad. Un arall yn dyheu am i'r nerthoedd presenol i gario eu dylan- wad i'r dyfodol mewn gwasanaeth mwy llwyr a chyson i Dduw. Dau mewn gweddi yr un pryd, yn tynu y nefoedd yn nes. Brawd ar yr o'riel (gallery) mewn gweddi ddwys ar ran y rai oedd yn myned megis yn chwys eu gwynebau tua'r f'arn a choiliedigaeth. Brawd ieuanc arall ar y "gallery" eto yn cael cyfle brin i roi e-myn allan i ganu, "Dis- gyn lor a rhwyga'r nefoedd." Chwaer, wedi dod yn mlaen j'r sedd fawr mewn gweddi ar ran brawd sydd yn filwr, yn tori i lawr, a'r dorf yn canu "Drosoch chwi 'rwy'n gweddio." Rai gwran- dawyr yn myned allan-y lie yn rhy dwym. Y gynulleidfa ar ei thraed i gyd yn gwneud arwydd gyhoeddus eu bod bob un yn addaw i Dduw i ddarllen rhan o'i Air bob dydd. Mr. Evans, Llanfair, yn gofyn i bob un oedd wedi ac yn ar- ddel yn gyhoeddus y Gwaredwr i sefyll ar eu traed, a phob un oedd heb ei gyd- nabod felly i eistedd-am i bob un i ystyried mai nid iddo ef yr oeddynt yn gwneud yr arwydd, ond "i Dduw. Yna aeth Mr. Evans a Mr. Francis o gwm- pas y capel i ymddiddan a'r rihai oedd ar eu heiistedd, ac yn y swn "Ar Ei ben bo'r goron," dyma'r brawd o Aberduar yn gwaeddi ar yr oriel, "Canwch, boboU Mae'r 'boys' bach yma yn cael eu hachub o'r bron." Canwyd1 "Diolch iddo byth am goiio llwch. y 11 awr." Yna tynwyd rhaff bywyd i fewn pryd y cafwyd wyth—digon o destyn llawenydd i'r nef- oedd a'r ddaear.
"Un o 'Big Guns' ei En wad."
"Un o 'Big Guns' ei En wad." Gorphenasom ein hysgrif ddiweddaf drwy ddweyd fod y diafol yn llawen wrth weled yr enw urddasol (?) "big gun" yn cael ei roddi ar weinidogion yr Efengyl. Gyda rhoddiad yr enw hwn, y mae'r parch a'r dylanwad a ddylai fod yn feddiant i'r gweinidog Cristion- ogol yn cael ei golli, ac mae rhyw afiechyd moesol yn troi o gwmpas iddo. Syniadau o ddisgwyliadau y "big gun" fydd yn cael eu ffurfio a'u meithrin, a bydolrwydd a gogoniant y "big gun" a fawrygir. Mewn afiechyd moesol y cafodd yr enw hwn ei gym- hwyso at genad Duw, ac nid oes dim ond afiechyd meddwl ac ysbryd yn cyfrif am ei fod yn cael ei gymhwyso yn barhaus at genadon y nef ar ddu a gwyn. Mae gwahaniaeth dirfawr rhwng "bigness" a "greatness." Syniad o fawredd—mawredd daioni, hunan- aberth, cariad, gostyngeiddrwydd, a I dynoliaeth-sydd yn yr enw "cenad Duw" ond syniad o "bigness" a hunan- lwydd sydd tu ol i'r enw "big gun." Dyna un peth sydd yn ddamniol i'r enw hwn-yr argraph wael a wna ar feddwl eraill. Dylai'r ai graph gyfateb i'r swydd a'r gwaith, ac nid eu rhanu mewn un modd. Peth gwrthun iawn fyddai galw y "cheap Jac," y "pugilist," neu y "swindler" yn genad Duw, ond y mae yn llawn mor wrthun i alw y gweinidog Cristionogol yn' "big gun." Mae fod dynion yn eu tai, ac mewn conglau, yn arfer galw gweinidogion yn "big guns" yn beth digon isel a drwg, ond y mae fod yr enw yn cael ei anfon i newyddiadur, a hwnw yn cael ei ddarllen gan y werin a'r miloedd, yn gwneud y peth yn waeth fyth ac mae meddwl fod yr enw "big gun" yn cael ei anfon i bapyr wythnosol cyn y cwrdd mawr, a hyny fel rhag-hysbysiad o hono, ac fel gwahoddiad i ddod iddo, yn rhoddi un o'r agweddau mwyaf bydol, materol, ac anianol ag a ellid ei roddi' byth ar wasanaeth crefyddol, ac yn dangos y dallineb moesol a'r daear- oldeb mwyaf a ellir meddwl am dan- ynt. Wrth gwrs, mae'r hwn sydd yn ysgrifenu fel hyn am ddyfodiad yr efengylwr yn dangos beth yw ei syniad ef am yr Efengyl a'i chenadaeth. Y mae geiriau dyn yn arddangosiad o'i farn a'i deimlad, ac yn dangos hefyd y byd meddyliol yn yr hwn y mae yn byw. "Wrth dy eiriau y'th gyfiawn- heir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir." Cyfiawnheir a chondemnir clyn gan eiriau fel y maent yn arddangosiad o'i feddwl a'i ysbryd, yn nghyd a'r cylch neu'r byd moesol y mae yn byw, yn symud, ac yn bod ynddo Mae'r enw hwn, yn nghyd a rhai tebyg iddo, wedi cario dylanwad an- dwyol ar ysbryd a chymeriad yr eg- lwysi. Meddylier am eglwys yn dod i'r capel boreu Sul, a hyny mewn enw o addoli Duw, i glywed "big gun" Y fath syniad bydol, materol, a chyfeil- iornus sydd oddi tano am yr efengyl a'i hysbryd a'i chenadaeth Yn wir, ysbryd a syniadau y "big gun" sydd mewn ilawer o'n cyfarfodydd pregethu. Yn yr ysbryd yna y siar- edir am danynt; yn ysbryd y "big gun" yr eir iddynt; gwaith a strokes" y "big gun" a ddisgwylir ynddynt. Pa ryfedd fod ein cyfarfodydd yn denau a dilewyrch ? Rhaghysbysir hwy yn ys- bryd y byd, a deuir iddynt yn yr un ysbryd aphenderfyna hyny eu tynged yn ngolwg Duw a'r dynion goreu sydd yn y byd. Mae digon o enwau urddasol ar y gweinidog Cristionogol yn y Gair heb ei alw yn "big gun." Tybed fod y rhai sydd yn hoff o'r enw yn anwybodus o'r ffaith hon ? neu ai rhyw awydd sydd yn ddynt i dori tir newydd allan ? Tir a mwy o urddas (?) yn ei enwau na'r hyn a geir yn yr Ysgrythyr? Ond, yn ddiau, yr hyn sydd wrth wraidd yr enw clasurol (?) hwn yw dirywiad mewn crefyddolder ysbryd a theimlad, neu wrthgiliad o ran ysbryd a theimlad oddi wrth fywyd ysbrydol yr efengyl. Pan mae crefydd ar lawr, mae pob peth crefyddol ar lawr. Ni a hyder- wn, gyda y don ddiwygiadol yma, y codir pethau i'r man y dylent fod, ac y codir y weinidogaeth o ran ei pharch a'i safle yn yr eglwysi. Nid yw wedi cael y safle a ddylasai yn marn, a theimlad, a gweddiau yr eglwysi. Rhyfedd gymaint o achwyn a chwyno diangenrhaid sydd wedi bod yn yr eg- lwysi Y mae gwahanol bethau yn cyfrif am hyn, ac un o'r pethau yw yr enwau paganaidd a rhyfelgar a roddir ar weinidogion yr efengyl. Anti-Humbug.
EM. YNAI Y DIWYGIAD. j
EM. YNAI Y DIWYGIAD. AWELON 0 GALFARIA. Disgwyl buom drwy'r blynyddau. Am awelon mynydd Duw, Disgwyl clywed swn caniadau 'R hen orfoledd ar ein clyw; Diolch Iddo, diolch Iddo, Mae'r awelon wedi dod. Mae ein gwlad mewn ffyddiog weddi Heddyw wrth yr orsedd wen, Pawb o'u calon am ddyrchafu Enw anwyl Iesu'n ben Diolch Iddo, diolch Iddo, Am ein cofio ni fel hyn. Chwythed yr awelon hyfryd, Gyda nerth drwy wledydd byd, Fel bo pobloedd y cyfanfyd, At yr Iesu'n dod i gyd Diolch Iddo, diolch Iddo, Am awelon Calfari. Caerdydd. Dewi Vychan.
Y DIWYGIAD.
Y DIWYGIAD. Mae'r diwygiad yn ymdaenu, Trwst cerddediad dwyfol yw Ateb rydd i lawer gweddi, Achub wna rai fydda t byw "Diolch Iddo!" sy'n dadseinio Bryn a bro drwy Gymru fad Mae'n dymuniad am it' lwyddo, I Er cael pawb i garu'r Tad. Mae'r blygeiniol wawr yn tori Ar fynyddoedd duon pell, Swn carcharau'n cael eu hagor, Gobaith cryf am ddyddiau gwell Teyrnas satan, temlau Bacchus, Gaffo eu difodi'n lan, Fel bo pawb yn ogoneddus Gario baner Iesu Glan. Grymus ydyw geiriau'r ysbryd, Drwy "gyfryngau" nerthol Duw, Beddau pechod gant eu hagor, Adgyfodir meirw'n fyw; Cerbyd achub Duw a'i ysbryd Ddeffry pob pechadur trist; Neidia iddo am dy fywyd, Drwy Iraeddianau Iesu Grist. Dewi Marlais.